Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
SALES GAN abih Roberts a'i jab. D-Vdd Llun NESAF, Hvdref 12fed YN SRYNYRABER, 32 Bala. 1e\yj0° »*«** Ebolion, Moch, 40 o Wyn ^ftervn' A^au ° Wair da (i w gario ymaith), Llestri !T)aethyddol, Cerbydau, Bicycle, ^gbvdi n '.a rhan or Dodrefn Ty, yn TyjSa ^°sodiad Tir Brynyraber, Y Lodge, aSain' o °sy§waliau, a Cae Ty'nypren, hyd y ^chini^ awrth nesaf, trwy orchymyn Cyn- V Cn ir y diw*ddar Mr. J. R. Owen. *r, a>r f neu y discount arferol. Bwyd am Action am haner dydd. DVdd Sadwrn, Hvdref 17eg, YN brondebpel, LLANDDERFEL. Yr ii ^edda°-a? r ^odre^n perthynnl i'r ddi- yr s- Jane Davies. Uctl°n am 3 o'r gloch y prydnawn. DVdd Iau, Hvdref 15fed, J>- YN erthewig, Trefnant, 1*7 23\70 Wartl:eg, 14 o Geffylau a Meriod ytiau Avy. e^a'd Tewion a Stor, Moch, Offer £ yfarwvdr»etky^c'0'' Llestri Llaeth, &c., trwy T f ^yn>"ychiolwyr y diweddar Mr. *rferol L1°yd. Y Coel neu y Discount Drdd Iau, Hvdref 22ain, •n YN ^.YCNOH LLANEHAIADB, 63 GER DINBYCH, 0 Geffylau, Cnydau o Yd J ynau Acnaethyddol, &c., trwy y p ^r* David Evans, sydd yn ym- neu y Discount arferol. 7ed Cwcner, Ilvdref 23ain, VIi ^Uiiaid,Llanelidan 1.t8 0 Wattheg, 6 o*Geffylau, Hychod a tJwvry uav Amaethyddol«Llest^ Liaeth, ^*el, y myn Mrs. Jones, sydd yn ym- f neu y Discount arferol. pi/R 1 — bwyr~ pi* Corwen. <%
HANESION CYFFREDINOL,
News
Cite
Share
HANESION CYFFREDINOL, Profwyd ewyllys y diweddar Ddeon Pryce Bangor. Mae'r ystad yn werth 96¡6p. Yr ysgutorion yw y Parch John Rowland Pryce a Mr Arthur Ivor Pryce, meibion y trancedig. Bydd Mr John Morley yn aros gyda Syr Henry B. Robertson, Pale, yn ystod ei ym- weliad a'r Bala, i ddadorchuddio cofgolofn Mr T. E. Ellis. Gadawodd Mr Balfour Balmoral ddydd Sadwrn, ond nid yw yn barod i gyhoeddi ei restr newydd o'r weinyddiaeth. Y mae Arg- lwydd Milner ar ei ffordd i Loegr, a sibrydir mai efe fydd olynydd Mr Chamberlain. Bu Edmund Franklin, brodor 0 sir Glaer- lowy, farw'n ddi-ewyllys yn Awstralia, gan adael can' mil o bunau ac ystad fawr ger Mel- bourne ar ei ol. Mae'r eiddo yn awr yn dyfod i'w nai, Mr George E. Davies, pobydd, Pen- ybont-ar-Ogwy. Wrth siarad yn Ulster, ddydd Sul, dywed- odd Mr John Redmond, A. S., os bwriadai Mr Balfour gario allan ei fwriad o gadaw ei blaid mewn swydd y tymhor nesaf, mai y Cenedlaetholwyr Gwyddelig fuasai yn wirion- eddol mewn grym, gan y buasai bywyd y Llwodraeth yn eu dwylaw. Dywedir fod chwareiwyr Ffestiniog yn son am ddwyn ymgeisydd Llafur allan i wrth- wynebu Mr Osmond Williams, A. S., yn yr etholiad nesaf, Cynygiwyd amryw fel ymgeis- wyr, ond ni ddewiswyd neb hyd yma. Y mae Mr Herbert Gladstone, y Prif Chwip Rhyddfrydol, wedi ysgrifenu llythyr, yn yr hwn y dywed fod yr etholiad diweddar yn dangos fod y blaid yn unol ar gwestiynau mawr y dydd-addysg. Masnach Rydd, ac anghymhwysder y Swyddfa Rhyfe),—ac ni ofnai ef ganlyniadau yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Cydnabyddodd Sarah Evans, yr hon oedd wedi bod yn drethgasglyddes a phostfeistres plwvf Myddfai, Llanymddyfri, ei heuogrwydd o gelcio o'r trethi. Dedfrydwyd hi i ddau fis o garchariad. "Bu lladron yn llwyddianus yn eu hanfad- waith yn Washington America, ddydd Gwener Aeth talwr cwmi adeiladu, gyda'i glerc, i ariandy i gael arian i dalu cyflogau. Amlwg yw fod y lladson yn gwybod am eu neges, oblegid rhoddasant ddynamite o dan gerbyd y ddau swyddog. Lladdwyd y talwr, ac an- afwyd y clerc yn ddifrifol Diangodd y lladron gyda thros dair mil o ddoleri. Ni fu y fath helfa o benwaig Isle of Man er's blynyddau lawer. Yn ystod y mis gellid gweled ar gei yn Douglas ganoedd o falirau o benwaig wedi eu uacio i'w hanfon ymaith, a phar hyn i'r hen bobl gofio am yr amser gynt pan oedd masnach benwaig yn brif gynhal- iaeth y trigolion. Y rheswm am yr adnew- yddiad yma ydyw nid fod mwy o benwaig yn y mor o amgylch yr Ynys, ond dyfodiad rhyw foneddwr yno sydd yn deall galwad gwledydd tramor am benwaig hallt. Oddeutu chwech ar foreu Sul, diflanodd un Ellis Roberts, 20 mlwydd oed. Ambrose Street, Bangor, ac ni chafwyd hyd iddo hyd 9 o'r gloch y nosweth hono, pryd y gwelwyd ef yn grogedig mewn shed yn iard ei ewythr. Ni wyddys beth au harweiniodd i r-oddi terfyn ar ei fywyd. Yn ddiweddar, yn Dresden, bu farw ar- ^einydd Sosialig o'r enw Herr Meiling. Pan gludwyd y corff i'w gladdu yn Berlin, atal- iwyd y cynhebrwng gan yr heddgeidwaid, y rhai a fynent symud y rubanau lliwiedig oedd ar y pleth-dorchau. Parodd hyn gryn gyffro, a chymerodd yr heddgeidwaid feddiant a amryw o sashes cochion. Pan welodd y gal- arwyr Sosialig beth oedd yn cymeryd lie, hwy a guddiasant eu sashes cochion o dan eu cot- iau, hyd nes yr aethant at lan y bedd. Mawr yw digofaint y Solosiaid o herwydd hyn. Dydd Llun cwblhawyd y weithred o eiddo Mr. Robert Davies, Bodlondeb, Porthaethwy, brawd diweddar Arglwydd raglaw Mon, drwy yr hyn y rhoddir y swm tywysogaidd o 135, ooop (cant phymtheg ar hugain o filoedd o bunau) at Genhadaeth y Methodistiaid Cal- finaidd ar Fryniau Casia. Yn y weithred dyw- edir fod yr arian i'w cyfyngu yn hollol at Genhadaeth Casia, at yr hon darfu i Robert Davies roddi miloedd o bunau yn flaenorol. Disgwylir i'r rhodd yma fod yn gyfartal i incwm o bum' mil o bunau yn y flwyddyn. Dydd Mawrth cyrhaeddodd Arglwydd Milner, i Llundain, Bydd iddo gyfarfod y Prif Weinidog ar fyrder. Ni wyddus a ydyw yn barod i dderbyn y swydd o Ysgrifenydd y Trefedigaethau. Fel ag yr oedd Mr. David Jones (badwr), Abermaw, yn sefyll yn ymyl y llongborth, ddydd Sadwrn, gyda chyfeillion clywai waedd plentyn yn dyfod o gyfeiriad y mor. Rhed- odd i'r cyfeiriad y deuai y waedd ohono a gwelai ben bachgenyn fel ag yr oedd ar suddo o'r golwg. Neidodd Jones yn y fan i'r dwfr a llwyddodd i gael gafael yn y bachgen, a dygodd ef i'r lan. Mynud arall fuasai yn rhy ddiweddar. Y bachgenyn a achubwyd ydoedd Teddy Evans, Wynnstay House, 6 mlwydd oed, yr hwn oedd wedi myned ei hunan i gwch, a syrthio drosodd. Haedda gweithred o'r fath hon ei chydnabod.
Advertising
Advertising
Cite
Share
YSGOL SIR Y MERCHED, BALA- BYDD Dosbarthiadau Coginio yn cael en i) cynal eto eleni yn yr Ysgol uchod, dydd Llun, am 2-30 y prydnawn, gan ddechreu Medi 28ain. Telerau 1/- am y gyfres i rai sydd vn byw dros filltir o'r ysgol, a 2/6 i bawb eraill, Hefyd, fe gynhelir Dosbarthiadau Golchi, nos Fawrth, gan ddechreu Medi 29am. Telerau, 2/6 am 12 o wersi, neu 6c y wers Dymunir ar i bawb sydd yn bwriadu ymuna a'r Dosbarthiadau anfon eu heawau i mi ar neu cyn dydd Sadwrn, Medi 26ain. JOHN R. JONES, CLERC Y LLYWODRAETHWYR. Bala, Medi 11 eg, 1903. Llandrillo NOS PERCHER, HYD REP 28, 1903, BYDD Kr. A. OSMOND WILLIAMS, A.S YD anerch yr Etholwyr yn Yseoldy y Bwrdd. Cymerir y Gadair am y or gloch.