Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

NODION 0 LERPWL.

News
Cite
Share

NODION 0 LERPWL. O'r diwedd mae gwrthwynebiad goddefol wedi dechreu mewn difrif ar lanau'r Ferswy, a'r cyntaf i ddioddef dros eu cydwybodau ydynt y Cymry. Dydd Sadwrn diweddaf, gwysiwyd o flaen ynadon Bootle, y Parchn. Griffith Ellis, M.A., a W. O.Evans, ac amryw eraill, i ddangos pa reswm oedd ganddynt dros wrthod talu rhan o'r dreth addysg. Yr oedd dyddordeb mawr wedi deffro yn yr achos hwn, a llanwyd y llys gan nifer o brif weinidogion y dref a'r cylch. Trefnwyd gan yr ynadon i glywed dim ond dau o'r gwrth- wynebwyr, ac un o'r ddau oedd y Parch. Griffith Ellis. Traddododd araeth fer, ond pwrpasol dros ben, gan ddweyd fod ei gyd wybod ef yn rhwystro iddo dalu un geiniog tuag at ddysgu i'r plant bethau ag y credai yn gydwybodol eu bod yn anghristionogol, acyn erbyn pa ral yr oedd ei holl enaid yn gwrth- ryfela. E; yr holl siarad, nid oedd gan yr ynadon ddim i'w wneyd ond cyiawni'r gyf- raith, ac mewn canlyniad ceir gweled, rai o'r dyddiau nesaf, rai o'r dynion mwyaf eu parch yn y ddinas hon, yn cael ymddwyn tuag atynt fel pe baent ond methdalwyr anonest. Y mae yn iechyd calon i ymneillduwyr y dref hon—wedi ei hamgylchu gan gymaint o an- ffyddiaeth, pabyddiaeth, ac ofergoeliaeth- fod ganddynt y fath ddynion, dynion ag y mae swn rhyfel y degwm heb ddiflanu o'u clustiau, dynion na phlygant eu gliniau byth i Baal, —o—o— Mae genym i gofnodi hefyd am un eglwys Gymreig gyfan, sef Eglwys Annibynol Marsh Lar.e, Bootle, wedi penderfynu i'w holl aelod- au wrthod talu y dreth hon ac yn ychwan- egol at hyny, bydd i'r eglwys dalu yr holl gostau a osadir ar yr aelodau oherwydd eu gwrthwynebiad. Pe bae'r ysbryd hwn yn meddianu holl Ymneillduwyr y wlad, ni fuasai dim amheuaeth pwy a enilia y frwydr— brwydr cydwybod yn erbyn rhaib. "Trech Duw na dyn." Nid ydyw y rhai hyn ond advance guard byddin fawr gwrthwynebwyr goddefol Lerpwl, yr hon a gynwysa rai o dywysogion pwlpud Cymru. o—o—o Cynhaliwyd Eisteddfod New Brighton, ddydd Sadwrn diweddaf, yn "Theatre" yTwr. HTlr BabeF' ydoedd mewn gwirionedd y pryd hwn, hefyd. Daeth pobj yno o wahanol barthau o Loegr a'r Ynys Manaw, heb son am y 11 u mawr ddaethant o Gymru. Gwyr pawb am y gwahalJaeth rhwng tafodjaitb Gogledd a Deheudir Cymru, ond y mae yn Dawer mwy amlwg rhwng trigohon Wigan, Warrington, Staffordshire, Manchester, St. Helens, Lerpwl, a'r Ynys Manaw. 0 hyn gellir dychmygu yr effaith ryfeddol oedd i glywed yr oll ohonynt yn cael eu cymysgu yn erbyn eu gilydd. Gwarchod pawb rbag clywe'd y fath dwrw eto. Am y cystadleu aethau, yr oeddynt i gyd yn galed iawn, yn enwedig y corau meibion a'r unawdau. Saeson eedd y mwyai'rif o'r ymgelswyr, ond Cymry oedd y rhai llwyddianus bron i gyd, oddigerth y corau, ond nid oedd yma gor Cynaraeg yn mysg y corau meibion, a dim ond un yn y brif gystadleuaeth. Gwel restr y buddugwyr- Plif GystadleuaethGorawl, gwobr f35 a her darian, 2il wobr 4 10 a thlws arian-I, Talke & District Prize Choir 2, St. Helens Prize Choir; 3. Waenfawr Prize Choir. Corau Meibion. gwobr 12S a Her Gwpan, 2il wobr £5 a Aledal Arian. Corau, Manchester, Southport, St. Helens, Warrington, Wigan, a Talke it District. i, Southport 2, Manchester. Corau Plant, gwobr £ b 6s. a medal i bob aelod o'r cor tmddugoi 2il wobr.63 3s. a Medal i'r arweinydd. Corau, Rhos Bethlehem Choir, Lerpwl, Ramsey, a Ciarston. 1, Leipwl; 2, Ramsey Unawd Soprano, igoreu, Miss Alice Hughes, Birkenhead. Unawd Contralto, goreu, Miss Josephine Williams, Birken- head. Unawd Tenor, goreu, Mr Fred Jones, Talke. Unawd Bass, goreu, Mr John Edwards, Rhos. Ped- warawd, goreu, parti Talke. Deuawd (T.a B.,) goreu, Gutyr a R. Brothen Jones. Y beirniaid oedd- ynl, i'r. Coward, Mri. Harry Evans, F.R.C.O.; a Join Williams, Caruarfon.' 0—0—o Pyti efnosyn 01 ysgrifenais am Gymanfa yr Jlr.riirr. nwyr. Yr wyf yn awr am gofnod. Cyuii y jBedyddwyr, \x !>< n tydd wlCf myned heibio yr wythnos ddiweddaf. Nid yw y Bedyddwyr mor luosog yma ag y mae rhai enwadau eraill, eto y mae ganddynt eglwysi gweithgar a chryf. Ond pan y daw dros bum cant o gynrychiolwyr o wahanol barthau o'r wlad yma i aros am rai dyddiau, mae eisieu enwad neillduol o gref i baratoi llety i bawb. Gallem lawenhau wrth feddwl fod yr enwadau Cymreig i gyd wedi agor eu drysau i dderbyn y cyfeillion hyn o'r wlad. Dengys hyn y brawdgarwch sydd rhwng y gwahanol enwadau Cymreig yma. Bu y Gymanfa yn llwyddianus yn mhob modd. Gobeithio y bydd hyn yn adfywio ein brodyr y Bedyddwyr, yn enwedig yn rhai o'r eglwysi sydd wedi myned yn fychan o ran eu nifer. —o—o— Trefnwyd y Igeg o Hydref gan y Meth- odistiaid i gynal eu Cyfarfodydydd Diolch- garwch am y Cynhauaf. CARN DOCHAN

Advertising