Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
--.----..---------AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Yu ein nesaf—Masnachwyr Corwen, Y Darlunydd (Cerrigydruidion), &».
COFADAIL TOM ELLIS.
News
Cite
Share
COFADAIL TOM ELLIS. Bellach y mae'r holl drefniadau wedi eu cwblhau. Ni. bydd luncheon, fel y tybid un- waith, felly bydd pawb ar yr un tir. Cyo- helir cyfarfod mawr mewn pabell eang a gyn- wysa dros bum' mil o bobl. Mynediad i mewn i'r babell yn rhad, ond ni fydd lie i eistedd oddigerth 300 o gadeiriau, 2/6 yr un, a 400 o eisteddleoedd II- yr un. Mae bron yr oil o'r tocynau wedi eu gwerthu eisoes. Gellir cael y gweddill sydd ar law drwy anfon at Mr R. Lloyd Jones, Mount Place, Bala. Clywir son o bob cyfeiriad am y dador- chuddiad, ac y mae llu yn paratoi i ddod i'r Bala, ddydd Mercher nesaf. Pwy bynag ddaw yma ni fydd ar ei golled Bydd clywed gwerthfawrogiad Mr John Morley o'r Aelodau Cymreig o wasanaeth ein diweddar anwyl arwr cenedlaethol yn beth i'w hir-gofio. Bydd yn y Bala ddydd Mercher gynrychiol- aeth gref o bob plaid a sect, a disgwylir rai can- noedd o enwogion, nid yn gymaint er mwyn siarad, ond er mwyn dathlu coffadwriaeth un o feibion enwocaf Gwalia. Y mae y cerf- lun yn gwynebu cyfeiriad y Llyn, at y Vic- toria Hall, a chredwn mai o bell y gweler ef oreu. Y mae llawer o farnu wedi bod ar y ffbrdd y dylasai wynebu. Dywed rhai mai yn gwynebu gorsaf y rheilftordd y buasai oreu. Berna eraill mai at y Llythyrdy y byddai fwyaf dymunol, ac wrth gwrs y mae pobl y Stryt Fawr, o'r Gofadail at y Llyn, yn unfrydol o'r farn fod gwyneb y cerflun yn berffaith fel y mae. Dywedwn ninau fod Mr Goscombe J qhn, y cerflunydd, wedi ei osod i wynebu y ffordd y gweiir ef oreu, a dylai ef wybod.
ARDDANGOSFA MEIRION. i
News
Cite
Share
ARDDANGOSFA MEIRION. Cynhaliwyd Arddangosfa flynyddol Cym- deithas Amaethyddol Meirion yn Noigellau, ddydd Mawrth (ddoe), a da genym ddeall ei bod wedi troi allan yn dra llwyddianus, er calondid mawr i'r pwyllgor, a'u hysgrifenydd llafurus, Mr. E. M. Roberts. Yn canlyn wele restr o'r buddugwyr lleol.—Bull, two years old and upwards-i, Ellis Evans, Pencelli, Bala 2, W. & C. Owen, Plasisaf, Llandderfel. Bull under two years old—2, R. Williams, Maesgadfa. Bala. Bull Calf between 3 and 12 mths old—2, T, Jones, Cwmtirmynach. Bull under 2 yrs old—1, D. R. Jones, Tycerrig, Corwen; 2, R. N. Jones, Bryn- melyn, Corwen. Cow in Milk or Calf—r, R. E. Jones, Hafod, Corwen; 2, Mrs Williams, Hendre, Gwydd- elwern. Dairy Cow in milk or calt, any breed-I, R. E. Jones, Hafod, Corwen. Gelding or Filly for Ag- ricultural purposes, 3 yrs old-2, H. R. Heap, Ciltal- garth, Bala. Gelding or Filly for Agricultural pur- poses, 2 yrs old—1, William Evans, Cerrigllwydion, Bala. Cob, Mare or Gelding, not exceeding 14 hands -2, D. R. Jones, Tycerrig, Corwen. Pony Mare or Gelding over 12 and not exceeding 13t hands—2, W. Owen, White Lion Hotel, Bala. Mountain Pony, Mare or Gelding not exceeding 12 hands—2, W. R. Jones, Ship Hotel, Bala. Mounthin Pony, Mare or Foal, not exceeding 12 hands-I, D. Jones, Golden Lion Hotel, Corwen; 2, W. R. Jones, Ship Hotel, Bala. Mountain Sheep Ram, 3 yrs and upwards- 1, W. E. Williams, Gwerclas, Corwen. Mountain Sheep Ram, over two vrs old—1, W. E. Williams, Gwerclas, Corwen. Yearling Ram—1 & 2, W. E. Williams, Gwerclas. Ram Lamb-I & 2, R. N. Jones, Brynmelyn, Llandderfel, Pen of Ewes over iyrs old—1, W. E. Williams, Gwerclas. Pen of wes under 3 yrs old—1, W. E. Williams, Gwerclas 2, R. E. Jones, Hafod, Corwen. Pen of Yearling Ewes-I, R. N. Jones, Brynmelyn; 2, R. E. Jones, Hafod, Corwen. Pen of 4 Ewe Lambs-I R. N. Jones, Brynmelyn 2, R, E. Jones, Hafod, Corwen. Pen of 4 Ewe Lambs—1, R. N. Jones, Brynmelyn 2, W. E. Williams, Gwerclas. Boar of any kind-- I & 2, J. J. Edwards, Llanuwchllyn. Sow of any "breed—1 & 2, W. R. Jones, Ship Hotel, Bala. Tub or pot of Butter, not less than 10 lbs weight-I, Mrs Jones, Tynant, Bala; 2, J. & R. Pugh, Llanuwchllyn Three separate pounds ot fresh Butter by a farmer paying Z 25 rent and under—1, Mrs Jones, Tynant, Bala. Best Ram in the yard-I, W. E. Williams, Gwerclas.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
MAKWOLAETHAU. Medi 25, yn 63 mlwydd oed, Mrs. Jane Davies, Broucerfel, Liandderfel. Medi 26, yn 66 mlwydd oed, Mrs. Margaret Jones, Shop isaf, Llandderfel. Cymer y claddedigaeth (cy- lioeddue) le, dan y drefn newydd, am 2 o'r gloch, yfory [Iau 1. r;
UNDEB DIRWESTOL MERCHED EDEYRNION.
News
Cite
Share
UNDEB DIRWESTOL MERCHED EDEYRNION. Pabell Ddirwestol yn yr Arddangosfa.- Dydd Gwener, Medi 25am, cynhaliwyd Ar- ddangosfa Amaethyddol Corwen. Eleni, can- iataodd y Pwyllgor gais y Dirwestwyr o ddar- paru lluniaeth mewn pabell ar y maes. Da genym weled fod Undeb Dirwestol Merched Edeyrnion wedi cymeryd y mater i fyny gyda y fath aiddgarweh. Yr oedd y babell wedi ei gwneud i fyoy yn ddestlus a deniadol, a phob un o unfryd calon yn ym- daflu i unrhyw wasanaeth a ddisgynai i'w rhan, er gwneud yr anturiaeth yn llwyddiant. Rhagorol hefyd oedd fod brodyr a chwiorydd o Ddosbarth Uwchaled wedi dyfod i gynor- thwyo yn yr ymdrech. Y mae genym i lon- gyfarch y Pwyllgor yr Arddangosfa a'r Pwyll- gor Dirwestol am y sel a'r gweithgarwch ddangoswyd gyda y mudiad daionus hwn. Coronwyd yr ymgais tu hwynt i'n disgwyliadau O'r gwahanol leoedd, gwelsom y bonedd igesau canlynol yn gwasanaethu.— Cerri,gydruidion. -Miss Thomas, Gaerfech- an, Miss Owen, &c., Dinmael.—Mrs. Howell, Board School; Glan'rafon.-Mrs. Hughes. Llandrillo.—yirs, Roberts, (Ysgrifenyddes) Cynwyd.—Miss Edwards, Cynwydfechan Miss Pritchard, Brynheulog; Miss Wood, Board School. Co.rwen,-Miss Jones, Brynhyfryd Miss Parry, Westbourrie Terrace. Gwyddelweru.—Miss Evans, Bryndu. Carrog.—Mrs Jones, Carchardy, (Llywydd es); Miss Parry, Llan a Mrs Edwards ac er- aill. Glyndyfrdwy.—Mrs. a Miss Roberts, Wern Ddu. Hefyd dylid cydnabod gwasanaeth Mr. Thomas, Tynant, Dinmael; Mr. W. Jones Fronhyfryd, Corwen, a Mr. Henry Williams, Prudential Assuranc Agent, Corwen. Hyder y bydd i hyn barhau gyda llwyddiant yn y dyfododol.
LLANERILLO.
News
Cite
Share
LLANERILLO. Cyngor Plwyf.—-Cydhaliwyd cyfarfod y Cyngor Plwyf nos Sadwrn, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. John Phillips, Tynant (Cad- eirydd); T. Francis Jones, Branas Lodge, E. H. Ellis, Branas ucha, R. W. Davies, Blaen- dre isa, John Evans, Bronceidiog, L. Owen, Ceidiog Terrace, Thomas Edwards, Wern- penant, Ellis Davies, Tynycae, a John Davies (Ysgrifenydd.) Treth Ychwanegol.—Yngwyneb y cyfyngder y mae yr overseers ynddo oherwydd derbyn archeb am swm ychwanegol i glirio cyfrifon y Bwrdd Ysgol erbyn y 2gain cyfisol, pasiwyd fod treth o bum ceiniog yn y bunt yn cael eu chodi yn ddioed ir amcan hwnw. Tybiwyd ar y dechreu y getlid casglu y dreth hon yr un ffordd a'r dreth am yr haner blwyddyn nesaf, ond gwelwyd fod anhawsder i hyny gaei ei wneud, ac nas gellir osgoi codi y dreth hon ar wahan, a hyny yn ddioed. Addysg.—Dewisiwyd Mr. John Evans, Bronceidiog, i gynrychioli y Cyngor Plwyf ar Fwrdd Llywodraethwyr Addysg dosbarth Corwen.
Advertising
Advertising
Cite
Share
YSGOL SIR Y MERCHED, BALA- BYDD Dosbarthiadau Coginio yn cael eu JJ cynal eto eleni yn yr Ysgol uchod, dydd Llun, am 2-30 y prydoawn, gan ddechreu Medi 28ain. Telerau i/- am y gyfres i rai sydd vn byw dros filltir o'r ysgol, a 2/6 i bawb eraill, Hefyd, fe gynhelir Dosbarthiadau Golchi, nos Fawrth, gan ddechreu Medi 29am. Telerau, 2/6 am 12 o wersi, neu 6c y wers Dymunir ar i bawb sydd yn bwriadu ymuno a'r Dosbarthiadau anfon eu heowau i mi ar neu cyn dydd Sadwrn, Medi 26ain. JOHN R. JONES, CLERC Y LLYWODRAETHWYR. Bala, Medi neg, 1903, DRAW AT BALA. s Winning Numbers—9, 17, 24, 30, 37, 40, 22. CORWEN READING ROOM & LI vices Of THE Parish Council require the service^ a Librarian for the Reading R00P 3 Library.. to The person appointed will be require0.. open the Rooms at 9 o'clock in the rnorDrfe and close them at 10 o'clock at night- will also be required,—if the Counci desire—to attend to give out books evenings a week, to be responsible for cleag, ing the rooms, lighting the fires, andgcnera to obey the orders of the Council. terly, Salary ^10 per annum, payable (luartfree The engagement to be subject to thr months notice on both sides. Duties to commence October 12th. Applications to reach me not later thaIl Friday morning, the 9th of October. L. LLOYD JOHN- Corwen, 28 Sept., 1903. 4 Great Western Railway Dyddiau Llun, Hvd, 5,12, a BYDD A TRAIN RHAD yn rhedeg i LUNDAIN, (i ddychwelyd fel y nodir ar yr) hysbysleni), O'r Bala, Corwen, a Llangollen. Dvdd Mercher, Hvd. 7, BYDD TREN RRAD yn rhedeg i'r BALA, (Diwrnod Dadorchuddio cofgolof." v diweddar Mr. T. E. Ellis), 0 Llangollen, Glyndyfrdwy, OorweJl Am yr amserau, boocio o orsafoedd er trefniadau diwedd yr wythnos, Llety*u wlad, &c., gweler yr hysbysleni. JAMES C. INGLIS, General H Ar Groll, r nrdsh'P; ER tua chanol Gorphenaf, o u ui^ydd Llanuwchllyn, Merlen Wineu, oed, gyda throed gwyn. ^w0^rWHdfa a ddygo ei hanes yn ddioed i'r BYDD -^1 A SOCIAL TEA A CHYF ARFOD fIIØr Yn cael eu cynal gan Wesleyaidi cor HYDREF 28ain. a. A. PARRV,