Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Cyfarfod Chwarterol Annibynwyr…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

Cyfarfod Chwarterol Annibynwyr Meirion. Cynhaliwyd yn Abergynolwyn, Iau a Gwener, Medi ioan. Yr oedd hwn hefyd yn gyfarfod urddiad Mr R. C. Evaus, Cil- cenyn, o Goleg Aberystwyth, yn weinidog ar yr eglwysi yn yr Aber a Llanfihangel. Cyuhaliwyd y Gynhadledd am dri o'r gloch ddydd Iau, o dan arweiniad Mr. E. Jones jasaph Collen), Bethel, Festiniog. Dech- renwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch O. Davies, Ganllwyd. i. Darllenwyd a chadaruhawyd cofnodion y Gymanfa. 2. Penderfynwyd fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Methel, Ffestiniog, yn Rhagfyr, os yn gyfleus i'r eglwysi. Y Parch. R. Williams, Dyffryn, i bregethu ar y pwnc, a'r Parch. Miall Edwards i ddarllen papur ar fater a ddew'so er cael ymdriniaeth arno. 3. Rhoddwyd derbyniad cynhes a chroes- awgar i'r Parch. R. C. Evans, ar ei sefydliad yn eim plith, gyda dymuno am ei lwyddiant yn y cylch pwysig hwn, sef yn Aber a Llan- fihangel. 4. Gan fod pwyllgor y Genhadaeth Gartef- ol wedi methu cyfarfod rhoddwyd hawl iddynt ranu yr arian y cyfie cyntaf y gallent gyf- arfod. 5. Penderfynwyd fod y personau canlynol i fod yn gasglyddion y flwyddyn nesaf.—Mri. Davies, Brynbowydd Asaph Collen, Parry Aberllefeni; Davies, Corris, Jones, Borth, Thomas, Atthog, Davies, Corwen, a J. Parry, Bala. Hefyd fod y personau canlynol i fod ar y pwyllgor am y tair blynedd nesaf Mri. Thomas, Abermaw, Hughos-Jones^Aberdyfi, Ffrancis Evans, Ffestiniog, a L J Davies, Llanuwchllyn. Hefyd fod yr ysgrifenenydd i wneyd cais am brisiau i agraphu yr Adrodd- iad at y ddau argraphydd sydd yn y Sir. 6. Fod y rhai canlynol i gael eu hychwan- egu at y Cyd-bwyllgor sydd i wylio gMeinydd- iad y Ddeddf Addysg yn y Sir:—Mri. Rhyd- wen Parry, Bethania, J R Jordan, Bala, E Jones, o Ysgol y Bwrdd, a R Jones, B.A. Ysgol y Sir, Dolgellau. 7. Penodwyd y Parch. D Miall Edwards, B.A. i gynrychioli y cyfarfod yn Nghynadledd Addysg Bangor, a'r Parch. H W Parry, Abe- Hefeni, i fod yn ysgrifenydd Cymdeithas Gweddwon Gweinidogion 8. Anogwyd yr Eglwysi i gofio am y gym- anh Ddirwestol a Gynhelir yn y Bala trwy anfon cynrychiolwyr iddi a chasglu at ei threuliau, hefyd fed y Cadeirydd a'r Ysgrifen ydd i gynrychioli y Gynhadledd ynddi. 9 Penderfynwyd fod y rhai canlynol, mewn cysylltiad a'r enwadau eraiil, os ceir eu cydsyniad, i fod yn ddirprwyaeth at Bwyllgor y Gvmdeithas Amaethyddol i wneud cais i gau y ddiod Feddwol o faes yr Arddangosfa, a dileu y penderfyniad i'r perwyl oddiar Jyfr y cofnodicn :—Mri Pugh Jones, Llwyndu, Abermaw, W Parri Huws, B.D., Dolgelley, a VV T Rowlands, Tanycoed. 10. Yn unol ac awgrym y pwyllgor a ben- vdwyd yn y Gymanfa, cymeradwywyd y syn- iad o gael pwyllgor i roddi ystyriatth pellach i fanylion ei weithrediadau. 11 Penderfynwyd fod yr Ysgrifenydd i anfon datganiad o gydymdeimlad y cyfarfod a'r rhai sydd mewn trallod. 12. Penderfynwyd fod Mr Williams, Hyf- lydfa, i ymweled ag eglwysi Ffestiniog, ar ran Genhadaeth yn lleMr MiaH Edwards. Yr oedd yn bresenol Mri Morgan, a Owen, C) Goleg Aberystwyth, a Mri Masont a Evans, Ð Goleg Bala-Bangor, a da oedd genym eu reled gyda ni Cafwyd cynhadledd ragorol, a chroesaw cynes gan yr eglwys yn y lie. Terfynwyd trwy weddi an Mr Parri Huws. MODDION CYHOEDDUS Pre jeihwyd nos Iau yn Llanfihangel gan Jkfri Liewelyn, Borth, P»rryf Cilcelyn, ac yn Aber f an Mri Miall Edwards, a Parri Huws, -Y siars i'r eglwys, Aiii I" boreu Gwener, gan Mri Rees, Jer- wsali < Hughes, Tanygnsiau. Am 2, cynhaliwyd yr urddiad, dan arwein- Mr Wtllianms, Towyn. Dechreuwyd gan Mr Llewelyn, Borth, a thraethwyd ar Natur Eglwys gan y Proffeswr Anwyl, Aberyswyth Holwyd Mr Evans gan Mr Williame, Maen- twrog, a chyfiwynwyd yr urdd-weddi gan Mr Pritchard, Cynwyd a rhoddwyd y Cynghor i'r gweinidog gan ei weinidog, Mr Parry, Cil- enyn. Hefyd cyflwynwyd Bnrheg werthfawr o lyfrau i'r gweinidog ieuanc gan Mr Morgan, Aberystwyth, ar ran y Myfyrwyr, a chan Mr Felix, ar ran yr Eglwys yn Cilcenyn. Pregethwyd yn yr hwyr gan Mri Talwyn Phillips, Bala a Williams, Magntwrog. Yr oedd eneiniad amlwg ar yr oil gyfarfodydd. J PRITCHARD, YSG.

J..-----_-----_-"-------Pa'm…

Advertising