Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Y BALA.

Coleg y Bala.

YR YSGOL RAGBARATOAWL.

- I IMarwolaeth Mr. J. R Owen,…

News
Cite
Share

Marwolaeth Mr. J. R Owen, Bryn'raber, Bala Gofidus genym groniclo marwolaeth Mr J. R. Owen, BrynraberJ yr hyn gymerodd le foreu Sul diweddaf yn 41 mlwydd oed. Yr oedd Mr Owen yo un o fasnachwyr anifeil- iaid mwyaf adnabyddus Gogledd Cymru, ac yn enwog yn ei fasnach tu allan i Gymru. Ymwelai yn gyson a ffeiriau a marchnadoedd Cymru a Lloegr, ac yr oedd gan bawb air da iddo fel masnachwr teg a gonest. Daeth i gyffyrddiad a llu o bobl yn ei gysylltiadau mas- nachol, a chredwn nad oedd gan deb ohon- ynt ond y gwir i ddyweyd am dano-ei fod yn foneddwr yn ngwir ystyr y ga'r. Mab ydoedd i'r diweddar Mr Evan Owen, Goat Inn, Bala. Gan ei fod wedi ymdaflu yn llwyr i'w fasnach fel prynwr a gwerthwr anifeiliaid daeth yn un o fasnachwyr mwyaf eang a llwyddianus y wlad. Cymerwyd ef yn glaf oddeutu tair wythnos yn ol, a dangoswyd gofid cyffredinol yn mysg holl amaethwyr y wlad pan glywyd am y ddamwain alarus a brofodd yn angeu iddo foreu Sul. Yr oedd yn briod hoffus a charedig, yn dyner ei galon a'i ddywediadau, a phawb yn ei hoffi Gedy weddw a phedwar o blant ieuainc i alaru eu colled ar ol priod tyner a thad gofalus Nawdd y nef fyddo drostynt yn eu profedigaeth. 0 herwydd y ddamwain ddigwyddodd iddo cyn- haliwyd trengholiad ar ei gorph ddydd Llun gerbron Mr R. O. Jones, Crwner y sir, a dygwyd rheithfarn yn unol a thystiolaeth y meddyg. Pasiodd y eithwyr bleidiais o gymdeimlad a Mrs Owen a'r teulu yn eu trallod. Cymerodd y claddedigaeth (preifat) le heddyw yn mynwent eglwys Crist.

DINASMAWDDWY.

Advertising

|MASNACHWYR CO

Gwyl Lenyddol Llandd/lo.

Advertising