Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

"COFADAIL THOMAS E. ELLIS.

News
Cite
Share

"COFADAIL THOMAS E. ELLIS. Dydd claddu Thomas E. Ellis, A.S., pen- derfynwyd codi rhyw Gofadail Genedlaetho! deilwng iddo. Apwyntiwyd Pwyligor Cyffred- inol, gyda Mr. Lloyd George, A S., yn Gad- eirydd, a Syr Aifred Thomas, A.S. yn Drys- orydd, a chasglwyd £1960. Or arian hyn rhoddwyd £ 1200 at amcanion yngiyn a'r brifysgol gadwai Mr. Ellis mewn cof. Tros- glwyddwyd y gweddill, yn nghyda'r addewid- ion, i Bwyllgor Lleol i godi Cofgolofn yn y Bala. n Y mae y Cerflunydd, W. Goscombe John, bellach wedi gorphen yGofgoIofn. Rhoddirhi i fyny yn Stryd Fawr y Bala. Daw Mr John Morley, i lawr i'w Dadorchuddio ar y 7fed o Hydref nesaf. Bydd yn bresenol hefyd amryw o wyr blaenaf y Deyrnas. Dywedir fod ar hyd a lied y wlad amryw symiau wedi eu casglu tuagat y Gofadail Genedlaethol, ond heb eu hanfon i fewn i'r Trysorydd Cyffredinol. Hefyd, tybir fod nifer fawr o edmygwyr Mr. Ellis, heb gael cyfbustra Z, o gwbi i gyfranu at y mudiad. Os felly taer ddyaumir ar i'r arian sydd wedi eu casglu neu eu haddaw gael eu hanfon i fewn yn ddioed. Hefyd, os oes rhai heb gael cyfle i roi dim, neu eraill yn bwriadu ychwanegu at yr hyn a ro'sant, i anfon eu rhoddion, pa mor fychan bynag y b'ont, i'r Ysgrifenydd, neu ynte i'r North &' South Waies Bank, Bala. Mae y Pwyllgor yn awyddus iawn 11 Ddadorchuddio y Gofgolofn yn ddiddyled. GWYNORO DAVIES, Ysgrifenydd y Pwyllgor. Barmouth, Medi, 1903.

NODION 0 LERPWL.I

LLANDDERFELe

ANERCHIAD I

. CORWEN.

LLANLRILLO.

. CYNGHORAU PLWYFI EDEYRNION.

t3tob,cuatwnt

Advertising