Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Eisteddfod Gadeiriol Corwen.

GLYNDYFRDWY.

News
Cite
Share

GLYNDYFRDWY. NODACHFA Y BEDYDDWYR.—Cynhaliwyd hon ddyddiau Mercher, Iau, Gwener, a Sad- wrn diweddaf, a rhaid addef bellach ei bod wedi troi allan yn llwyddiant uwchlaw dis- gwyliadau y Pwyllgor. Yr oedd yr antur- iaeth y fwyaf o'r fath a fu erioed yn ein plith, ac yr oedd y pryder parthed iddi yn rhwym o fod yn gymesurol i hyny. Agorwyd y gweith- rediadau dydd Mercher gan Christmas Jones, Ysw., C.S., Cefnmawr; ddydd Iau gan J. Parry Jones, Ysw., Dinbych ddydd Gwener, yn absenoldeb y Milwriad Tottenham, gan E O. V. Lloyd, Ysw., Rhaggatt, a nos Sad- wrn gan H. G. Halsey, Ysw., Carroe. Gob- eithir yn fawr, wedi cael y cyfrifon i law, y bydd swm o ^250 yn aros yn weddili wedi talu yr holl ofynion. Bydd y cyfryw, gyda'r ymdrech neillduol a wnaed gan yr aelodau yn y misoedd diweddaf, yn rheswm cryf iawn dros anturio ar y gwaith o adeiladu capel newydd mor fuan ag y mae yn bosibl. Diolch wn am bob cefnogaeth gafwyd, ac erfyniwn am barhad o gefnogaeth ac ewyllys da ein cyfeillion yn ein hymgymeriad pwysig.

Advertising