Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. EISTEDDFOD GADEIRIOL CORWEN.—Ymddengys y beirniadaethau yn ein rhifynau nesal.
Y BALA.
News
Cite
Share
Y BALA. SUL Y BEIRDD ydoedd y Sul diweddaf yn y Bala. Gwasanaethai y Parch. Rhys J. Huws, Bethel, Caernarfon, gyda'r Annibyn- wyr, ac Abon, Cefnmawr, gyda'r Bedyddwyr. COFADAIL TOM ELLIS. Bu y Cynghor Dinesig yn trafod mater y bonsail nos Lun, a phenderfynwyd cau y gronfa ar y iaf o Hydref. Dymunir ar i bawb sydd eisioes heb danysgrifio at y pedestal wneud hyny yn ddioed. CERDDED.—Bu ymryson cerdded yn y Bala ddydd lau diweddaf rhwng Stanley Wright, Moelygarnedd, a John Wm. Row- lands, High St. Enillwyd y gamp beth amser yn ol gan y blaenaf, ond yr olaf a orfu am gerdded gylch y Llyn ddydd lau diweddaf. Cerddasant y pellder o un-milldir-ar ddeg a haner ttwy wlaw trwm mewn llai na dwy awr. Daeth Rowlands i mewn rhyw ychydig o flaen Wright. Y mae awydd eto am gystad- lenaeth arall o'r Bala trwy Bont-y-Glyn. Pwy rydd ystyriaeth i'r mater ? ORGAN RECITAL.—Prydnawn ddydd Sul daeth cynulieidfa fawr yn nghyd i Eghvys Crist i wrando yr Organ Recital flynyddol a roddir gan Mr Botwood, yr organydd. Chwar euwyd amryw ddarnau chwaethus, a rhodd- wyd boddhad mawr i'r gynulleidfa. Datgan- odd Mr W. Ellis Jones, Pensarn Road, yr unawd, Lead, kindly lighf," yn feistrolgar ac ardderchog iawn, a chanwyd Salm gan y cor. PERSONOL.—Cyrhaeddodd Syr Watkin W. Wynn a'r plant i Lanllyn o Wynnstay yr wyth- nos ddiweddaf. Y mae y Barwnig wedi ad- gyfnerthu llawer ar ol ei daith yn Ne Affrica, a da genym ei weled yn edrych mor dda.
COFADAIL TOM ELLIS.
News
Cite
Share
COFADAIL TOM ELLIS. DIWRNOD Y DADORCHUDDIO. Wedi hir oedi a disgwyl pryderus y mae diwrnod wedi ei ddewis i ddadorchuddto cof- adail Mr T. E. Ellis, A.S., yn Heol Fawr y Bala. Pellebyr oddiwrth ysgrifenydd y Pivyll- gor Llundeiniol a'm hysbysa mai dydd Mercher, Hydref 7 fed, y flwyddyn hon, y cymer hyny le. Y gwleidyddwr enwog, John Morley, awdwr cofiant y diweddar Mr Glad- stone, ac un o Seneddwyr blaenaf Rhydd- frydol yr oes, fydd yn dadorchuddio y golofn, a disgwylir llu o bersonau adnabyddus eraill, yn eu plith amryw aelodau Seneddol. Bwr- iedir i ddydd Mercher, Hydref 7fed, fod yn ddydd canrif yn nghdf pawb, ac hyderwn bellach glywed am y trefniadau yn nglyn a dadorchuddio cofadail Mr Ellis. Hyd yn hyn ni wyr neb, am a wyddom, beth sydd i gymeryd lie yn ychwanegol at y dadorciiudd- iad, a bydd disgwyliad mawr am y rhaglen am y dydd.
GWERSYLLF A TRAWSFYNYDD.
News
Cite
Share
GWERSYLLF A TRAWSFYNYDD. Hysbysir ni mai heddyw (Mercher) ydyw y diwrnod oiaf y bydd y milwyr yn ymarler yn ngwersyllfa Trawsfynydd. Yfory (Iau), yn ol yr arfer, pan fydd y milwyr yn terfynu eu hymarfer yn y gwersyll, cynhelir sports, military tournament, tent-pegging, &c. Gwas- anaethir yn ystod y dydd gan Seindorf Fil- wroi o Gaer. Dymunir arnom hysbysu fod y Milwriad Coke, y Commandant yn Nhraws- fynydd, yn gwahodd pawb i fod yn bresenol.
MARWOLAETH ARDALYDD SALISBURY.
News
Cite
Share
MARWOLAETH ARDALYDD SALISBURY. Bu farw y gwladweinydd enwog yn ei balas yn Hatfield tua naw o'r gloch nos Sadwrn. Nid oedd y diwedd yn anisgwyliedig. Bu y diweddar Ardalydd yn egwan ei iechyd am rai misoedd. Yn gynar ar y flwyddyn bu ei sefyllfa yn achos pryder yn ei gylch. Fodd bynag wellhaodd i'r fath raddau fel ag y bu yn abl i fyned gyda'i ferch Arglwyddes Gwen- dolin i'r Beaulieu, ei dy yn Ffraicc; ac yno y bu am beth amser, gan dderbyn cryn les. Bu ei Arglwyddiaeth yn alluog i symud o gwmpas ei balas hyd y pythefnos diweddaf. Ar y iofed o Awst, fodd bynag, bu raid iddo aros yn ei wely oherwydd gwendid. Ar y 13eg ymdaangosodd arwyddion difrifol, a galwyd ar aelodau y teulu i Hatfield, ac yno yr arhos- asant hyd y diwedd. Aeth Arglwydd Hugh Cecil yno gyda'r meddyg enwog Syr Douglas Powell, yr hwn a alwyd yn gynar yn y flwydd yn i weinyddu ar y claf. Ar ol hyny cyrhaedd- odd Viscount Camborne, etifedd y titl ac arglwydd Robert Cecil, K.C., yn cael eu dilyn gan yr Arglwyddes Selborne, ac Arglwydd Hugh Cecil. Yn ystod gwaeledd cyntaf ei dad, yr oedd Arglwydd Edward, y milwr enwogodd ei hun yn Mafeking, yn Hatfield; ond gan fod ei wyliau ar ben, bu raid iddo ddychwelyd i'r Aifft. Er pan welwyd fod y diwedd yn agos fe geisiwyd rhoddi cenadwri iddo yn Bryndisi i ddyfod yn ol at ochr gwely marw ei dad enwog. Yr oedd tri meddyg yn gwein- yddu ar ei Arglwyddiaeth. Bu farw yn dawel ychydig wedi naw o'r gloch nos Sadwrn. Anfonoddy Brenin Iorwerth air o Marinbad yn datgan ei gydymdeimlad a'r teulu yn eu trallod dwfn, ac yn talu gwarogaeth i'r gwas- a wnaeth y pendefig urddasol i'r diweddar Frenhines, y Brenhin a'i wlad.
Arddangosfa Cerrigydruidion.
News
Cite
Share
Arddangosfa Cerrigydruidion. Cynhelir hon yfory (rau). Y mae yn bob logaidd bob blwyddyn, ond efallai na fu er- ioed cymaint o entries ag eleni, a gobeithio fod ansawdd y cynyrchion a ddangosir yn fwy ac vn rhagorach na'r entries, ac y mae hyny yn dyweyd llawer. Gyda thywydd braf nis gallwn weled na bydd yr arddangosfa yn llwyddiant mawr. Y mae y trefniadau yn rhagorol iawn fel arfer, ac os bydd y rhai hyny yn eu lie, sicr y bydd pobpeth arall. Ymddengys adroddiad cyflawn a chywir yh y rhifyn nesaf o'r Wythnos a'r Eryr."
Yr Etholiad -Cyffredinol.
News
Cite
Share
Yr Etholiad Cyffredinol. Barna swyddogion Cynghor Rhyddfrydig Cenedlaethol Cymru fod yr etholiad cyffred- j inol wrth y drws, ac fel doethion, penderfyn- i asant ymafael heb ymdroi ar eu dyledswyddau | a dechreu ar y rhyfelawd Cymreig yn yr Hyd- ref. I'r amcan hwnw anfonodd Mr Walker H. Hughes, yr ysgrifenydd, gylchlythyr allan er hela areithwyr a thanysgrifiadau. Bydd Mr Hughes yn llawen o dderbyn enwau gwyr deallus, ac hefyd y pynciau y maent yn fwyaf cyfarwydd ynddynt. Fe gofir mai Mr Herbert Lewis, A.S., yw llywydd y Cyngor, a Mr Evan Jones, Y.H., Bala- tad y Parch. ( Pulestone Jones — yw y trysorydd. Bydd Mr Jones, o angenrheidrwydd, yn ddiolchgar ddiffuant am gynorthwy arianol helaeth a diymdroi. Heb fwriadu afratiloni dim ar ar- ian prin y blaid Ryddfrydig, eto bydd yn rhaid wrth drysorfa gref, oblegid y bwriad yw ysgubellu yr holl aelodal1 Toriaidd allan o'r I seneddau Cymreig. Addysg Anenwadol" a'r Dorth Ddrud fydd dau begwn yr eth- oliad, Y mae cwestiwn addysg yn rhwym o newid cymeriad etholiadau Cynghorau Sir y deyrnas a'u gwneyd yn etholiadau gwleidydd- ol, Yn y rhyfelawd agoshaol gellir gwasan- aethu y ddau etholiad. Nis gellir ethol cymaint ag un Tori ac Eglwyswr ar Gyng- horau Sir Cymru, os na fyddant yn barod i gydweithredu er gosod addysg elfenol ar dir anenwadol.
Enjoyed "bv Few. [ed
News
Cite
Share
Enjoyed "bv Few. [ed Few men and women, city ^°rD^giigbtf^ at any rate, ever enjoy that buoyancy and exhilration of Jjgperf^ is the heritage of those whose healt unless and founded on thorough digestJ° geigel indeed they are disciples of Mo 0erati°2 and combat the weakening and deg gtetii effects of city life and air upon toDjc, by a timely resort to the 0f the Mother Seigel's Syrup. The nis arjseriiia» remarkable cures of indigestion Der* headaches, constipation and Se°era. s eff^' vous debility, which this medicine ^oU]<J ed within the knowledge of the'^rl pgr. more than fill every column in this p
Advertising
Advertising
Cite
Share
y:R- ODDFE LLOWS, R -A- 1-i A Cynhelir yr WIL ele"V DYDD SADWRN, MEDl 5e pryd y gwasanaethii' gaD f Seindorf Arian Llan FestfflW ~~— A Yn ystod y pum' mlynedd ya Rhagfyr 31, 1902, talwyd mewn CLAF-DAL £ 307 6S. SC- AT GLADDU. £ 120 OS. 0 1 Arian mewn llaw—■J700- Claf-dal wythnosol—10/ JglO- At gladdu aelod neu wraig aelod yti 01 At gladdu plant aelodau—o gl i yo ii00 yr oedran. • Dyma gyfle rhagorol i ymuno. Celr tna Y pellach eto. LL0^OWB^, Associate of London College of MusiC. Miss RUBY WILD, MEDALIST, GIVES LESSONS IN PIANOFORTE PLAYING AND THEOR" TERMS ON APPLICATION -A AL,A MIN-AFOK. Oil Engines FOR P, e FARMERS and all users of Pov?e Cheap, Simple and started and stoppea m a Costs when running a per hour, to For further informal011 Q B. M. DAVIE^ Yn EisieU, shop n ENETH ieuanc fel tn"yn \Ja Ple° lj yn y wlad ger y Jaw- Ymofyner yn y Swyddfa hon.