Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

COLOFN Y BEIRDD. -

" DUW CARIAD YW."

CARROG.

News
Cite
Share

CARROG. YR ALLIANCE.—Nos Fercher, y igeg eyf., ymwelwyd a'r ardal hon dros y Gymdeithas uchod gan Plenydd, yr areithydd dirwestol enwog, enw yr hwn sydd hysbys ar bob ael- wyd yn Nghymru. Cynhaliwyd y cyfarfod yn addoldy y M.C., ac ar gynygiad Mr W. E. Parry, yn cael ei eilio gan Mr Edmund Evans, galwyd ar Mr W. Jones, Berwyn Street, i ly- wyddu y cyfarfod, yr hyn a wnaeth yn ei ddull deheuig arferol. Wedi canu emyn caf- wyd anerchiad rhagorol gan Plenydd. Ad- roddai ffeithfau difrifol mewn perthynas a'r fasnach feddwol a dyfodol Prydain, ac ym- ddengys ei bod yn bryd i ni fel dirwestwyr ddefiro at ein gwaith. Galwodd sylw hefyd at y Nodachfa fawreddog sydd i gael ei chyn- nal yn Manchester gan yr Alliance, ac anogai ni i anfon ychydig õ nwyddau iddi. Siaradai yn ardderchog ac mor ddealladwy fel y gallai plentyn ei ddilyn. Nid oes angen dweyd ein bod wedi cael cyfarfod rhagorol, gan fod enw yr areithydd yn sicrhau hyny. Daeth cynulliad gweddol yn nghyd, ond "nid da lie gellir gwell." Diameu pe y buasai ychwaneg o ymdrech yn cael ei ddangos y gallasai rhagor fod yn bresenol Yn ystod y cyfarfod cafwyd ychydig eiriau gan y llywydd a'r Parch Edward Edwards, ac wedi talu y diolchiadau arferol terfynwyd trwy ganu emyn

Advertising