Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
COLOFN Y BEIRDD. -
News
Cite
Share
COLOFN Y BEIRDD. PENILLION4 Adroddwyd yn ngwyl Lenyddol Glanyrafon, Llawrbettws, Tachwedd, 1902 Mi geisaf heno nyddu c&n I'n cylchwyl lan, gyfeillion. Ni fum o'r blaen a'm hawen wan Ar lwyfan Glanyrafon. 'Rwy'n hoffi pob drychfeddwl pur Ymlidia gur o'r galon. A pha beth gwell i godi hwyl Na gwyl yn Glanyrafon ? Mae gwlad heb wyl yn llawn o aeth Marwolaeth i'w hymylon Ond mynodd iach lenyddiaeth wiw Ail fyw yn Nglanyrafon. Chwi welwch oil ein llywydd lion, Mae ganddo ddoniau hyglod, Sylwadau pert fydd yn eu tro Yn deifiu blaen ei dafod. A beirniad y gerddoriaeth fåd, Sy'n glod i'r wlad a'i magwyd, Olorianu pawb heb hawlio pres, Yw hanes Williams Cynwyd Er nad yw "Elwern," yn ein plith, Bhaid iddo gael y Sebon," Cymysga ddigon iddo fo I nofio Glanyrafon. Cydweithied pawb mewn ysbryd iach, Y mawr a'r bach yn unol, Doed hen ac ieuanc mewnllawn hwyl I noddi'n gwyl Jellyddol. i Na ddeued cwrlid brad a Hid I daenu ewrlid malais. Na phicell siom i wanu neb Sy' a'i wYlleb ar uchelgais. Pwy wyr nad oes yn mysg y plant Ryw dant heb gael ei daro ? Pwy wyr na ddaw o ris i ris Rhyw Lewis Edwards etc ? Bydd fyw yn ngwyl er gwaethaf trais, Can's dvna lais fy nghalon, Bydd fyw a chwyd golofnau'r byd o ieuengtyd GlanyrafoD. (o)
" DUW CARIAD YW."
News
Cite
Share
DUW CARIAD YW." Cartrefle gwir gariad yw'r nefoedd, Gwlad bywyd heb angau yn bod, A cbariad sydd yno yn frenin Ynghanol gogoniant a chlod Pob angel a'i delyn a chwery Anthemau o foliant i'r Oen Ynghanol dedwyddwch diddiwedd Heb sawyr afiechyd na phoen. Y cariad dihysbydd a lifodd Yn ffrydiau o fywyd i'n byd, I godi y meirwon ysbrydol A'u cludo i'r bywyd ynghyd Ond gwelwyd y cariad anfeidrol Yr lesu ar Galfari fryn Yn marw yn lie ei elynion A golchi rhai duon yn wyn. Fflachiadau o'i gariad yw'r heulian, A'r ddaear a'i llawnder, a'r m6r, Preswylfod plant dynion am dymor Dan aden gariadlawn yr lor Er claddu holl gariad yr oeaoedd Yn medd ebargofiant mewn hedd, Mae cariad y Duwdod yn aros I'r nefoedd a'r ddaear yn wledd. Ond gwelaf Dduw'r cariad yn Farnwr, Yn marchog cymylau y nef, A'r meirw a godant o'u beddau Trwv nerth a dwyfoldeb ei lef 'Ranuwiol pryd hyny lewyga Am wrtbod y cariad erioed A'r seintiau yn dawel ni frysiant Wrth wel'd eu Harglwydd yn dod. JOHN HUMPHREYS. Bryngoleu, Geufron, Llangollen.
CARROG.
News
Cite
Share
CARROG. YR ALLIANCE.—Nos Fercher, y igeg eyf., ymwelwyd a'r ardal hon dros y Gymdeithas uchod gan Plenydd, yr areithydd dirwestol enwog, enw yr hwn sydd hysbys ar bob ael- wyd yn Nghymru. Cynhaliwyd y cyfarfod yn addoldy y M.C., ac ar gynygiad Mr W. E. Parry, yn cael ei eilio gan Mr Edmund Evans, galwyd ar Mr W. Jones, Berwyn Street, i ly- wyddu y cyfarfod, yr hyn a wnaeth yn ei ddull deheuig arferol. Wedi canu emyn caf- wyd anerchiad rhagorol gan Plenydd. Ad- roddai ffeithfau difrifol mewn perthynas a'r fasnach feddwol a dyfodol Prydain, ac ym- ddengys ei bod yn bryd i ni fel dirwestwyr ddefiro at ein gwaith. Galwodd sylw hefyd at y Nodachfa fawreddog sydd i gael ei chyn- nal yn Manchester gan yr Alliance, ac anogai ni i anfon ychydig õ nwyddau iddi. Siaradai yn ardderchog ac mor ddealladwy fel y gallai plentyn ei ddilyn. Nid oes angen dweyd ein bod wedi cael cyfarfod rhagorol, gan fod enw yr areithydd yn sicrhau hyny. Daeth cynulliad gweddol yn nghyd, ond "nid da lie gellir gwell." Diameu pe y buasai ychwaneg o ymdrech yn cael ei ddangos y gallasai rhagor fod yn bresenol Yn ystod y cyfarfod cafwyd ychydig eiriau gan y llywydd a'r Parch Edward Edwards, ac wedi talu y diolchiadau arferol terfynwyd trwy ganu emyn
Advertising
Advertising
Cite
Share
ELLIS'S FOOD Y ddarpariaeth oreu a ddarganfyddwyd erioed i'w rhoddi gyda'r ymborth i GELLYLAU, GWARTHEG, LLOIAU, MOCH, &c. 25 MLVNEDD 0 BROFIAD. Rhybudd Pwysig I Amaethwyr a Pherchenogion Anifeiliaid yn gyffredinol. Gwyliwch ac ystyriwch pa fodd i BORTHI a PHESGI eich Anifeiliaid yn ddiogei, buan a llwyddianus. PIOU o wobr os y gellir gwrth-brofi dilysrwydd y llythyr canlynol. Garreglandeg, Pentraeth, Anglesea. Anwyl Syr, Dymunaf eich hysbysu fy mod wedi defnyddio "Ellis's Horse and Cattle Food" am ngain mlynedd, ac nid wyf yn cofio i mi golli yr un anifail erioed mewnanlyniad i hyny ond yn anffodus y llyuedd fe gymerais trwy daerni anorchfygol bron fy mher- swadio i dreio ymborth arall sydd yn llawer uwch ei bris. ae yn cael ei ddarparu gan gwmni adnabydd- us iawn, a bu deudtfcg o Loi farw genyf. Eleni yr oeddwn wedi penderfynu dyfod yn ol at yr hen ddarparaeth ardderchog. Ellis's Food," ond gyda gofid yr wyf yn gorfod dweud i'r un taerni yn nghyd a sicrwydd diamheuol nad oedd a wnelo yr ymborth a dreiois y llynedd ddiln a'r golled a gefais, dylanwadwyd arnaf i'w dreio drachefn. gyda hoanlyniad cyffelyb eleni eto i mi golli deuddeg o Loi, pryd, fel y dywedwyd eisoes, nad wyf yn cofio i mi golli gymaint ag un yn nghorph ugain mlynedd o amser y bum yn defnyddio Ellis's Horge and Cattle Food," ac fel y gellwch feddwl y mae y profiad chwerw a gefais ddwy flynedd yu olynol wedi a llwyr argyhoeddi nad oes yr un ddarpariaeth aralyll ddeil gydmariaeth ag "Ellis's Food." Y mae ein hen anileiliaid, yn geffylau, gwartheg, Iloi, a moch, y,j ei hoffi, yn dod yn mlaen yn rhyfeddol wrth ei gaell a chyflwr eu hiechyd yn ardderchog. Yr eiddoch yn gywir, WILLIAM JONES. Y mae y llythyr uchod yn llefaru drosto ei hun, a gellir gweled y copi gwreiddiol unrhyw adeg ond galw yn ELLIS'S FOOD WORKS, ABERGELE Y mae Ellis's Food i'w gael mewn bagiau fel y canlyn .-112 pwys 24/ 56 pwys 12/6; 28 pwys 6/6. Telerau arbenig am symiau mawrion. Telir cludiad 112 pwys ac uchod i unrhyw Orsaf RheilfFordd yn Mhrydain. Ellis's Food' Works, Abergele. Difyr gampau a gorchestion yr enwog Twm Shon Catti. Pris 1/ drwy'r post, 1/2. Llyfr difyr a mwyaf am ei bris yn yr iaith Gym- raeg. 1 Dyma'r adeg i ddefnyddio Powdrau CeffylaTl ENWOG SALMON' — i l.IPOWD"WECoo» At y Dwfr, y Croen, a'r i gadw'r auifail mewn cyfl trwy'r gauaf. 2. YPowdwr Bl ft .Kfp At wellau Ceffylau fyddont e; cyflwr isel, ac irw par0 gwerthu. Hefyd, gelwir sylw at PHYSIft SALI[OI I Wartheg, Lloi, Moch, hefyd i Ieir i'w gymys^L? bwyd. Profwyd y v0yr^# yn dra efteithiol i & ychwaneg o wJJau. Gwerthir yr oil mewn tins z gan y Perchenog, dft g D.S.~Os bydd unrhyw anhawsae °^orjir gael y Powdrau mewn unrhyw arda^> gyfew1 5/- yn ddidal gan y Perchenog i W11 dderbyniad blaendal. Gelwir sylw hefyd at I r t) Cr GENUINE BLACKjJf Hen Ddarpariaeth Nodedig i 1/ 1/6, a 2/- y hotel., ——" Jjjk) PER-OLEW Hudol (C boo, II 28. 1 ¡,o I ddenu a dofl Ceffylau, Own, &0. Is. I'w cael gan— T.8AU«O»,0^ A chan y goruchwylwyr a ganlyn- & Q CS. o-tOoetS) Cerrigydruidion—Roberts Bettws a Llanfihangel-JO 0 Maerdy-D. E. Davies Tynant-H. Roberts & Co Cynfal-J. Williams Llandrillo—Y Stores. Cynwyd—W. Davies. Llanelidan—J. Parry, Vi0f. Yspytty Ifan—J. H. Hughes, Gwyddelwern—W. Davies. Qtoe&r- Cefnddwysaru Mrs Robe » Rhewl-B. f J 1 f d Bryneglwys- J. Jones. Bry y ry Glyndyfrdwy-T. Davies. Llanuwchllyn—L. J- Llangwm—J. E. Hu?heS'cre0dre' Cwmmaia—Joha Jones, T. SALMoN,, CHEMIST, OOBW