Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Y BALA.",
News
Cite
Share
Y BALA. PRIODAS.-Boreu ddoe (Mawrth) cymer- odd amgylchiad dyddorol le yn y Capel Mawr, sef priodas Miss Ellen Evans, merch ieaengaf y diweddar Mr. Enoch Evans, o'r Bala, a Mr R. R. Evans, Bootle, Lerpwl. Ym- gynullodd llu o gyfeillion ac edmygwyr y par ieuanc i'r capel i fod yn dystion o'r uniad hapus, ac amlygwyd arwyddion o lawenydd yn mhob cyfeiriad. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parch G. Ceidiog Roberts, Llanllyfni (ewythr y briodferch). Gwasanaethwyd fel morwyn gan Miss Pollie Ball, Lerpwl, a'r gwas ydoedd Mr J. W. Jones, Plasdolydd, Caernarfon. Wedi'r seremoni cynhaliwyd y boreubryd priodasol yn ngbartref y briodferch, He yr oedd cwmni llawen wedi ymgynull i'w croesawu. Ymadawodd y par ieuanc yn nghanol llongyfarchiadau a dymuniadau goreu eu cyfeillion i sir Gaernarfon i dreulio eu mis mel. Dymunwn iddynt bob hapusrwydd o ddechreu eu gyrfa briodasol hyd ei diwedd, ac yr estynir iddynt hir ddyddiau i fod o wasanaeth yn y cylch y maent yn troi ynddo. Derbyniasant lu o fcellebrau llongyfarchiadol, ac y mae'r anrhegion yn Iluosog a gwerthfawr. Y PICNic.-Pan fvdd dau beth neu ddau le yn dwyn bron yr un enw, megis Garthbach, neu Garthgoch, hawdd iawn yw gwneyd cam- gymeriad, onide ? Felly y digwyddodd yn ein rhifyn diweddaf, neu, o leiaf, dyna ddy- wedir yn awr. Wrth son am y Garthbach fel y lie goreu i gynhal Picnic dylasem fod wedi dyweyd y Garthgoch, ac i'r lie hwn y mae cymdeithas lenyddol yr Annibynwyr wedi pen- derfynu myn'd i gael picnic. Drwg genym am y camgymeriad yr wythnos ddiweddaf, ac onibai am synwyr cyffredin dau gyfaill selog am y Garthgoch, ofnwn mai y Garthbach fuasai dewis-le y gymdeithas. Er hyny y mae cystal awyr iach yn y C'lettwr ag yn Llanuwch- llyn, diolch am hyny.
YR YNADON HEDDWCH A'R DASLLAWYB-T…
News
Cite
Share
YR YNADON HEDDWCH A'R DASLLAWYB-T TRADE, Yn gymaint a darfod i'r Ynadon Heddwch yn ddiweddar, gyda chefnogaeth pob dinesydd da, ddefnyddio y galiu yn ddiarrheuol a fedd- ent, i leihau y temtasiynau i ymyfed, trwy hyny amddiffyn rhinwedd a bywyd cymdeith- asol y bobl; ond darfu eu gwaith yn gwneud hyny gyffroi yn ddirfawr y Darilawyr (a'r Trade,) ac y maent yn awr yn gyru yn drwm ar y Llywodraeth i droi y Trwyddedau blyn- yddol i fod yn feddiant parhaol, trwy gyfyngu ar y gallu a feddai yr Ynadon, O'r braidd yr ydym fel cenedl wedi ym- ddeffro i r perygl oddiwrth y cydfradwriaeth yma, yn erbyn ein rhyddid a'n llesiant cymdeithasol. Os pesir y mesur a gynygir gan Mr Butcher, neu mesur Sir W. Hart Dyke (yn awr o flaen y Senedd,) bydd dwylaw yr Ynadon wedi eu rhwymo, a rhoddir attalfa ar ddiwygiadau dirwestol, a bydd y fasnach yn y diodydd meddwol wedi ei hamgau mewn amddiffynfa gadarnach nac erioed. Gan hyny, mae Cyn- grair y Deyrnas Gyfunol yn galw yn uchel ar bob diwygiwr a holl gyfeillion iawnderau cymdeithasol, i wrthsefyll hyd yr eithaf y cyf- newidiadau hyn yn ein cyfreithiau, ar gais a chymhellion y "Gigantic Trade Monopoly" hwn, ac sydd yn byw ac yn lhvyddo ar ddryg- ioni a diraddiad ein pobl a'n cyd-genedl. n
Advertising
Advertising
Cite
Share
Wanted, A STRONG WOMAN as General Servant, able to iron and do plain cooking. Apply, MRS. ROBERTS, MEIRION HOUSE, BALA. 0# EISTEDDFOD GADEIRIOL ? BALA, Llungwyn, (Mehefin laf). CYNHELIR MEWN PABELL EANG. RHAGOLYGON CAMPUS. Mae y Corau isod wedi Entro — CORAU MEIBION. i Moelwyn, 2 Penmaenmawr, 3 Wigan, 4 Rhayadr, 5 Abermaw, 6 Birmingham, 7 Ruthin, 8 Uwchaled, 9 Llangollen. CORAU MAWR. i Blackpool, 2 Bl. Ffestiniog, 3 Dolgellau, 4 Crewe. Tyrfa liosocach nag erioed ar y Pedwarawd, Deuawd a'r Unawdau yr Adrodd a'r Gel- fyddydwaith. Testyn y Gadair 5, Prif Draethawd 4, Rhamant 3, Darn i'w Adrodd 12. Gwasanaethir yn y Cyngherdd -,in Y Buddugwyr Cerddorol Miss Maggie Davies Mr. Maldwyn Humphreys Mr. Dan Price. TEENS BHAD o bob cyfeiriad.
- LLANGWM.
News
Cite
Share
LLANGWM. Cynhaliwyd CyngherddCystadleuol yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn y lie uchod, nos Fercher, Mai 6ed. Llywyddwyd gan Mr. D. R. Thomas, Gaerfechan, ac arweiniwyd gan y Parch. L. Owen, Llanfihangel. Drwg oedd genym ddeall i'r tywydd droi dipyn yn anffafriol i'r ymgeiswyr oil i ddod i ateb i'w henwau yn y Rhagbrawf y prydnawn. Er hyny daeth nifer luosog ar yr oil o'r testynau. Yr oedd y capel yn orlawn o wrandawyr pan aed i ddechreu y cyfarfod, ymddygiad pa rai oedd yn rhagorol o dda. Dechreuwyd ar waith y cyfarfod trwy i Mr. Caradog Roberts chwareu darn ar yr offeryn. Cystadleuaeth unrhyw Ddeuawd, gwobr 15/- O'r pump parti ar y llwyfan, dyfarnwyd Mri. J. W. Davies a Arthur Roberts, Pentrefoelas, yn oreu, yn canu Arwyr Cymru Fydd." Yn nesaf caed anerchiad gan y Llywydd cafwyd ychydig eiriau i bwrpas, gan amlygu. amcan y cyfarfod, sef fod cyfeillion y lie yn disgwyl ychydig elw er gwneud gwelliantau oddeutu y capel. Cystad- leuaeth yr adroddiad, gwobr Medal Arian. Ym- geisiodd 10 goreu Mr. W. Thomas, Giasfryu, Cerrigydruidion. Yn awr deuwyd at brif waith y cyfarfod, sef cystadleuaeth ,yr Her- Unawd. 0 nifer luosog o ymgeiswyr yn y rhagbrawf dewiswyd pump i ymddangos ar y llwyfan, ac wedi cystadleuaeth galed dyfarnwyd y Fedal Aur i Miss Maggie Evans, Cerrigydruidion, yr bon a gatiod(i Pwy sy'n myn'd i'w fagu ef" (W. Davies.) Arwisgwyd hi gan y Llywydd yn nghanol cymeradwyaeth uchel y dorf. Beirniad y Gerddoriaeth oedd Mr. Caradog Roberts, F.R.C.O., Rhos, Ruabon Yr Adroddiad, y Llywydd a Mr. Thomas Jones, Bryndu; Cyf- eilydd, Proff. J. Owen Jones, Wrexham. Gwnaethant eu gwaith i fgddlonrwydd mawr. Cyflwynwyd y diolcbgarwch gwresocaf iddynt am eu gwaith gan Mr. J. H. Jones. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau" Miss Maggie Evans, yn arwain. Deallwn fod elw sylweddol wedi ei dderbyn.—MIN-Y-DOX.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GENEDIGAETHAU. Mai 10, priod Mr. David Jones (Passenger Guard G.W.R..) Liverpool Terrace Corwen, ar ferch. Mai 11, priod yr Heddgeidwad Davies, Llandrillo, ar ferch. PRIODASAU. Mai 12. yn Nghapel Tegid, Bala, gan y Parch. G. Ceidiog Roberts, Llanllyfni, Mr. Richard R.Evans, 23, Wadham Road. Bootle, a Ellen W. Evans, 17, Plasey Street, Bala. MARWOLAETHAU. Mai 6, yn 64 mlwydd oed Miss Jane Evans, Hendwr, Llandrillo. Mai 7, yn 81 mlwydd oed, Mrs. Janet Evans (gweddw y diweddar Mr. Humphrey Evans,) Bryn Llanerch, Llandrillo. Mai 8, yn 9 mis oed, Trevor Jarrett Williams, mab bychan Mr. a Mrs- Owen Williams, Melrose, Stratford, Llundain. Mai 12, yn 85 mlwydd oed, Mrs. Ruth Hughes, Meloeh Mill, Bala. Cleddir yn mynwent Cefn- ddwysarn am ddau o'r gloeh prydnawn dydd Gwener.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Eisteddfod YBA Alo Mehefin 1, l9° Darperir yn helaetb. ar iaid, yn y lleoecld can y1 GOAT HOTEL. ysbysUy TYYMUNA JOHN PH11^1^ 0 V bydd ganddo gyflawndf0d ddydd y wedi ei barotoi yn y l'e uC Eisteddfod. BULL'S HEAD BYDD cyflavVnder o y01 ^j^ydd f baratoi yn y lie uchod a teddfod am brisiau rhesyffl0 • SHIP HOTEL- TYYMUNA W. R. JoN^Sr,0i i'w gfjiu I' cyflawnder o fwyd rhzg ^(0d- y lie uchod ddydd yr rhesymol. ^— mffs"HEAD 55/; brisiau rhesymol. CROSS FOXES INN. y lie DARPERIR cyflawnder o uchod ddydd yr Eiste B. J. WILLI ONEN -ROBERT INGHAM A.F^?Y JLt ymwelwyr i'r Eistedd acb edd o ymborth i'w gael yn brisiau rhesymol. b 3, TEGID ST Eg' >5 •DARATOTR digonedd 1 iau hynod resyrnol yn Y yr Eisteddfod. BELLE VlS^'h^fer fTIHOMAS OWEN a ddy0Jeiaetb X bydd wedi darparu y ymwelwyr i'r Eisteddfod- ddydd yr Eisteddfod^ ,— 12, TEGID STEj DYMUNA Miss M- J'fownde' bydd wedi P*ra;°'J/, ar gyfer dyeithriaid day brisiau rhesymol. Mamo^aid af /"iollwyd o saith o Famogiaid =y chVsritb, d nynt, T yn ddwl ar yr y(ja r$ o las ar y crwper. y yma:—Tyniad cyUe baoes.$. dan y chwith. Telir a- p