Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

COLOFN Y BEIRDD. --

News
Cite
Share

COLOFN Y BEIRDD. CESTYLL CYHRU. Cestyll Cymru a aafasant Holl ruthriadau'r gwlaw a'r gwynt, A'u cadernid a glodforant Allu ,?r hen Gymry gynt; Er mai'r wybren a'r cymylau Sydd yn do i lawer un, Gyda bylchau yn eu muriau, Deil eu clod o hyd yr un. Er nad ydynt hwy yn meddu Ar brydferthwch rydd fwynhad, ODd cyfoethog y'nt er hyny 0 hanesion 8yna'r wlad; Os ymffrostia'r Aifftiwr effro Yn ei byramidiau lu, Gall y Cymro dewr yraffrostio Yn ei gestyll ar bob tu. Llawer Ionawr blin a'i lwydrew Gyda'i eira glan a gwyn Fu yn dangos lliw yr eiddew G'Ivnia am eu muriau'n dyn; Fel 'r ymglyma'r eiddew yna Am eu muriau'n gadarn glyd, Yr ymglyma calon Gwalia Hotf am danynt hwy o hyd. Hen noddfeydd i'n tadau dewrion Fuont oil am oesau lu, Pan ymladdai y gwrolion Frwydrau rhyddid Cymru Fu," Ac os cwympodd liawer gwron Drwy y cledd yn mrwydrau'r gad, Nid aeth neb i fedd 'rafradlon Ro'es ei fywyd dros ei wlad. Eu harddunol drem drwy'r oesau Ddeffra adgof am y brad* A gyflawnwyd rhwng eu muriau Gyda beirdd a chewri'n gwlad; Wylo am y brad a'r aflwydd Heddyw wna'r awelon iach, I anghofio'r du waradwydd Tragwyddoldeb sy'n rhy fach. Ni gawn ddarllen ar eu tyrau Am eu gormes blin a'r trais Ddioddefodd ein hen deidiau Dan haiarnaidd iau y Sais; Ac er fod Glyndwr yn huno, A'n Llywelyn olaf Lyw, Cestyil Cvmru er adfeilio Gadwa'u hanwyl enwau'n fyw. Corwen. R.E.J. EDNANT. *Cyflafan y beirdd yn Nghastell Biwmaris.

PENILLION

CYNGOR PLWYF CORWEN. _____^

Advertising