Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

TEEM AR Y BYD.

News
Cite
Share

TEEM AR Y BYD. CYFOETH A THLODI. Gyda'ch csniatad, Mr. Gol., bwriadwn ysg- rifenu rhyw golofn neu ddwy yn awr ac yn y man ar helyntion y byd,—yn grefyddol, gwleidyddol, a cbymdeithasol. Taflwn gip- drem ar y bvd, heb anghofio, wrth gwrs, ein gwlad ein hunain, â amgylchiadau a helynt- ion pa un y bydd a fynom yn benaf. I'r syl- wedydd crafftfeailai nad oes dim a'i tery yn amlycach yn y dyddiau hyn, wrth edrych ar amgylchiadau plant dynion ar wyneb y ddaear, na bod rhyw anesmwythyd rhyfedd wedi meddianu dynolryw. Rhaid fod yr anes- mwythyd hwn yn effaith rhywbeth, oblegid y mae i bob effaith ei achos, Pe gofynem i'n darllenwyr draetbu eu barn beth yw yr achos neu yr achosion o'r anesmwythyd a'r trueni a'^annuwioldeb sydd yn y byd, diameu y buasai eu hatebion yn wahanol iawn i'w gil- ydd. Tebygol y priodolai y gwleidyddwr druenusrwydd y byd i gamlywodraeth; tra mae'n sicr y priodolai y crefyddwr yr oil i ganlyniadau pechod a'r dosbarth olaf a daer- ai nad yw y cwbl ond effaith system gymdeith- asol bwdr ac anghyfiawn. Fod ein deddfau yn mhell o fod yn berffaith sydd wirionedd amlwg iawn fod pechod yn ffynn i raddau rhy helaeth sydd wiriouedd yr un mor amlwg a bed y system gymdeithasol hresenol yn anghyfiawn, ac yn brif achos o drueni mawr y byd, sydd wirionedd amlycaeh yn ein gohvg ni. Wrth daflu golwg ar wahanol wledydd a gwahanol ardaloedd, gwelir yn amlwg fod tawelwch cymdeithasol y gwledyod a'r ardal- oedd hyny i'w briodoii yn benaf i fywyd gwastad y trigolion, ac hefyd i'r llawnder a fwynheir o foddion cynaliaeth. Nis gall taw- eiwch a diogelwch cymdeithasol fod lie y mae gorlawnder a gorbrinder lie y mae cyfoeth mawr a thlodi dwfn, Pa le bynag y mae hyn yn bcd, y mae y lie hwnw yn fagwrfa anghyd- 4od a chythrwfl cymdeithasol, yn cael ei ddilyn gan wrthryfel a dymchweliad gwlad- wriaethol. Dyma a ddysgir gan hanesiaeth y byd o'r dechreuad. Yr adeg ddiogelaf a hapusaf yn hanes Rhufain enwog ydoedd yr amser hwnw yn ei hanes pan ydoedd ei thrig- olion yn weddol gysurus eu hamgylchiadau odd pan gynyddodd ei chyfoeth i raddau gor- modol, aeth ei llywodraethwyr i loddesta a chyflawni pob pechod yn un chwant, gan anghofio lies cyffredinol mwyafrif mawr ei thrigohon. Pan a unrhyw wlad i'r sefyllfa hon, gellir bod yn sicr fod dydd ei thranc yn y golwg. Pa le y saif Prydain Fawr yn ngwyneb y drych hwn, tybed ? Cawn weled, ond idid, yn y man. Ein hamcan yn yr ychydig nodiadau dilyn- ol fydd danges i'r darllenydd drwy ffelthiau a ffigyrau yr anghyfartaledd dJbryd sy'n bod rhwng cyfoeth a thlodi, neu'r cyfoethog a'r tlawd, yn ein gwlad. Nodwn i ddechreu y ffeithiau catilynol yn nghylch cyfoeth Y mae agos holl gyfoeth y genedl yn cael ei gynyrchu gan y pweilhwyr, tra y defnyddir y rhan fwyaf o hono gan y cyfoethogion, y ihai a'i gwasgarant rnewn moethau a phethau di fudd eraill, gan adael mwyafrif y rhai a'u cynyrchant hd) yr angenrheidiau hanfodol i fywyd ac iechyd. Dywedir fod gwerth y cyfoeth a gynyrchir yn y wlad hon yn ^,1,7000.000.000. O'r cyfanswm anferth hwn telir 275,000,000 mewn rhent, ^,340,000,000 mewn Hog, a ^435,000.000 mewn enillion a chyflogau. Gwna hyn gyfanswm o fj 1,050,000.000 mewn rhent, Hog, enillion, a chyflogau, agos yr oil o ba un a fwynheir gan bum' mjliwn o'r bobl a wna i fyny y dostmth canol a'r uchaf. Y gweddill o ^650,000,000 a delir mewn cyf- logau i'r 35,000,000 araSl o'r boblogaeth a gyfansodda ddosbarlh llafur. Felly, y mae bron ddwy ran o dair o boll gylbeth y wlad yn myned i ddwylaw p-nn mihwn o bersonau, haner o ba rai ydynt jn segur, ac y mae un ihan o dair yn c: el ei rami rhwng saith waith gynafer o bobl, agos haner pa rai ydynt weitlnvyr, Y mae y ddegfed o'r unfed ran a'r ddeg o'r' holl dir yn yr Ynysoedd Prydeinig yn perthyn i 176,520 o bersonau, tra y meddienir y rhan arall gan y deugain miliwn gweddill o'r boblogaeth, Derbynia amryw o gyfoethogion ein gwlad ^150,000 o gyllid blynyddol, tra na dder- bynia y crefftwyr da, ar gyfartaledd, ond rhyw ^80 yn flynyddol. Ac eto, cynyrchir cyfoeth y wlad gan y gweithwyr ac nid gan y cyfoethogion. Os yw y ffeithiau uchod yn gywir (fei y mae pob lie i gredu eu bod,) onid yw yn amlwg i bawb fod rhyw anghyfartaledd afresymol yn bod rhwng cyfalaf a Ilafur ? a bod yn bryd i weithwyr ein gwlad ddeffro o'u cysgadrwydd i weled pethau yn eu goleuni priodol. Yn ein nesaf traethwn ar diodion ein gwlad.CELSUS.

A Remarkable Letter.

Advertising