Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

COLOFN Y BEIRDD. --

News
Cite
Share

COLOFN Y BEIRDD. LLEF RHYDDID. (AR DDULL MOORE). Cyfod gyfaill ac ymladda Dros iawnderau Cymru fad, Tyrr hen rwymau tyn caetbiwed Sydd yn atal ein mwynhad Cwyd dy lais a'th fraich yn erbyn Anghyfiawnder blin ei hynt, Gwna'r gorthrymwr ffoi mewn dychryn, Fel y niwl o flaen y gwynt. Paid a llwfrbau, fy nghyfaill, Cwyd ar frys. nag eistedd lawr, Dyro ofn ar y gelynion, Sa' i fyna megis cawr Glywi di mo lais diaiedd, Draw yn dod o gol y bedd ? Llais ein tadau dewrion ydyw, A gwympasant drwy y cledd. Ah fy nghyfaill, wyt ti'n teimlo Ehywbeth yn dy fynwes fad, Pan yn darllen y cofnodion Sydd ar garreg fedd dy dad 1 A oes rhywbeth yn dweyd wrthyt Nes cynhyrfu'th wladgar gol ? Dos yn eofn, ddyn, a brysia, I at-dalu'r cam yu ol. Y mae swn magnelau rhyddid Yn taranu yn y glyn, Crynu mae hen gaerfa gormes, Fel yr aetbnen ar y bryn, Dos, rhybuddia y gorthrymwr, Na fydd fud, ond cwyd dy lef, Os na wrendy ymbil rheswm, Dangos fod dy fraich yn gref, Hâ! mae'r amser wedi dyfod, I ddatweinio'r cledd yn awr, Rhcddwn enw'r bradwr halog Mewn llyth'renau gwaed ar lawr Ymarfogwn, ac ymladdwn, Byddwn ddewrion heb ein hail, Cyn y plygwn mwy i ormes, Todda'r Wyddfa'n ngwres yr haul. Corwen. R. E. J. EDNANT.

' CORWEi.

Y BAZAAR.

Advertising