Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

^WDIADATI otffeedikol.

CYNGHOR DINESIG Y BALA.

Cyngor Dosbarth Gwledig Dolgellau.

News
Cite
Share

Cyngor Dosbarth Gwledig Dolgellau. ANRHYDEDDU UN 0 BLANT Y BALA. Penodwyd Mr R, Foulkes Jones, Ysgol- feistr, Llwyngwril, gydag unfrydedd, yn gad- eirydd y Cyngor ucbod, ddydd Sadwrn di- weddaf ac felly, fe fydd yn Ustus Heddwch dros y sir cyhyd ag y deil y swydd o gadeir- ydd. Un o'r Bala ydyw Mr Foulkes Jones, mab i Mr John Jones, Joiner, Aran Lane. Diau y bydd yn dda gan luaws mawr o'i gyf- eillion a'i gyfoedion ddeall hyn. Mae wedi bod yn dra llwyddianus fel ysgolfeistr yn Llwyngwril er's drosddwy flynedd a'r hugain, ac wedi cymeryd rhan flaenllaw gyda phob symudiad er dyrchafu yr ardal yn ystod yr amser a nodwyd. Dwy flynedd sydd er pan yr aeth gyntaf yn aelod o'r Cyngor Dosbarth, a rhaid fod ei wasanaeth yn wertlifawr, ac yn cael ei brisio felly, cyn y buasai yn cael ei ddyrchafu mor fuan i'r safle mwyaf anrhyd- eddus ag y gallasai ei gydaelodau ei roddi ynddi, Yn enw ei dref enedigol, yr ydym yn cyfhvyno iddo longyfarchiadau calonog.

Advertising