Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

COLOFN Y BEIRDD.

News
Cite
Share

COLOFN Y BEIRDD. MOLAWD LLANBRYNMAIR. Hoff genyf ydyw clywed can Ehedydd bach y borau, Wrth esgyn fry i'r nwyfre lan, I orsaf y cymylau, Ond hoffach genyf ar fy ngair Hen Lanbrynmair a'i fryniau. Hoff genyf ydyw 'r Ddyfi fwyn, A'r hafran lydan lonydd, A ffryriiau Berwyn rhwng y brwyn, A'r Ddyfrdwy deg, ysplenydd Ond hoffach genyf ar fy ngair Hen Lanbrynmair a'i nentydd. Hardd ydyw Dyffryn Conwy deg, Edeyrnion ir a'i dolydd, A Dyffryn Dyfi ffrwytblawu cliweg, A'r Clwyd a'i dirfion goedydd Ond harddach cymoedd Llanbrynmair Na'r cyfan gyda'u gilydd. Iach ydyw awel Berwyn her A'i pref arddunol gader, A'i Aran Fa v. ddwy'n mhro y ser A'i uehel drumiau lawer Ond awei bryniau Llanbrynmair Sy'n iachach i'm o'r haner. Iach ydyw dwr ffynonau glan Llanwrtyd a Llandrindod, A Llanfairmuallt, cartre'r gan, A Trefriw bob diwrnod Ond iachach oyfroedd Llanbrynmair, Mae hyny'n gryn rhyfeddod. Yn Llanbrynmair, tro ynta' 'rioed Y gwelais y briallu, A'r dail yn glasu brigau'r coed, A blodau'r dydd yn tyfu Wrth Llanbrynmair, fy ardal Ion Mae nghalon fyth yn glynu. Yn Llanbrynmair mae bedd fy mam, A'm brawd a'm chwaer anwylaf, A hen gyfeillion lu di-nam Pa rai o'm calon garaf, Yn Llanbryumair dymunaf fi Gael huno'm hun ddiweddaf. Corwen. R. E. J. EDNANT.

--i A Great Australian Discovery.

"WESUL TIPYN."

Advertising