Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

COLOFN Y BEIRDD.

Advertising

CHAPMAN I GAEL EI GOLLI.

TYBED MAI "JACK Y RIPPER"…

News
Cite
Share

TYBED MAI "JACK Y RIPPER" YDYW ? YR HYN DDYWED YR HEDDGEID- WAID. Pwy nad ydyw yn cofio y braw a lanwai y galon pan yn darllen am erchyllderau Shon y Rhwygwr." Mae yr adyn ellyllig hwnw, medd yr heddgeidwaid, ar y ffordd i gael ei grogi. Honai yr heddgeidwaid mai Chapman ydyw y bwystfil. Dywed yr heddgweidwaid fod ganddynt rywbeth yn dal cysylltiaid ag erchyllderau Whitechapel, Llundain, y rhai a briodolir i Shon y Rhwygwr." Enw priodol Chapman —yr hwn sydd Bwliad Rwsiaidd ydyw Klosowski. Adeg y ddau lofruddiaeth gyntaf yn Whitechapel, yr oedd Klosowski yn lletya yn George Yard, Whitechapel road, lie y bu y cyntaf o'r llofruddiaethau. Byddai yr adyn yn gwisgo cap P and 0. ac yn cario bag du. Felly, hefyd, meddir, y byddai Shon y Rhwygwr. Ar oil erchyllderau Whitechapel aeth Chapman i Ddinas New Jersey, ac yr oedd ganddo yno siop barbwr. Fe gofir ar ol y llofruddiaethau erch yn Whitechapel y dechreuodd diaflwaith "tebyg yn America. Gobeithio fod sail i hyn oil, ac y caiff cym- deithas deimlo rhyw gymaint o fwynhad meddwl oherwydd i Shon y Rhwygwr gael ei ddal.

Advertising