Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y BALA.

[No title]

--------------_---CORWEN.

News
Cite
Share

CORWEN. "Anne Griffiths" oedd testyn darlith a dra- ddodwyd gan y Parch H. Cernyw Williams, yn nghapel y Bedyddwyr, yn y lie uchod, nos Wener diweddaf. Llywyddid gan y Parch J. Felix. Wedi i'r darlithydd roddi desgrifiad o gyflwr y wlad mewn ystyr ddeallol, gymdeith- asol, a moesol, ar yr adeg yr oedd Ann Griffiths mewn bri, aeth yn mlaen i siarad am ei hanes personol. Cafodd ei geni yn 1776 -yn mhen tair blynedd ar ol marwolaeth Howel Harris, ar adeg pan yr oedd ton o frwdfrydedd yn myned dros Gymru. Cy- ffyrddodd effeithiau y diwygiad hwnw a hi; a daeth i'r penderfyniad o gyflwyno ei hun i Crist ac i'w eglwys, ar ol gwrandaw pregeth gan Benjamin Jones yn Llanfyllin. Yr oedd hi yn byw yn Llanfihangel- rhanbarth uchaf yn sir Drefaldwyn, ac heb dderbyn unrhyw addysgiad arbenig ac er yr holl anfanteision yr oedd hi yn llafurio danynt, dadblygodd allu arbenig i wneyd penillion, a gwnaeth iddi ei hun enw yn yr ystyr hono ac y mae ei phenillion erbyn hyn yn cael eu defnyddio ar y Sabbath gan Gymry yn mhob rhan o'r byd. Claddwyd hi, tra nad oedd ond 2gaill mlwydd oed, yn 1805, ac y mae amryw leoedd yn darparu i ddathlu eichan mlwydd- iant. Yn ddilynol i'r ddarlith cafwyd cyfarfod cystadleuol, pryd y dyfarnwyd i'r buddugwyr canlynol:—Canu y don "Trewen" (D.Emlyn Evans), gwobr 25h i Mr Jacob Jones, Corwen, a'i barti. Canu y don Navarre," ar y geiriau Gwna fi fel pren planedig," &c., gwobr 8/ goreu Mr D. R. Evans, Corwen. Am ganu Wele dir ei feusydd ffrwythlawn," Miss Gladys Morris, Corwen ac am yr adroddiad Mr Harry Edwards, Corwen. Gwnaed elw boddhaol oddiwrth y cyfarfod. MARWOLAETH.— Chwith genym gofnodi marwolaeth Mr. Samnel Davies, Woodbank Terrace, yr hyn gymerodd le prydnawn ddoe (Mawrth), yn 66 mlwydd oed. Ychydig fis oedd yn ol eyflwynwyd i Mr. Davies, awrlais ac anrhegion gwerthfawr eraill fel amlygiacl o barch ac edmygedd o hono ar derfyn 50 mlynedd o wasanaeth fel engine driver dan Gwmni Rheilffordd y Great Western. Yr oedd Mr. Davies yn Nghorwen er's dros 30 mlynedd, ac yn ystod yr amser hwnw wedi dangos laweroedd o weithiau y gallai wneud caredigrwydd i'r cyhoedd heb beryglu ei hun trwy hyny. Deallwn na fydd y gladdedigaeth ddtm yn cymeryd lie yn Nghorwen. CWRDD PLWY.—Nos Wener nesaf, am 7 o'r gloch, yn ystafell Bwrdd y Gwarcheidwaid, cynelir y Cwrdd Plwyf blynyddol, pryd y dar- llenir y cyfrifon am y flwyddyn, ac y ceir cyf leusdra i ymdrafod a materion y plwyf yn gyffredinol, Y DDARLLENFA A'R LLYFRGELL.—Nos LURI nesaf, am 8.30, cynelir yr arwerthiantj chwarterol ar y gwahanol newyddiaduron, dyddiol ac wythnosol, cylchronau, &c., yn ystafell y Ddarllenfa. Dyma gyfle rhagorol i gael bargeinion ar y pethau hyn.

LLANUWCHLLYN..

[No title]

--..---LLANGOLLEN,At ol to

Advertising