Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y BALA.

News
Cite
Share

Y BALA. PENODIAD. -Llawenydd genym ddeall fod Mr a Mrs D. R. Roberts, Goleufan, wedi eu dewis yn feistr a meistres Tlotty Dolgellau. Gan fod hon yn swydd bwysigfawr nid rhyfedd genym ddeall fod cynifer a 25 yn ymgeisio am dani. Er fad yn ddrwg genym golli Mr a Mrs Roberts o'n tref, eto llawenychwn ar eu penodiad i swydd morgyfrifol. Bydd y golled i egiwys y Methodistiaid yn y Bala yn enill i'r chwaer eglwys yn Nolgellau trwy dderbyn deu- ddyn mor ffyddlon. LLENYDDOL.—Nos Iau diweddwyd tymhor cymdeithas lenyddol y Methndistiaid trwy wledda. Anrhegwyd yr aelodau a gwledd flasus gan gyfaill caredig sydd rhy wylaidd i wneyd ei enw yn hysbysond er fod ei enw yn ddirgelaidd teimla yr aeiodau yn ddiolch- gar iawn iddo am ei haelioni. Darparwyd y wiedd gan Mri J. J. Hughes, The Stores, a Thomas Owen, Belle Vista. Gweinyddwyd ar y gwleddwyr gan nifer o foneddigesau car- edig. I ba le yr aethant ar ol y wledd, tybed ? Uywyddwyd cyfarfod hwyHog wed'yn gan y Parch J. Howel Hughes. Cynygiwyd llwnc- destyn Y gymdeithas lenyddol gan Mri D. E. Jones, Richard Williams, B A., a D. R. Roberts. Anerchiad rhagorol gan y lly wydd, ac anerchiad barddonol gan Mr E. Watcyn. Y gwahoddedigion," gan Mri W. E. Jones ac R. Evans, ac atebwyd gan yr Athro Stev- enson, M.A.,B,D. Can gan Ap Gwrtheyrn, adroddiad gan Mr T. J. Hughes, ac anerch- iadau gan Mri Wm. Price ac Ellis E. Davies, loan Pedr ydoedd testyn papyr rhagorol a/chynwysfawr Mr D. W. Jones, Llys Meirion, gerbron cymdeithas lenyddol yr Annibynwyr yr un noson. Cafwyd hanes y gwr athrylith- gar hwn o'i febyd hyd ei fedd, a phe ceid rhagor o bapurau cyffelyb ar enwogion ein gwlad credwn y byddai hyny yn fwy buddiol na rhai o'r testynau eraill. Siaradwyd ar y papyr gan Mri Thomas Jones, E. W. Evans, J. P. Jones, J. R. Jordan, J. Parry, a Mrs D. W. Jones. DYCHYMYG YNTE FFAITH ?—Min yr hwyr ryw noson ddechreu'r wythnos tynwyd ein sylw at rywbeth gwyn yn syllu arnom gyda llygaid duou o gyfeiriad y bwrdd hysbysiadau wrth orsaf y rheilffordd. Ofnem fod rhyw greadur gwaeth na thynrychiolydd newydd- iadur wedi cymeryd y bwrdd yn destyn o wawd ond erbyn myned ato ychwanegwyd at yr ychydig wybodaeth a feddwn eisoes trwy ddarganfod y pellder o dref y Bala i'r pentrefi cylchynol. Byddwn weithiau yn anghofio faint 0 ffordd sydd o'r Bala i Lanuwchllyn a lleoedd eraill, ond os digwydd i'n cof fod yn fyr o hyn allan ni raid ond edrych ar yr ad vertisement board na thrwythir ni a. goleuni a gwybodaeth. Y mae yn edrych yn weil heddyw nag erioed. YMDRECHFA AREDIG.Ya canlyn wele gyfrifon yr ymdrechfa aredig a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Bala—Derbyniadau—Trwy'r casglyddion, 15P 7s; am fynediad i'r cae, 6p 25. Taliadau—Gwobrau 6p 145 6c beirn- iaid, ip 1 os; hysbysiadau, 15s; bwyd, cyf- logau, &c., 3p 2S 2c. Gweddill yn Haw y Trysorydd, 9P 75 4c. Daniel Roberts, Cad- eirydd; Thos. Davies, Trysorydd; Robert Roberts, Ysgrifenydd. FOOTBALL.—The semi-final for the Dolgell- ey Challenge Cup was played at Dolgelley on Saturday between Bala Press and Dolgelley Reserves. The former team won by 6 goals to 2. A match will take place at Bala on Friday between the Press and Wrexham Fridays kick-off at 4-45 p.m. On Saturday the Press play Ruthin at Bala.

[No title]

--------------_---CORWEN.

LLANUWCHLLYN..

[No title]

--..---LLANGOLLEN,At ol to

Advertising