Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y BALA.

News
Cite
Share

Y BALA. CYNGHERDD YR ORGAN.—Y mae hwn yn mhlith y pethau a fu, ond yn sicr nid anghofir yn fuan y wledd ardderchog gafwyd gan yr enwog Ddr. Peace. Yr oedd ei chwareuad o'r gwahanol ddarnau yn gampus ac annes- grifiadwy, a hawdd oedd deall fod y cynull- eidfaoedd wedi eu boddloni. Mwynhawyd yn fawr ddatganiad cor y Bala o'r gantawd "St. Pedr," ac yn arbenig y pedwarawd yn nghyf- arfod y prydnawn. Yr oedd hwn yn un o bethau gorau y cyngherdd. Gweithredwyd fel ysgrifenydd gan Mr J, B. Parry, a gwnaeth ei ran yn rhagorol. YMDRECHFA AREDIG. Llwyddiant per- ffaith ydoedd hon ddydd Iau diweddaf. Cym- erwyd dyddordeb neillduol ynddi gan amaeth- wyr y cylch, a chawsant eu llwyr foddioni yn y. gwaith ardderchog a wnaeih yr ymdrech- wyr. Gwnaeth yr ysgrifenydd medrus, Mr R. Roberts, Llythyrgludydd, ei waith yn gam- pus, a dymunvvn ei longyfarch ef a'r pwyligor ar lwyddiant yr:anturiaeth. Y mae ein hen gyfaill W.E. yn traethu ei len yn ddyddorol mewn colofn arall. LLENYDJJOL.—Cynaliwyd cyfarfod wythnos ol cymdeithas lenyddol yr Annibynwyr nos lau o dan lywyddiaeth Mr Wm. Williams. Caf wyd dadl ddifyr ar A yw yn iawn i weinidog- ion yr efengyl gymeryd rhan mewn gwleid- yddiaeth ?" Agorwyd ar y cadarnhaol gan Mrs D. W. Jones ac ar y^nacaol gan y cadeir- ydd. Wedi gwrandaw dau bapur neillduol o dda cafwyd sylwadau bywiog arnynt gan Mri Thomas Jones, Ivor Evans, Godfrey Jones, J. P. Jones, E. W. Evans, D. W. Jones, J. R. Jordan, J. Parry, Miss Evans, a Miss Edwards. Ar ymraniad pleidleisiodd y mwy- anfrif o blaid y cadarnhaol. Hysbyswyd fod y coffee supper i ddiweddu y tymhor i gael ei ohirio, gan fod pwyligor y basar yn bwriadu rhoddi gwledd i ddathlu dyfodiad y ilestri te. Hyderwn na fyddant yn hir cyn dyfod. PENODTAD.—Dymunwn longyfarch y Cyn ghorwr J. Parry, Y.H., Glan Tegid, ar ei ben- odiad yn is-gadeirydd Cynghor Sirol Meirion am y flwyddyn nesaf. GWLEDD.—Nos Lun, yn y Neuadd Sirol, diweddwyd tymhor dosparthiadau ambulance Dr Williams trwy wledda. Eisteddodd odd- eutu 150 i fwynhau ciniaw ardderchog a bar- atowyd gan Mr a Mrs Ingham, yr Onen. Wedi gwledda cynhaliwyd cyfarfod difyr o dan lywyddiaeth Dr Williams. Aed trwy y rhaglen fely canlyn-r-Llwncdestyn, "Y Bren- hin, y Frenhines, a'r Teulu Brenhinol," gan y ilywydd. Deuawd ar y berdoneg garl Misses Kitty Davies a Maggie M, Morgans. Mr J. Edwards, Surveyor, wrth gynyg llwncdestyn Y Llywydd," a ddywedodd fod y Dr yn cym- y eryd trafferth fawr gyda'r ambulance. Teim- lai ef (y siaradwr) fod ambulance yn myned yn fwy pwysig bob dydd, ac nid oeddynt yn gwerthfawrogi digon arnb. Can gan Mr R. Thomas. Darilenodd yr Arolygydd Morgans, ysgrifenydd gweithgar a rfyddton y dospar.th- iadau, yrbestr, ganlynol o'r rhai a enill- i asant dystysgrifkxi Y flwyddyn gyntaf: Mrs Jones, Llidiardau, Misses Lizzie Lloyd, H A. Roberts, Jana Davies, Nell Thomas, Kathleen Pell, Kitty Davies. Yr ail flwydd- yn Mrs Morgans, Mrs Roberts, Mrs Ingham, jMrs Morris Jones, Mrs J. Owen Jones, Misses Pally Jones, Anne Vaughan, Howel Hughes,F.A.Britton,Annie Lewis, Annie Timothy, Augusta Jones, Evans, Nat,School. Nell Thomas. Cyflwynwyd y tystysgrifau gan Mrs Dr Williams. Galwyd ar Mr J. Parry, Y.H., i gyflwyno tystysgrifau y flwydd- yn gyntaf i'r rhai canlynol-Mri Ishmael Rob- erts, Robert Roberts, R. P. Phillips, H. Jones, P. Owen, R. LI. Pugh, Jenkin Mor- gan, Cadwaladr Jones, D. Andrew, R. Tho- mas, R. Williams, R. Hughes, D. Davies. Yr ail flwyddynMri John Williams, Perry Jones, Phillip O. Williams, Thos Williams. Canu penillion gan Mr Evan Roberts. Can gan Miss Kitty Roberts. Anerchiad gan Dr Hugh Jones, Dolgellau. Dywedodd ei fod wedi gweithio er's peth amser gyda'r ambul- ance, yr hwn oedd agos iawn at ei galon, a dymunai ddwyn tystiolaeth i wasanaeth an- mhrisiadwy Dr Williams i'r gwaith. Ni wydd- ai am neb yn rhoddi cymaint o'i wasanaeth i ambulance a. Dr Williams. Gwyddai fod ef a'r Arolygydd Morgans yn gweithio yn egniol, a chredai fod tref y Bala o dan rwymau neill- duol iddynt. Yna aeth y Dr yn mlaen i ddesgrifio gwaith ambulance, a thraddododd anerchiad rhagorol ac addysgiadol. Can gan Mr H. R. Davies. Llwncdestynau, "Dos- parthiadau ambulance y Bala," gan y llywydd, atebwyd gan Mri R. L1. Jones a Perry Jones, "Yr alwedigaeth feddygol," gan Mr Phillip O. Williams, atebwyd gan Dr White Jones, Y tan ddiffoddwyr," gan Mrs Lloyd Jones. Y boneddigesau," gan Mr D. C. Jones, "Y Gwahoddedigion," gan Mr D. R. Roberts, ac atebodd Mri E. Roberts ac Edgar Evans, N. P. Bank, a W. Edwards, Aberystwyth, "Y liettywr a'r llettywraig," gan y llywydd. Can gan Miss Kate Daviqs- Ar ran y dosparth- iadau cyflwynodd Miss Evans, National School, mewn araeth ddel, anrheg o dressing case i Dr Williams, a diolchodd y Dr. cyf- lwynodd Miss Annie Lewis, mewn byr eiriau pwrpasol anrheg o gadwyn aur i'r Arolygydd Morgans, a diolchodd yntau, a chyflwynodd Teddy Hughes compass i J. M. Morgans, y patient. Enillwyd y medals aur gan Miss Kate Thomas a Mr J. B. Parry y rhai arian gan Mrs Lloyd Jones a Mr J. D. Guest; y rhai pres gan Miss Catherine Jones a. Mr Ted Hughes. Cyflwynwyd y medals gan Mrs J. R. Jones, Plasdeon. Canu penillion gan Mr H, R. Davies. Can gan Nurse Lloyd a H. A. Roberts. Can gan Miss Foulkes, Llan- gollen, encoriwyd, acailganodd. Cyfeiliwyd yn feistrolgar a deheuig fel arfer gan Miss Blodwen Hughes, Tryweryn View.

!CORWEN.

Advertising

UWCHALED RURAL DlS#^1 ICOUNCIL.…

Advertising