Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

....... Ta^vL^rg'lwvdd Penrhyn…

Trvchineb erchyll vn Llandudno

News
Cite
Share

Trvchineb erchyll vn Llandudno MAM YN BODDI EI HUN A'I PHLANT. UN BACHGEN YN DIANC. Gwnaed darganfyddiad erchyll yn Llan- dudno nos Fawrth, yr hwn na adawa yr am- heuaeth leiaf na chyflawnwyd llofruddiaeth ddwbl ac hunanladdiad ar Ben y Gogarth. Aeth dynes oddeutu 34 mlwydd oed drwy y dollfa i fyny y ffordd gyda glan y mor, gyda'r hon yr oedd tri o blant, yn ystod y prydnawn. Bachgen oddeutu saith oed ydoedd yr hynaf o'r plant. Dywedodd wrth geidwad y dollfa nad oeddynt yn myned yn mhell. Oddeutu awr yn ddiweddarach, canfu Mr Owen, ceidwad y dollfa, y bachgen yn dychwelyd wrtho'i hunan. Gofynodd iddo He yr oedd ei fam, pryd yr attebwyd gan yr un bychan, Mae wedi myn'd." Gan gredu fod y plen- tyn wedi eu colli, cyflwynodd ef drosodd i'r heddgeidwaid. Caed mai enw y wraig ydoedd Ellen Rob- erts, a'i bod yn preswylio yn 24, Townsend- lane, Winchester-road, Anfield, Lerpwl. Dan- fonwyd am ei phriod, yr hwn a gyrhaeddodd i Landudno ddydd Mercher. Iddo ef yr oedd y bachgen yn alluog i daflu goleuni ar y trych- ineb erchyll. Dywedai fod ei fam a'i ddwy chwaer ieuengach wedi boddi, Yr oedd y fam wedi eu taflu hwy dros y dibyn i'r mor, ac yna wedi neidio ar eu hoi. Aeth yr Arolygydd Owen, Llandudno, gyda'r Rhingyll Pugh, i'r fan y nodwyd gan y plentyn. Y mae oddeutu cant a haner o lath- eni o bellder o'r goleudy. Canfyddwyd yno rai dillad, y rhai a adnabu'r gwr ar unwaith fel rhai'n perthyn i'w wraig. Ar y creigiau islaw yr oedd olion o gwymp- iad cyrph oddi fry, ond syrthient i'r mor yn y! gwaelod, a byddai i'r Ilif eu cario ymaith. Dywedodd y bachgen ei fod yntau .wedi ei wthio drosodd gan ei fam, ond iddo gael ei ddal ar gribyn, o'r hwn y gallodd ddringo i fyny yn ol i'r ffordd. Gwraig weddw oedd ei fam pan briododd Roberts. Dywedai efe fod ei wraig wedi bod yn hynod o isel ei hys- bryd yn ddiweddar, ond nid oedd ganddo y syniad lleiaf ei bod yn arfaethu cyflawni y fath anfadwaith. Tybir ei bod wedi myned i'r fan yn union ar ol cyrhaedd i Landudno. Nid oedd gan ei gwr yr un syniad ei bod wedi gadael cartref hyd nes y derbyniodd y genadwri oddiwrth yr heddgeidwaid. Yr oedd wedi talu ymweliad a LIandudno gyda'i wraig y flwyddyn ddiweddaf, ac yr oeddynt wedi myned o amgylch Pen y Gogarth gyda'u gilydd. Boreu Llun, deuwyd o hyd i un arall o'r plant wedi marw mewn agen o'r graig.

CYNWYD.