Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y BALA.

CYDNABOD GWROLDEB.

News
Cite
Share

CYDNABOD GWROLDEB. Dydd Sadwrn, yn y Neuadd Sirol, cynhal- iwyd cyfarfod dyddorol i anrhegu yr Arolyg- ydd D. T. Morgans, Bala, a Thyslysgrif y Royal Humane Society am ei wroldeb yn achub bywydau dwy ferch ieuanc ar y 25ain o Ionawr diweddaf. Cyfeiriodd Major Best, Prif Gwnstabi y Sir, wrth gyflwyno Mrs. Burton, Eryl Aran, yr hon a wnaeth y cyflwyniad, at amgylchiad- au yr anffawd. Dydd Sul, y 25am o Ionawr, cafodd dwy ferch ieuanc ddiangfa gyfyng rhag colli eu bywydau ac arbedwyd hwy trwy bresenoldeb meddwl a gwroldeb yr Arol- ygydd Morgans, yr hwn sydd yn brofiadol iawn gyda gwaith ambulance. Oddeutu un o'r gloch boreu Sul clywodd Mrs. Jones. Maesyr- hedydd, swn anarferol yn y ty, ac aeth i ys- tafell gysgu ei morwynion, lie y cafodd y drws wedi ei gloi. Anfonodd am sae'r i agor y drws, ac wedi gwneuthur hyny, canfyddwyd y ddwy ferch yn gorwedd ar lawr yr ystafeli, yn llonydd ac fel marw. Cyrchwyd yr heddgeid- waid, a phrysurodd yr Arolygydd Morgans i'r lie. Dygodd y merched i'r awyr agored, a cheisiodd adfer eu hanadl. Cyrhaeddodd Dr. Williams yn fuan wedyn, a daeth y merched atynt eu hunain. Ymddengys fod y ddwy, er mwyn cael bath yn eu hystafell, wedi cyrchu coke o'r ty blodau, a chan nad oedd y mwg yn cael ei gario i fyny yn rhwydd gan y simne, daeth allan i'r ystafell, a mygodd hwynt. Wedi i Major Best adrodd yr hanes, cyf- lwynwyd y Dystysgrif i'r Arolygydd gan Mrs. Burton, gydag ychydig eiriau llongyfarchiadol. Wrth gydnabod dywedodd yr Arolygydd Morgans y teimlai yn anrhydedd uchel iawn i dderbyn y Dystysgrif, nid yn gymaint iddo'i hun ag i'r ambulance. Teimlai yn anrhydedd i bawb mewn cysylltiad ag ambulance, ac yn arbenig i Major Best, ei Brif Gwnstabl, yr hwn sydd bob amser wedi gweithio yn yfal i gael ei ddynion i fod yn hyddysg mewn gwaith ambulance, a thrwy hyny nid yn unig yn gwneyd eu hunain yn fwy effeithiol i gyf- lawni eu dyledswyddau arferol, ond hefyd yn fwy effeithiol i wasanaeth dynoliaeth. Cyflwynodd Dr Williams, ar ran Mrs Jones I morwynion Maesyrhedydd, sleeve links aur a match box arian i'r Arolygydd fel cydnab- yddiaeth fechan o'i wasanaeth gwrol. Diolch- odd yr Arolygydd mewn ychydig eiriau.

Dydd Gwyl Dewi Sfflt yn abs!j#fd

Advertising