Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Y BALA.

News
Cite
Share

Y BALA. CYNGHERDD YR ORGAN.-Bellach, y mae yr holl drefniadau yn barod. Gwelsom y Program ac os bu gwledd gerddorol yn un- lle erioed, fe fydd un yn y Capel Mawr wyth- nos i heddyw. Bydd Dr. Peace yn chwareu y darnau goreu a gyfansoddwyd erioed ar gyfer yr Organ a deallwn fod cantorion y lie wedi cymeryd i mewn feddylddrych a manyl- ion y Gantawd St, Pedr yn bur dda, ac y ceir datganiad effeithiol o honi. Gyda hyn ceir tri pedwarawd yn nghyfarfod y prydnawn gan bedwar o gantorion lleol na raid iddynt apologeisio am ymddangos. Hyderwn y rhydd'y dref a'r wlad gefnogaeth i'r ymgais ganmoladwy hon i ddyrchafu cerddoriaeth ac i ymdrechion y pwyllgor i gadw yr organ ys- blenydd mewn trefn a cbywair teilwng o honi ei hun. Mynned pawb gopi o'r Program, canys y mae cyfarwyddyd ac addysg ynddo. Nid ar y pwyllgor y bydd y bai os na fydd y cyfarfodydd ddydd Mercher nesaf yn wasan- aethau crefyddol dyrchafedig, teihvng o un- rhyw fam eghvys yn y byd. YMGOMWEST Y MYFYRWYR. Coffheir Dydd Gwyl Dewi yn flynyddol gan fyfyrwyr Coleg y Bala-yr unig ddathliad o'n nawdd sant a wneir yn y" dref. Cymerodd y dath- liad le eleni, fel arfer, yn Neuadd Buddug nos Wener diweddaf, ac yr oedd swyn Gym- reig ar bob peth bron, hyd yn od ar y sand- wiches. Wedi myned i'r Neuadd braidd yn hwyr canfyddem y lie eang yn bur llawn, hen fyfyrwyr yn ymgomio am yr hen amser gynt yn y Coleg, y myfyrwyr presenol yn siarad yn fwy dyddorol gyda rhywrai eraill, a gwyn. ebau pawb yn llawn sirioldeb, Addurnwyd yr ystafell gyda dail gwyrddlas, blodau a ban- erau amryliw, ac arwyddeiriau priodol. Gwel- som enwau amryw enwogion Cymreig, yn eu plith y ddau Ddr. Edwards o'r Bala, yr Athro Wynne Parry, Dr Joseph Parry, Dewi Sant, ac Owen Glyndwr. Yr oedd golwg brydferth ar y Neuadd wedi i ddwylaw medrus rhywrai fod yn ei haddurno. Cyn dechreu ar y Uuniaeth blasus oedd wdi ei baratoi cymerwyd cadair y cyfarfod gan yr Athro E. 0. Davies, yr hwn a alwodd ar Mr R. G. Jones, Dinhych, i ganu. Wedi I hyny cafwyd anerchiad byr a phwrpasol gan y llywydd, yn cael ei dilyn gan luniaeth. Can- wyd tonau gan gor o fyfyrwyr o dan arwein- iad Mr W. Lewis Jones, The Stores; un- awdau gan Miss Laura Evans, Henllan Miss Roberts (Perores Arfon), Llandudno; Ap Gwrtheyrn, y Bala; Mr Ted Lewis, Rhos; adroddiad gan Mr J. J. Hughes, The Stores; derbyniwyd yn gynhes gynrychiolydd Coleg Trefecca, Mr J. E. Jones, M.A., ar ran y my- fyrwyr gan Mr Isaac Jones, Nantglyn. Caf- wyd gair byr gan y cynrychiolydd. Mr D. G. Lewis, B.A., sydd yn cynrychioli myfyr- wyr y Bala yn y dathliad yn Nhrefecca. Caf- wyd gair hefyd gan y Parch T.Ogwen Griffith, I Rhos, ac eraill. Ar gynygiad Mr Richard Roberts, yn cael ei eilio gan Mr John Hughes, B.A., talwyd diolch i'r boneddigesau a phawb am gynorthwyo a'r Athro Davies am lywyddu Neillduwyd y rhan olaf i berfformiad ardd- erchog o "Owen Glyndwr." Cyfansoddwyd y ddrama hon gan Mr D. W. Morgan, un o'r myfyrwyr, ac y mae yn glod mawr i'r Coleg, i'r myfyrwyr, ac i dref y Bala fod yn ein mysg dalent mor ddysglaer i gyfansoddi peth mor ddyddorol a drama Gymreig fel hon- Cym erwyd rhan ynddi gan yr awdwr, Miss Blod- wen Hughes, Mri Morgan Griffith, B.A., J. O. Jones, J. Lloyd Jones, H, Jones-Davies, E. Arfon Jones, T. E. Williams, D. 0. Ellis, J. C. Lloyd, a W. Rowlands, pa rai a wnaeth- ant eu rhan yn ganmoladwy. Gwaith pwysig yn nglyn ag ymgomwest fel hyn ydyw dyled- swyddau ysgrifenydd, ond aeth Mr W. Morris Williams, The Stores, drwy ei waith yn hwyl us a deheuig, ac y mae efe a'r pwyllgor i'w Hongyfarch yn gafonog ar eu trefniadau rhag- orol a'u llwyddiant perffaith. LLENYDDOL.—Nos Iau, yn nghymdeithas enyddol yr Annibynwyr, darllenwyd tri papyr rhagorol gan Miss Jane Thomas, Post Office, Mr Godfrey. Jones, Eifion House, a Mr John Ellis Jones, Tegid St., ar Y pwysigrwydd i aelodau yr eglwys fynychu yr Ysgol Sul," Nodweddion yr Arolygwr da," a "Nodwedd- ion yr Athraw da." Siaradwyd yn ddilynol gan Mrs D W. Jones, Mri J. Parry, J. R. Jordan, D. W. Jones, D. E. Jones, J. P.Jones, Thomas Jones, J. W. Rowlands, Ivor Evans, a Wm, Williams. Nos laut nesaf, am 7-30. nid chwarter i wyth a hwyrach, bydd y Parch T.T.Phillips yn darlithio ar "Fyd y Pientyn." Y FEIBL (;YMDEITHAS.Cynhall"wyd cyfar- fod blynyddol y gymdeithas uchod yn Ysgol y Bwrdd nos Fawrth, dan lywyddiaeth y Mil. Evans Lloyd. Caed anerchiad rhagorol gan y Parch. D. C. Edwards, M.A-, cynrychiolydd y Farn gymdeithas, yn nghydag amryw eraill. Yr oedd yr ystafell yn orlawn, ac er fod yno nifer luosog o blant, ymddygodd pawb yn hynod weddus, a chaed cyfarfod tra dyddoro! Am'ygodd y cadeirydd fwy nag nnwaith y dymunoldeb o weled clerigwyr Penllyn yn rhoddi eu presenoldeb yn y cyfarfodydd, oblegid dywedai fod yr Eglwys Sefydiedig dan gymaint rhwymau a neb i gefnogi y Gym- deithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor. FOOTBALL -Trawsfynydd Rovers visited Bala on Saturday and were defeated by the Press Reserves by 6 goals to two, Had not Trawsfynydd, the better team of the two, been so unlucky the score against them would not have been so high. Undoubtedly the better team lost. In spite of their being hardy sons of toil they gave the Reserves some stiff work and showed good play. Mr Richard Evans acted as referee.

CYDNABOD GWROLDEB.

Dydd Gwyl Dewi Sfflt yn abs!j#fd

Advertising