Hide Articles List

2 articles on this Page

Ystoriau y Gauaf.

News
Cite
Share

Ystoriau y Gauaf. GWYLLIAID Y MORLAN. Gweileh y gwyll, wel, gwyliwoh nod Di-herio y dyhirod." Mynychid morlanau Cymru gynt gan fin- teioedd o for-ladron, yn byw ar yspeilio yr tiyn a olchid i dir o longddrylliadau, ysmyglio a chel-fasnachu ar ddifrod y weilgi yn mhob thyw fodd y gallent eu ddyfeisio. Yr oedd atifadwaith rhai o honynt yn ddychrynllyd, er maint dyfalwch swyddogion y gyfraith i'w cadw o fewn terfynau. Dywed cyfrin glep y wlad mai bychan o beth gan ambell un o'r giwaid anhydrin hon a fuasai gwneud pen ar y morwr, druan, a ddygwyddai allu nofio i'r lan rhwng byw a marw, os y gwelid ar ei fyn- wes gadwyn aur, neu y tybid fod yn ei logell swm o arian. Beunydd y cyneuent dan ar y gianau yn y nos i ddwyn Ilongau i'w dinystr ar ddanedd y creigiau, cynwys pa rai a ddyg- ent ymaith cyn i'r swyddogion gymaint a chlywed gair am y peth, Nid anaml y torai dadleuon ac ymladdau allan yn eu plith wrth ranu'r yspail, a byddai eu llwon a'u rhegfeydd ar adegau felly yn ddigon i arswydo cadlyw- ydd. Nid oedd ond ffolineb ymresymu a bwy, a gwae i'r sawl a'i tynai hwy yn ei ben. Cymerai hyd yn nod swyddogion y Custom House y gofal mwyaf sut i'w trin, a mynych y goddefid iddynt ddwyn ymaith yspeiliau gwerthfawr yn ddiwahardd lhag eu hofn. Nid oedd morlanau Meirion, mwy na lle- cedd eraill, heb gael eu mynychu gan rai cy- ffelyb, ac ystyrid y Friog a glanau Ardudwy y ddau 16 gwaethaf, ar un adeg, am bob math o for-ladrad. Trwy fod y Friog mor agos i'r mor, gyda morfeydd brwynog yn ymyl, a hen "Ogof y Rhufeiniaid wrth droed y mynydd, yr oedd yn le cyfleus ddigon i guddio unrhyw ibr-ysbail ynddo, cyn y gallai y swyddogion gael amser i groesi y Fawddwy mewn bad o'r Abermaw i weled yr helynt, yn enwedig ar dywydd mawr. Nid oedd na phont na rheil- ffordd yn croesi yr afon y pryd hwnw. Fel yr oedd yr hynod Richard Jones o'r Tydu, yn pregethu yn un o dai anedd y Friog vyw brydnawn Sabbath, gwelai y gynulleidfa yn myned allan o un i un i lan y mor i *'frocio," ac meddai, gyda'i dafod tew,"Wedd gwaddad ohonoch chi hen bobodd y Fddiog yn myn'd athan i fddocio add ganodd y fcddegeth, Ddoi ddinj atoch chi yto ac mi ddydw i yn ych rhoi chi i fyny idd cytbaedd." Cadwodd yr hen lane at ei air; ni ddaeth yno b\th wedyn, ond hyderwn na chafodd yr un drwg mor oil o honynt, er cynddrwg ineddynt. Clywsom sylwedd y chwedl ganlynol yn cae1 ei adrodd er's rhagor na thrugain mlyn- edd yn ol. Er fod rhai digwyddiadau ynddi dipyn yn eithafol nis gallwn weled eu bod yn anmhosibl dan yr amgylchiadau ac y mae y chwedl yn ddangoseg lied gywir o 2tiferthwch rhyfyg mor-ladron pan dan daylanwad diod ineddwol. Oesau meithion yn ol preswyliai yn mhen- tref bychan y Friog ddau labwst o ddynion a elwid gan y liuaws yn Wylliaid y morlan," ond eu henwau priodol oedd Huw Madog ac Owain Tudur. Nid oedd neb yn cofio eu g,veled yn gwr eyd dim erioed ond Mercian ar y glenydd a b) w ar for-yspeilio. Ystyrid hwy yn brif ddau for-ladron y gororau ac yr oedd rhyw fath o'u hofn ar bawb. Ryw noson ystormus chwythwyd llong fawr yn llwythog o rum yn ddryiliau ar y beryglus Sam Badrig, a hiliwyd y morlanan o'r Friog i Ardudwy a barilau o rum yn mbob cyfeiriad. Galwent y rum pceth ac ofnadwy hwnw yn Is rum glan y mor." Bu llawer fen w ar ol ei -),fed, a frlamau gleision tarllyd yn esgyn o'u genau I Tranoeth yr o. dd yn gynhwrf gwyllt ar draeth y Friog, a phawb yn cario o'r gwirod am y cyotaf-rhai mewn caniau, ereill mewn potelij ac un hen wreigan ar y p'wyf, heb gan- ddi ar y pryd ddim gwell wrth law, a ddyg- 0 odd lond ei dwy glocsen ohono i'w thy, gan dyngu ei fod yn gampus o stwff erbyn y gauaf. Ond o bawb yn y lie, Gwylliaid y morlan," Huw Madog ac Owain Tudur, a wnaethant fwyaf o fusnes y diwrnod hwnw trwy logi trol a dwyn ymaith amryw fatilau cyfain, y rhai a gel-werthasant cyn pen yr wythnos am swm mawr o arian. Erioed ni welwyd y fath feddwdod a rhialtwch yn y Friog a'r pryd hwn. Er cymaint o arian a wnaeth y ddau brif for leidr y diwrnod hwnw, rywfodd neu gilydd 'doedd dim bendith ar eu gwaith. Byddent cyn pen ychydig wedi gwario y cyfan ar oferedd ac yn edrych mor llwm a thlawd ag erioed. Pan beidiodd ychwaneg o'r barilau ddyfod i dir, symudodd y Gwylliaid i ran arall o'r wlad, filldiroedd o'r Friog, lie, fel y clywsant, yr oedd ambell i faril eto yn dyfod i'r lan. Yn y lie hwn yr oedd eglwys henafol ar fin y mor. Yn y fynwent yr oedd cromnen (vault) fawr, a'r gareg oedd ar ei genau wedi syrthio, fel yr oedd yn hawdd ddigon myned i mewn yno. Ar ol disgwyl yn hir wele ryw haner dwsin o boteli a baril dipyn yn llai na'r cyffredin o'r gwirod yn cael eu golchi i'r Ian. Cuddiodd y "Gwylliaid y poteli yn y vault, ac yfasant gynwys un ohonynt, yr hyn a'u gwnaeth yn feddw chwil yn y fan. Yn eu pendrondod rhoddasant y faril yn mhwlpud yr eglwys, ar y bwriad o gael rhyw gyfle dranoeth i'w dwyn adref, a dychwelasant i yfed ac i gysgu y nos- on hono yn y gromnen. Gwyddent, er mor bendronllyd, na fuasai yno ddigon o le iddynt hwy a'r faril, a dyna paham y rhoddasant hi yn y pwlpud. Pan dorodd y wawr cofiasant mai y Sabbath oedd y diwrnod hwnw, ac na byddai modd cael trol nac arall i'w dwyn ymaith. Yn ngwyneb hyn aethant am y waith gyntaf er- ioed i'r eglwys at wasanaeth y boreu; nid o ran dim awydd i glywed yr Efengyl, ond i weled tynghed eu hoff faril. Cynulliad bychan iawn oedd yno y boreu hwnw, dim ond y person a'i glochydd, y ddau for-leidr, a rhyw dri o'r plwyfolion. Esgyn- odd y gwr da i'r pulpud, a phan welodd y faril, yn hytrach na chreu dim cynhwrf ar ganol y gwasanaeth, ymlusgodd i'w phen, o'r lie yr edrychai yn chwerthinllyd o uchel, a'i ben gwyn bron cyffwrdd y nenfwd. Bychan a wyddai fod coed y faril hono wedi braenu yn fawr, a'i fod felly yn sefyll ar le peryglus. Cymerodd yn destyn, Gwae chwi, breswyl- wyr glan y mor." A phan yn darlunio, gyda ffrwd o hyawdledd, ddrygedd mor-ladrad yn gyffredinol, i'r dyben o roddi mwy o rym i'w eiriau, tarawodd y faril yn sydyn a gwado ei droed nes y torodd ei phen odditano felly ac y disgynodd yn syth i ganol y gwirod at ei haner! Yr oedd ei brofedigaeth yn fawr. Ond llwyddodd i ddyfod allan, ac wrth wneyd hyny trodd y faril ar ei hochr, gan dywallt di!uw o rum i lawr y grisiau. Gan regi'r person ymaith a'r ddau yspeilydd i'w cuddfan yn y gromnen cyn i neb arall ddyfod allan na gwybod pwy oeddynt nac i ba le yr aethent. Fel hyn y terfynodd y gwasanaeth y boreu hwnw, a hyny mewn can- lyniad i anfadwaith Gwylliaid y morlan yn rhoddi y faril yn y pulpud. Yn eu siomedigaeth yfodd y dyhirod mor drwm o'r poteli fel y cysgasant yno hyd dran- oeth. Gyda thoriad y wawr pwy a ddaeth yno ond y clochydd i roddi y gareg a syrth- iasai yn ei hoi ar enau y gromnen. Ni wel- odd efe y cysgadwyr; ac yr oedd eu hun hwythau mor drwm fel na chlywsant ddim o'i swn. Pan ddeffroisant dechreuasant ymbal- falu yn y tywyllwch i geisio dyfod allan ond yr oedd hyny yn anmhosibl, a daethant i syl- weddoli y ffaith frawychus eu bod wedi cael eu claddu yn fyw gan rywun Huw Madog oedd y mwyaf ei gyffro, ac meddai wrth ei gyfaill, Wel, Owain Tudur bach, dyma ni ya y bedd o'r diwedd, a hyny cyn marw ond marw a wnawn ni yn fuan mewn lie fel hyn, 'does yma ddim gwerth o wynt." Dim per- ygl, was," atebai Owain, tra gallwn ni yfed digon o rum glan y mor mae hwn yn ddigon afWi fiu cryf i roi ail-fywyd mewn dy° y gynwys un botel cyn ei thynu j* Gwnaeth Huw yr un pethi „0 ig ddau faldordd y pethau rhyfed^ y ddiod. Gyda brig yr hwyr thf ydd eilwaith i mewn i'r ei sylw at y swn siarad yn f » ddifP?JaA& ddeallodd beth oedd yno bu y edig i ollwng y carcharorion blJo. y gweddill o'r poteli rum v d^ J( a'f siomedig a digalon cerdd°'* i'w cartrei fwedi bod am y a yftda olaf mewn lie o addoliad, ac Y GJll'1 yn un o feddau y meddwon. morlan

Advertising