Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

N>D y ®pRWEN.

' / ^Bdwy

CYMDEITHASAU LLENYLDOL.

. BRYNEGLWYS.

1•=— i CYNWYD.

News
Cite
Share

•=— i CYNWYD. Gwyl Gerddorol.-Fel y gwelir mewn col- ofn arall, y mae yr Wyl Lenyddol a Cherdd- orol hon yn nesau, sef nos Wener, Mawrth i3eg. Mae y rhagolygon yn wir addawol, ac erbyn yr wythnos nesaf bydd sicrwydd am nifer yr ymgeiswyr ar bob adran. Gwel- som yr Ysgrifenydd y dydd o'r blaen, a dy- wedai fod ganddo eisoes gryn nifer o enwau mewn llaw; a dymunem adgofio fod yr holl gyfansoddiadau ar gelfyddyd i fod yn llaw yr Ysgrifenydd (ac nid yn Haw y beirniaid) ryw- bryd cyn haner, nos Wener nesaf, y 6ed, ac enwau yr ymgeiswyr ar y Gerddoriaeth a'r Adrodd erbyn nos Sadwrn y 7fed. Clywsom fod llon'd trol o begiau moch mewn llaw, a bod y Beirniad (Mr Zach. Jones) yn methu dyfalu pa fodd y calff amser i feirniadu y fath nifer, ac yntau mor "gebyst" o brysur yn bedoli cefiylau ar gyfer gwaith y gwanwyn yma. Ac am gystadleuaeth y Cambrian Mochyn," gwelsom lon'd gwagen yn muarth y Prince, a phan welodd y ddau Feirniaid y fath grynswth anferth, yr oedd llygaid Mr William Thomas yn rowlio fel pegtop yn ei ben, a Mr Robert Edwards yn gwenu on the sly, gan feddwl am fargen ar goed pan wneir sale arnynt, Pa fodd bynag am y pethau hyn, nid oes un amheuaeth na cheir hivyl anarferol yn Yi cyfarfod hwn rhwng y naill beth a'r Hall. HUWCYN O'R FuTTY.

Family Notices

LLANDEILLO.

[No title]

Advertising