Hide Articles List

3 articles on this Page

Ystoriau y Gauaf. -

News
Cite
Share

Ystoriau y Gauaf. Y NADROEDD A'R AUR. .Amser maith yn ol, blinid ardal wledig y Friog yn dost gan nadroedd mawrion a thra pheryglus, a ymlusgent i mewn i'r tai, ac weithiau i'r gwelyau Nid oedd dyogelwch rhagddynt braidd yn unman, ac nis gwyddai neb yn iawn pa beth oedd wedi eu cynyrchu, Brychddu hollol oedd eu lliw, gyda'r eithriad o ambell un o liw llwyd, a choler fden yn amgylchu y gwddf. Bu feirw rhai anifeiliaid oddiwrth effaith eu pigiadau, ac yn eu mysg un march cryf. Pigwyd hefyd wraig yn y pentref gan un ohonynt; a buamsaithmlynedd yn bwrw holl groen ei chorph yr un adeg o'r flwyddyn yn union ag y gwna nadroedd hyny yn gyffredin Ychydig cyn hyny, elai yn ffrychddu hollol o wadn i goryn, o'r un lliw yn gymhwys a'r neidr a'i colynodd t. Ar 01 hyn, byddai ei chroen yn ystwyth a glan, a chyn wyned a'r lili. Aeth y nadroedd yn gymaint o bla mewn fferm gyfagos fel y bu raid i'r tenant gael peth o bridd y Werddon i'w daenu oamgylch y ty cyn :cael ymwared ohonynt. Dywedir fod pridd y wlad hono yn wenwyn marwol i bob math o nadroedd. Yn fuan, daeth tenant newydd i drin y fferm oedd am y terfyn ar uchod, yn yr hon nid oed neb eto wedi digwydd gweled yr un o'r ymlusgiaid a fuont yn gymaint o b'a yn y Hal], Vstyrid y gwr hwn yn ddyn call, gweithgar a gofalus, ac yn un o'r amaethwyr goreu yn y wiad. A phan ei fod yn perchen codiad dda o arian yn dyfod ynÛ) tybid y byddai, yn mhen ychydig o flynyddau, y mwyaf cysurus ei amgyichiadau yn y lie. Dyna hefyd oedd ei farn ef ei hun, ac yr oedd ei ymdrech a'i ddiwyddrwydd yn deilwng o edrychiad ei holl gymydogion. Waeth tewi, nid wdoedd rywsut yn galSu llwyddo mewn dim, ond edrychai megis wedi ei dyngbedu i gyfarfod a rhyw siomedigaeth neu gilydd, gwneled a wnelai. Pan y tybai ei fod yn troi olwyn llwydd o dde, byddai rhyw law anweledig wedi bod yn ei throi o chwith cyn anweledig wedi bod yn ei throi o chwith cyn y diwedd. Ac nid eynty byddai un don o brofedigaeth dros ei ben, nag y byddai y Hall yn dilyn yn ymyl, a phob ton yn myned I fwy a chryfach o hyd. Yr oedd ei goliedion fel yn ymryson rhedeg i'w gyfarfod am y cyn- taf, i'w letbu yn ei amgylchau cyn iddo gael ei wynt ato, na'i draed dano. Taerai rhai ei fed Twedi cael ei reibio gan yr hen Fari Goch o'r Tryddyn ac mai dyma yr achos o'i holl anfodion. Ond barnai eraill mai wedi ei eni o dan ddylanwad rhyw blaned ddrwg yr oedd, ac felly mai ofer iddo ym- wingo yn erbyn y symbylau, fod yn rhaid i'r blaned gael ei ffordd, bydded dda neu ddrwg. Dyna hefyd ydoedd barn yr hen Robin o'r Coryn, prif ddewin ac oracl yr ardal ar byn- ciau o'r fath yn yr oes hono. Beth bynag am y tybiau rhamantus hyn, rhwng y naill beth a'r Hall, aeth yr amaethwr, druan, yn isel iawn ei amgyichiadau ac yn is na hyny ei feddwl. Yn y cyflwr isel a thorcalonus hwn, fel yr cedd, ryw foreu, yn myned ar hyd ffordd drol a arweiniai drwy un o'i gaeau, pan gyferbyn a hen fgarnedd gerrig oedd gerllaw, gwelai rywbeth melyn yn pelydru o'i flaen ar ganol y ffordd. Pan blygodd i'w godi, gwelai nad oedd yn ddim amgen na gini aur, a llun pen George y Trydedd arni Yn falch ei galon, dododd y gini yn ei logell, ar y bwriad o wneyd y defoydd goreu o honi, oni ddeuai ei pheichenog i chwilio am dani. Tranoedd yr oedd yn myned heibio'r un He, ac er ei syn- ded, veie gini araJj yn union yn yr un fan Parbacdd y ginis i ddyfod yno felly o rywle alllgrrn amser, fel o'r diwedd yr oedd gan yr amaethwr dcigon ohonynt i dalu ei rent am y flwydciyci bono, trwy y byddai weithiau yn cat 1 tair reu Ledair gini gyda'i gilydd. Yn t) hd mai y Tylwyth Teg oedd yn eu dwyn yno, cadwodd y peth yn gyfrinach, rhag eu digio, oblegid clywsai os amlygai un yn der- byn arian felly y peth i rywun arall, na cbaffai geiniog byth gan y tylwyth haelionus hwnw o hyny allan Weithiau,1 elai diwrnodau heibio heb iddo gael dim yno, ar ol yr hyn, yn gyffredin, y ca'i, fel y dywedwyd, dair neu bedair gini ar unwaith, yn gwneyd i fyny felly o gylch gini yn y dydd ar y cyfartaledd. I'r dyben o geisio pwy, neu beth oedd yn eu dwyn yno, llechodd yn ddirgelaidd mewn cilfach gerllaw, o'r lie y gallai weled y eyfan. Bu yno felly am ddyddiau, heb i ddim droi i fyny a daflai y goleuni lleiaf ar y dirgelwch. Ond o'r diwedd, clywai ryw swn rhyfedd yn y garnedd, ac ar hyny, wele bedair o nadroedd mawrion, "coleri melyn," yn dyfod allan o dwll yn nghanol y garnedd, pob un a chanddi rywbeth melyn yn ei safn Ymlwybrodd yr oil i'r ffordd drol, a gollyngasant bedair gini i lawr yn y lie yr arferai yr amaethwr gael yr arian Ar ol troi a throesi llawer o'n ham- gylch, fel i edrych a oedd pobpeth yn iawn, ymaith a hwy i'r garnedd o'i olwg. Parodd y darganfyddiad rhyfedd iddo fsddwl fod llawer mwy o'r aur yn gladdedig yn y gar. nedd yn rhywle, a phenderfynodd ei fedd- ianu, costied a gostiai. Cyneuodd dan mawr ar y garnedd i ddifa y nadroedd, a phan oerodd, dechreuodd symud ymaith y cerig ol ddifrif. Yn ngwaelod y garnedd, daeth ol hyd i nyth yr ymlusgiaid, wrth ochr pa un yr oedd hen grochan efydd bron yn llawn o ginis Tybiai yr amaethwr fod y crochan yn cyfyngu ar nyth y nadroedd, a'u bod yn cario y ginis o hono i gael He i gladdu eu hwyau ynddo yr haf canlynol. Dygodd y crochan adref dan llen'r nos, a chafodd fod ei gyn- wys yn ddigon i'w alluogi ï fyw mewn llawn- der a da hyd o hyny allan. Pa fodd y daeth y gyfrinach am iwyddiant sydyn y dyn hwn allan, nis gwn ond dyna sylwedd y traddodiad am dano, fel y'i clywais yn cael ei adrod d gan hen bobl yn ardal y Ffriog, ryw drigain mlynedd yn ol. Y mae gan Ragluniaeth lawer ffordd i gyfrauu ei rhoddion i ddynion, a gall Hwn a barodd i'r gigfran borthi Elias beri hyd yn nod i'r nad- roedd ddwyn aur i ambell un. Pwy wyr faint o aur a all fod yn gnrwedd eto yn hen garneddau enwog Cymru ?

CYFARFOD -tvi LLEHWDQLa CHtRODQilGL…

Advertising