Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Y BALA.

News
Cite
Share

Y BALA. HARLIONUS.-Cawsom yr hyfrydwch beth amser yn ol o gyhoeddi yn ein colofnau am garedigrwydd ac haelioni y meddyg Dafydd ap Simon, mab i'r diweddar Simon Jones o'r Bala, yn anfon y swm o /,ioo yn rhodd i eglwys Annibynol y Bala at ddiddyledu festri y capel. Y mae y meddyg wedi anfon eto rodd o Z50 arall i gario allan ddymuniadau ei ddiweddar dad. Wedi derbyn y rhai hyn hyderwn y bydd i ymdrech deg gael ei gwneyd gan yr eglwys i glirio yr holl ddyled, fel y gall y boneddigesau gael eu llestri te a ninau addoli gyda chydwybod dawel. LLYS TRWYDDEDOL —Ddydd Sadwrn, ger- bron E..GJones,Ysw., a mainc lawn o ynadon. -Bu yr ynadon am haner awr yn ystyried yn breifat ddeiseb i leihau nifer y tafarndai yn y dref. Wedi dod i'r Llys hysbysodd y Cad- eirydd fod yr ynadon wedi rhoddi ystyriaeth fanw! i'r ddeiseb ac wedi dyiod i'r pender- fyniad, pan ddaw adeg cyfaddas, i leihau y tafarndai. Ymddangosodd Mr J. R. Jordan, Bala, i ofyn am adnewyddiad trwyddedau y Bull a'r Ship Hotels, Bala, yr hyn a ganiata- wyd, yn nghyda'r trwyddedau eraill. GWLEDD.-Nos Iau ymgynullodd oddeutu 200 i Lyfrgell y Coleg. i fwynhau gwledd flasus a baratowyd ar eu cyfer gan amryw foneddigesau. Amcan y wledd ydoedd cael elw at yr achos Seisnig a gynelir yn y Coleg ar y Sul ac i dreulio ychydig oriau yn ddifyr yn nghwmni y naill a'r llall. Wedi gwledda cynhaliwyd cyfarfod difyr o dan lywyddiaeth yr Athro Hugh Williams, M.A., gan yr hwn y cafwyd ychydig sylwadau doeth ar y cychwyn. Wedi hyny aed trwy-y rhaglen fel y canlyn:— Deuawd ar y berdoneg gan Misses Blodwen Hughes ac Annie Roberts. Pedwarawd gan Misses Kitty a H. A, Roberts a Mri Ap Gwrtheyrn a Thomas. Can gan Mr R. W. Roberts, B,A. Anerchiad gan yr Athro Ellis Edwards, M.A., Dywedodd eu bod wedi ymgynuH heno o amryw eglwysi, a thrwy hyny gwelai fod rhywbeth cryfach yn bodoli wedi'r cwbl rhwng y naill a'r llall nag enwad. aeth, Wedi cael can gan Mrs Ingham cafwyd ychydig sylwadau gan yr Athro W, B. Steven- son, M.A. Credai y dylid gael cyfarfodydd o'r natur yma yn fwy ami, fel y galler ymgydnabyddu yn well a'u gilydd. Yr oedd rhagor o gyfeillgarwch yn ffynu rhwng y naill a'r llall ohonom wedi i ni ddod at ein gilydd | fel hyn. Yna cafwyd caneuon Miss Kitty Roberts, Mri H. D. Lloyd, H. R. Davies (encoriwyd), Miss Roberts, County School, a darlleniad gan Mr B. Scott Williams, B.A. Ar gynygiad Mr D. G. Lewis, B.A., yn cael ei eilio gan Mr John Hughes, B.A., talwyd diolch cynes i bawb am eu cynorthwy ac i'r Athro Williams am lywyddu. Cyfeiliwyd yn ystod y cyfarfod gan Misses Blodwen Hughes, Tryweryn View; Jennie Roberts, Gwylfa, a Jennie Jones, Derwynfa. AM AETH YDDI AETH.—Fel y gwelir oddiwrth hysbysiad mewn colofn arall traddodir cyfres o ddarlithiau ar amaethyddiaeth yn y Bala yn mis Mawrth gan Mr W. Edwards, Aberyst- wyth. Hyderwn y rhydd amaethwyr y cylch eu cefnogaeth trwyadl i'r mater hwn.

mJ Duwinyddiaeth Gogledd Cymru.…

Y BALA.

CARROG.

j LLANDDERFEL,

LLANUWCHLLYN.

Family Notices

Advertising