Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

DIENYDDIAD YN RUTHUN.

V"l vS^/ Lakenbam.

IMAEWOLAETH-DE. JOSEPH PARRY.

News
Cite
Share

MAEWOLAETH-DE. JOSEPH PARRY. Drwg genym gofnodi marwolaeth Dr. Joseph Parry, y cerddor Cymreig adnabyddus, yr hyn a gymerodd le ddydd Mawrth. Mab ydoedd Dr. Parry i weithiwr alcan, a ganwyd ef yn Merthyr yn 1841. Ni chafodd fawr o fanteision addysg pan yn ieuanc, ac hyd nes oedd yn 17 mlwydd oed bu yn gweithio gwaith alcan yn yr America, lie yr ymfudodd pan yn 13 oed. Enillodd iddo'i hun, tra yno, wrth gystadlu yn llwyddianus mewn cystad- leuaethau cerddorol, In o gyfeillion dylanwad- ol, a chodwyd cronfa i'w gynorthwyo i fyned i Goleg BrenhinolLlundain, pryd y graddiodd yn Mus. Bac. yn Nghaergrawnt, gan gymeryd doctor's degree ddwy flynedd yn ddilynol. Bu am 6 blynedd yn athro. cerddorol yn ngholeg Aberystwyth, ac adeg ei farwolaeth llanwai swydd gyffelyb yI1 ngholeg Caerdydd. Yr oedd yn awdwr amryw ddarnau cerddorol clasurol, a chanwyd llawer o honynt yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol a'r Eisteddfodau lleol. Yr oedd yn adnabyddus i bawb yn nghymydogaeth y Bala, oherwydd buasai rai troion yn feirniad cerddorol cyfarfod Nadolig Methodistiaid Penllyn.

--.....I CORWEN.

At Gyngor Sirol Meirion.

CERRIGYDRUIDION.

Superphosphate fel Gwrtaith…

Advertising