Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
cyff^ethyddo1 Edeyraion.
News
Cite
Share
!c^> cyff^ethyddo1 Edeyraion. ojj^iaeddyddyrydd01 y GymdeithaS to^ulli E. tJ» ener diweddaf, dan Plasy^erdref, ac yr & W"a °ida ndvfu wedi ^fod yn nWa. 54Sf lenyddfMr y cofnodion, cyflwyn- V,* ^iadaH flR- H. Morris) gyfrif o dder- ^yfiwyd ddi;^d f DERBYNIADAU. ddeehreu'r flwyddyn 49 13 4 106° u° o° &&«-« 'S'? S y^'gW^ogiies *• 54 5 3 J IS t >? 8 ..9 3 0 •* .10 0 S> TAtUD4U «tim' l%i>S ..18191 80a glad18 191 !V*S IT., 20 2 8 •• i « Atoj y 0a8a 5 14 0 hi!°aC, •• 17 0 6 Ht>cl C- 10 0 0 Vte. •• |" j J|'|,t.fi«>h,ll. (i 4 II 6 i j ? 6p 10s: Ystafell 'y 1 5 ° ..400 NtaNk • • 30 0 0 •• 13 1 3 la* • • 0 8 4 Ji% *• 122 2 8 r £ 515 5 6 v t» eycias sylwodd Mr SS^C-^aV04^ 8wel,dil1 me<"> WV'SeFvlf#an ynt bob achos i Jl^tto^yuiL^^id od^n presenol y VthNa,^e<idftfai1 ain fvri^rt ^a^en y gyfrif on Vwel'd yr A'ddan- ) llv^fiarf i ddi ac yr oe(^ hyny yjj h ^°d yt Av/i^ wc^ cynauaf eidda.Qfsfa- Yr oedd y & acv.a R ynuweh N ^<iCSmoiat *• Bote* yn fanwl §«dw v /B8rifenydd am y cyfr,I,n Ju fM™! 1 fy^»»'kS""8^0oJsr- ?• K- Kob6,ls t*i £ %n!*W D blesel yn oeddynt y fWydd- riSl^ta^Uta* WififaQdd° Sadarnhau yr o^yfii^ydo) yr 0 berthynas i YS8rife^d- Pasiwyd y S, lW' t\ ^dymdeimiad y /^i>iVGUio aiie" u y diweddar Mr ynnltoan, yr hw#n 4d- 'ac yn 8yf" 6i^y5 ^siWyd H- WyD11 yn cael ei «ol V y* ^fdangosfa i-ijihi^ch ydd Gwener' gj- EmsLly5dd. Arglwydd C* (!Vh Mri F V rvSorydd, Mr J. 8 a° R' R' pa8iwydtois;{yn -cael ei eili0 Vcaf'O d5?8' BrynS ddyfodol. Penod- R-Rob" fA% x* ™ M £ Si*KLE Be" »- a ynu° wiB- a^"82B b0^-A" SSh Sy^»t, S-rn ne8iadau Can- \S> c»i ^6rK es) Pl«o gi K-N. Jones, i >6 Cvl»6*t Jo;/Iasynddol; E P V^> tr4t°i ? eitlla8 S-Caeno8- bSSS?1 y Merch* ci, wydydd ar faes yr y Cvfn ychte yr Ard^liv. y c^n dan 04 hv^^iadau ^0 nesaf- yd ddy^ y Rheolau, a Gwener yr 20fed
CORWEN.
News
Cite
Share
CORWEN. Llys y Ilanddyledion.-Dydd Gwener, gerbron y Barnwr William Evans. Hawliai Mr John Williams, Dee View, Corwen, haner blwjddyn o rent oddiar Mrs. Roberts, Crown Hotel, am Gwalia House, Corwen. Ymddangosodd Mr. E. Wyn-i Evans, Gwrecsam, dros yr hawlydd, a Mr. J, R Jordan, Bala, dros y diffynydd. Anfon- odd Mrs. Roberts agoriad y ty i Mr. John Williams pan ddHeth yr amser oedd wedi rhoddi rhybudd i ymadael i ben, ond daliai Mr. J. Williams allan nad oedd wedi cael digon o rybudd yn ol y cytundeb. Dyfarnodd y Barnwr o blaid y diffynydd heb y costau. Llys yr Ynadon.—Dydd Gwener, gerbron yr Anrh. C. H. Wynn (yn y gadair), R. D. Roberts, Horatio E. Walker, D. R. Jones, E. 0. V. Lloyd, W. Fouikes Jones, J. O. Pugh ac R. R. Roberts, Ysweiniaid. Darllenodd y Prif-gwnstabl ei adroddiad am y flwyddyn a basiodd, a dywedodd nad oedd ganddo gwyn i wneud yn erbyn dim o dafarndai y dosbarth. Cyflwynwyd deisebau i'r ynadon—un wedi ei hfir- wyddo gan yr oil o weinidogion yr efeugyl yn Nghorwen, arall oddiwrth Gymdeithas Ddirwestol Corwen, a'r llall oddiwrth Gyfarfod Chwarterol Annibynwyr Meirion yn erfyn arnynt roddi mewn gweithrediad yn y dosbarth Ddeddf Newydd y Taf- arnau ddaeth i rym ddechreu y flwyddyn hon, ae yn mhob modd leihau y demtasiwn i ymyfed a trosedd- au trwy leihau nifer y tafarnau. Daeth gweinidogion y dref yn ddirprwyaeth i'r llys, ac ar en rhan siarad- wyd gan y Paich. H. Cernyw Williams. Hysbysodd y Cadeirydd (Mr. Wynn), y byddai i'r Ynadon roddi it sylw priodol i'r materion y cyfeirid atynt yn y deisebau. Ymddangosodd Mr. G. R. Hughes, Rhuthyn i wneud cais am drosglwyddiod trwydded Blue Bell, Gwyddelwern, drosodd i Mrs. Jones, Plas CJough, Dinbych, Gwrthwynebwyd ar ran plwyfolion Gwyddelwern gan Mr. J. R. Jordan, Bila, Trwy nad cedd y rhybudd priodol wedi cael ei roddi, gohiriwyd ystyried y cais hyd gyfarfod dyfodol.
CARROCr.I
News
Cite
Share
CARROCr. Cymdeithas Ddirwestol y Merc,Toed.—Cynhaliodd y Gymdeithas uchod gyfarfod yn Vestry y M.C., nos Fercher, y 4ydd eyf. Dechreuwyd y cyfarfod am 7 o'r gloch, ac yng. cafwyd adroddiadau, caneuon, &e., gan amryw o'r chwiorydd. Cafwyd cyfarfod dyddorol 8e adeiladol iawu. Da genym ddeall am lwvddlant y merched, sef eu bod wedi cael caniatad gan Bwyllgor Arddangosfa Amaethyddol Corwen i osod i fyny stall Ddirwestol yn y cae ddiwrnod yr arddangosfa. Y mae hwn yn gyfrifoldeb pur fawr i un gangen ei gymeryd, a hyderir yn fawr yrhydd canghenau dir- westol y chwiorydd yn yr ardaloedd cylchynol bob cynorthwy iddynt fyned yn mlaer, ac i ddal gafael cadarn yu yr hyn y mae y pwyllgor wedi ei ganiatau iddynt, gan fod cael gosod stall ddirwestol yn y cae yn cael edrych arno fel agoriad i lawer o waith da. Cyfarfod Rhyddfrydol.-Cynhaliwyd yr uchod yn yr Ysgoldy Genedlaethol, nos Wener y 6ed cyf., pryd yjcymerwyd y gadair am 7 o'r gloch gan E. 0. V. Lloyd, Ysw., Rhaggat, yn absenoldeb W. F. Jones, Ysw., Corwen, yr hwn na allai fod yn bresenol o herwydd amgylchiadau. Cafwyd anerchiad yn gyn- taf gan y Cadeirydd, yna daeth y Parch. H. C. Will- iams, Corwen, yn mlaen i siarad ar y Ddeddf Addysg, a rhoddodd anerchiad eglur a didderbynwyneb. Yna cafwyd anerchiad rhagorol gan Mr. A, Osmond Will- iams, A.S. Yn gyntaf diolchodd am y fraint o gael cynrychioli y Rhyddfrydwyr yn y senedd, ac hefyd dywedodd ei fod wedi dod yma i siarad ar y Ddeddf Addysg fel Rhyddfrydwr' ac nad ydoedd yn cyfrif y Ddeddf yn ddim llai nac "A new Church Rate under another name." Nid ydym am geisio rhoddi dim o'r nodiadau, gan y byddwn yn berygl o wneud cam a'r araeth odidog a draddododd. Hyderwn y bydd i ni gael y fraint o groesawu ein Haelod Seneddol ym- roddgar i'n hardal yn fuan eto. Wedi talu y diolch- iadau arferol pa wi a gynygiwyd gan y Parch. E. Edwards, ac a eiliwyd gan Mr. Jesse Roberts, Cad- ogan, ymadawyd trwy ganu "Hen WIad fy Nhadau." Cafodd yr areithwyr wrandawiad astud, a phawb yn ymddwyn yn hynod weddus.
Advertising
Advertising
Cite
Share
CWX YN LLADD DEFAID. RHYBUDD.—Os canfyddir unrhyw Gi ar dir yr Eagles Inn, Cynwyd, heb fod dan ofal ei berchenog, ni byddaf yn gyfrifol am y can- lyniadau. Chwef. io, 1903. D. T. MORRIS.
Cyfarfod Mawrth M.C, Edeyrnion.
News
Cite
Share
Cyfarfod Mawrth M.C, Edeyrnion. Nid oes angen egluro y geiriau Cyfarfod Mawrth i neb o fewn ugain milldir o Gorwen. Y mae yr Wyl bellach yn hen sefydliad, ac wedi gwneyd llawer o ddaioni. Gobeitbio y bydd yr un ffyddlondeb yn cael ei arddangos eleni ag arfer. Er mai i'r ieuaine a'r canol oed y bwriedir y cyfarfoi yn henaf, cofied yr hen nad oes dim a foddio yr ieuaine yn well na. phresenoldeb a chymeradwyaeth yr hen. Mr J. T. Rees, Mus. Bac., ydyw y beirniad cerdd. orol. Bydd yn werth i bob dadganwr a chorddor ddvfod i glywcd sylwadau Mr Rees. Y mae cyfeillion Corwen wedi bod yn hynod garedig yn rhoddi benthyg eu capel eang a chyfleus i gynal yr wyl.—Dydd Mercher, Mawrth y 4ydd ydyw y dyddiad eleni.
CYNWYD.
News
Cite
Share
CYNWYD. Y Cyfarfod Llenyddol—Fel y crybwyllwyd genym yr wythnos ddiweddaf, cynhelir cyf- arfod llenyddol yn y lie uchod Mawrth i3eg. Cynygir gwobrwyon da mewn gwahanol gang- henau gwybodaeth, ac yn neillduol felly mewn cerddoriaeth, a chlywsom fod eisoes barotoi roawr i'r frwydr yn yr adran hon. Danfoner am Restr o'r testynau (pris ic) at yr Ysgrif- etiydd-OWEN DAVIES, Prince of Wales Hotel, Cynwyd.
Advertising
Advertising
Cite
Share
YMDREGHFA IF AREDIG YN Y BALA. Cynhelir yr uchod mewn maes perthynol i Mr. Wm, Ellis, Red Lion Farm, Bala, DYDD IAU, MAWRTH 12,1903 pryd y cynygir y gwobrwyon canlynol- xaf SZ 0 0; zil £1 10 0; 3ydd £1 0 0; 4yd 10/ 5ed 5/- Hefyd am yr Agor goreu, 5/- Eto, Rhych, 5/- Eto, Talerudd, 2/6. 1'r Groom goreu gyda eiddo ei hun neu ei feistr, iaf 7/6; 2il 5/- 18"" MEDAL i wneuthurwr yr Aradr oreu. RHEOLAU. i,-Agored i Bum' Plwy Penllyn. v 2.—I rai heb enill erioed o'r blaen. 3-Mesur 5 wrth 7. 4.—Y Gweddoedd i fod ar y cae am Haner Awr Wedi'Wyth. 5.-—Fod i bob daliwr gael un cynorthwywr. 6.-Mynediad i mewn i'r cae, 3c. 7.-Pob ymgeisydd i anfon ei enw i'r Ysgrifenydd, gyda blaen-dal o 2/6— ROBERT ROBERTS, (C/o J. Price, King's Head,) BALA. Draw ar Cornet. n OHIRIR y Draw ar Cornet yn Llandder- VJT fel o'r 7fed o'r mis hwn hyd y 27ain. Ymddengys rhif yr enillwr yn ein rhifyn am Mawrth 4ydd. Wanted, APPRENTICES to the Dressmakings Also, Experienced Bodice Eland. Apply to J. DAVIES, COMMERCE HOUSE, CORWEN.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GKNEDIGAETHAU. Chwefror 4, priod Mr Evan Evans, Gwerngenau, Bala, ar ferch. MARWOLAETHAU. Chwefror 1, vn Whithington Hospital, Manchester yn20 mlwydd oed, MissHallnahRowlands, Tanyffordd, Cynwyd. Claddwyd hi y dydd Mercher canlynol yn Mynwent St. John's, Broughton. Yr oedd yr ym- adawedig yn lodes ieuanc grefyddol, ac 0 rodiad prydferth. Dymunwn heddwch i'w llwch hyd y borau "Yr agorir dorau beddau'r byd."
GELLIOEDD.
News
Cite
Share
GELLIOEDD. Dalier Sylw.-Ar-rbaethol bwysig i feirid, llenor- ion, a cherddorion, ac i bawb sydd a'u chwaeth at lenyddiaeth. Os ydych am gael clywed cyfarfod llenyddol eithriadol o dda, deuwch i Gellioedd nos Lun nesaf. Os ydyw eich disgwyliadau yn fawr, gallaf fentro dweud na chant mo'i siomi. Y mae rhagolygon disgleiriach am gyfarfod nag erioed y mae yna bentyrau o gyfansoddiadau wedi dyfod i law, a swn anrhaethol y cerddorion yn gloywi eu harfau yn mhob cyfeiriad. Mae yno saith neu wyth o Dlysau Arian rhagorol yn eael ea cynyg mewn gwobrwyon, a rhan fwyaf o honynt a chanol aur. Diamau y bydd yno gryn dynu yn y dorch am dan. ynt. Y mae prif gerddorion y cwmpasoedd yn dyfod i gystadlu. Gofaled pawb am ddyfod mewn pryd. Fe fydd y cyfarfod yn dechreu yn brydlon am chwech o'r gloch.