Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

cyff^ethyddo1 Edeyraion.

CORWEN.

News
Cite
Share

CORWEN. Llys y Ilanddyledion.-Dydd Gwener, gerbron y Barnwr William Evans. Hawliai Mr John Williams, Dee View, Corwen, haner blwjddyn o rent oddiar Mrs. Roberts, Crown Hotel, am Gwalia House, Corwen. Ymddangosodd Mr. E. Wyn-i Evans, Gwrecsam, dros yr hawlydd, a Mr. J, R Jordan, Bala, dros y diffynydd. Anfon- odd Mrs. Roberts agoriad y ty i Mr. John Williams pan ddHeth yr amser oedd wedi rhoddi rhybudd i ymadael i ben, ond daliai Mr. J. Williams allan nad oedd wedi cael digon o rybudd yn ol y cytundeb. Dyfarnodd y Barnwr o blaid y diffynydd heb y costau. Llys yr Ynadon.—Dydd Gwener, gerbron yr Anrh. C. H. Wynn (yn y gadair), R. D. Roberts, Horatio E. Walker, D. R. Jones, E. 0. V. Lloyd, W. Fouikes Jones, J. O. Pugh ac R. R. Roberts, Ysweiniaid. Darllenodd y Prif-gwnstabl ei adroddiad am y flwyddyn a basiodd, a dywedodd nad oedd ganddo gwyn i wneud yn erbyn dim o dafarndai y dosbarth. Cyflwynwyd deisebau i'r ynadon—un wedi ei hfir- wyddo gan yr oil o weinidogion yr efeugyl yn Nghorwen, arall oddiwrth Gymdeithas Ddirwestol Corwen, a'r llall oddiwrth Gyfarfod Chwarterol Annibynwyr Meirion yn erfyn arnynt roddi mewn gweithrediad yn y dosbarth Ddeddf Newydd y Taf- arnau ddaeth i rym ddechreu y flwyddyn hon, ae yn mhob modd leihau y demtasiwn i ymyfed a trosedd- au trwy leihau nifer y tafarnau. Daeth gweinidogion y dref yn ddirprwyaeth i'r llys, ac ar en rhan siarad- wyd gan y Paich. H. Cernyw Williams. Hysbysodd y Cadeirydd (Mr. Wynn), y byddai i'r Ynadon roddi it sylw priodol i'r materion y cyfeirid atynt yn y deisebau. Ymddangosodd Mr. G. R. Hughes, Rhuthyn i wneud cais am drosglwyddiod trwydded Blue Bell, Gwyddelwern, drosodd i Mrs. Jones, Plas CJough, Dinbych, Gwrthwynebwyd ar ran plwyfolion Gwyddelwern gan Mr. J. R. Jordan, Bila, Trwy nad cedd y rhybudd priodol wedi cael ei roddi, gohiriwyd ystyried y cais hyd gyfarfod dyfodol.

CARROCr.I

Advertising

Cyfarfod Mawrth M.C, Edeyrnion.

CYNWYD.

Advertising

Family Notices

GELLIOEDD.