Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Hide Articles List
10 articles on this Page
Y BALA.
News
Cite
Share
Y BALA. DARLrTH.—Heno (nos Fercher) bydd Mr J. J. Hughes yn darlithio ar "Richard Owen yn ngbapel Cefnddwysarn. GWLEDD.-Nos Lun, yn ngwesty y Plas Coch, anrhegwyd gwasanaethyddion lleol Cwmni Rheilffordd y Gt. Western a swper ardderchog, paratoedig gan Miss Davies. Rhoddwyd y wledd gan Mrs Burton, Eryl Aran, ac y mae yn rhodd blynyddol bellach. Diameu genym fod y gwleddwyr yn bur ddi- olchgar i'r foneddiges am ei charedigrwydd a'i haelioni. Wedi gwledda cynhaliwyd cyf- arfod difyr o dan lywyddiaeth hwylus Mr Ed- ward Jones, goruchwyliwr poblogaidd ystad Eryl Aran.
. Cydnabyddiaeth Nurse Jones.
News
Cite
Share
Cydnabyddiaeth Nurse Jones. Ivy House, Bala, Chwef. 7, 1903. Anwyl Mrs Burton,— Derbyniais eich llythyr caredig a'r cheque amgauedig, ac yr wyf yn methu dangos yn briodol i chwi a'ch pwyllgor ac i'm Iliaws cyfeillion sydd yn garedig wedi tanysgrifio at y dysteb hon fy nheimlad dwfn o ddiolchgar- wch am eich meddwl caredig o honof ar fy ymadawiad o'r Bala. Os ydyw yr ychydig a wnaethum yn ystod y saith mlynedd diweddaf yn Nosbarth Pen- llyn wedi ei werthfawrogi mor fawr, fel y tyst- iolaetha yr anrheg garedig hon, nis gallaf ond dyweyd nad wyf yn haeddu y fath garedig- rwydd. Y mae yn ddyledus, gan mwyaf, i gydym- deimlad y cleifion a'r tlodion, y rhai a rodd- asant i mi bob amser y croesaw cynhesaf i'w tai, ac i'ch cynhorthwy gwerthfawr chwithau, fy mod yn galler gwneyd yr ychydig a wnaeth- um. A gaf fi ofyn i chwi ddiolch iddynt oil am eu teimladau hynod gynes, a fy ngofid mawr ydyw nas gallaf yn bersonol wneyd hyny. Yr eiddoch yn ffyddlon, At Ysg. Anrhyd. KATE JONES. Cymdeithas Nurse Penllyn.
Concert yr Organ.
News
Cite
Share
Concert yr Organ. Dymunwn alw sylw ein darllenwyr at yr hysbysiad, mewn colofn arall, am y cyngherdd blynyddol uchod. Mae y pwyllgor eleni wedi anturio llogi y dalent organyddol ber- ffeithiaf yn y deyrnas, yn mherson Dr Peace, organydd byd-enwog St. George's Hall, Ler- pwl. Sicr yw y ceir gwledd gyfoethog, a dylid cefnogi y pwyllgor am dd'od a thalent mor brin a hon i'n cyrhaedd mewn ardal wledig fel hyn. Deallwn hefyd fod cor lluosog wrthi yn prysur ymbaratoi at roddi datganiad, yn yr un cyngherdd, 0 Gantata St. Pedr." Cam yn yr iawn gyfeiriad ydyw hwn eto dylem yn sicr gael mwy o gyfan-weithiau fel hyn gan ein cantorion. Hyderwn yn fawr mai Oratorio fydd y nesaf. Meithriner chwaeth at gerddoriaeth er ei mwyn ei hun fel hyn, ac nid er mwyn rhyw dipyn o wobr. Mae ys- bryd cystadleuol yn hollol anghydnaws ag ysbryd pur a dytchafedig y gerddoriaeth oreu ac uchaf. Ewch ymlaen, bobl ieuainc; a boed i bawb eich cefnogi gyda gwaith mor ddiamheuol dda a'r hyn sydd genych mewn Haw yn awr.
. ESGOB LLANELWY.
News
Cite
Share
ESGOB LLANELWY. Talodd Arglwydd Esgob Llanelwy ymwel. iad a'r Bala, ddoe (Mawrth), i weinyddu yr ordinhad o Gonffwrmasiwn. Yr oedd nifer yr ymgeiswyr yn lluosog, a'r eglwys yn llawn o wrandawyr astud. Gwedi yr arddodiad dwylaw, esgynodd yr Esgob i'r pulpud, a thraddododd un o'r anerchiadau mwyaf difrif- ddwys a glywsom erioed—yr oedd i'r pwynt, ac yn hynod o ymarferol. Gobeithio y bydd fr ymgeiswyr wneud sylw a dilyn ei gynghor- ion amserol. 1
Cofadail T. E. Ellis. j
News
Cite
Share
Cofadail T. E. Ellis. Y mae Mr Goscombe John, y cerfluniwr, wedi gorphen ei ran ef o'r gwaith ar gofadail Mr Ellis ac wedi ei hanfon i'r tawdd-dy i gael ei chwblhau.
. CYNGHOR DINESIG Y BALA.
News
Cite
Share
CYNGHOR DINESIG Y BALA. Cynhaliwyd cyfarfod arferol o'r Cynghor nos Wener, Mr J. W. Roberts, Y.H., yn y gadair. Tai yn Plasey Alley.-Bu y Cynghor am amser maith yn trafod adroddiad y Swyddog Meddygol Iechydol a'r Arolygydd parthed sefyllfa dau dy, perthynol i ymddiriedolwyr y diweddar Mr Edward Edwards, cigydd, yn Plasey Alley. Adroddai y swyddogion fod y ddau dy hyn yn hollol anghymwys i neb fyw ynddynt, gan nad oedd bron ddim goleu yn dyfod iddynt, a'u sefyllfa gyffredinol yn dru- enus. Os na fydd i'r gwelliantau angenrheid- iol gael eu gwneyd penderfynwyd gofyn i'r Ustusiaid am archeb i'w gau. Parthed tai a berchenogir gan Mr H.Evans, Swyddfa'r Wythnos a'r Eryr," yn yr un lie, hysbysodd y swyddogion fod y rhai hyn, cyn belled a'u sefyllfa gyffredinol, yn well o lawer na'r ddau dy arall, eto yr oedd angen gwneyd rhai gwelliantau, a'r prif angen ydoedd gwella y llwybr o flaen y tai. Bu y Cadeirydd a Mr R. Lloyd Jones yn ymgynghori a Mr Evans yn eu cylch, a chawsant dderbyniad tywysog- aidd Addawai ef ei barodrwydd i wneyd ei ran ei hun o'r gwelliantau ond i'r Cynghor wneyd ei ran. Hawliai Mr Evans mai per- thynol i'r cyhoedd ydoedd y llwybr drwy yr Alley, ac oherwydd hyny mai gwaith y Cyn- ghor ydoedd ei adgyweirio neu ei wella. Yr oedd yn barod i wneyd drain ond i'r Cynghor wneyd y llwybr. Penderfynwyd fod yr Arol- ygydd i weled Mr Evans yn nghylch y drain.
. BWRDD UNDEB Y BALA.
News
Cite
Share
BWRDD UNDEB Y BALA. Ddydd Sadwrn.—Mr Evan Jones, Y.H., yn y gadair.—Ar gynygiad Mr L, J. Davies, Y.H., a chefnogaeth y Cadeirydd, mabwys- iadwyd penderfyniad a basiwyd gan Undeb yn Llundain yn ffafr cyfnewid y gyfraith fel ag i beidio dwyn yr etholfraint oddiar berson- au a gaffo elusen.—Mewn atebiad i ofyniad y Clerc dywedodd Meistr y Tlotty ei fod yn cymeryd pob gofal i chwilio crwydriaid, gyda'r swyddog iechyd, yn ngwyneb y frech wen sydd wedi tori allan mewn rhai trefi yn Nghymru. Bu un crwydryn yn Nhlotty y Bala ar yr 2iain o Ionawr, ac ar yr 28ain yr oedd yn Nghroesoswallt, lie y mae yn awr yn dioddef oddiwrth y frech wen. Y mae yr heddweision a swyddogion yr Undeb yn cymeryd y gofal mwyaf rhag i achoa o'r dwy- myn heintus ddod i'r Bala.-Penderfynwyd, os tyr achos allan, rhoddi y claf yn un o gell- oedd allanol y crwydriaid.
CYNGHOR DOSPARTH PENLLYN,
News
Cite
Share
CYNGHOR DOSPARTH PENLLYN, Ddydd Sadwrn.-Mc L. J. Davies, Y.H., yn y gadair. Cysegru'r Fynwent.— -Darllenwyd goheb- iaeth a fu rhwng y Clerc a'r Ysgrifenydd Car- trefol parthed cais Ficer Llanuwchllyn am gysegru rhan o fynwent newydd Ymneilldu- wyr Llanuwchllyn. Penderfynodd y Swyddfa Gartrefol gyflwyno adran A" o'r fynwent i'w gysegru. Cadarnhawyd hyn gan y Cyn- ghor Dosparth.—Rhoddodd y Cadeirydd ry- budd y byddai, yn y cyfarfod nesaf, yn cynyg fod cais i'w wneyd at Gynghor Plwyf Llan- uwchllyn i atal claddu yn adran C," fel y bydd yr adran hono yn gyfleus i adeiladu capel yno, neu rywbeth arall angenrheidiol. Ffyrdd.—Darllenwyd llythyr o Gyngor Plwyf Llanecil yn amgau deisebau yn gofyn i'r Cyngor gymeryd sylw o ffyrdd Penbryn at Fynyddnodol; Pare a Chefnmaes; a Phencelli at Bantycelyn Ar gynygiad Mr Evan Jones, a chefnogaeth Mr J. J. Edwards, penderfynwyd fod yr Arolygydd i wneyd ymchwiliad i ffordd Pare a Chefnmaes a cbyflwyno adroddiad i'r cyfarfod nesaf.—JPen- odwyd y Mri W. Richards, J. J. Edwards,IWW. T. Rowlands i fyned i olwg ffyrdd PeDcelli a Phantycelyn a Phenbryn fawr a Mynydd Nodol. Pont Buarthneini.—Ar gytiygja cierfy^L a chefnogaeth Mr J. J. Edward gd gweeyd cais at v Cynghor Sir aio aC fad edig at bont Buarthmeini, LlanU y Cynghor Dosparth i gwblhaU y » jyjrj P Dirprwyaeth. — YmddaDgosai fahydy^-hor Hughes, Meloch, a John Jones, CyD$ gerbrou y Cynghor i ^wyX,partb Plwyf Llanfor am i'r Cynghor D_PdW- A J y ffordd o Domengastell at Ma X,Dghor wyd y mater yn ol i ystyriaetn Llanfor. —
CERRIG-Y-DRU.1^0^ 0
News
Cite
Share
CERRIG-Y-DRU.1^0^ 0 Y Cor.—Da genym ddeall gyfle° angenion ardal Uwchaled gy(Jd 1 c. a trwy sefydiiad y Cor ^e^^oD'iy[ae y c°f\0& yn ymarferyd bob nos Iau.. u aelod wedi cyrhaedd, a dymunir ar 1 ^gne yn bresenol am 7 30 yn yr Ysgo nos Iau nesaf hugHES (]«t-
Advertising
Advertising
Cite
Share
CYFARFOD^ WMAWR|n Dosbarth Edey^0^ Cynhelir yr uchod yn NGHAPEL M.O. C°4 l903- Dydd Mercher, Mawrth Beirniad _?rddort„s. P'- J. T. REES, YsW-, Si vsfr FE LLANDDERFEI" Y Ddeddf Addysg Cynhelir cyfarfod c>,h°edjoIlDA^'f Bwrdd, pryd y bydd J; R- J pdeddf p Bala, yn egluro darpariadau y Q hao ydd. Hefyd, rhoddir "J « f, ymdrechion a wnaed i addy § ystod y ganrif ddiweddaf, & DA VIES. BØ Cadeirydd—T. JONES, VSW., V.11., Dechreuir am LLAUGAR PARISHjJL THE above Council aS U X erection of a Hearse n be s Plan and Specifications ij0iise" Derwendeg, Cynwyd. «rtearse^ Sealed Tenders, endorsea, tue to be delivered to me on o day of April next.. The Council do not jL1 jer. accept the lowest or any aIy 19°^ uLa .his TO BUILDERS-e(ectio» fa' fTlENDERS areinvtedfo^ „ Hff 1 new Chapel and 8p Bala, in accordance with p A ations to be seen at yderSj se»» Monday, Feb. 9th- J pa0tglfs f endorsed, "Tenders f u0dersig0^ c^r' are to be lodged with the un" Qr a0y te Dafad DdJ^jsS clust,—Corn picyu byrJu [ Om. K aswy, a bwlch plyg ot^ >-Ay'ddi*^ 18 -,fg. hjn i ben tair wythnos 0 r W hi i dalu «i chostau. -tyTrLlA^- Chwef. C, J