Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

IN LOVING MEMORY

Advertising

Darnau i'w hadrodd yn Nghyfarfod…

! PENDERFYNIAD PLENTYN.

News
Cite
Share

PENDERFYNIAD PLENTYN. (l rai o 12 i 18 oed.) Er nad wyf fi ond plentyn gwan, 0 eiddil ymddangosiad, 'Rwy'n penderfynu dod i'r lan Drwy bob rhyw wrthwynebiad Mae'n wir fod rhwystrau fwy na mwy » Yn awr o"mlaen yn codi, Ond penderfynaf dori trwy Bob rhwystrau ar i fyny. Mae tlodi fel rhyw nerthawl gawr Yn codi yn fy erbyn, Fy mam ni rydd gyoorthwy fawr, Nis gall, mae nhad yn feddwyn Ni chaf un fantais yn y byd, Ni chefais awr o ysgol, Ond gwnaf y defnydd iawn bob pryd O'm horiau drud hamddenol. Mae rhai engreifftiau gwych i'w cael Yn mhlith 'r enwocaf enwau, 0 rai fu gynt mewn cyflwr gwael 0 ran eu hamgylchiadau Gan iddynt hwy o'r dyfnder ddod, 'Rwyf finau'n penderfynu Ar fryn anrhydedd roi fy nod,— A mynaf ddod i fyny. Wrth draed yr uchel fryn mi wnaf Fy nghadarn benderfyniad, Na throf yn ol, yn mlaen yr af Er pob rhyw wrthwynebiad; Y rhwystrau gant yn risiau fod, Ar hyd-ddynt gwnaf esgynfa, Ac ni orphwysaf hyd nes dod I uchel ben Olympia. Pontardawe. Urbanus.

YSGOL Y BWRDD,

Advertising