Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Si^5ASAU LLENYDPOL. --

Advertising

LLANDRILLO. 1

News
Cite
Share

LLANDRILLO. 1 Gwledd.-Nos Fercher diweddaf, ymgyn- ullodd aelodau Cor Undebol Llandrillo yn nghyd i fwynhau gwledd oedd wedi ei ddar- paru gan nifer o foneddigion perthynol i'r cor; hefyd, rhoddwyd te i'r ddau gor plant oedd yn cystadlu y Nadolig. Ni wnaed gwa- haniaeth rhwng y cor oedd yn gorfod colli, Mwynhaodd y plant eu hunain yn ardderchog. Da iawn genyf fod y cyfeillion hyn mor ofalus gyda'r plant- Gwahoddwyd hefyd bwyllgor y Nadolig, y rhai oeddynt yn haeddu am y gwaith mawr oedd wedi ei wneud ynglyn a'r cyfarfod. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan y boneddigesau canlynol,—Misses H. A. Scourfield, Lizzie Evans, Bronllan; J. E. Williams, Llan Winnie Roberts, Rhos; Miss Davies, Board School; Maggie Jones, Manchester House; Dora Ellis, Blaen pennant; Dilys Owen, Ceidiog terrace; a chynorthwywyd gan amryw eraill. Tystiol- aeth pawb oedd mai dyma y te goreu gaw- sant erioed. Rhaid rhoddi credit i'r fireman am hyn. Diolchwyd yn gynes i bawb ag oedd wedi cymeryd rhan, yn enwedig i Mr. E. D. Jones, Manchester House; E. H. Williams, Stores, ac E. Jones-Jarrett, Plasyn- faerdref, am eu rhoddion haelionus. Wedi clirio y byrddau, a rhoi pawb yn ei le priodol galwyd am ddistawrwydd. Fel y mae yn wybyddus mai Mr L. W. Davies enillodd y Fedal am arwain y Nadolig a thrwy anffawd, methodd a chyrhaedd Llin- drilo hyd y noson hon. Cyflwynwyd hi gan Mr E. H. Williams, a rhoddwyd ef i eistedd mewn cadair dderw hardd, a choronwyd ef yn ol braint a defawd cantori.ui Ynys Prydaiu; a thywalltwyd englynion am ei ben, a gofyn- wyd am heddwch dait gwaith-Alaw Cynwyd yn blaenori. Treuliwyd noson ddifyr, pawb mewn hwyl, heb neb yn tynu'ri groes. BUGAU, HAFOD Y CWM.

LLANDDERFEL.

CA.RROG AG ADDYSG.

Advertising