Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

ARp°^ CHWAETEROL d c Yn b…

CARROG.

News
Cite
Share

CARROG. CYFARFOD CYHOEDDUS Y BAND OF HOPE. Cynbaliwyd yr uchod yn nghapel y M.C nos Fer- cher, Rbag, 31. Llywyddwyd mewn dull hwyliog gan Mr W E Parry, Tymawr. Dechreuwyd y eyfar- fod trwy ganu, a darllenwyd a gweddiwyd gan Mr Hagbes, Cwmtirmynach, a cbariwyd gweithrediadau y cyfarfod yn y drefn ganlynol.-Beirniadaeth H. Jones ar y Pencil Drawing o Geffyl, a dyfarnwyd yn laf ag 2il Caradog Jones, Berwyn Street. Can, Bugeilio'r gwenith gwyn," gan J LI Will- isms, Vedw. Beirniadaeth Miss Howell ar yr Ar- ffedogau, goreu J K Williams, Tygwyn; 2il Nellie Jones, Gate. Cystadleuaeth areithion ddifyfyr ar y testyn "Cadwraeth y Sabboth;" ymgeisiodd 4, goreu W J Jones, Gate. Can gan Kate Howell. Yna caf- wyd anercbiad byr gan y Llywydd. Dywedodd mai un o gyhuddwyr yr Apostol Paul ddylasai fod yn y gadair, ond yr oedd yn rhaid eu besgusodi gau eu I bod yn paratoi y swper yn y Vestri. Can, Hapus dyrfa," gan Gwen E. Barnard.' Beirniadaetb Mrs Edwards, Disgwylfa, ar osod Botwm Llian (cyfyn- gedig i ddynion a bechRyn yn unig) ymgeisiodd 8, laf H Jones, cydradd 2il J H Roberts ac E 0 Jones, 3ydd James Parry. Cystadleuaeth adrodd Salm VI; un ymgeisiodd, sef Caradog Jones, ac yn deilwng iawn o'r wobr. Adroddiad, "Cwyn y bardd ar ol colli ei ddant," gan J Lloyd, Heudreforfydd. Adrodd- iad, "Dysgwch ddweud na," gan Ieuan Hughes, Tan- ycoed. Carol gan Edward Mathews a'i barti. Ad- roddiad, Yn swn y gyfeddacb," gan W T Williams, Tygwyn, Adroddiad, "Mae'r dydd yn araf gilio," gan R Hughes, Tanycoed. Cystadleuaeth dadganu Bryniau Canaan," cydrhwng Pollie Jones, J E Jones, a Caradog Jones. Am resymau a eglurwyd ar y pryd, ni ymgeisiodd ond dau, goreu J E Jones. Adroddiad, I Ymddidda-a y bachgen a'i fam." gan Iorwerth Williams, Tygwyn. Can, Rwy'n earn dweud yr hanes," gan Miss G. Howell, ac unwyd yn y cydgan gan y gynulleidfa. Yna siaradodd y Parch E Edwards yehydig ar amcan y eyfarfod a'r swper. Amean y cyfarfod ydoedd ceisio sefydlu Cymdeithas Ddirwestol Gymysg, a diben y swper oedd ceisio enill ychydig o elw at gynal Stall Ddirwestol yn nghae yr arddangosfa amaetbyddol yn Nghorwen y flwyddyn hon Os caniateir hyny gan y pwllgor. Can, "Y bachgen dewr," gan R Mathews, Adroddiad, "Paid a gwneyd," gan Mr R Jones, Tygwyn. Yna diweddwyd trwv i'r cor ganu Yr Hat," dan arwein- iad J M Jones, Penian. Yna ymgynullodd nifer fawr i'r festri i fwynhau swper ardderchog o bob math o ddanteithion, yn cynwys te, coffl, cigau, cakes, jellias, Szo,, yr hwn a baratowyd gan nifer o chwiorydd Cymdeithas y mer- ched, acfyr oeddynt yn gwahodd pawb yno ond idd- ynt dalu 6c fel entrance fee. Gallwn ddyweyd yn ddibetrus fod pawb wedi mwynbau eu hunain yn fawr. Deallwn fod elw pur dda wedi ei gael oddi- wrtho, a dylem longyfarch y chwiorydd ar eu llwydd- iant yn ngwyneb llawer o anhawsderau. Gobeithio y byddant yn llwyddianus i osod Stall Ddirwestol i fyny yn nghae yr Arddangosfa, ac y cant gymhorth eglwysi a chymdeithasau eraill i gyrhaedd eu hamcan

CYNGOR PLWYF CORWEN.

Family Notices

Advertising