Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

ADOLYGIAD.

News
Cite
Share

ADOLYGIAD. Boreu heddyw derbyniasom gyfrol fechan dlos gan yr Athro Owen M. Edwards. Cyfrol ydyw o farddoniaeth Huw Morus, Pont-y- meibion, Glynceiriog. j Dyma'r burned o gyfrolau barddonol beirdd hen a diweddar a gyhoeddwyd gan Mr Edwards er diwedd 1901, Cyhoeddwyd y gyntaf, Dafydd ab Gwilym, yn 1901, yn cael ei dilyn yn 1902 gan ddwy gyf- rol o Oronwy Owen, un o Geiriog, a'r hon sydd ger ein bron yn awr. Nid ydyw eu hawdwr yn addaw ond ryw bedair cyfrol y flwyddyn. Y mae ein hawydd ar ol cael un yn cynyddu i ddisgwyl un arall. Swllt yr un yw eu pris, ac y maent yn ddigoa rhad. Y maent yn gyfrolau bychain pert, deniadol a gwerthfawr, a phwy all fesur eu gwerth mewn blynyddoedd i ddyfod ? Credwn nas gall ieu- enctyd Cymru wneyd yn well na derbyn y rhai hyn. Nis gall cyfrolau o'r natur yma lai na chreu dyddordeb ieuenctyd ein cenedl at lenyddiaeth bur, Ychydig, os dim, a wyddem y Z" ni yr ieuenctyd am fardd mor odidog a Huw Morus, Pontymeibion, hyd nes i'r Athro Ed- wards ein goleuo trwy gyfrol o'i farddoniaeth. Y mae cyfrolau Ap Vychan a Beirdd y Ber- wyn yn y wasg. Peidiwch a'n cadw yn hir, Mr Edwards.

Marwolaeth Mr. T. J. - Freme,…

. LLANDDERFEL.

Advertising

%U^======= fcVh 0 wffkedinol.…