Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

FOOTBALL. ; -i

LLANUWCHLLYN

. CORWEN.

--------------'-----_-CARROG.

---LLjN[)()ERFEI Tyr.

Advertising

.--,---,,---"_.m'-------------------LEIIPWL.

CER RIG-Y-DRUI DION.

News
Cite
Share

CER RIG-Y-DRUI DION. Y mae Mr. Alex. Cross, y boneddwr ieuanc a charedig o Rainhill, ac sydd erbyn hyn wedi cartrefu yn y wlad yma, eto eleni wedi cofio amy tlawd. Pwrcasodd yr eidion brasaf a allai ei gael yn y wlad, a rhanodd ef, yn gyn- taf i'r rhai oedd yn derbyn cynorthwy plwyfol, ac wedyn i'r dosbarth gweithiol, telly fe dder- byniodd dros ddau cant (200)0 benau teulu- oedd y rhodd werthfawr. Yr oedd yr eidion wedi cael ei besgi gan Mr. W. Hugh Jones, el Plasiolyn, am yr hwn y derbyniodd Mr. Jones y wobr fiaenaf yn Arddangosfa Amaethyddol Edeyrnion, 1902, ac yr oedd y goreu o'r anifeiliaid hardd oedd gan Mr. John Jones, y cigydd llwyddianus o Cerrigydruidion. Gellir dweyd yn y fan hon fod holl gig a chig eid- ionau oedd gan Mr John Jones yn Arddan- gosfa gigyddol Cerrig y ffair ddiweddaf wedi derbyn y gwobrwyon blaenaf, felly fe aeth Mr Cross at y cigydd uchod, a phrynodd yr eidion goreu oedd ganddo, ac y mae yn haeddu y ganmoliaeth uchaf am hyny, ac am roddi cig gwertb ei gael. Fe safodd Mr a Mrs Cross yn y lie yr holl amser i arolygu y gweithrediadau, yn caei eu cynorthwyo gan Mr, T. Valters. Yr oedd yr ohvg siriol oedd arnyut yn cael ei edmygu gan y rhai oedd yn bresenoJ. Yn nghwrs yr ychydig eiriau dy- wedodd Mr Cross y gobeithiai y byddai i bawb dderbyn y rhoddion yn yr un ysbryd ac yr oedd efe yn eu rhoddi, sef gyda chalon lawen, ac addawai barhau i ranu i bobl Cerrig tra byddai byw. Dyma y ffordd i foneddigion y wlad i fwynhau gwyliau llawen, sef y syniad hapus eu bod wedi bod yn foddion i wneyd eraill yn hapus, a bod canoedd o bobl yn eu bendithio ar ddydd Nadolig, a'u boc-I wedi cael y fraint o fod yn offerynau yn Haw Duw i drugarhau wrth y tlawd. Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tliawd." Dymuniad pawb yw Blwyddyn Newydd Dda a Rawer o honynt i Mr. a Mrs. Cross. Rhanwyd y cig gan Mr John Jones, Cigydd, a Mr Michael Jonesi gynorthwywr, Gw!edd.- Y mae Mr T.J.Freme,Glanceirw, hefyd wedi rhoddi gwledd i tua ugain o hen bob], dydd Nadolig. Y mae Mr. Freme n gwneyd hyn bob blwyddyn, ac yr oedd yr hen bobl yn llawen wrth ben y danteithion blasus oedd wedi eu paratoi gan Mr Pany, Queens, Cerrigydruidion. Y mae Mr Fienie yn cadw arfenad ei ddiwediar dad i Iyny, a hanes y teu!u hwn eto ydyw eu bod yn truearhau wrth y t!awd. A. da yw gweled boneddigion ieuainc ein gwlad yn dilyn esiampl hen deu- luoedd Cymreig, yn neillduol ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Dymuniad y wlad yw Blwyddyn Newydd dda a llawer o honynt i Mr a Mrs Freme.—GOHEBYDD.