Hide Articles List

2 articles on this Page

Ystoriau y Gauaf.

News
Cite
Share

Ystoriau y Gauaf. YR HEN AMSER GYNT. Yr oedd arwyddion angeu yn dra llu- esog yn mysg ein hynafiaid, megis cwn anwn yn udo, cloch yr eglwys yn canu ohoni ei hun, yr angladd lledrithiol, y ganwyll gorph, a'r cyffelyb. Rhagflaenai yr arwyddion brawychus hyn farwolaeth neu angladd rhywun heb fod yn mhell o'r fan eu gwelid. Heblaw hyny, yr oedd gweled afalau yn aeddfedu yn rhy gynar, breuddwydio am ddillad duon, neu glywed y ceiliog yn canu gauol nos yn arwyddion drwg ddigon a mawr y sylw a delid iddynt gan heji ac ieuainc. Nid oedd gweled ploden yn croesi eich llwybr pan yn myned i daith i'w ddymuno, na'r fran yn crawian uwchben eich ty ar eich dychweliad, Yn fyr, yr oedd y wlad yn fyw o'r fath arwyddion gynt fel rnae'n syn meddwl pa fodd yr oedd yr ofergoelus yn gallu myned allan o dy na dydd na nos rhag digwydd eu gweled. Nid oedd yr un arwyddion a welid gan bob dosbarth, ond amrywient i bersonau o wahanol alwedigaethau, Yr oedd gan y mor- wr ei long ledrithiol i'w rybuddio o ryw tirychineb, y mwnwr ei gor bach a'i forthwyl arian yn euro dan y ddaear ile byddai y trys- or yn gorwedd, tra yr oedd gan y clochydd ei ganwyll gorph yn suddo i'r fynwent yn union yn y fan lie y gelwid arno yn fuan wed'yn 1 j agor bedd i ryw drancedig. Nid ydoedd doethion Groeg ac Athen ych- waith yn rhydd oddiwvth roddi coel arbenlg i arwyddion cyffelyb. Clywed y brain yn crawcian uwch ei ben pan yn dychwelyd i Eabilon ar cl gorchfygu'r byd a barodd i'r j dewiniaid ddarogan rhyw ahwydd buan i Alexander Fawr. Y noson bono, wrth yfed iechyd da icldo ei hun allan o gwpan fawr Hercnles, y syrthiodd i lawr yn Lnw, i beidio codi mv/y Dengys pethau fel hyn pa innr earig i- ymudasai cred mevn arwyddion yn cgwab.-mol wledydd y byd, fel na raid i neb: feio'r Cymry o fod yn fwy ofergoelus na llawer ogenedloedd ereilJ, os, yn wir, yn gy: i mainr felly. Digon tebyg mai fel y bn y darfuasai aln Alexander Fawr pe buasai y brain wedi cadw yn ddistaw. Ac eto, y mae rhywbeth yn darawgm yn y ffaith ddarfod i'r; doethion sylwi fod rbywbeih mwy neillduol 1 yn eu crawciad y tro hwn nag arferoi. Ond o'r boll arwyddion, dichon mai y rhai a glywir neu a welir vveilhiau yn ngweithrlai seiri coed ydyw y rhai rhyfeddaf. Dywedir fod y gallu i weled neu glywed yr arwyddion hyn yn fath o dalent yn rhedeg mewn teulu- oedd arbenig o'r frawdoliaeth saerniol; ac nas gab neb eu clywed ond hwy, a hwy yn y unig hyny yw, pe digwyddai i un o'r arwydd- ion ymddangos ar y pryd. M, tli o arwydd ydyw hwn, yn dangos i'r saer y bydd yn fuan yn cael archeb i wneyd arch i rywun. Po eg-1 luraf yr arwydd, cyntaf yr archeb. Sicrheir 11 gan aniryw seirl coed fod yr arwydd hwn yn parhau hyd heddyw Gwelodd y diweddar Mr David Williams, o Lwyrigwril, yr arwydd yn ei weithdy mor eglur, meodai ef, ag oedd modd. Yr oedd Wr Williams yn flaenor parcbus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, ac nis galiaf yn well yma nag adrcdd yr hanes aiior agos ag y gallaf yn ei eiriau ef ei hun Yr oeddwn," meddai, "wedi clywed swn tyllu a morthwylio yn y gweitbdy, fel swn jhywun yn gwneyrl arch drolon cyn hyny, a dyna'r cwbl. Yn y nos y bydd yr arwydd, A Jhyw noson, yn. fuan wedi haner MIOS, gwehsn oleuni yn tywynu ar fy ffenestr allan o'r gweitbdy gyferbyn a rni, a swn yr un fath ag eiddo saer yn gwneyd arch. Yr oedd yn noson dywell iawn. Yr ceddwn wtdi cloi y drws cyn mynd i'm gwely, a rhoddi ;:goriad y gweithdy yn fy llogell. Cyfodais yn ddistaw bach, rhag dychryn fy ngwraig. acaJLm a mi i edrych beth oedd yno, wtdi ihyw led- fedtlwl mai hogiau diwg oedd wedi pricio'r clo, ac yn naddu rhywixth gyd. 'm harfau. Yr oedd lamp fechan yn fy llaw, ond heh ei goleuo. Pan edrychais i mewu drwy'r ffen- estr, beth a welwn ond canwyll yn goleuo yn y lie arferoi, a mi fy hun a'm prentis, oedd yn ei wely, yn prysur wneyd arch newydd ar y fainc blaenio Cyffroais yn fawr, fel y gallwch feddwl, a gelwais y prentis allan, i edrych a welai yntau yr un peth. Yr oedd yn garenydd i mi. Edrychodd hwnw drwy'r ffenestr, a bu agos iddo farw o ddychryn wrth weled ei hun a minnau yn gweithio felly oddimewn, a ninnau ar yr un pryd yn sefyll ein dau yr ochr allan. Modd bynag, cesglais ddigon o nerth i agor y drws, a'r fynyd yr oedd fy nhraed o fewn i'r trothwy, dyna'r arwydd yn diflanu, a'r ganwyll yn diffodd. Tranoeth aethum i'r gweithdy, ac er fy syn- dod yr oedd fy arfau yn union fel eu gadaw swn, heb hanes o'r arch newydd yn unman. Yn fnan ar ol hyn, cefais archeb i wneyd arch i i rywun yn y pentref, a thua'r un amser ag y gwelswn yr arwydd yt oeddwn i a'r prentis yn ei gorphen, sef ychydig wedi haner nos. Dyna yr unig dro yn fy oes y gwelais i yr arwydd, ond clywswn ei swn, fel y dywedais, rai troion o'r blaen." Oddiwrch a ddywedir yn y chwedlau hyn am fwganod ac arwyddion angau, credwyf y cydnebydd pnb dyn diragfarn mai nid pwnc hawdd i'w benderfynu i foddlonrwydd y lluaws yw, pa un a oes ysbrydion gwirioneddol yn ymddangos weithiau yn yr oes hon ai peidio,

Advertising