Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

"";"":""-,.-_'''' Ystoriau…

News
Cite
Share

Ystoriau y Gauaf. YR HEN AMSER GYNT. Byddai bwganod a son am fwganod yn gwneyd ifynygryn lawer o chwedlau gauaf yr hen bob], a mawr y cyrchu atynt i'w clyw- ed, o bell ac agos. Yr oedd ardal wledig y Friog yn orlawn ohonynt pan oeddwn i yn las hogyn. Y pryd hwnw, o'r braidd nad ystyrid y penteulu rywbeth yn fyr mewn gras a dawn oni fyddai ganddo chwedl neu ddwy am fwganod i'w haorodd hlrnos gauaf. Cym- L deithas nosawl felus ydoedd yr adeg hon ar aelwydydd Cymru. Byddai rhyw effeithiau rhyfeddol yn dilyn chwedlau y bwganod yn enwedig yn mysg y plant. Gwarchod ni; y fath redeg a thithio a'u negesau cyn ei myned yn hwyr fyddai ganddynt, rhag ofn i Shon- bwtystadli neu y Beiiffegor ddangos ei big iddynt cyn cyrhaedd adrer, Ac os digwyddai i rai o honynt wrthod myned i'r gwely yn yr amser, ni fyddai yn rhaid i'r fam ddim ond cymeryd ami alw ar un o'r tyhvyth teg, na byddai y cyfan yn ei gwadnu hi fyny'r grisiau mor ddistaw a'r Uygod. Dyma'r wialen fedw orau a welais erioed, ac nid oedd dim perygl i'r anufuddion bychain grio ar ei hoi hi. Gwir mai nid da dychryn gormod ar blant; 1 ond mor wir a hyny, y rriae eisieu rhywbeth lied gryf i feistrioli ambell i benci ystyfnig o hogyn drwg. Wedi unwaith i'r son am fwganod yn fy hen ardal fyned allan, aeth pawb o'r bron i feddwl eu bod yn eu gweled tra na fyddai y cyfan, mae'n debyg, ond dychymyg neu ryw gamgymeriad. Pa sawl un ofnus ac ofergoelus a wnaeth iwgan hyll o dwmpath drain, os nid archeilyll o'i gysgod ei hun O'm rhan fy hun, ni theimlais erioed y radd leiaf o ofn y nos, hyny yw, dim ofn ysbrydion. Gwir fod arnaf ofn dynion drwg, cwn barus, neu ddibynau serth a'r cyfleiyb, ond dim ofn ysprydion o fath yn y byd. Yr achos o hyn ydyw ani nad wyf yn credu yn eu hymddangosiad, ond yr wyf yn credu yn modolaeth y da a'r d! wg ohonynt cyn gryled a neb. Heblaw hyny, ni welais i erioed dim cehyg i'r un ohonynt, er bod ar adegau ailan bob awr o'r nos, ac yn myned heibio i ieoedd y dywedid eu bod yn arfer eu Tnynychu. Liw dydd goleu y gwelais i y peth tehycaf i ddryclnoheth yn fy oes, mewn lIe 0'1 em? y Pantihedvnog a> fynydd y Friog. Ac hyd yn nod y uo hwn. nid wyf yn sicr fad aliai fy mod wedi gwrieyd rhyw gam- gymeriad, er y buasai yr ofergoelus yn sicr o daeru ddarfod iddo weled rhywbeth annaearol iawn. Ond nid yw y ffaith na welais i ddim y gallwn ei alw yn yspryd neu ddrychiolaeth yn ddigon i brofi nad allai fod ereill wedi gwneyd. Ac o'r ochr arall, nid yw fod rhai wedi .gweled cymaint o gau ysprydion yn ddigon i ddangos nad allai fod rhyvvrai wedi gweled rhai gwirioneddol. Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun ar y pen hwn, tra y dygwyf y darllenydd i gael cip olwg ar Jwganod hen Bwlpud y Cythraul." Ar gwr y brif-ffordd rhwng fy hen gartref gynt, Ynysfaig, a'r Bwlchgwyn, y safai craig hynod ar ffurf pwlpud, gyda dwy neu dair o risiau yn disgyn iddo. Edrychai bron yn hollol fel gwaith celfyddyd, tra nad oedd ond yr eiddo Natur. Yr oedd felly o fewn fy anghof i. Ond erbyn hyn, y mae darnau o'r Jhen graig wedi eu dwyn ymaith i ryw ddy- benion, a'r pwlpud yn eu plith fel nad oes mwyach ddim o hono yn aros. Beunydd a byth y gwelai rhywun neu gilydd yr Un Drwg yn chwareu ei branciau nosawl oamgylch yr lien bwlpud, ac weithiau yn myned mor hyf ag esgyn iddo ar ffurf efengylydd a fynai dra- dodi rhyw genadwri o bwys i nifer o bech- aduriaid Bryd arall, ymrithiai ar ffurf ieir a gwyddau yn clochdan a chlegar dros y fro. Gwelsai un gi du mawr yn codi ei ben o'r pwlpud, ac ar ol chwrnu'n fygythiol, yn llamu allan, ac yn suddo i'r ddaear o'i olwg. Heb fod yn bell o'r He, gwelodd amryw bersonau cyfrifol gyda'u gilydd ryw fwgan rhyfedd tebyg i wlawlen fawr yn ymsymud o'u blaen ar hyd y brif-ffordd, heb gymaint a llaw ddynol yn ei chario. Ceisiodd un ohonynt ei dal, ond nid oedd sylwedd ynddi, a diflanodd rhwng ei ddwylaw. Ymddangosodd y bwgan hwn droion i'r un personau. Eraill a welsant fath o gerbyd hynod, pedwar olwyn, heb ddim yn ei dynu, yn gwneyd ei ffordd oddiwrth y pwlpud ar draws y caeau tua'r Fawddach. Nid oedd dim swn ganddo, ac wrth fyned yn ei flaen troai ei olwynion o chwithig. Gwelwyd y bwgan hwn hefyd fwy nag unwaith, a'r tro diweddaf ei gwelwyd yr oedd yn llawn o bob ryw drychfilod ac ymlusgiaid y ddaear; heb eithro y nadroedd mwyaf atgas yr olvvg arnynt, yn chwythu ac yn "llemain" eu colynau yn y modd mwyaf brawychus. Dro arall, gwelsai rhywun ben tarw mawr, heb yr un corph wrtho, yn gorwedd ar astell y pwlpud, ac yn rhuo nes oedd y lie yn crynu. Dyna ddull ymddangosiad rhai o'r bwganod a fyn- ychent y lie unwaith oherwydd yr hyn meddir y galwyd yr hen graig hynod yn "Bwlpud y cythraul; ond y Clogwyn Mawr a fuasai ei henw hi ar y cyntaf. Ond o holl fwganod y pwlpud, yr un a welodd fy mrawd, coffa da am dano, ydoedd yr un a gafodd fwyaf o effaith ar fy meddwl i o'r cwbl, am y gwyddwn ei fod yn wr pwyllog, heb fod yn ofergoelus, a'i eirwiredd yn ddiamheuol. Yr oedd amryw o'r personau ereill o ran hyny mor eirwir ag yntau, ac anhawdd meddwl i'r oil ohonynt lunio'r fath chwedlon heb iddynt yn gyntaf dybied o'r hyn lleiaf ddarfod iddynt weled rhywbeth a gymerent hwy yn ddrychiolaeth. Ond at fy mrawd. Rhyw noson lwyd-oleu fel yr oedd yn dychwelyd o ymweliad a chy- faill yn Arthog, pan o fewn ychydig latheni o'r Pwlpud, teimlai y ffordd yn codi ac yn gostwng dan el draed, megis o dan gynhyrfiad math o ddaeargryn, Rhag y gallai mai pen- syfrdandod oedd arno, safodd am enyn i ymdeimlo yn fanylach ag ef ei hun, ac yr oedd yn sicr nad oedd y fath peth yn ei flino, ond parhaodd y ffordd i ymdoni fel o'r blaen. Pan lonyddodd, cerddodd rhagddo, yn llwyr gredu nad oedd y cyfan yn ddim ond rhyw ysgydwad o eiddo natur. Ond pan gyferbyn a'r Pwlpud, yn ddisymwth, wele globyn o ddyn yn llewys ei grys yn sefyll o'i flaen, a'i ddyrnau yn nghauad, fel yn barod i ymladd ag ef. Yn tybied mai un o weision yr Hen- ddol yn ceisio ei ddychryn oedd, gofynai, "Deio, ai tydi sydd yraj, dywed ? Neb yn ateb. "Beth ydi'r mater arnat ti yn llewys dy grys fel hyn ar noson mor oer, a"tti ddyrn- au yn nghauad, fel pe-baet ti am fy nghuro i ? Dim ateb eto. Yn gweled nad oedd ceisio ganddo siarad o un dyben, cynygiodd fyned heibio iddo ar yr ochr bellaf oddiwrth y Pwlpud, ond safai y bwgan o'i flaen yn yr un dull, cymered yr ochr a fynai o'r ffordd. O'r diwedd, megis heb yn wybod beth yr oedd yn ei wneuthur, tarawodd ei wrth- wynebydd a'i holl nerth, yu ei ddwyfron, ond aeth ei ddwrn drwyddo megis drwy wynt, a diflanodd y drycbiolaeth fel tarth yn y fan! Pan ddaeth i'r ty, ac i oleu y ganwyllaeth yn sal iawn, a bu ddyddiau rai heb ddyfod ato ei hun. Erbyn hyn y mae y bwganod oil wedi llwyr adael y brawychus "Hen Bwlpud y cythraul" ond edrycha anjl un a glywsant am danynt i raddau yn ddrwgdybus ar y fan hyd heddyw, yn enwedig ar ol cefnu haul.

Advertising