Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
Yr Wythnos a'r Eryr. DYDD .MERCHER, RHAG. 17, 1902. AT EIN GOH EBWYR. fie§TAmryw ysgifau wedi eu gadael allan hyd ein rhifyn nesaf. SYLWER! Daw ein dau rifyn nesafallan ddvdd Mawrth ac nid dydd Mercher. Cofied ein gohebwyr i anfon eu hysgrifau yn brydlon
Y BALA.
News
Cite
Share
Y BALA. CYNGHERDD.-Ein dyledswydd cyntaf yr wythnos hon ydyw annog ein holl ddarllen- wyr yn y cylch hwn i fynychu y cyngherdd uwchraddoi a gynhelir yn y Victoria Hall nos Lun nesaf er budd ein cyfaill Mr G. Lloyd Humphreys. Os oes rhywrai heb brynu toc- yn gwneled hyny ar unwaith. GWYL DE.—Cyn'naliwyd gwyl de lwydd- ianus a difyr yn y Victoria Hall nos Wener diweddaf mewn cysylltiad a dosparthiadau ambulance Dr Williams. Wedi gwtedda cyn- haliwyd cyfarfod difyr o dan lywyddiaeth y Dr. Cafwyd unawdau gan Miss Kitty Rob- erts, Miss H. A. Roberts, Mrs Ingham, a Mr W. Ellis Jones, a phemhion gan Mr R. Rob- erts, Tairfelin. Yn garedig a hael yn ol ei arfer cynygiodd Dr Williams wobrau sylwedd- ol i'r goreuon am "bandaging," ac enillwyd y wobr gyntaf gan Miss Evans, National School; yr ail gan Mrs Morgans, Police Station a'r drydedd gan Miss Timothy, Tegid St. En- illwyd y wobr o gini (rhodd hael Dr Williams) am stretcher drill" gan Mr D. R. Roberts, Surveyor, a'i barti. Wedi hyny bu Mr R. Lloyd Jones yn difyru y cwmni gwda wax- works," ac yr oedd wedi myned i gryn draff- erth gyda'r rhai hyn. Mwynhawyd yr ardd- angosfa yn fawr, a threuliwyd noson lawen. Gweithredwyd fel ysgrifenyddion y mudiad gan Miss Blodwen Hughes, Tryweryn View, a Miss Annie Lewis, High St., ac y mae clod mawr yn ddyiedus iddynt am eu ffyddlondeb. LLENYDDOL.—Nos Ian llywyddai E. W. Evans yn nghymdeithas lenyddol yr Annibyn- wyr. Cafwyd papur gan y ilywydd ar "Rydd- frydiaeth" Hefyd, cafwyd papur rhagorol, Ysgrythyrol, a llawn o wersi buddiol, gan Mr Evan Griffiths ar "Y mneiIíduaeth," Siarad- wyd yn ddilynol gan Mri J. R. Jordan, D. W. Jones, William Williams, R Davies, a J. P. Jones. FOOTBALL.-Bala Press Reserves were en- gaged in a friendly game at Bala on Saturday with the Trawsfynydd football team. The weather was very boisterous, and in conse- quence the game did not attract many spec- tators. The game ended in an easy win for the Reserves by 13 goals to two, Referee, Mr Richard Evans. CHWAREUYDDOL.—Bydd cwmni enwog yn perfformio y chwareu digrif, "Why Smith left home," yn y Victoria Hall nos yfory (lau).
. CYFARFOD Y NADOLIG.
News
Cite
Share
CYFARFOD Y NADOLIG. Y mae y Nadolig unwaith yn rhagor wrth y drws, al rhagolygon am gyfarfod llenycldol a cherddorol llwyddianus gan Fethodistiaid Penllyn, Deallwn fod 11u o ymgeiswyr ar y gwahanol destynau ac amryw gorau yn parat- oi i'r frwydr. Y beirniad cerddorol fydd Mr J. T. Rees, Mus.Bac. Datgenir yn ystod y cyfarfod gan Miss Laura Evans, Henllan. Hyderwn y gwneir ymdrech egniol eleni i droi y cyfarfodydd hyn yn llwyddianus a phoblogaidd.
. Priodas Mr. H. Rogers-Jones…
News
Cite
Share
Priodas Mr. H. Rogers-Jones a Miss Edwards. Yo nghapel y Bedyddwyr, Castle Street, Llundain, dydd Mawrth, Rhag, gfed, unwyd mewn priodas (trwy drwydded), gan y Parch. R. E. Williams, gweinidog, Mr Henry Rogers Jones, mab Mr Edward Jones, 37, High St,, Bala, a Nurse S. Edwards, merch hynaf Mr a Mrs. R. Edwards, Cynwyd. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei hewythr,W. Pugh, Ysw., Highbury, a gwasanaethwyd fel gwas a morwyn briodas gan Mr. Raymond Jones, Billiter Square, a Nurse M. Edwards,Chelsea. Ar ol y seremoni, ymneillduodd y parti a'u cyfeillion i'r Horse Shoe Hotel, lie yr oedd lluniaeth wedi ei baratoi. Yn y prydnawn ymadawodd y par ieuanc am Casnewydd ac Abertilleri i dreulio y mis mel. Y maent wedi derbya nifer luosog o anrhegion priod- asol gwerthfawr a defnyddiol. Rhwydd hynt a chysur dyfodol i Mr a Mrs Jones.
CYNGOR PLWYF CORWEN.
News
Cite
Share
CYNGOR PLWYF CORWEN. Cyfarfod Arbenig.—Galwyd y cyfarfod hwn yn nghyd nos Lun diweddaf, mewn canlyniad i rybudd a dderbyniwyd oddiwrth y Librarian yn hysbysu ei fod yn rhoddi ei swydd i fyny. Yr oedd yn bresenol yr aelodau canlynol:- Mri. D. Williams (cadeirydd), H. Hughes, Ll. Lloyd John, S. Jones, T. Edmunds, J. Williams, ac E. Edwards, Glyndyfrdwy. Ar ol peth ymdrafodaeth arno, pasiwyd yn un- frydol fod y Cyngor i dderbyn ei ymddiswydd- iad. Yna pasiwyd fod hysbysiad i gael ei roddi yn yr Wythnos a'r Eryr" ar "Corwen Advertiser," yn cymell ceisiadau am y swydd' (Am y telerau gwel yr hysbysiad.) Ailgyfer- fydd y Cyngor nos Lun nesaf, Rhag. 2 2ain, i benderfynu pwy sydd i gael y swydd.-—GOH. ;n..mu.
CORWEN.
News
Cite
Share
CORWEN. FFAIR-Trwy fod y tywydd mor ystormus yr oedd llai nac arfer o bobl ac o anifeiliaid yn y ffair ddoe (dydd Mawrth). Nid oedd haner cymaint o foch yn y ffair, ac araf oedd- ynt yn gwerthu am y rheswm nas gellir eu symud allan o'r sir, ond yr oedd y prisiau yn well na'r ffair ddiweddaf. Rhoddid prisiau da am wartheg tewion a cyfloion. Vchydig iawn o geffvlau a ddangoswyd- Yr oedd nifer dda o wyddau yn cael eu cynyg, a gwerthid hwynt yn 01 7ie ac 8c y pvvys. Pris ymenyn ffres 1/2 y pwys, ac wyau o 10 i 12 am swllt
LLANUWCHLLYN.
News
Cite
Share
LLANUWCHLLYN. Bydd yn ebwifch gan lawer glywed fod John Edws-rds, Giynllifon wedi ei roddi i orphwvs yn ei fedd, er ddydd Sadwrn, Rhagfyr I3eg. Cladd- wyd ei weddiilion yn y fynwent newydd. Yr oedd tyrfa fawr wedi dod i dalu y gymwynas olaf i gyfaill tirion a charedig. Hefyd, yr un diwrnod, rhoddwyd » weddiilion MrsMagdalen Watkirts, Tynrhos, i orphwys yn y fynwent newydd. Gweinyrtdwyd gan y Parch. W. Hughes, Ficer. Er nad oes dim o'r fvnweat wedi ei gysegru, v parchedigr ficer fel pe fuasai yn gysegredig i gyd. Diolch iddo. Dydd LIuD, Rhagfyr 15fed, rhoddwyd gwedd- illion y diweddar Watkin Jones, Ysgoldy, i or- phwys yn mynwent v Pandy. Yr oedd W Jones wedi cael oes faith, ac wedi bod yn ddyc dagyda chrefydd ar hyd ei oes, Heddwch i'w twch.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Y MAE GAN LI. EB^ASDS, Stationer, High St., Bala, Stoc fawr amrywiaethol newydd ddod i fewn o bob math o Christmas a New Year Cards (Cymraeg a Saesneg), Hefyd rhai yn cynhwys DARLUNIAU O'R BALA, &c. Y mae y rhai uchod yn yn gytryw nas gellir cae! eu gwell na'u rhatach yn unman arall yn yr ardal. Hefyd y mae ganddo Stoc helaeth o bo math o ANRHEGION NADOLIG, &c. Great Western Railway GWYLIAU Y NADOLlG. TREN R Yn rhedeg fel y "a" Boxing Day, Tren RliacI am y dydd Caer, Birkenhead, a (Pantomines), o Corwe » Aerefair, <fec. lAt. yf Am fanylion pellaCl1 5 iiysbysleni. GeiJleral JJ/at1l/Jge1" Commerce CO STOC NE^BAG0B 0t8- "oats- ftSS* Et0 ifecm Bto idiyDl Wat0rl5Tftc^ Jacefli goE ettLod. Gapes lacking Pure a Hetia • J DA To ift QA HIGH STREET,ouse 80, modious diate possession. Solicitor, Bala. qqXQ$' IW~Ymwelwcli yn fuan a Siop yr Eryr oe ydyeh amweled y detholiad goreu o n