Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
———————————————————— D. P. DAVIES, Photographer, CORWEN. BEGS to announce that he has recently J) removed to more spacious and conven- ient premises, and that by this change he will be better able to accomplish all Photo- graphic work placed in his hands, having a large well-lighted Studio, comfortable Waiting and Dressing Rooms. Whilst thanking his numerous customers for past favours, he hopes by careful attention and moderate charges to ensure a continuance of their patronage and support. NEW ADDRESS— TRADE HALL, CORWEN. x 1. p I t 11111 I- ml.;i (hFGIRT RE ¡r;:o Hlt« ) HUGH DAVIES'S COUGH MIXTURE-At Beswch. COUGH MIXTURE-At Beswch. COUGH MIXTURE-At Ddiffyg Anadl, COUGH MIXTURE—At Ddiffyg Anadl. COUGH MIXTURE-At Anwyd a Chrygni. COUGH MIXTURE-At Anwyd a Chrygni. COUGH MIXTURE -At Bronchitis. COUGH MIXTURE-At Bronchitis. COUGH MIXTURE-At Influenza. COUGH MIXTURE-At Influenza. COUGH MIXTURE—At Ddolur Gwddf. COUGH MIXTURE-At Ddolur Gwddf. COUGH MIXTURE—Cymeradwyir gan FeddygP* COUGH MIXTURE—Cymeradwyir gan FoddygM" COUGH MIXTURE—Ddefoyddir gan GantoriooO- 1/34 a 2/9 gan bob Druggist. SARZINE BLOOD MIXTURE, The Marvellous Blood Purifierp Cleanses the Blood from all Impurites, entir4 removes all Eruptions, Blotches, and Pimples from the Skin, whethet acquired or constitutional. Mewn potelau l/l Jc. yr un gan bob Fferylly(IIL Auffaeledig at Buro y Gwaed, a Chlirio y eroell oddiwrth bob Toriad Allan, Llygaid ClwyftWt Pimples, Doluriau ar y Cymmalau, &6. DALIWCH SYLW-AT GROEN IACH, MYNWCH SARZINE.' Cofiwch 'SARZINE BLOOD MIXTTJRO- lilic y Botel, gyda'r Post 3c. yn chwaneg. Sold by Grocers everywhere. WHOLESALE-D. JONES & Co. Perchenog—HUGH DAVIES, Machynlleth DIFFYG D-S TREULIAD l J7 VEGETABLE IONIC 1 All ffUNTIBILJOUS PILLS. 1 II Price Is. lid. S l\ PREPARED ONLY BY f 'J «j VHUGH DAVIES,jj | Cjjemisi, <& I DAVIES'S TONIC ANTIBILIOUS PILL5 AT DDIFFYG TREULIAD. DavWs Pills at Ddiffysr Treuliad. Daviet's Pills at Boen yn y Cefn Davies's Pills at Ourlad y Onion S Davies'n Pills at y Piles a'r iiravel. I Davies's Pills at y Ddan^ild. ■' Davies's Pills at Wynt yn yr Ystumojf- S Davies's Pills at Boen yn y Cylla. B Davies's Pills at ddiffyg awyad bwyi> B Davies's Pills, dyogel hoiloi. « Davies's Pills at buro y gwaed. I Davies's Pills Is lAc y box ^an bob B ruggist. DAVIES'S HORSE POWDER Anhebgorol i Geffylau. At ystwytho'r cymmalau. At y dwfr. At eu cadw mewn cyflwr da. At godi ysbryd anitail. At wella'r blewyn. Diogel yn mhob cyflwr. 1/- y tin gan bob Grocer. Telir clndiad dwflio unrhyw gyfeiriad ar dderbyniad P,O.Order am HUGHDAVIES,Chemist,
Cymanfa Ysgolion Sabbathol…
News
Cite
Share
Cymanfa Ysgolion Sabbathol Eglwysi Annibynnol Edevrnion. Cynhaliwyd hon yn Nghorwen, ddydd Mercher, Mai 22, a daeth yr ysgolion at eu gilydd yn gryno iawn. Llywyddwyd yn y boreu gan y Parch L. Davies, Corwen. Dech- reuwyd gan Mr. J. Jone?, Llandrillo. Ar- weinid y canu gan Mr. J. Griffiths, Rhydy- wernen, a chwareu d yr offeryn gan Mr. C. Roberts, Cynwyd. Cyn dechreu ar waith y cyfarfod, cafwyd anerchiad gan y llywydd. Anogai i'r ysgolion dori allan dir newydd, ac I efelychu mwy ar gynlluniau yr ysgolion dydd- iol. Edrychai ar Bwyllgor y Cyfarfod Ysgol- ion fel .math o Fvvrdd Ysgol, a dywedai fod yn bwysig i'r ysgolion ddewis y cynrychiolwyr goreu. Llawenycbai fod llafur yr undeb yn myned ar gynydd da oedd ganddo weled fod Ilawer yn ymgeisio yn yr arholiadau ysgrifen- edig. Hyderai y byddai i bawb aros heb fyn- ed allan hyd derfyn y cyfarfod. Ar ol canu, galwodd ar Mr Owen, Corwen, i holi y plant ar Hanes Iesu Grist yn Gethsemane. Yr oedd yr holwr wrth ei fodd gyda'r plant, a hwythau yn ateb yn unol ac yn gywir. Ych- ydig o'r plant oedd wedi dysgn yr adnodau, ond rhaid cofio fod mwyafrif y plant dan saith oed, felly oter oedd disgwyl iddynt wneuthur hyny. Ar ol canu drachefn holwyd yr ail ddoabanh, sefrhai o 12 i 16 oed, gan Mr T. O. Pritchard, Ysgrifenydd gweithgar y Cyfarfod Ysgolion, yn Hanes Moses. Yma et6 cafwyd holi ac atebion rhagoro), ond gan fod yr amser yn brin, torwyd y gwaith yn ei flas, a therfynwyd y cyfarfod trwy weddi. Llywyddwyd cyfarfod y prydnawn gan y Parch. J. Pritchard, Cynwyd, Dechreuwyd gan Mr L. Davies, Bettws. Traddododd y llywydd anerchiad rhagorol. Dymunai weled y Pwyllgor yn trefnu cyfarfodydd i hyfforddi athrawon ein hysgolion yn y gelfyddyd oadd- ysgu yr ieuanc. Yna holwyd y dosbarth dan 21 oed gan Mr R. Davies, Bethel. Vma eto yr oedd yr holwr a'r rhai yn ateb ar delerau da a'u gilydd-yr holi a'r ateb yn rhagorol. Ar ol hyn darllenodd yr Ysgrifenydd gan- lyniadau yr arholiadau ysgrifenedig, a Mr. Anwyl, Corwen, enwau y plant oedd wedi pasio yn y safanau. Gan fod yr enwau eisoes wedi ymddangos, rhoddwn yma crynodeb o lafur pob ysgol yn nglyn a hwynt. DOS. I DOS It -DAN 16 OED. DUS. IlL-DAN HI OED. YSGOL. PLANT. Des. i. Dos. ii. Dos. III. Dos. i. Dos. xi. Oyfatirif. | I 'I" Bettws 1 1 2 Bethel 4 6 3 2 15 Cor wen 13 5 i 1 2 1 22 Cynwyd 6 6 Glyndyfrdwy I" Llandderfel 20.. I 2 7 3 32 Llandrillo 20 1 6 3 30 Rhydywerren 10 -1 3 14 Soar 20 2 4 2 1 29 Tre'rddol 7 1 3 1 12 i I 100 0 24 13 6 10 162 À T 46 16 Nid yw y daflen uchod yn cynwys y dos- barth iv y rhai dros 21 oed, gan fod yr ysgol- ion wedi eu gadael allan o rhestr y rhai JHwyddianus, rhanwyd y dosbaith hwn yn ddau. Maes Llafur y dosbarth ydoedd Epistol Cyntaf loan. Y goreu o dan 25 oed, oedd Miss Winnie F. Roberts, Llandrillo. Enill- wyr y brif wobr eleni oeddynt Mrs. Janet Pugh, Bethel, a Mr. Ed. Elias Jones, Corwen, —dau sydd wedi enill y prif wobrau o'r blaen. Y goreuon yn y dosbarth iii,, (Hanes Iesu Grist), oeddynt Miss Kate Jones, Bethel, a Mr. John Roberts, Corwen, y rhai a enill- asant farciau cyflawn. Gwelid yn rhestr dos- barth ii. (hanes Moses) fod tri o Gorwen ar y blaen, H Volke Salmon yn gyntaf. Wrth edrych i mewn i'r dalen uchod, fe welir mai yr ieuenctyd sydd wedi bod yn fwyaf llafurus yn ystod y gauaf. Y mae nifer yr ymgeiswyr llwyddianus yn myned ar i lawr fel mae'r oed yn codi. Credwn y byddai llawer mwy o lwyddiant gyda'r arholiadau ys- grifenedig pe byddai I weinidogion ein heg- lwysi gynal dosbarthiadau yn ystod y gauaf i hyfforddi yr ieuenctyd i ysgnfenu Cymraeg ac i drefnu eu hatebion yn y modd goreu. Llywyddwyd yn yr hwyr gan lywydd yr Undeb, Mr J. Jones, Rhydywernen. Dech- reuwyd gan Mr. T. Evans, Tre'rddol. Cyf- lwynodd y llywydd y gwobrwyon a'r tystysgrif- au i'r ymgeiswyr llwyddianus. Holwyd y dosbarth hynaf gan y Parch Gwion Jones Er fod yr holi yn dda, eto teimlwn fod y gofyn- iadau uwchlaw cyrhaeddiadau y dosbarth, ac nid oedd yr atehion mor gyffredinol ag arfer. Credwn mai manteisiol fyddai cynal y cyfar- fodydd o hyn allan mewn dau gapel. Yr oedd yr un capel yn orlawn, a llawer yn methu cael lie. Buasai yn bosibl i wneyd i ffwrdd a chyfarfod y boreu, ac i holi y plant a'r dosbarth o dan 16 oed mewn un capel, a'r ddau ddosbarth hynaf yn y capel arali. Yna gellid breintio cyfarfod yr hwyr mewn un capel yn fwy o gymanfa ganu gyda'r ieuengtyd a chael cyfarfod gyda'r athrawon mewn man arall i ddarllen papyrau ar waith yr ysgol. Nid oedd dim dyddordeb i'r ieuengtyd yn holi ac ateb y bobl mewn oed, ac ychydig iawn o'r dosbarth hynaf a welsorn yn cymer- yd rhan gyda'r canu. Gobeithio y dechreuwn y cyfarfodydd o hyn allan yn brydlon. Ni bydd esgus am yr anmrydlondeb os rhoir y cyfarfod y boreu o'r neilltu. Terfynwyd y cyfarfodydd gyda diolch i'r swyddogion, holwyr, arholwyr, arweinydd y canu, a'r cyfeilydd. Yr oeddd Uwyddiant y Gymanfa, i raddau mawr, i'w briodoli i'r Ysgrifenydd, Mr T. O. Pritchard. Gwelsom nodiad yn. eich papyr, yr wythnos ddiweddaf, ei fod yn rhoi ei waith i fyny, ond anogwn ef i ymaflyd yn yr ysgrifbin drachefn. Ni cheir mo'i well. Gofaled yr ysgolion ddangos eu bod yn parhau yn eu cefnogaeth o hono. Arweiniodd Mr J. Griffith y canu yn fedrus iawn, ond prin yr oedd y cantorion yn talu digon o sylw iddo. Yr. oedd rhai o'r tonau yn dda iawn, ond dysged yr ysgolion yr oil yn drwyadl, enwedig yr anthem, erbyn Cymanfa Ganu Medi. Cyfeiliai Mr E. Roberts yn foddhaol. GOHEBYDD,