Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
------------AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. MR. THOMAS EDMUNDS, Argraffydd, Corwen, fydd yn gofalu yn gyfangwbl am bob Hysbysiad o Gorwen ac ardaloedd Cerrig-y-druidion, Dyffryn Clwyd, a Llangollen, ac os yn fwy cyfleus, gellir anfon goheb- iaethau i'w ofal ef o'r ardaloedd a nodwyd. 0 hyn allan, cyfeirier pob gohebiaeth yn nglyn a'r WYTHNOS A'R ERYR, naill ai i JOHN EVANS, Bron Ceidiog.Llandrillo,Corwen,neu i'rCyhoeddwr i'r Bala.
BALA.
News
Cite
Share
BALA. YR EISTEDDFOD. Gyda chael tywydd ffafriol, y mae pob argoelion yn dangos y bydd yr Eisteddfod eleni y fwyaf poblogaidd a gynhaliwyd yn Athen erioed. Ar y brif gystadleuaeth gerddorol bydd dau gor enwog yn tynu y dorch, sef Cor St. Helen a Chor Bethania Blaenau Ffestiniog. Pedwar o Gorau Meibion, sef Moelwyn(Ffestiniog),Llangollen, Abermaw, a St. Helens. Corau Plant, Ped- warawd, Soprano, Contralto,Tenor, Baritone, Deuawd-dros gant o ymgeiswyr Gelwir sylw arbenig at Gyngherdd Mawr- eddog yr Hwyr. Mae y datgeiniaid yn en- wogion o fri ar y llwyfan cerddorol yn Liun- dain a thrwy Gymru. Bydd y Cyngherdd yn ifn uwchraddol vn mhob ystyr. Mae Cor y Bala yn canu "Hear my Prayer" yn rhagorol iawn. Dylai y Pafilon fod yn orlawn. Beth fydd i bobl y Rala groesawu yr Eis- teddfcd drwy roi Baneri all in fel gwna trefi eraill ? Dechrener eleni. LLWYDDIANT.—V mae Dr. Ernest Shelton Jones, mab Dr. Shelton Jones, Pwllheli, yn awr yn M.R.C.S. (Eng.), ac L.R.C.P. (Lon- don). Bu Dr. Jones am beth amser yn der- byn cwrs o addysg yn Ysgol Ramadegol y Bala. GALWAD.—Deallwn fod Mr. J. Ellis Jones, Tanygrisiau, ac o Goleg y Bala, wedi cael galwad i fugeilio eglwysi Glynceiriog a Nantyr.
Marwolaeth Mrs. Evans-Lloyd.
News
Cite
Share
Marwolaeth Mrs. Evans-Lloyd. Dymuna Colonel Evans-Lloyd a Miss Sybil Clark, trwy gyfrwng yr "Wythnos a'r Eryr," ddatgan eu Hiolchgarwch gwresocaf i'w cymydogion ;u cyfeilli.- n yn y Bala am eu cydymdeimlad a hwy yn eu profedigaeth, ac yn arbenig am y deyrrged o gariad a pharch arddangoswyd mor gyffredinol i goff- adwriaeth tristlawn y diweddar Mrs. Evans- Lloyd ar yr achlysut o'i rhoddi i otphwys yn Ilanycil, dydd Mawrth, y i4eg cyfisol,
. CORWEN.
News
Cite
Share
CORWEN. FFAIR. Ychydig iawn o ganmoliaeth Toddai y ffermwyr i'r ffair ddoe (dydd Mawrth) Yr oedd prisiau y ceffylau a'r gwartheg wedi gostwng tipyn, ac ychydig o alw oedd am geffylau, oddieithr rhai da. Gwerthai y moch yn gyflym am brisiau da. Pris ymenyn i/- y pwys, ac wyau yn 01 24 am swllt. Cwynai y masnachwyr fod y llwch oddiar yr heol yn achosi trafferth a cholled ddifrifol iddynt. Gresyn fod y ffair yn cael ei chynal ar yr ystryd, ac y mae yn beryglus i neb dra- mwyo y ffordd Jawr am oriau tra y bydd yr anifeiliaid yn cael eu dangos. Mae'n anes- boniadwy pa fodd y mae personau cyhoeddus y dref yn gallu goddef cymaint o anghysur i'r trigolion, a hyny ar hyd y olynyddoedd, heb gynyg gwneud rhywbeth tffe¡thid i'w symud i ffordd, ond y rnae'r hen air mor briodol i Gorwen ag unlle-"y cyw a enir yn uffern, yn aiffem y myn fod."
Advertising
Advertising
Cite
Share
Arwerthiant ar Bolion Derw. DYDD SADWRN, MEHEFIN laf, bydd MR. W. JONES ELLIS yn gwertbu ar Auction yn COED COCHION, ar fferm Trawscued Bach, ger Dinmael, ac yn ymyl Ffordd Caergybi, oddeutu 30 o LOTIAU o GOlfb DERW DA, cymhwys fel Polion lynu, a rhai tra iraidd at hollti i wheud Polion W.re, &c. Yr Arwerthiant i ddechreu am 4 o'r gloch y piydnawn. Telerau—Aiian Parod.
CORWEN.
News
Cite
Share
CORWEN. PRIODAS MR. ALFRED PARRY A MISS E. A. ROBERTS. Dydd Mercher diweddaf, yn nghap yr el Annibynwyr, Lon Ewan, Dinbych, unwyd Miss E. A. Roberts, unig ferch Mrs. Roberts, Lon Ewan, Dinbych, mewn glan briodas a Mr. Alfred Parry, Crown Shop, Corwen, ail fab Mr. James Parry, Naid-y-March, Treffyn- on. Cymerid dyddordeb neillduol yn yr am- gylchiad, a daeth Iliaws o berthynasau a chyf- eillion ynghyd i'r capel i fod yn llygad-dystion o'r seremoni, yr hon a gyflawnwyd gan y Parch James Charles, gweinidog yr eglwys, yn mhresenoldeb Mr. E. Mills, Cofrestrydd. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei brawd hynaf, Mr. David Roberts, a gwasan- aethid ami fel morwyn priodas gan Miss M. J. Parry, chwaer y priodfab. Y "gwas priodas" ydoedd Mr. R. Pryce Roberts, brawd y briodasferch. Wedi'r ymrwymiad a llawn-nodi'r gofrestr, aeth y cwmni priodasol i gartref y briodasferch, lie y cafwyd Iluniaeth. Yn rnysg y rhai oedd yn bresenol yn y bri- odas, ac yn ffurfio'r cwmni ar ol hyny, yr oedd Mrs. Roberts (mam y briodasferch); Mr. a Mrs. James Parry, Treffynon Mri. Walter a H. R. Roberts (brodyr); Miss Davies, Ler- pwl (cyfnither); Miss Cissie Owen, Beaumar- is Miss L. Parry a Miss K. Parry (chwior- ydd y priodfab); Mri. R. Davies a Richard Williams, Corwen Edwards, Lerpwl; Geo. James a J. Whitiord Williams, Treffynon. Llongyfarchwyd y cwpl ieuanc yn gynes ar eu huniad gan eu perthynasau a'u lliaws cyf- eillion. Yn ddiweddatach yn y dydd, ymad- awodd y cwmni mewn cerbydau i dreulio gweddill y dydd yn Rhyl. Bydd i Mr. a Mrs. Parry gymeryd eu car- tref yn Nghorwen, lie y maent wedi agor masnachdy. Deallwn eu bod yn hynod bob- logaidd yn ngholwg trigolion Corwen, lie mae y ddau yn hynod adnabyddus. Dilynir hwy i'w cartref newydd gan ddymuniadau twymn- galon eu cydnabod am iddynt gael bywyd priodasol llawn o gysur a dedwyddwch. Yr oedd yr anrhegion yn hynod o luosog.
GAIR AT GYMDEITHASAU CYFEILL.…
News
Cite
Share
GAIR AT GYMDEITHASAU CYFEILL. GAR DOSBARTH CORWEN. Mr. Gol. Tynwyd fy sylw y dydd o'r blaen at y priodoldeb i'r cymdeithasau hyn y flwyddyn nesaf gynal eu gwleddoedd ar ddydd coroniad ein brenin, Edward VII. Gan fod Corwen yn lie mor ganolog, bydd yn hawdd i'r cymdeithasfaoedd cylchynol ymgynull yn y dref ar y dydd penodedig, a gwneud ardd- angosiad teilwng, a chydwledda mor bell ag y mae hyny yn ddichonadwy. Gan y bydd y cymdeithasau dan sylw yn ymgyfarfod yn eu gwyliau blynyddol, beth pe byddai iddynt oil gael ymdrafodaeth ar y mater ? ac os yn gweled rhyw briodoldeb yn yr awgrymiad, i benderfynu ar bwyllgorau i gymeryd y mater mewn llaw.—ODYDD.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
PRIODASAU. Mai 17. yn Swyddfa'r Cofrestrydd, Bala, Mr. David Williams, Rhydsarn. a Miss Margaret Rob- erts, Rhydydrain, Llanuwchllyn. Mai 17, yn nghapel Tegid, Bala, gan y Parch. J. Howell Hngbes, Mr. Robert Hughes, Pantllwyni, a Miss Alice Jane Edwards, Maesywaen. Mai 17, yn nghapel yr Annibynwyr, Bala, gan y Parch. H. Gwion Jones, Bethel, Mr. Hugh Jones, Cwmcwen, a Miss Margaret Lloyd, Bryniaugwynion. Mai 18, yn ngbapel yr Annibynwvr, Bala, gan y Parch. T. T. Phillips, B.D., Mr. John Davies, Ty- mawr, Cerrigydruidion, a Miss Maggie J. Davies, Carregyddafad. Mai 18, yn Swvddfa'r Cofrestrydd, Corwen, gan Mr. D. P. Davies, Mr. Edward Roberts, Bryntirion, Llanfihangel, a Miss Mary Davies, Tycoch, Cerrig-y- druidion. MARWOLAETHAU. Mai 17, yn 12 mlwydd oed, Jobn William, anwyl fab Mrs. Jane Rowlands, Llandderfel. Nefolaidd a phenaf elw-yn y byd Yw plant bach yn marw; Ni f'ai'r Tad yn Dduw'r cadw, Na nef yn net hebddyn' nhw. Mai 18, yn 55 .mlwydd oed, Mr. Robert Roberts, Brock Street, Corwen. Bu am amryw flynyddau yn rhedeg y post o Gorwen i Gerrigydruidion, ac efallai ei fod yn fwy adnahyddus i lawer felly. afoaa gystudd trwm am yr ychydig ddyddiau y ba weddiog. Cydymdeimlir yn fawr a'i briod a'i yn eu galar. --r
Advertising
Advertising
Cite
Share
IN LOVING MEMORY Of our dear father, William Jones, Northyn Terrace, Corwen, -I WHO DIED JANUARY 24TH, 1900. Also of our loving sister CLAUDIA. WHO DIED MAY 17TH, 1900. Thy purpose, Lord, we cannot see. But all is well that's done by Thee. MOTHER AND SISTERS. Re JOHN PARRY, London BaaL Corwen, Joiner, deceased. Notice is hereby given, that all part;- having any claim against the Estate 01 above deceased, are requested to send pa culars of the same to the undersigned, °n before the 1St day of June next. Dated this 17th day of May, 1901. JOHN HUGHES, Plas, Corwen, JOHN BELLIS, London Road, Corwer, Executors under the Will of the late jofir4, PARRY. Clwb Llanfor. DYDD MAWRTH, yr lie? o MeWjjs» y cynhelir Gwyl Flynyddol y Gymdeitn uchod. Agorir y llyfrau yn Llanfor am haO awr wedi wyth. Gofaled y sawl a dde^1 ymuno a'r Gymdeithas ddyfod a Certifi& oddiwrth un o Ddoctoriaid y Bala i LaD;0.' o herwydd yno y derbynir hwynt. ArwelD yr orymdaith eleni gan y Royal Oakeley Silver Band, B. FfestinÍog". Dysgwylir yr holl aelodau i Lanfor, Darper y ciniaw gan Mr. Ingham yn y Victoria Ila EDWARD WATKINS, YSGRIFENYPV, Cumdeithas Jubili yMerohed, BALA. riYNELIR Gwyl Flynyddol y Gymdeit^J \J uchod yn y National School, Bala, Mawrth, yr 28ain o Fai, 1901, pryd y yn gyfleus i aelodau newyddion ymuno.. Bydd y llyfrau yn agored am 1 o'r gl°c f a'r Te am 3. MEDDYG—R. PRICE, Ysw., Bala- YSGRIFENYDD—J. P. JONES. Cvmdeithas Gvfeillgar y Meibion, Llandderfel. CYNHELIR GWYL FLYNYDDOL ? uchod ddydd Mawrth, Mehefin y Ych| Bydd y Llyfrau yn agored am 10 o'r J galw enwau am 12, ciniaw am un, a'r cylarI cyhoeddus am 2 o'r gloch. Dymunir & e holl aelodau fod yn bresenol, a thalu eu w raniadau cyn galw enwau. HXTGH ELLIS, Ysgrifegjgy Cvngor Dostarth DinesigTB3^ pYNELIR CYFARFOD CYHOEP^ \J yn Neuadd y Sir, NOS "WeilW» JKJ 31ain, am 8 o'r gloch yn yr hwyr, i Ts Lef t y priodoldeb a'r dull goreu o ddwyn y a sylw Dyeithriaid ac Ymwelwyr. Tae i.,foa hoddir Tai-ddalwyr y dref yn gyffredinol1 yn bresenol. DRWY ORCHYMYN Y CYNGOR, J. W. ROBERTS, Cadeirydd, J. n. JONES, Clerc.