Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
31 articles on this Page
- JACK Y LLONGWR.
JACK Y LLONGWR. BRxNAERAi: A'R AR:)¡\ Peth rhyfadd fyddai gweled dyuas yn mynd i gae yd i chwilio am datws yn lie i gae tatws, a pheth rhyf-,dd ydi gwelad merch ifanc yn mynd wyth milldir i chwilio am gariad. Y ma.ter ag oedd o flaen ystyriaeth dosbarth mewn Ysgoi Sul yn ddiweddar ydoedd "Jack y Llongwr." Mae'r cono hwnw wedi cael beic gan foy o Klondeic, ac wedi pasio J AT y ffordd, ac wedi mynd yn mlaen i —i at galon felus arall. Duon ydi'r fels y dyddia' yma. Gwynion j oeddan hw yn arfar bod. Y CAN A GOLLWYD. Wrth fynd ar hyd y Cob yn Mhwllheli da.'r nos y noson cyn y lecsiwn mi gafodd Bila yma ddarn o bapur, a beth. oedd o ond can i'w ohanu mewn cyfarfod oedd i fod yn y Town Hoi i orfoloddu am y fuddugol- iaeth. ond oherwydd Ùl awdwr golli'r copy reit chlywyd ddim son am dani. Fel I hyn 'ro.edd y geiria': — Dyma gyrfa dost ofnastan- I Gyru George i Dy St. Stephan. Ma.e'r Rads mewn hwyl ar ben eu digon, Ac amal Dori'n bwrw 'i gynffon. Anodd cerddad hyd y stryd Gan gvnifona' ar eu hyd! Ond yn awr ceir mwy o le Heb gynffona' 'n llenwi'r dre'. SathrocM rhywun gynffon llanc Ar y gornel wrth y bane; Cadd un arall burion job Dori 'i gynffon ar y Cob. YN EISIEC-PERCHEKOGIO. Y mae yma bentwr o gwds heb enwau wrthynt. Nis gwn o ba Ie y maen' 'hw wedi dwadi nac i ba te i'w hanfon. A wna an pgrchenogion anfon eu henwau i mi er mwyn i mi anfon y gwds yn ol, neu èdweyd be' ydw'i i 'neyd hefo nhw. CABATHEAW A'R COAST. Mae geul i gwds wedi dwad i law, ond fedra'i ddim deall boo'r lot gynbl. A neaff yr anfonwr anfon gair o (glurha4 ar y mater. Bedi "segertea"? GweH. fasa' i rai merchad adael llonydd i'r merchad ifanc fynd i ofalu am eu busnes hunain. W <1oE'th heb i fcxchad sy' wedi darfod eu hoes yn myd y bobol ifanc ymyr- yd mewn pethau oarwriaethol. Gwell iddyn 'hw edrach ar ol y gwartheg yn well, yn He disgwyl am dri a phedwar mis am i wartheg ddwad a Iloi. Myn hem gymydog- es i mi ei bod hi yn gwybod! yn iawn am ferchad sy' wedi mynd yn dew wrth fyw ar fusries pobol er'ill. Deycfais i wrthi hi fod pwy bynag oedd wedi myned yn dew felly yn dew afiacb iawn. TENOR LLEYN A'R DANEDD GOSOD. Gwelwyd tenor cnwog Lleyn wedi riggio et hun i fyny yn sweUsh anghyffredin y noson o'r blaen, a gofynwyd iddo beth oedd yn bod? A cedd eor.sart i fod yn vhywla, "Nac oes," ebai yntau, "ond mynd a'r stwff cool yma ydw'i i B——g; ac mi 'rydw'i, w'ldi, am gael danadd gosod, achos mai'r beirniaici oil yn dyweyd fod gen i y llais srora yn y rhanau yma o'r byd, ac Os y ca'i ddanadd gcsod, y dof yn cham- pion singer, fachgan, ac y g'neir i ffwrdd a'r tremolos sydd yn fy llais i." Aeth v cant"T-'i'r orsaf, ac yn ei gwmni yr oedd lodes lanT Gofvnodd yn y booking offis am "Two first class tickets to Criccieth, please." Cafodd nhw gan y boy smart sy'n gofalu am yr oms hono. Aeth y tren i ffwrdd, ac yn yr Afon Wen, pwy welodd y tenor ond ei gariad! Wel, dyma fes! Aeth a-ti hi, gan adael v lodes Ian arall yn y cerbyd. Dychwelodd hefo hi (ei gariad), ond y mae hi yn benderfynol na chaiff o ddim mynd am dro hefo hi hyd nes y dywed o pwy oedd y ferch arall! Dyma ddiwedd stori y dan- add gosod! TROED YR EIFL. Mentrodd gymeryd y ferch hono, ao y ma1l1t heddyw yn un cnawd. Poena C-- J- na fa.sa hi wE!di cael clywad yn nghynt er mwyn iddi hi ro'i cwilt gwely allan yn ffiag. Oefais gwd, o Fourcrosses, ac yr ydw i wedi methu yn lan a g'ne'yd allan be sy' i 'neyd hefo nhw, trwy fod y llawysgrif mor hynocl o ddrwg. Cofiad pawb fod isio sgfnu yn hlaicta. a dealladwy. RHYDYCLAFDY A'R GORORAU. Mi aeth Jim i roi toro trwy Pig street, ac ar y ffordd mi glywodd bethau rhyfadd iawn, iawn. Ceir eu gwe'lad nhw cyn bo hir. Wrth daao yn mlaen drwy'r Rhyd at Yefyn, gwelodd Jim spectors yn edrach sut yr oedd pethau yn edrach. Ac wrth gwrs, gan fod y spElCtmsyn edrach o gwm- pas, dyma bawb i bena' dry-sa u tai i edrach ar be' oedd y spectors yn edrach. Lied rislyd oedd pobol pena'r drysau, reit debyg i frain Llannor. Dwrdio mawr oedd yno, achos mi 'roedd golwg gynddeiriog ar ryw estron, yn ol barn Jim. Bu yn ddiweddar de parti y ffordd yma, heb ryw lawar o row yn 'i gylch o ond druan o "Pero," ni chafedd o ddim cy- m'int a chrystyn torth wedi g'neyd gormod, heb son am dorth o fara brith neu gacan jiam. Chwarae tfig i "Pero," chafodd o mo'r llall chwaith. Mae seson y ceffyla' harnis wedi mynd heibio, mfidda nhw. Ceffyla' gwe' sy' yn mynd a hi yrwan. Ma.0 un ceiffyl wedi cael llonydd am wsnos ar ol y lecsiwn, medda nhw,-y ceffvl hwnw fuo'n waJpio drwy'r dydd i gario fotars i Lloyd George. 'Does ar y cetffyl fnrnw ddim isio gweld lecsiwn yn ei oes y Thagor. Golwg gas ofnatsan sydd ar bethau,— ddyliwn i nad ydi'r bobol yma ddim i gyd jn cyd dynu. CLOI Y WRAIG YX Y TY. Aeth swyddog mewn gorsaf at ei waith yn gynar yn y boreu, fel arferol, gan gy- meryd agoriad v ty gydag ef, a chan adael ei anwyl briod yn y gwely. Erbyn iddo gyrhaedd yr orsaf rhaid oedd iddo fyned hefo'r tren ar fusnes pwy si g, ac ymaith ag -ef. Ar y ffordd cofiodd fod agoriad y ty ganddo, a dyma dempar i fyny- Ei anwyl Jane wedi ei chloi yn y ty! Sut y gallai hi gael.llefrith pan ddeuai y drol mul rowed? Fuo eriocd y fath foddar! Pry- I sitrdeb a digwyddiadau anisgwyliedig a fu yn achos o'r cwbl. Fel yna y Mae, hi hefo rhai pobol yn ami. Bydd rhai pobol yn myned allan yn brysur o gyfarfod yn y capal ar rai troion. FFOS NEFYN. Cwynwyd yn ddiweddar fod ffos fawr yn -n Cau' ^an ac^osi i r dwr godi a drcs ei glanau. Dywedwyd mai rashioiLs dydd diolchgarwch oedd wedi taflu i'r ffos ac wedi ei chloi hi i .kwell heb ddecorashions felly os na ^ystnr nhw gaui y ffos i fyny. Dyma'r os ag yr ysgubwvd rhyw fachgen drwvddi «n tro gan lifogydd. Nid dwl o beth Sai i'r bachgen fynd drwyddi eto, rlri ^ani"3,u hi. Yn ol yr hjm a personau cyfrifol, mae tri v i.War ° arS^yddi i fod yn gofalu am y if h ar 0 arg wyddi amsar Pan y. bydcl wormofion'oncl fcl Pob amsar Pan y. bydcl difo+i, ° £ wcs) mae pe^haul yn cael eu •vllV am y ffos hon. Y mae slanli cau- Os nad ellir ei prvnifl0 7 ffordd arall, beth pe "V tro ni*1 £ Cr^on a'u rhoddi nhw iddi hi o 10118 yr Eglwys P dreuli0 de", DYRYSU'R OONTEAOT. Aeth ffarmwr o Ogleddbarth Arfon i Leyn i brynu oeiffyl. Tarawocd ar anifaii reit haixli, ond drwg o beth-doedd gan y ffarmwr ddim digon o bres yM ei booed i dalu am y ceffyl. Teligraffiryd adra am bres. Anfonwyd y gwas hefo nhw i Leyn, ond erbyn iddo gyrliaedd yno yr oedd v ffarmwr wedi dychwelyd adra yn ngwrtn- gefn y g-was. TENORS YNTE SECOND IE-NORS ? Rhaid i'r cantorion tuag arialoedd Cae Athraw gofio gwybod y gwahariaeth rhwng Ffa a Ffe,. a B fflat a B shsrp. Heiyd, rhaid proh y lleisiau, p'run ai tenors ynte second tenors, ynte dim teiors o gwbl fyddan' hw. WAR OFFIS YN LLl\. Mae offis iawn am bob neYyddion yn nghylch y rhyfel wedi agor yn lic-yn. Myn rhai mai oddiyno y byddai inat yn cael fy ngwds, ond newydd heb fod yn vir ydi hyny. Nos Fercher ydi'r non fawr. Dywedir fod amball i un o'r cwmni yno yngwisgo am- ryw wynebau,—yn ol fel y bydl pethau yn galw. Offis ryfadd ydi hon. Gall 'neyd modfedd yn droedfedd, a thriedfedd yn llathen, a llathen yn wrhyd. RHYBUDD I WRAGEPD. Rhoddaf rybudd i'r wraig Ilona o ardal I eb fod yn mhell iawn o Guarfou y caitf glywed a gweled pethau cas isfrn os yr el hi i GJlarton nos dadwrn tal igyfarfod a llanc ifanc, fel y darfu hi yn ddiweddar. Difethodd ei gwr hi ei photesy tro hwn. Ceisiaf fina' 'neyd yr un peth, 6 byddaf yn agoa at y cwmni, y tro nesaf. YN EISIEU--SPIT-VvN I Y cynghor a roddwn i i'r p<erwr mawr hwnw tua'r Waenfawr ydi iddi fo fynd a spitwn hefo fo i'r capel, yn le watero y pasads a lleoedd ereili hefo'i bIiGn. Pe- tasai'r cono ar fwrdd y smac JIla, ac yn poeri ar ei dec hi, buasai Jiit a fina' yn rhwbio ei drwyn o yn mhob feeryn, yn debyg i fel y gwneir hefo'r gathveithiau. FFAIR Y BORTH. Collodd merch ifanc ei wads, yn ffair y Borth. Yn naturiol poenodd "1 arw ar ei hoi hi, ac ofnai yn fawr i'w nam-ma hi I glywadi. Daeth ei chalon felushi o Eben- ezer i'w chysuro ac i eiriol droi. Mae hi I yn well o gwrs yrwan. MAE'R COR YN NOFIO YNMORFA NEFYN. Oefais gipdrem hefo'n nghlui ar y cor. Sylwais ar y sopran a'r baess. Dylent wrth ganu adgoffhau y gwraiiawyr mai canu y byddan 'hw. Tenors daar y cyfan. Alhball i sgrech heb fod yn y xnVsig. Bydd gair hirach y tro nesaf. DYLANWAD CAN. Canodd bachgen ifanc mo dda tuag Ebenezer fel y syrthiodd merh ifanc o Dinorwic mewn cariad dros ei >hen ag o. Rhaid cedd iddi hi gael sgws gyda fo. Arcsodd wrth ddrws yr adeiladlle y bu y canu, a phan ddaeth y canwr alaii dyma y ddau yn mynd a.m woe, yn y s-il arferol. Ond, fel bydd pryf yn mynd i'r jm yn anil, dyma gariad wreiddiol y bchgen yn gwaeddi ar ei ol o, "W- W Go gas oedd hyn. Ond padsiwydy mater i fyny, a diolchodd y gariad newdd am gy- maint a hyny o gwmni y canwrla. CAEL CLUSTAN YN MANCJESTER. Aeth llanc i Fanchester a thrawodd ar ferch ifanc yn y dref hono. lan ei fod wedi arfer cydiad mewn gend a chael cusan ganddyn'hw yn ardaloedc Ebenezer, gafaelodd yn y ledes hon a chtsiodd gael cusan ganddi. Ond yn lie cael t gwefusau hi ar ei wefusau o, cafodd ed (Vrn hi yn erbyn ei giust, a bernir na chlyryd ddim mwy o 'nadau yn Belle Vue, Manchester, erioed o'r blaen. Mae'r mwncisieb ddwad at eru hunain byth. PENNY READINGS DWY (SINIOG. Cynhelir y rhai hyn yn ardalodd Cefny- waen. Yn un ohonyn'nhw caf\fd cystad- i Ieuaeth pedwarawd rhwng 11 pharti. Mawr oedd y dyfalu pwy fydd;" y goreu. Eisteddai dwy wraig mewn lie nillduol yn yr adeilad, ac yr oedd gwr un yntrwain un parti a mab y llall yn arwain prti arall. Ond ni fu yr un o'r ddau bart hyn yn llwyddianus. Daeth arweinyd y parti buddugol i eistedd i ymyl y ddy wraig. Welsoch chi 'rioed mor anfoddl6. oeddynt. Ond, trwy drugaredd, 'doedd dir isio galw y milwyr o sir Gaer i gadw'r hedweh. RHYBUDD. Y mae yma lawar iawn o ,wds heb enwau. Os gneiff y bobol a'u hifonasant yma anfon eu henwau, mi ddyhwela'i y cwbl; neu os na wnaut, bydd Jinfn rhoddi y cwbl ar dan yn y gabws yma.
OLD FALSE TEETH BOUGHT.
OLD FALSE TEETH BOUGHT. Many ladies and gentlemen hav by them old or disused false teeth, whichIDight as well be turned into money. MessJ R. D. & J. R. Fraser, of Princes Street Ipswich (established since 1833), buy old fise teeth. If you sent your teeth to them-Jiey will remit you by return of post tb utmost value; or, if preferred, they will 3ake you the best offer, and hold the teetlover for your reply. If reference necessry apply to Messrs Bacon & Co., Bankers, pswich.
[No title]
Nid yw yn weithred ddoeth jyued gysgu gyda danedd gosod yn genau. Gwnaeth morwyn o'r enw Emm^ Jackson hyny, a llyncodd hwy. Bu raid idi fyn'd o dan driniaeth feddygol yn ysbyty Mid- dlesex, ond trodd hyn yn angeut iddi, a chynhaliwyd trengholiad ar y crph yn Marylebome dydd Sadwrn, pryd deawyd i'r penderfyniad fod marwolaeth vedi cy- meryd lie drwy i'r danedd ddin,trio un o'r organau mewnol. Dychwelwy rheith- farn o "Famolaetb ddamweiniol.
RHAG OCHELIADAU YR EI)OPEF.
RHAG OCHELIADAU YR EI)OPEF. Y mis hwn yw y cyntaf yn chwfter olaf y flwyddyn. Y mae o'r pwys mwyf i ofalu am yr iechyd yn awr. Y mae e sefyllfa am y gweddill o'r flwyddyn yn yiddibynu cryn lawer ar y modd yr ymddir at y corph yn y mis hwn. Y mae arali ben yn syrthio gyda chwympiad y dail. Mae y tymor hwn bob amser yn llawn o >eryglon i'r rhai gwanllyd ac eiddil a'r rlia^ydd yn dueddcjl i anhwylderau y ddwyfrd. Mae anwyd ao amryw glefydau yngwneyd ymosodiadau poenus ar lawer ► gyfan- soddiadau gweiniaid, ac ar rai wei eu dal gan henaint. Er mwyn rhagflaenu ac atal olu-riau blinion v tymor dyfodol ni all v eb sydd I yn dueddol iddynt wneyd yn wellna chy- meryd cwrs o Quinine BittergGwilym Evans, er cryfhau y cyfansoddiada'i gyn- orthwyo i wrthsefvll yr ymosodiaflu hyn. Evans, er cryfhau y eyfa,nsoddiadali gyn- orthwyo i wrthsefvll yr ymosodiaau hyn. Mae y cyffyr rhagorol hwn wedi, pffi lawer gwaith yn effeithiol nid yn unig; symud anhwyldeTau, ond yn ddiogelwch (M rhag yr ymosodiadau trwy ei fod yn o;fenwi y gwaed ag adnoddau nerth, ieehyd bywyd, ac yn ymlid poen ac afiechyd o'r otph, gan ddwyn cryfder ac yni i'r cyfansoddad. Mae Quinine Bitters Gwilym Evans y feddyg- lyn hollol lysieuol. Gocheler poi efelyeh- iad ohono. Ar werth gan bob frryllydd, mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un, eu gellir eu cael trwy y post am y prisia hyn yn uniongyrchol oddiwrth y perchengion —> Quinine Bitters Manufacturing ompaay, Ltd., Llanelly, South Wale*. t
COSTAU Y RHYFEL.
COSTAU Y RHYFEL. Yn mis Hydref, 1899, yr amcangyfrif o dreuliadau y rhyfel ydoedd deng mi.iwn o bunnau. Yn Chwetrcr gwnaed un arali am ddeuddeng miliwn. Wedi hyny, yn -mis Mawrth, gwnaed cais am vchydig dros 31,000,000p. Erbyii mis Gorphnaf yr oedd y Senedd wedi cydsynio i'r s\\m o 53,582,700p i'w gwario yn nglyn a'r rhyfel. Gofynodd y Llywodraeth gan y Snedd am ychwanegiad o saith inili'.vn a haler, fel ag I y mae y cyfanswm o'r arian a bleidleisiwyd i fyny hyd yn bresenol yn 66,682,700p.
.^DRUAN 0 (SPAEN.
DRUAN 0 (SPAEN. Hisbacn Paballid-litsbaen anwybodus. Ni fyn clerigwyr Rhufain unrhyw oleuni ac yn ol eu hanian cadwant yr Hisbaenwyr mewn tywyllwch y gellir ei deimlo. Y mae yno enw o ysgolion ac athrawon addysg el- rCllol, ond ar drengu y niaeiit. Wrth weled y Lb- wodraeth yn gwario miloedd i groes- awu cynrychioiwyr De America, anfonodd ysgolfeistriaid y deyrnas gofeb at y Llyw- odraeth er ta:T-geisio ganddi dalu iddynt 3i>u,0(X)p o'u cyflogau. Ni thalwyd cyf- logau torfeyda er's llawer o flynydd- oead. A dyma pa fath gyfiogau yd- Ily ynt. Y mae eiddo 21,546 yn am- rywio o 3p i 40p y fiwyddyn; 1,450 o 40p i 80p y flwyddyn. 180 o ysgolfeistr- iaid yn unig sydd yn derbyn drcs 80p. Cais y gofeb ddau beth: talu yr hen ddy- led a chodi'r cyflogau. Os na wneir by- ad gythiant gau pob ysgol. Caisereill genad y Llywodraeth i gasglu eluscnau oddiar y cyhoedd. Nid oes yn holl ysgolion His- paen le i ychwaneg na 1,104,779, eto y mao cyfraith y wladYll gorfodi tair miliivn a lian-r i fyned i'r ysgolion! Pa ryfedd fed 33 y calit o'r boblogaeth heb fedru darllen nag ysgrifeuu gair. Druan o Spaen: ei chwymp a fu fawr.
A WSTRIA-TRAI Y BABAETH.
A WSTRIA-TRAI Y BABAETH. Parhau i gasglu grym ac ymburo yn ddiwygiad crefyddol y mae y mudiad mawr a elwir yn "Ymdaith o Rufain." Fe gofir mai mudiad Ellmynaidd yw efe o ran tardd- iad; cyfyngwyd ef hyd yn ddiweddar o -fewn ter'fynau v talaethau Ellmynaidd. Bellach y mae wedi tori dros y ffiniau ac yn bygwth ymwasgar dros yr hell Ymher- odraeth. Y mae y Slafoniaid a'r Czech- iaid wedi dechreu llosgi. Enillwyd amryw o'r prif newyddiaduron. Ymosodir ar y Babaeth am ei bod yu elyn addysg a di- wylliad iach ac eang ei ysbryd. Ebe un o honynt: "Pe ein gwareiddiod yn seiliedig cenedl ar egwyddorion Protestanaidd. buasem heddyw yn genedl o ddylanwad grymus; am nad ydyw fcUy ni feddwn nerth na dylanwad deallol na mcesol." Y mae y .babaeth mewn penbleth rhag y di- chon i arwcinwyr gymeryd John Huss v Merthyr yn gadlef y mudiad. Pery Hus", yn Arwr y Czechiaid heddyw er eu bod yn Babyddioll. A ffaith arall o ddyddordeb mawr yw fod mudiad o'r fath yma, yr hwn a ddechreuodd fel nerth. gwleidyddol, wedi ymloewi erbyn hyn yn ddiwygiad crefydd- ol syml. Yn y cyfamser, er dallu: neu wneyd cais at ddallu'r byd newyddiadurol, y v Mae y Fatican yn trefnu i sefvdlu "News Agency" yn Rhufain er llunio a lliwio pob newydd i foddlonrwydd y Jesuitiaid.
SENEDDWYR FFRAINC.I
SENEDDWYR FFRAINC. I Y mae Senedd Ffrainc wedi cychwyn ei thymor gauafol. Yr cedd gelynion y Werin- laeth yn bygwth dymchwelyd y Llywodr- aeth ac adfer rhyw ffurf arall ar wladlyw- iaeth gwedi i'r Arddangosfa fyned heibio. Y mae eraill, megis Urbain Gohier, golvgydd "L'Aurore," yn prophwydo pethau erchyll wrth weled y Glerigaeth Rufeinig yn gradd- 01 oresgyn pobpetli drwy, yr Ymerodraetii. Eto, cafodd y Weinyddiaeth brawf diymod o ymddiriedaeth y mwyafrif ar gychwyniad y tymor. Y mae'r rhaglen yn Rhyddfrydig ac addawol o safbwynt rhyddid. Eglurodd Waldeck Rousseau, y Prif Weinidog, fod yn mryd' y Llywodraeth i ddwyn i mewn fesur- au i drethu gwinoejld a gwirodydd, gwneyd cyflafareddiad mewn anghydfod ilafur yn crfodol, ewtogi peth ar rysedd y mynachod, a'r cyffelyb. Ac wrth ystyried fcd 180,000 o iynacnod a mynachesau yn y wlad yn dal eiddo gwerth 160,000,000p nid yw yn syn- dod. Dygir hefyd fesur er hyrwyddo cyn- ydd y boblogaeth.
BETH DDAW O'N 3IASNACH ?
BETH DDAW O'N 3IASNACH ? Ond odid na orfodir Prydain er ei gwaeth- af i liniaru gwladlywiaeth ei masnach os nad dwyn rhydd-fasnachaeth i ben. Diffyn- dollaeth yw rheol pob gwlad arall-én tref- edigaethau yn eu mysg-masnach rydd yw rheol Prydain. Hyd yn ddiweddar, dalicdd é thir yn ngwyneb holl gydymgeisiaeth y byd. Ond y mae arwyddion eglur y dydd fcddyw fod America a Germani yn ei threchu —nid yn unig mewn teyrnasoedd pell—eithr yn Ne Affrig a'r Swdan. Gwaed ac aur Lloegr ddygodd y cyfryw wledydd o dan iau gwareiddiad a threfn gyfiawn-America yn b-naf sydd yn cael y budd. Pa beth a wneir? Mr Chamberlain yw yr unig wlad- weinydd sydd yn talu ystyriaeth ddwys i'r cwostiwn, ac fel yn trefnu ar gyfer cydio ynddo. Y mae dau lwybr yn agord iddo.
CHAMBERLAINIAETH.
CHAMBERLAINIAETH. Dileu masnach rydd a mabwysiadu diffyn- dollaeth, neu ynte gyfuno Prydain a'r trefedigaethau, gan gynwys India, yn un gorffcriaeth, a sefydlu masnach rydd'rhyng- dcynt oil ac amddiffyn eu hunaia rhag mas- ti.,ach pob rhan arall o'r byd drwy gyfundrefn y tollau. Cobdenyddiaeth yw y blaenaf, ac y mae cydymgeisiaeth angerddol yr amser- au yn ormod iddo. Chamberlainiaeth w yr olaf,a'r ymholiad pryderus yw,A lwydda efe ? Aeth yn rhaid gwneyd rhywbeth ar fyrder, canys y mae Prydain yn graddol lithro i fod yn drydydd yn y gyfres fasnachol. Nid yw yn eglur mewn un y gall y trefedigaeth- au fforddio'r draul: rhaid iddynt wrth gyllid: y tollau masnachol yw eu gwaddol presenol. Y mae yn mryd Mr Chamber- lain i wneyd cais feiddgar at achub ein traf- nidiaeth. Ar hyn o bryd nid oes wladwein- ydd yn y golwg yn meddu ar ei gymwysder- au ef at y gwaith.
YSGOTLAND : PRIODI DAU ENWAD.
YSGOTLAND PRIODI DAU ENWAD. Gwelodd Ysgotland beth anghyffredin dydd Mercher. Unwyd dau brif c'nwad gwirfoddol y wlad yr Eglwys Rydd a'r Presbyteriaid Unedig-dnv-y briodas, yn un rtiwad o dan yr enw Eglwys Rydd Unedig Ysgotland. Y mae i'r ddau enwad hanes anrhydeddus. Ymne*i 11 duodd yr Eglwys Rydd oddiwrth yr Eglwys Wladol yn 1843 a'r Presbyteriaid Unedig yn 1847. Gwnaed ym-ais egniol flynyddau yn ol gan Dr Rainy ac eraill i uno y ddwy eglwys, gan eu bod yn un mewn athrawiaeth a ffurf- lywodraeth. Bellach, wele y llafur wedi ei goroni a llwyddiaut. Bydd gan yr Eglwys Rydd Unedig 602,304 o aelodau mewn cymundeb. Rhif cymunwyr Eglwys Wladol Ysgotland yw 648,476; gwelir felly nad yw y gwabaniaeth mewn rhif ond by chan. Yn mhob peth arall bydd yr etawad unedig yn rhagori bellach ar v fam eglwys. Cred gwyr craff mai gwaith y ganrif newydd fydd uno holl Breshyteriaid Ysgotland yn un corff. Nid oes wahaniaeth rhwng yr Eglwys Wladol a'r Eglwys Rydd ond yn unig yn ei hundeb a'r Llywodraeth. Ai un o arwyddion y Milflwyddiant yw y weithred odidog hon ?
I.-----........-::--Ethollad…
I Ethollad Canada. Tranoeth Etholiad Arlywydd America cy- merodd etholiad Llywodraeth Canada le. Etholwyd y Rhyddfrydwyr gyda mwyafrif anrhydeddus am yr ail waith. Nid yn unig collodd y Toria;id, ond collodd tri o'u prif arweinyddion — Syr Charles Tupper, Mr Foster, a Mr Hugh McDonald—eu seddau. Foster, a Mr Hugh McDonald—eu seddau. Yn anffedus, y mae rhyfel Affrig a'r ethol- iad wedi ysgaru y Saeson a'r Ffrancod oddi- wrth eu gilydd. Cyflawnwyd holl waith yr etholiad ar yr un dydd mewn wyth awr o amser. Cauwyd yr holl dafarnau a chafodd holl weithwyr y wlad anferth hamdden i fyned i hleiaobu. Byddai yn werth i Bry- dain gymeryd esiampl oddiwrth ei merch.
Calon yr Ymherodraeth.
Calon yr Ymherodraeth. Y mae hawliau gwerin y deyrnas yn ym- wthio i'r ffrynt. Cyfyd pob etholiad liwy ar drcstan cyhoeddusrwydd. Gwesgir pob aelod o Gynghorau Sir a Chynghorau Trefol i dalu sylw dyfalach iddynt. Cyn etholiad bwrdeisiaid Llundain yr wythnos ddiweddaf traddododd Arglwydd Rosebery araetli rymus ar yr angenrheirwydd diymdroi o ddarparu aneddau newyddion cymhwys ar gyfer gweithwyr tlodion y ddinas. Llun- dain yw caton yr Ymherodraeth. Nid yw rhyfel Affrig yn ddim o'i gymharu a'r rhyfel ddyddiol a gerir yn mlaen ar hyd cydol y blynyddau rhwng bywyd ac angeu yn y Brifddinas. Os dyrchefir frv/erin Llundain, os defnyddir moddion i'w scbri, eu dilladti a'u haneddu yn briodol, ym- leda'r esiampl a'r dylanwad dinvy bob cwr o'r deyrnas.
Marwolaeth Dr Godet.
Marwolaeth Dr Godet. Adwaenid ef gan rai miloedd o ddarllen- wvr Cvmru fel dehonglydd Ysgrythyrol o'r dosbarth blaenaf. Efe oedd "Hen Wr Ardderchog" Switzerland. Hunodd yn ei gartref foreu Llun yn batriarch vvyth a phedwar ugain. Edrychid i fyny ato gan holl Brotestaniaid Ewrop. Cyfieithiwyd amryw o'i lyfrau i'r Saesneg, megis ei Esboniadau ar Luc, loan, Rhufeiniaid, a'r Corinthiaid; Rhagarweiniad i'r Testament Newydd, a dwy gyfrol o'i draethodau Beibl- aidd. Athraw mewn Duwinyddiaeth a Dehongladaeth a Beirniadaeth y Testament Newydd yn Athrofa Neuchatel oedd efe. N odweddid ei holl ysgrifeniadau gan haen o ffydd a phrofiad efengylaidd o'r lledneisiaf —neillduolrwydd nas ceir yn esboniadau y Cyfandir. Bydd y byd cre'fyddol yn wacach oblegyd ei golli, cajiys yr oedd efe yn un o'r ccwri penaf. 0 ran ei olwg ailanol tebygai yn fawr i Dr Lewis Edwards o'r Bala, ac yn debycach fyth i'r diweddar Mr John Hughes, tad y Parch 0. Hughes, Amlwch.
Arglwydd Salisbury ar y Rhyfel…
Arglwydd Salisbury ar y Rhyfel a Swyddfa Rhyfel. Yn ngwledd Arglwydd Faer Llundain nos Wener, Arglwydd Salisbury ydoedd y prif siaradydd, a ohyfeiriodd yn ei araeth at ddigwyddiadau a gymerasant le er pan gwrddasant yn y Guild Hall y flwyddyn ddi- weddaf, gan sylwi fod pethau mawrion wedi eu eyfla-Alili ag1 oedd yn adlewyrchu clod mawr i bobl y wlad hon. Yr oedd y rhyfel wedi mynedl yn ddigon pelli i ddangos nad oedd y genedl Brydeinig wedi colli dim o'i gwroldeb. Bydd i'r hyn a gyf- lawnwyd genym newid ein saile yn marn ein beirniaid ar y Cyfandir. Mae y gwaith o ddanfou rhwng dau a thri chan mil o filwyr mewn ysbaid mor fyr o amser gydag arfog- aeth mor gyflawn chwe miP o filldiroedd yn f rhywbeth rhyfeddol, a gallai ddymchwelyd rhai o'r ymosodiadau a wna.ed ar y Swyddfa Ryfel yn ystod y deuddeg mis diweddaf. Yr oedd ef (Arglwydd Salisbury) yn apelio at y rhai oeddynt yn dueddol i ffurfio barn frysiog oddiwrth yr hyn a ddarllenent yn nghylch y Swyddfa Ryfel i gadw mewn cof nad oeddjufc yn barnu ond un wedd ar bethau. Yr oedd yn hollol iawn i edrych i fewn yn of all us i bob peth a ddywedid; ond dylent gofio fod yn angenrheidiol cael allan yr holl ffeathiau cyn dyfod i farn derfynol. Yr oedd amgylchiadau y flwydd- yn ddiweddaf wedi dadlenu y cydymdeimlad -calonogol a fodola rhwng y trefedigaethau a'r fam wlad. Un o'r pethau mwyaf dymunol ag oedd wedi rhoddi y boddhad dyfnaf iddo ef ydoedd y teimladau da a'r ddealltwriaeth a fodolai rhwng y wlad hon a'r Unol Dal- aethau. Yr oeddynt wedi clywed gyda boddhad mawr am yr hyn a gymerodd le yn y wlad hono yn ddiweddar, ac yr oedd- ynt yn credu fod yr achos a gariodd y dydd yn eiddo gwareiddiad a masnach anrhyd- eddus. Wrth gyfeirio at helyntion China, dywedodd y Prif Weinidog nas gallai siarad gyda rhyddid perffaith ar y pwnc hwn, oblegid eu bod yn perthyn i gynghrair oedd yn gweithredu yn nghyd. Er hyny, yr oedd yn rhaid iddo gyfeirio at y Cytun- deb rhwng Prydain a'r Almaen, oblegid yr oedd hyny wedi dod yn fatter cyhoeddus. Yr oedd yn gytundeb beb feddu rhyw lawer o hynodrwydd, gan ei fod yn cynrychioli teimladau y rhan fwyaf, os nad yr oil, o'r Galluoedd a berthynent i'r Cyngrhair. Ond yr cedd yn gosod i lawr y ddau bwynt pwysig yma—ein bod ni yn dymuno dal i fyny derChina, a'r hyn a elwir yn gadw "drws agored." Yr oedd yn fater o fantais arbenig fod y Galluoedd wedi gwneyd clatgania4 yn mhlaid yr egwydd- orion hanfodol yma. Os y gellid cyrhaedd y ddau fater hyny, nid oedd ef yn ystyried y dylai y cwestiwn Chineaidd roddi llawer o bryder iddynt. Nid oedd ganddynt ddim i'w wneyd ond gwylio a chynorthwyo y dull drwy yr hwn y bydd yn rhaid i China ddychwelvd i lywodraeth a fydd yn ffafriol i'w llwyddiant, ao angliefnogi unrhyw dueddi.itl i ddefnyddio yr adeg bresenol i ddarnio a rhanu y wlad, na, cheisio ym- gymer\'d a'i llywodraethu JTI lie gndael hyny i'r Chineaid eu hunain. Wrth gyfeir- io yn ddiweddaf at y gobeithion a eynwy.«a Cynhadledd Hague dywedai y Prif Weinid- og nas galleret fod yn sicr na byddai i un- rhvw Lywodraeth, yr hon a nlkii fod o du- eddiadau ht-cldvrbol roddi i fewn i alluoedd do-sbarthiadau Ilai goleuedig ac addvsecl. Y canlyniad oedd fod yn rhaid i ni fod ar ein gwyliadwriaeth, pa mor feichas a thra- fferthus a fyddiai bviiy, xm beth amser i ddod a gwneyd pob pp.th sydoi yn ddichonndwy j ddarparu ar gyfer unrhyw ymosodiad ar yr Tieddwch y mae ein llwyddiant yn di- bynu.
[No title]
| Y Croen ar dan! Y croen ar dan! gydag arteithiau anurddol yr excemas, a phob math o gosfeydd, a chroen cramenog a phlo- rynod, a phen toredig, y rhai a esmwytheir yn uniongyrchol gan faddon cynes gyda Sebon Cuticura (enaint), y croen adferydd enwog, a dogn llawn o Cuticura Resolvent, y gwaed burydd goreu, pan y bydd pobpeth arall wedi ffaelu. I'r rhai svdd wedi diodd- ef yn hir ac anobeithiol, ac wedi colli pob ymddiriedaeth mewn meddygon a physic, mae meddyginiaethau Cuticiira yn apelio atynt gyda hyder mawr. Maent yn wir- ioneddol y pethau goreu at y croen, y gwaed a phobpeth sydd yn tori allan trwy y croen. Maent hefyd yn rhwystro i'r gwallt syrthio, a yn mhen ychydig amser ceir toraeth o wallt trwy ei ddefnyddio. Prisiau y set, Gs sebon, Is; Ointment, 2s 6c; Resolvent, i' 6c, gan bob fferyllydd; neu wedi talu y cludiad oddiwrth F. Newbury and Sons, London, B.C.
..-------,,-----------..---------j…
Y Gwrthryfel yn Columbia. j MEDDIANU AGERLONG BRYDEINIG. Dywed hysbysrwydd a gyrhaeddodd i Ef- rog Newydd, ddydd Llun, o Panama, drwy Ringston, Jamaica, fod Llywodraeth Colum- bia wedi meddianu yr agerlong Brydeinig "Taboaa," a gosod IUD o lxlwyr ar y bwrdd, a'u hanfon i Buena-Ventina. Y mae y Traf- noddwr Prydeinig, ychwanegir, wedi anfon gair gyda'r pellebyr tanforawl at yr Ysgrif- enydd Cartrefol am long ryfel. Dywedir fod pryder mawr yn nghylch .sefyliia pethau, yn Panama; ac y mae cyfraith rhyfel yn cael ei rhoi mewn grym yn fanwl.
lw,. st"io mewn lie Cyhoeddus.…
lw,. st"io mewn lie Cyhoeddus. i Dydd Gwener gwrandawodd Arglwydd Brif Farnwr ar Baruwr Kennedy apel oddiwrth odyfarnlad ynadon yn NorthumberUuid, y rhai a -Idedfrydasant ddyn o'r enw Hickey am dori man-ddeddfau, y rhai had oeddynt yn caniatau i unrhyw berson arfer He cy- hoeddus i'r pwrpas o wystlo, neu buasai yn cael ei ddirwyo i 5p. Ar ran yr apelydd, dywedodd y cyfreithiwr ei fod yn cael ei addef, os oedd y man-ddeddfau yn rhai cywir, yr oedd yr apelydd yn ei le; a, syl- wodd nad oedd hyny i'w gael mewn achos o'r sir, am fod yr amgylchiadau yn wahanol i rai y fwrdeisdref. Rhcddodd y llys ddy- farniad i'w gadarnhau.
Beislcl fel C}mhorth 1 Drosedd.
Beislcl fel C}mhorth 1 Drosedd. Aeth dynes ieuano, yr hon oedd ganddi feisicl, i mewn i siop cigydd yn King's Lang- ley, Herts, a gofynodd am ddarn o gig, gan ddweyd mai ei eisieu i un o'r trigolion oedd ami. Yna aeth i siop chwegnwyddau, a chafodd amryw o nwyddau yno ar yr un ym- honiad. Tra yr oedd yno gwnaeth y oig- ydd ymholiad, yr hyn a brofodd mai an- wireddus ydoedd chwedl y ddynes. Aeth tor unwaith at y chwegnwyddwr, ond yr oedd ) ddynes yn rhy gyflym iddo. Erbyn iddo gyrhaedd yno yr oedd y ladrones yn gyru ymaith yn wyllt ar ei beisicl, ac er iddo ef a'r chwegnwyddwr wneyd yr hyn a allent er ei dal, ofer fu yr ymgais.
.., I" Dvchrvn y Tlotty. ps
Dvchrvn y Tlotty. ps "Y mae'n ddychryn yn y ty. Nid ufudd- h ha i orohymynion, ond gwna yr hyn a ew- yllysia ei hunan, a. chymer fantais arnom oherwydd ei fod yn glioff." Dyna'r cymer- iad a rcddwyd gan swyddog Tloty Gwrec- sam a erbyn un o'r deiliaid o'r enw Wm. Parry, yr hwn a adawodd y lie gyda dillad perthynol i'r gwarcheidwaid. Dywedodd y swyddog ddarfod i'r cyhuddedig ddianc ar yr 21ain o Ebrill, ac nas gwelsant ef hyd nes y dychwelodd nos Sadwrn diweddaf.— Ynad: A ydyw mewn llawn feddiant 01 synwyrau ? Swyddog Ydyw, syr, ac y mae'n ddychryn i'r lie. Yr oedd ei iaith yn waradwyddus. Pan aeth dau heddgeid- wad i'w geisio, lluchiodd ei faglau atynt. —Dywedodd yr Is-Brif Gwnstabl Jones fod Y cyhuddedig yh gymeriad ofnadwy, ac na ddylid ei adael yn rhydd. Nid oes fawr o amser er pan fu agos a lladd dyn gyda'i faglau yn y Rhyl.—Anfonwyd y cyhuddedig i garchar am fis, gyda llafur caled, a chyda'r anhawsder mwyaf y cymerwyd ef o'r llys.
Olmdd Mr Moody.
Olmdd Mr Moody. Y mae ofynydd i'r Parch D. L. Moody yn ei eglwys yn Northfield, Massachusetts, yr America, wedi ei gael yn y Parch G. Camp- bell Morgan, o eglwys Anibynol New Court, Llundain. Darllenwyd llythyr yn hysbysu ymddiswyddiad Mr Campbell Morgan, yr hyn a gymer le mis Chwefror nesaf, yn yr eglwys nos Sal. Meddai Mr Morgan yn ei lythvr :—"Yr wyf wedi dyfod i'r pender- fyniad fod yr alwad a gefais o Northfield yn alwad oddiwrth Dduw. Felly yr wyf wedi ei derbyn. Mae fy ngwaith yma wedi bod yn llawenydd mawr i mi, wedi ei wneyd felly gan amynedd diflino y swyddogion a'r aelodau. CVedaf y gallaf ddweud na allasai yr un eglyws arall fy nghymell i ym- adael oddiwrthych, ond y mae pethau yn wahanol ynglyn a'r alwad hon. Yr wyf wedi teimlo o dro i dro fod Duw wedi fy narparu ar gyfer gweinidogaeth mewn eg- lwysi ac nid mewn eglwys neillduol. Yn awr y mae y drws yn agored i mi i'r gwaith. Nid ydyw wedi agor mewn man y tybiais ac y disgwyKais iddo agor yn fy ngwlad fy hun. Gwelaf lawer calon gariadus yn ceisio agor y drws ond nid ydyw yn agored, a byddai aros yn golygu fy mod yn dewis dis- gwyl fy hunan pan y mae arnaf edsiau i Dduw agor i mi." Yn ystod ei lythyr diolchodd Mr Morgan i'w gynulleidfa. am eu cariad "trwy bedair blynedd o brawf," a dywedai ei fod yntau wedi ceisio yn onest i roddi iddynt yr hyn a allai yn ol.
I'r Ddalfa o'r Diwedd.
I'r Ddalfa o'r Diwedd. LLOFRUDDIAETH SAITH' MLYNEDD YN OL. Tybir fod llofrudd, sydd wedi bod yu rhydd am saith mlynedd, a'r hwn a. gyf- lawnodd y llofruddiaeth yn Colchester yr amser yma, yn debygol o gael ei ddwyn i afael Qcyfiawti-der. Yn ystod yr amser yma yr oedd Arthur Blatch, oblegyd dyna enw yr hwn a amheuir fel y llofrudd, wedi llwyddo i ysgoi yr heddgeidwaid. Yn fuan ar ol cyflawniad y trosedd daeth y cudd- swyddogion ar ei ol i wabanol gyfeiriadau yn Llundain. Ond llwyddodd i ddianc, a hwyliodd am America gyda'r heddgeidwaid ar ci warthaf. Ond llwyddodd i ddianc o'u gafaelion unwaith eto. Clywyd am dano yn ddilynol yn Piraeus, Groeg; ao yn awr cyrhaedda y newyddion ei fod wedi cael ei gymeryd i'r ddalfa yn New Zealand. Yr oedd y trosedd1 y cyhuddir Blatch o'i gyf- iawni yn un o'r fath fwyaf erchyll. Yn ages i'r hen gastell Rhufeinig yn Colches- ter yr oedd masnachdy teiliwr yn v flwydd- yn 1893, yr hwn a gedwid gan hen wr o'r enw Welch. Yr oedd yn cael y gair o fod yn ddyn cyfoethog, o dueddiadau hael- frydig ac elusengar, ac yr oedd Blatch wedi mvasauaethu fel porter iddo am ddwy flynedd. Oherwydd ei arferion ofer collodd BlatQh ei le, ac ni welwyd ef mwy yn Colchester hyd y noson y cymerodd y llofruddiaeth le. Pan oedd bachgen bychan yn myned heibio i fasnachdy Mr Welch, nos Wener, Rhagfyr 8fed, 1893, tynwyd ei sylw at oleuni a ddeuai drwy y frenestr, ac wedi edrych drwy y drws canfyddodd fod y lie ar dan. Pan gyrhaeddodd y tan ddiffodd- wyr i'r fan yr oedd y lie bron wedi ei ddin- ystrio, ac yn nghanol yr adfeilion yr oedd gwoddillion llosgedig Mr Welch. Yr oedd yn wybyddus fod yr hen vhr yn feddianol ar swhi mawr o arian yn ei fasnachdy y dydd hwnw, ac yr oedd y dystiolaeth yn y tiengholiad yrr profi ei fod wedi cael ei lofruddio yn y masnachdy, a bod y He wedi cael ei roddi ar dan. Disgynodd amheu- aeth ar unwaith ar Blatch, ac yr oedd ei ffcedigaeth a'i ddull gwastraffus yn ca-darn, hau yr amneuaeth hono. Y mae ei wraig, un brawd a dwy chwaer iddo, yn byw eto yn Colchester, lie y dygir y cyhuddedig i'w osod ar ei brawf ar ei ddyohweliad o New Zealand.
!Cvhaddiad o Wenwvno el Gwr
Cvhaddiad o Wenwvno el Gwr HANESYN RHYFEDD. Rhyddhawyd gwraig o'r e iw Elizabeih Mary Jesson, yn Mrawdlys ijeicester, ddydd Llun, yr hon a gyhuddwyd o lofruddio ei gwr yn Ilston trwy ei wenwyno. Yn fuan wedi iddynt briodi ymadawodd y par oddi- wrth eu gilydd, a dangosai y wraig awydd i ddod yn ol; a dywedai nad cedd raid iddo ofni iddi wneyd dim iddo. Wei iddynt ddod i gytundeb canfyddwyd un noswaith fod y gwr wedi cael ei weuwyno. Yr am- ddiffyniad ydoedd mai gwenwyno ei hun a wnaeth, a dychwelwyd rheithfarn o ddieuog.
"Llais o'r Nefoedd"
"Llais o'r Nefoedd" Adroddir am gyflafan erchyll o La Haie, Ffrainc. Darfu i ddyn o'r enw Tont- enau, yr hwn a cllyngwyd yn rhydd o'r gwallgofdy oddeutu dan fis yn ol, saethu ei dad dair gwaith trwy ei ben, tra yr oedd yr hen wr yn dilyn ei waith mewn cae. Yna oorddodd yn hamddenol i'r ty, a than- iodd bump o ergydion at ei fam, yr hon a glwyfwyd yn y fath fodd fel nad oes obaith am ei hadferiad. Ni wnaeth unrhyw wrth- wynebiad pan gymerwyd ef i'r ddalfa, a dywedodd mai llais o'r nafoedd a ddywed- cdd wrtho ef am lofruddio ei rieni.
jArlandr Dumbelf
Arlandr Dumbelf Cafodd Charles Banks Nelson a John Shimmon, cyfarwyddwr a llywcdraethwr Ariandy Dumbell, Ynys Manaw, eu profi yn euog, ddydd Llun, gyda chymeradwy- aeth i drugaredd, o gam-ddefnyddio arian yr ariandy. Cawsid hwy o'r blaen yn euog o dwyllo hefo'r balance sheets, a chafodd bob un ohonynt ei ddedfrydu i bum' mlyn- edd o benyd-wasanaeth. Cafodd Joseph Drake Rogers, William Aldred, a Harold Vincent Aldred, y rhai hefyd a euogfaru- wyd o'r trosedd olaf, eu dedfrydu i gar- chariad am ddeunaw mis, deuddeng mis, a chwe' mis yr un.
i Talth Dvchrvnllvd ar y Rheil-Iffordd…
Talth Dvchrvnllvd ar y Rheil- ffordd Fel y cyrhaeddai y gerbydres gyflym Ber- lin o Gaercystenyn, nos Fercher, canfydd- wyd dyn dall wedi ei wasgu rhwng ecliel a springs un o'r cerbydau. Yr oedd bron wedi marw gan newyn,syched a blinder, a chan ddued a negro oddiwrth lwch; ond daeth ato ei hun ar ol cymeryd ychydig o ym- borth. Dywedai iddo wthio ei hun i'r lie yr oedd ynddo yn Nghaercystenyn; ac yr oedd wedi bod dair awr ar ddeg ar hugain ar ei daith. Daniad ydoedd o genedl, a gwasan- aethai fel taniwr ar agerlong Brydeinig. Yr I oedd wedi gadael ei long yn Nghaercysten- yn, ac wedi cymeryd y ffordd grybwylledig i gyrhaedd gartref. Fodd bynag, y mae y daith wedi ei wneyd yn hollol ddall.
Y Gwrthrvfel yn Ashanti.
Y Gwrthrvfel yn Ashanti. Mae Eddu Kofi, prif swyddog y Mkwauk, yr hwn a roddodd ei hun i fyny i'r Milwriad Montauro Tachwedd 28, yn dyweyd fod yr Ashantis yn gwrthod ymladd a'r Pry- deinwyr ar ol eu gorchfygiad gan alluoedd y Milwriad Willccck yn Abuasu. Gadaw- odd psdair o golofnau, 200 o gryfder, Bechim, a theitliasant i'r goglcdd, a lleoedd ereill. Dychwelasanb gyda swm mawr o gyflenwadau, Darfu i golofn o dan Cadben Johnstone Stewart, 2ud Central African Rifles, ddin- ystrio a llosgi tref Jimo, a chymerasant feddiant o gant o fagnelau. Mae y Prif swyddog Adana wedi rhoddi ei bun i fyny i Cadben Stewart.
Lvnsio Dvchrvnlivd yn Colarado
Lvnsio Dvchrvnlivd yn Colarado Dydd Gwener rhGJdwyd negro ieuanc, o'r enw Preston Porter, i farwolaeth mewn modd dychrynllyd yn Simon, Colorado, yr America. Cyhuddwyd ef o ymcsod ar eneth fechan, ac yna ei llofruddio. Dal- iwyd ef gan rai o ddynion y lie, y rhai a'i rhwymasant wrth stano, gan drefnu tan- wydd o'i gwmpas. Goleuodd tad yr eneth lofruddiwyd y tan, ac ymgasglodd torf en- fawr i fod yn dysrion o'r olygfa, a chafwyd perffaith drefn a llonyddwch. Yr oedd y ffaith am y weithred yn ddigon gwybyddus. Gwyliai nifer o ohebwyr yr hyn oedd yn myned yn mlaen, gan ysgrifenu hanes y di- gwyddiad i'r newyddiaduron. Hysbysrwydd o Manila a edrydd am ym- ladd caled yn y Philippines, yn mha un y collodd y Filipmos haner cant drwy gael eu lladd, ac y niweidiwyd amryw. Y colled- ion Americanaidd cedd un ar ddeg wedi eu clwyfo. Y mae y Cadben Reny, sydd yn llywyddu y Ilong "Newark," i gael ei ddwyn gerbron court-martial.
-.....-."---' Hela Llwynogud…
Hela Llwynogud yn LluJn Diwrncd a hir gofir genym oedd dydd Mawrth, pan yr ymgasglodd oddeutu cant o wirfoddolwyr er ceisio dal rhai o'r cread- uriaid castiog hyn ag sydd yn ddiweddar wedi peri cryn gollod ac anghysur i drigolioll Cilan. Buwyd yn gwylio "daear- au" y llwjnogod yn ystod oriau y nos,— n ond ni lwyddwyd i weled na denu yr un o honynt o'u lloche-au rhamantus. Wedi i'r wawr dcri) oychwynodd y fyddin ar y "cadgyrch" ag oedd i ryddhau Pen Cilan oddiwrth "orinqs y cadnaw." Cychwynwyd ar y daith yn liyderus ddigon ond er pob ymdreoh o siddo y fintai, yr oedd yn hauer dydd cyn iddynt gael arlliw nac arogl yr un o'r creaduriaid hyn. Yn wyueb yr aflwyddiant hwn, penderfynodd yr "ar- weinwyr" gj-nal "Cyngor Rhyfel" er pen- darfyuu pa givrs pellach i'w gymeryd. Yn y cyfamser a.eth pump o "fechgvn yr Aber" i fwynhau on hunain at "Drwyn y Fulfran." Prin yr oediiis wedi cyrhaodd y llanerch nag y decli-rei-iodd y ci gynhyrfu a thedeg ol a blaeu, ar hyd "sathr" rhyw greadur. Cynhyrfodd hyn ein drwg-dybiaeth fod y llwynog o'r diwedd wedi ei leoli genym. Wedi symud o honom ychydig yn mliellach, gwelem y "gelyn" hir-ddisgwyliedig o fewn 20 llaeth i ni. Taflasom gawod o geryg i'r cyfeirad, ond er hyn i gyd ymddangosai fel pe yn benderfynol o fyned heibio i ni. Gan na. wnai'r ci ymyryd ar ein rhan, liyrdd- iasom "volley" arall o geryg at y cadnaw lluniaidd. Yr oedd hyn yn fwy nag a allai ei fawrhydi oddef; ac bab y petrusder lleiaf, neidiodd dros y dibyn iV dyfnder erch islaw. Wedi y fuddugoliaeth hon ar y llwynog, gwnaethom arwydd ar yr ar- weinwyr a'r fyddin i ddod atom, yr hyn a wnaethant gyda brys mawr. Aeth un o'r bechgyn i lawr wrth raff, a dygedd y llwyn- og druan i fyny mewn cyflwr marwol. Par- hawyd yr ymchwil am ychydig yn mhellach, ond i ddim.pwrpas.
[No title]
Hysbysrwydd o Caracas, dydd Sadwrn, a ddywed fel y canlyn :—Ymwelwyd ag Ynys Caracas foreu heddyw a daeargryn ddycii- rynllyd. Nid ydyw y manyliou wedi eu derbyn etc. ¡
Advertising
1, ENGRAIPHT, | T NID UN AE EI | PHEN II HUN, X OND UN YN MYSG- f MILOEDD 0 ADPEEIADAU, | Mae yr adroddicid canlynol o adferiad Mr- 9 Thomas Philpott, 1 otteriihoe (swydd Bedford) ♦ yn siampU nid am ei tod yn fwy rhyfeddot nag A ydyw miloedd o rai eraill sydd ar ein llyfraw. W tiylwer mai yn ngeiriau y dioddefydd ei hun y X desgrifir yr achos- ■ O FEWN cyraedd y dref Dunstable, yn swydd Bedford, y gorwedd y "Y pentref byclian Totternlioe, mewn cymydogaeth lie mae olion Rliur'- A emig, a hen chwarelau cerryg, sydd yn rhedeg am filldiroedd o- dan y W dciaeai, ixyd yn oed, meddir, o dan Dunstable ei hun, Denir lluaws o ymwelwyr i'r lie i weled yr hen arwyddion dyddorol hyn o'r gorph- A enol, ac arweinir hwynt trwy y gwfeithiau tandclaearoi gan arweinwvr profedig a deallus. f A MR. THOMAS PHILPOTT. {From a photograph.) Yfhwelodd gohebydd y Dunstable Gazette ag un o'r arweinwyr w hyn yn ddiweddar, Mr. Thomas Philpott, yr hwn oedd yn ei gartref cysurus wrth droed Totternhoe Castle Hill. Buasai yn well i illr. Thomas Philpott fod heb wario cymaint o'i amser yn y gweithyddl MM peryglus a gwlyb hyn, gan iddo, yn mheti blviiyddoedd,-niae ef yn X awr yn dri-ugain oed-gael ymosodiad o'r Sciatica a Crydcymalau, y a hyny bron a diweddu yn angeuol. Aethum yn wael tua dwy flynedd yn ol gyda'r Scaticia a. Chrydcymalau," dywedai. Bu meddyg yn gweinyddu arnaf am tua deuddeng mis, ond o'r di- X wedd rhoddais bob gobaith i fyny ain adferiad. Yn gyntaf collais ddefnydd fy ughoesau, yna fy mi'eichiau, yna cymerodd poenau mawr n fi yn fy ngwddf a fy nghefn, ac aethym mor wan a gwael fel y cymerai W 1 Ddau o DcSynion fy Nghodi o ac i fy NgweØy X Mis gallwn hyd yn oed godi'r un aelodl i helpu fy hun gyda'r peth ,y Mae hyna yn hollol wir," meddai Mrs. Philpott, ei briod garedig Dywedai pawb nad oedd bosibl iddo fyw yn hir, ac nid oedd genyf finau fawr o obaith. Yr oedd yn rhaid i ni ei fwydo a llefrith a bwyd JL gwan. Ni chymerodd fymryn o fwyd sylweddol er's naw mis." Aeth Mr. Philpott ymlaen Nid wyf yn meddwl y buaswn yma yn awr, meddai, ond darllcnais yn y papyrau am lawer o bobl yn di- jl oddef fel fy hun wedi eu HIACHAU GAN 9 DR WILLIAMS' PINK PILLS f FOR PALE PEOPLE. i a dechreuais eu cymeryd. Ar ol i mi gymeryd y pelenau am ddau fis, yr oeddwn yn alluog i gymeryd mwy o faeth a bwydydd priodol, ond y peth rhyfeddaf adeimlais oedd gwasanaeth fy aelodau yn dechreu dod yn ol yn raddol i mi. Parheais i gymeryd y pelenau, a. gallaf ddweyd yn awr eu bod wedi fy 11 wyr wella; w Yrwyf wedi bod yn gweithio drwy'r haf yn nghynhauaf y gwenith a thoi teisi. Dywed pobl y pentref fod fy adferiad yn un o'r pethau flp rhyfeddaf a glywsajit am dano erioed. Yr oeddynt yn rhyfeddu pan Y welsent fi allan un diwrnod yn hollol iach. Son am fod unwaith yn ddyn a dwywaith yn blentyn Yr wyf fi wedi bod ddwywaith yn blen- tyn, ond yr wyf yn awr yn ddyn am yr ai^ waith. Ac yr wyf yn ddy- ledus am fy adferiad yn unig i Dr. "Williams' Pink Pills." Y pwysigrwydd i'r Darfloinydd. mm Bydd i anwyd a gwlybaniaeth, neu sefyllfa gyffredinol y gauaf, achosi y gwaed fyned yn deneu ac amhur; yna bydd i grydcymalau ymosod ar y cyfansoddiad gwanaidd. Yn unig trwy buro ac adciladu y gwaed y gcllir rhwystro yr afiechyd; a, thrwy weithredu felly mae Dr. Wil- liams' Pink Pills wedi iachau miloedd o achosion o Grydcyirtalau a X Sciatica., neu y Glunwst. Maent hefyd yn feddyginiaeth at Waed ran Gwan, Ecsema, ac afiechydon yn codi oddiar waed drwg ac amhur, a Y tlirwy eu bod yn ddigyffslyb fel tonic i'r nerfau, osgoir allechyclon b arswydus fel St. Vitus' Dance, Parlys, a Locomotor Ataxy. '1 Mae yr unig Belenau gwirioneddol mewn amlen o bapyr pine, gydag arg-aph ooch, a'r enw yn llawn, mewn t-aith gair, Dr. Williams' Pink Pills for Pile People," Oddimewn i'r am'en sydd am y blwch pren ceir cyfarwyddiadau Dr Williams i'w cymeryd. Mae y blwch yn intsur tua dwy fodfedd o hyd, a lxiaint dimai o am- y gylchedd. Dyma yr unig ffordd y gwneir i fyny pelenau hyn. Gwrthodwch bob un arall, ac os byddweh yn amheu, anfonweh yn syth at Dr Williams' Medicine Ccm- 8H pany, Holborn Viaduct, London, E.C., gan amgau y pris, 2e 9e am un blwch a 13s y 9c am chwe blwch. COFIWGH OEIN AM • | DE. WILLIAMS' | -r Argraphwyd i Gwmni'r Wasg Geuedlaottol. Gymreig, Cyf gan Thomas Jones., A chyhoeddwyd ganddo ef yn Swyddfa't "Genedl," New Hashout, Caernarfoa. I