Skip to main content
Hide Articles List

20 articles on this Page

Advertising

[No title]

Myfyrwyr fel Dyngarwyr.

OLD FALSHJ TEETH BOTIGHT.

JACK Y LLONGWR. --

News
Cite
Share

JACK Y LLONGWR. Y Gwir a ddeil, y gan a balla. Dichon i tireworKs yn y nos guddio y ser o ran ysplander am ychydig o amser, end bydd gogoniant y ser yn bod wedi i'r lire- works ddarfod. Gall dynion pe„chadurus ddisgleirio yn tfurfafen bywyd, mor fawr nes bron wneyd ir byd gredu mai pechadurusrwydd yw y goreu. Ond daw angeu, a derfydd am ogcn- iant yr annuwiolion. Gwell yw bed yn byw mewn dinodedd, gan feddu rhinwedd calon a chymeriad, na byw mewn ardderchowg- rwydd bydol a'r galon yn eondemnio a'r gydwybod yn ymrwyfo. Diwedda dydd yr oiaf mewn tywyllwch tragwyddol, tra y ch- « edda nos dinodedd y blaenaf mewn goleuni tragwyddol. Er mwyn hunan-les fe goir dynion i wadu y gwir, i ddweyd anwiredd, i dwyllo mewn gair a gweithred, i broffesu duwioldeb, i bre- gethu yr efengyl, ac i gymeryd rhan yn mhob symudiad daionus. Nid proSes dyn sydd yn trawsffurfio cy- meriad dyn, ond argyhoeddiad. Nid oes yr un o'r prif enwadau nad ydyw wedi bod yn erlid y lleill mewn rhyw ffurf neu gilydd. Nid ydwyf fi yn Babydd, ond nH fyddaf fi yn cymeryd barn Protestant am Babydd- iaeth, na barn Pabydd am iirotestaniaeth. Byddaf yn darllen y ddwy ochr, ac yn barnu droswyf fy hun wedyn. Y maev y Pabydd- ion wedi merthyru llawer c Brotestaniaid, a chawn yr hanes gan Fox. ond, gan wired a hyny, y mae y Protestaniaid heiyd wedi merthyru canoedd o Babyddion. Nid Pro- testaniaid yn unig sydd wedi marw dros eu crefvdd. Y ffurf-weddiau yn myned yn hollol ddiystyr trwy eu mynych ddefnyddio. Waeth pa gyfarfod gweddi a gynhelir mewn rha,i eglwysi,-—rhaii i weddio, dros y gwaith cenadol, neu dros ddirwest, neu ,i ddiolch am y cynhauaf, yr un gweddiau fydd gan rai gweddiwyr o, hyd. Ceir dynion yn ymwthio i swyddi yn y plwyfi, yn y capeji a manau eraill i ddim ond er mwyn meddu dylanwad i droi dwfr masnach i'w melinau hwynt hwy eu hunain. Os ydych wedi bod yn gynorthwy i ddyn fyned yn mlaen mewn. bywyd, ac os ydyw y dyn hwnw heddyw mewn safle dda ond wedi ech hanwybyddu chwi,' na ddigalonwch mewn gwneyd daioni, ca'r dyn anniolchgar hwnw ei adgofio ryw dro, gan Ragluniaeth y Nef, o'i ymddygiad hyn, gwarthus ac ang- hristionogol. Gwyn fyd v dyn a all wneyd daioni heb ddisgwyl am dal, ac heb ddigio pan wel y sawl a dderbyniodd gynorthwy ganddo yn ei anghofio a'i anwybyddu. Mae v gwahanol enwadau fel gogr megys ag na cha dim. fyned drwy OUT ond a fyddo yn ddigon man, felly am yr op- enwadol, ni cha gwirioneddau mawrion fyned drwodd os na fyddont wedi eu ma!u vn fan iawn, iawn. Os na ellir malu gwirionedd vn ddigon man i'w alluogi i fyned drwy y fogr, teflir ef o'r neilldu. Taflwyd yr athraw- iaeth o gvfiawnhad trwy Ffydd o ogr yr v><z- lwys am genedlaethau lawer. Darganfvdd- wvd vr athrawiaeth gan Luther, a thafledd ef hi yn ol i'r gogr. CEFFYLAU 'BUS A THREN ANIFEIL- IAID. Aeth y 'bus at y tren fel arferol ncs Füwrth ac arcswyd yn y stashion hyd nes y deuai y tren i mewn. Yn lie y tren ar- ferol, llawn o deithiwrs, daeth tren llawn o wartheg i mewn. Y foment hono nid oedd neb°yn gofalu am y 'bus. Wedi i dren yr anifeiliaid crphen g'neyd twrw ae i'r porters orphen rhedeg yma ac acw, dyma'r orsaf yn ddistaw am ycnydig. Gyda. hyny dyma. geJfylauy .'bus yn cychwyn adra yn hamddenof, heb na dreifar na chonduc- tor ac yr oeddynt hanar y ffoTdd i'r dref pan ddeallwyd eu colli o iard y stashion. Y farn gyffredin am ymddygiad y ceffylau yw iddyn' hw wel ad nad oedd neb ond anifeil- iaid yn y tren; nad oedd yn debyg fed yr un o'r anifeiliaid hyny yn debyg o isio cael ei gario i'r dref; a'u bod nhw yn barnu mai mVll'cl adra yn 01 eu harfer ydoedd y gora iddyn' hw ar ol i'r tren dd'od i mewn. DAU HORSE POWER. Beth bynag am reliwe Nefyn, y mae moddion teithiol o Laniestyn i Bwllheli ac yn ol wedi imprwfio yn arw iawn. Yn lie un. horse power, y mae R. W. wed cael dau horse power yrwan. Cawd hyn oil heb nag Act, of Parliament na. phenderfyniad Cynghor Dosbarth neu Gynghor Plwyf. BE'DI'R GOAT. TYBED? Mae rhyw ferch ifamc yn Lleyn wedi ym- ddangos mewn rhyw goat ryfadd iawn, a welsoch'i 'rioed y fath gynhwrf sy' wedi cael ei achosi yn myd y merchad mewn can- lyniad. Nid syndod sy' fod gan. y ferch goat, ond y cwestiwn ag sy'n llwyr ben- droni y merchad penffol yma ydi, o ba stwff y mae y goat wedi cael ei gwneyd? Myn rhai mai silc melfat ydi hi, ereill mai seelskin, a'r lleill mai fflush neu groen twrch daear. Pe gallai y mprchad bender- fynu o ba beth y g'nawd y goat, byddai y ewpstiwn, "I ba beth y gwisgir y goat?" heljl ei atab wedyn. Bydd rhai o'r merchad busibodi hyn yn ceisio dweyd mai yO drechu enill ei hen gariad yn ol y bydd y ferch ifanc pan yn gwisgo y goat ryfadd bOD. RHODDI PRESANT YN BRESANT. Yn ddiweddar cafodd bachgan "o'r dre" yn Lleyn hancadsi bocad yn bresant gan gyfaill, a'r noson :;o'r blaen, pan yn nghwmni ei fun, rhoddodd yr hanca Is brer bocad yn- bresant iddi hi. Y FOLANTIARS YN FLEETWOOD. Hawdd fasai gen'i sgfnu, colofn neu ddwy o hanas y Folantiars yn Fleetwood, oddi- wrth y defnyddia' ey' wedi cyrhaedd y smac yma. Ond clywais fod Sergeant C. G. O. Roberts, Fleetwood (rhaid mai o Fleetwood neu o rywle arall y mae o yn dwad, achos 'does yr un Sergeant o'r enw hwnw yn Mhwlllieli na Phorthmadog na Chnarfon na Llanberis na Chonwy na Fflint) am draddodi darlith ddyddurol ar "Y Folantiars yn Fleetwood," yn Mhwll- heli yn fuan. BETHESDA. Gwelaf fod Mr Wm. Jones, cll'dd. yn parhau yn ddiwyd a ffyddlawn i weithio hefo'r plant. Mae ganddo to rhyw allu rhyfadd i ddysgu plant. Oherwydd yv asbri sydd ynddo, rhydd fywyd yn mhob- peth o'i gwmpas. Mae yn parotoi y plant gogvfer a'r cyiigherdd a gynhelir i blant yr ysgol. er mwyn iddyn' hw gael gwledd de ardderchog. Gallwn ddyweyd llawar iawn eto am dano, ond terfynaf trwy ddaLgan fy marn fod ei ysbryd hunan-ymwadol yn siampl i lawar ohonom ni ar dir ac ar for. Dichon i ddyn wneyd daioni heb ddim hunan-aberth. Ond y dyn a wna ddaioni trwy hunan-aberthu, hwnw sy'n troi allan y gwaith gora a mwya' gwerthfa.wr. Rhaid i mi gael dweyd hyn, fod gweithgarwch Wm. Jones yn cyrhaedd hyd at y tlawd a'r angenus. Gresvn na welid mwy o'i sort yt). yr ardal. Y mae eu mawr eisieu yn siwr i ch'i. Gelwir fi mewn rhai oylchoedd vma "Yr hen ddiwygiwr penigamp," "Yr hen ddi- wygiwr bydenwog," "Yr ben ddiwygiwr anwyl," &c. Da gen'i glywad fod fy ysgrif ar IIoydi George wedi rhoddi cymaint o fwynhad yn yr ardal. Mae yn y ffordd hon lawar o bobol-mwy o lawar nag a dybir yn gyffredin—yn gefnogol iawn s Lloyd George.

METHUEN YN YMOSOD AR SNYMAN.

DELAREY YN YMQSOD AR PLUMER.

TAITH FRENCH. --

CHINA.

HAWL UN 0 DDINASWYR TIENTSIN.

RH A GOCHELI AD AU íR HYDREF.

0 BEN Y TWR.I

Advertising

---,--.-----HELYNT CHWAREL…

Araith Arglwydd Salisbury.

[No title]

FFAITH GWERTH EI GWYBOD.

---.----.-BRWYDRO AM BEDAIR…

TORI DRWY LINELLAU R BOERIAID.

--------. YMOSOD AR NAWDP-OSGORDD.