Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

28 articles on this Page

Advertising

JACK Y LLONGWB -'

News
Cite
Share

JACK Y LLONGWB FFEIT AM YR ENETHIG. Mae llawer o hogia' a genod yn y wlad yn hoffi diwedd cyfarfod diolchgarwch yn hytraeh na'i ddtechreu ac na'i ganol o. Ao mi ddeyda' i oh'i pa'm. Bydd yr hogia' a'r genod wedi g'neyd trefniada' i gyfar- fod a'u gilydd ar ol y cyfarfod yn yr hwyr; eo mewn llawar ardal 'does dim gwell lie i gyfarfod na mewn capal. Tydw'i ddim yn beyd fod hyny yn iawn. Deyd y ffaith ydw'i. Peth fel hyn ddigwyddodd tua ym ddiweddar. Wedi i lodes, mor- wynig antaethyddol, ddwad i'r heol, dyma faehgen o O—-— H- yn cerdded yn ym- eihwilgar ar ei hoi yn y tywyllwch. Yn anffodus iddo fo mi 'roedd tugboat arall wedi cymeryd y slwp mewn to. Gweled- igaeth. gas iawn oedd hyn iddo fo. Y fo aedd i fed yn mraich y ferch ao nid arall. Doedd dim i 'neyd ond bod ar lwo owt reit dda, ao os y gwejid fod y lodes adrifft, yna gwneyd am dani hi. Ond yr oedd y llanc arall wedi leicio y fun gymaint fel JIa. fynai ollwng ei afael ynddi hi. Beth oedd arwr 0- H- i 'navd mewn am- gylchiad fel hyn? Ymwrolodd, a chauodd ei Hdyrnau nes roeddan Tiw gan galetad a thraed ceffyl. Daeth i wyneb y baehgan oedd yn mwynhau cwmni y fenyw dlos, a rhoddodd "notis tw cwit" iddo hefo 'i ddwrn, a dyma ffeit. Ond llwyddodd y dyrnwr i enill y gariadferch, ac ymaith ag a hefo hi fel concrin hero, i gyfeiriad Naut- gwynant. NANTGWYNANT. Mae yma ddirprwyaeth bwysig wedi bod yn gofyn i mi pryd y bydd yn gyfleus i mi yraweled a Nantgwynant eto. Taer er- fynlant am i mi ro'i tao i fyny y Nant ua- waith eto. Gofynais beth oedd eu rhes- wm ? "O," meddemt hwythau, "mae'r merchad wedi myn'd yn rhemp. Chlyw- soch'i 'rioed y fath straeon a ddywedir gynyn 'hw. 'Does dim gwahaniaeth rhwng y rhai a honant fod yn respectable a'r rhai sf fel arall." Addewais fyn'd y ffordd liono. Pan wneuthum hyn, dywedodd un o'r ddirprwy- aeth, "Cofiweh., edra& o'cH cwmpas yn Gwynant street, Beddgefert, i chwi gael sgwint ar v "biwtis fydd yn ornamentio penau drysau eu tai trwy sefyll yno. Mae'l!. hw' vn werth eu gwelad. Biwtis ydi'r rhai hyn ag sv' mor selog dros sefyll yn mhpn^'i eu tai fel yr aberthant hwy waith eu tai er ei fwyn." TIRIOGAETHAXT SARN, LLEYN. Tro nesaf y byddaf yn y tiriogaethau hyn-bydd hyny rhag blaen-bydd gen'i ychwaneg o gwds yn barod. Tro gwael wnaeth y ferch ifanc hono trwy fyn'd gyda'r wraig weddw hono ar cantorion i nol swpar noson y consart, yn lie myn'd adra gyda'i hoff lane fel yr addawsai. Gresyn na fuasai hi wedi cofio am y cam- dreuliad fu ar yr offeryn ar ol y te o'r blaen, yn mha un yr oedd hi yn gwasanaethu. TRWY BENTREUCHAF A'R CYLCH. Mae eyfranu swllt a. dwy neu swllt a thair at gasgliad yn dangos gallu a pharod- rwydd rhai pobol. Yn amal iawn y bocs oasglu fydd yn dangos faint o bris y mae rhai pobol yn roddi ar grefydd a Rhaglun- iaeth. Mi fuasai yn rhyfadd gan ami i hen lane ag sy'n peidio myn'd i ddiolch am y cynhauaf pe gwelsai fod ei gwpbwrdd yn wag o herwydd na ddarfu y ddaear roddi allan fti ffrwyth. Buari y rhoddasai efe bses yn y oasgliad os y b'asa' hyny yn llenwi y cwpflbwrdd. Mi gododd rhyw gyfaill rwbath hir, hyll iawn, ar ffordd G- R-. Erbyn ei archwilio- gwelwyd mai lot o hen straeon hyilion oedd wedi glynu yn eu gilydd,— straeon a wneir gan rhyw ddosbarth o bobol a fyddant yn hel hyd y ffordd. Mae boy y brws wedi gadael yr ardal, ac mae ei hen gariad yn chwilio am frws arall-am ddyn axull-in ei Ie fo. Hwyrach y oa. hi un tua Phentymhor. Oraglir defnyddia'r cor at eu gilydd- y Bosweithiau yma., i'r dyben o roddi cweir i gor Bodfean, meddan' hw. „ EBEN EZER ETC. 'Rwy'n dechra cael plesar ar ddwad y ffordd yma. Gobeithio na fydd neb vn frwnt wrtha'i yr un fath ag y buwyd wrth rywun tua B Er na fydda-'i fy hun byth bron yn son am ferched, dyna a wna llawar iawn o bobol pan ddon 'hw i'r smac yma hefo'i gwds, neu pan y byddaf fi mewn §rda/l fel hon. Soniwyd wrtha'i am lane Q-dd! wedi penderfynu cadw dydd diolchgarwch trwy fyn'd hefo'i gariad ben- thyg i Fanchester. 'Roedd swyn ei galon o i ddwad i'w gyfarfod a yn stashion Cnar- fon; ond pan gyrbaeddodd o yno 'doedd ei gwyneb clws hi ddim i'w welad yn unman. Aeth ei wyneb o yn hyll iawn mewn can- lyniad: "gwnaeth wyneb," fel bydd y merchad yn deyd. Am fomant neu fwy metha-i a deall beth i neyd ond o'r diwefld yn mlaen yr aeth i gadw dydd diolchgar- wch yn Manchester, er nad oedd ganddo fo ond stoc fechan iawn o Saesneg. 'Doep gen i ddim mymryn o gydymdeimlad a'r cono, aohes gadawodd lodes a honai ei charu adra, a cheiisiodd gael cariad artiffisial am y diwr- nod. Mi gafodd o artiffisial! Do, do! 'Does dim posib addoli dwy arglwyddes mwy nag oee modd addoli dau arglwydd. 'Roedd y fanodd ar un brawd yn ofnatsan iawn. Treiodd bowltris poeth ar ei geg a jo baco yn ei glust, a llawar o gynghorion cartrefol felly, ond "no go." Drwg oedd v fanodd o hyd. Aeth am dro hefo'i gariad, ac wrth basio y ty tybiai fod pawb wedi myn'd i'w gwelyau,ond, eT ei syndod, dvma'r drws yn agor a llais yn gwai-ddi, "Fendith y far odd byth arnat ti fel hyn. Ffwrdd a chi Tmaith!" Coilodd v bachgen ei crnriad y noson hono collodd hefyd ei fanodd! Fe gafodd y bachgan ifanc hwnw fargan nan yn prvnn vr nif^orelo lnniw. Gohpitb- io v gwna ddaioni iddo pan yn ymwWed ati v .1. 'r.1 a aittar -n ¡ tywTQO. ( RHANBARTH CAEATHRAW. Mae y ffasiwn o wisgo spectols wedi dwad y ffordd yma. Ond er fod rhai o'r biwtis yn gwisgo spectols, mae nhw yn methu a gwelad rhai pobol wedi'r cwbwl. Hwyrach y bvddai yn well iddyn nhw gael benthyg spying glass y smac yma. Gwelir pob peth drwv hwnw. Mi 'rydVi am ddeyd yn rhai o'r trefydd mawr yna, He y cynhelir basars ac y deydir ffortiwn, fod yn y ffordd hyn ferchad hydd- ysg yn y job o ddweyd ffortiwn, trwy ddar- llan y seins a wna dail te. yn ngwaelod cwpan de. Hwyrach y gna ddaioni i'r merchad ac i'r gymydogaeth hefyd, trwy ddeyd am dau y merchad yma, a chael ymwared a nhw. SHOU ANIFETTJAJD NEWYDD YN I LLEYN. Tybiwyd yn siwr fod shou anifeiliaid gwylltion wedi dwad i Leyn y diwrnod o'r blaen. Gwelwyd anifeiliaid, hefo cyrn fel brigau coed ar eu penau, mewn gorsaf. Gofalwyd am danynt gem S-- C-, yr hwn a wnai i'r anifeiliaid fyn'd drwy eu perfformans (•esglid y pres gan ddyn ag oedd unwaith yn musnes yr ieir. Ni throdd yr antur- iaeth allan yn rhyw Klondeicaidd iawn. CYLCHOEDD NEFYN. Clywyd stori am ddyn unwaith ag oedd am fyn'd am dTO ar gefn mul gan belled a .ioegr. Ni wyddai y ffordd, ac aeth i holi yma ac acw am gyfarwyddyd. Yr unig le y gallodd o gael gwybcdaeth ydoedd yn y Ddinas lie trigai Moses, yr hwn a roddodd iddo bob hysbysrwydd. SPOILIO'R CYFLATH. Mewn lie heb fod rhyw lawer- o bellder o Fynydd Nefyn, aeth criw o fechgyn un noson i neycl cyflath. Wedi i'r cyflath ferwi digon awd i ddechreu ei dynu trwy'r dwylaw. Syl- wyd fod un gwryw yn poeri ar ei ddwylaw wrth drin y cyflath, a daeth pwys gloesi ar bawb o'r lleill wrth feddwl bwyta cyflath 1. ag oedd wedi ei, gymysgu a phoerion. Y can!yniad fu i'r poerwr gael y cwbl o'r cyflath.

Gorlenwl Tat yn Llnndain

Hnnanladdiad Penderfynol

[No title]

Hunanladdiad Glowr. -I

iRHAGOCHELIADAIJ YR HYDREF.

Y Fasnach Lo., -

Chamberlain yn Gwadu.

AT Y GOLYGYDD. -

[No title]

Advertising

Undeb y Merched Gwelthlol.

Bwrdd Gwarcbeidwald Traffvnon

Cymervd Spidto I'r Ddalfa.…

Advertising

Rhoddwr Haelionas.

IHen Droseddwr.

Tv-dorwyr yn cael en Dal.

TeitI Newydd I'r Frenhlnes.|

[No title]

MlIwr yn Lladrata oriawr.

!.Heddyglnlaeth Newvdd.

I Ystorm e Fellt yn Hgholwvn…

IY Gallnoedi a'r Boertaifr.

1 Arglwrdd Rosebery a Syr…

- Dvcbwellad y Cadfridogion.

Imladdfa Rhwng Dwy Ddvnes.