Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
JACK Y LLONGWB
JACK Y LLONGWB GO—GO—GO—GOGONIANT. Hip, hip, hip hwre! Hip, hip, hip hwre! Hip, hip, hip hwre! Mae Lloyd George i mewn! GO—GO—GO—GOGONIANT. Mae Toriaeth. a'i chynffonau ffiaidd, dy- lanwad anwladgarol tirfeddianwyr sir Gaernairfon, oelwyddauj, anwireddau, en- llibiadau, blackin Toriaidd, sebon meddal y dau-wynebog, ac egwyddorion gelynion ein gwlad, ein cenedl a'n hiaith, dan draed! Hip, hip, hip hwre! Hip, hip, hip hwre! Hip, hip, hip hwre! Mae Lloyd George wedi concro! Go—Go—Gogoniant! Mae Lloyd George wedi trechu Barleycorn Mones, ei glochydd; holl urddas sgorn- Ilyd diogwyr cymdeithasol; holl allu mawr- ion y tir a'a canoedd cynffonau; holl offeiriadon a chiwradiaid Eglwys Loegr yn Nghymru; holl slwts gwleidyddol y bwr- deisdrefi; yr holl ddynion chwilenaidd hyny a garant un rhinwedd tra yn mathru dan draed naw o rinweddau ereill, a holl ddylanwad gelynion rhyddid Cymru lan! Lloyd George am byth bythoedd! Bachgan bychan oedd Lloyd George pan ddaeth allan i ddechreu ei yrfa Seneddol, a chafodd fwyafrif bychan. Yn mhen ychydig o amsar yr oedd wedi prifio tipyn, a chafodd fwy o fwyafrif; pan ddaeth rhyw dair blynedd wedyn, cynyddodd ychwaneg, a dyma fo fwy o'i ochor, a dydd Sadwrn diweddaf, Gogoniant! dyma fo fwy o fwyafrif nag erioed! Yr oedd y bendefigaeth yn ei erbyn; yr oedd mwyafrif mawr yr etholwyr yn ei er- byn am nsoedd lawar, oherwydd ei onest- rwydd yn nglyn a'r rhyfal. Ond yr oedd ganddo, fel Gideon gynt, ychydig o filwyr o'i du. Dydd datgorphoriad y Senedd, cy- hoeddwyd rhyfel rhwng egwyddorion ty- wallt gwaed ac egwyddorion heddwc4. Ar- weinia y Cyrnol Platt fyddin y tywallt gwaed, a Mr Lloyd George fyddin yr heddwch. Pe buaiai y fat! ddiweddaf wedi cael ei chwffio bymthegnos yn ol, bu- asai Mr Lloyd George a'i fyddin wedi cael eu llwyr orchfygu. Ond. cafwyd pymtheg- nos o amsar; a mardshiodd Mr Lloyd George ei fyddin i ganol Landlordiaeth, melinau powdwr a gweithfeydd arfau rhy- faI J Selyn, ac wrth wneyd hyny enillai fwy ° .fiIw7rJ° hJd> a dydd Sadwrn diweddaf safai y dewr Lloyd George ar uchel fanau muriau castelli y gelyn, a OHWIFIAI FANER BUDDUGOLIAETH yn Nghaernarfon, yn nghanol y golyg- » tob cyfeiriad. Ni chafodd y Toriaid v feth gweir erioed. Wrth ceisio diraddio grmru a 1 gwron, Mr Lloy<f George caw- CU ^rain yn nghanGl 11aid SSn a,dlTmlZ wedl GU cymysgu a'u hen- ilibion au hanwitreddau hwynfc hwv » J" ^?aJD,ac heddyw v maent dan nod uwS ad> a Mr LI°yd George yn uwch nag v bu erioed. & y GQ-GO-GOOoNIA..VT! f Ilae y deyrnas beddyw yn gorfoleddu fod y glymblaid ddiymenydd ag sy'n byw ax geisio drygu achos a gobaith Cymru wedi Llovd6V yr °r,kfygU gan anfarwol Lloyd George. Llawen ydwyf fina', a gor- dS Chafodd gwron y Toriaid ii ?./ gweir erio€d- 'Roedd wedi colli ei dempar er's dyddia'. Bygythiai lawar o beth, ond pan ddywedwyd wrtho fod Mr Lloyd George yn barod i gyfarfod holl allu y Toriaid, cilio a wnai dan gysgod esgusodion llwfr-ddyn. Bellach, cawn welad Uoyd George yn mynd i fyny yn uchel yn gyflymach nag gael amar i sgwrs yn y Senedd hefo Joe, yn nghylch y melinau powdwr a phethau felly! Ryddfrydwyr! Diolch o galon i ch'i am ddyfod allan yn nydd perygl ein hachost Canasom y dydd. Mae Lloyd George yn ei le, ac mae y Cyrnol Platt yn ei le. Mae arnom ni isio i Gymru ddwad yn mlaen, ac yr ydym wedi anfon Lloyd George i'r Sen- edd; ac y mae arnom ni isio gwella gwartheg Cymreig, ac yr ydan ni wedi cadw y Cyrnol Platt adra i wneyd hyny! COAST MORFA NEFYN. Lleoedd nodedig ydi gweithdai am ddadleuon o bob math. Mae gweithdy felly yn y coast yma, ac yn ddiweddar prif destyn pob dadl oedd y lecsiwn. 'Roedd E. R. D. wedi bod yn siarad mewn cyfar- fod cyhoeddus, a sylwodd ar waith plen- tynaidd gwr adnabyddus yn tynu allan yr "Union Jack ar ddiwedd y spidsh a dra- ddododd y dyn adnabyddus hwnw mewn tref arall. Clywyd yr overlooker yn deyd ei fod o wedi cipio yr "Union Jack" oddiar y dyn a'i defnyddiai mor benwan yn N-. Derbyniwyd y newydd hwn gyda "Hwre" fel swn storm fawr. Wrth ryw gae coch nos Lun yr oedd ar- eithio mawr, stopiais ar y ffordd, a chlywais rywun yn defnyddio geiriau crynon iawn. Gwadai rhywun na fu hi ddim ar gyfyl rhyw Robat. Dwy chwaer oedd yn ym- gecru yn nghylch llanc a'r gwyneb du pan wrth y tan yn ystod y dydd. YN Y NESA'. Dyna fydda'i yn gaeil o hyd just,—"Go- beithio y daw o yn y nesa' Golyga hyn awydd mawr am gael gweled y gwds wedi cyrhaedd yn ddiogel a'u deliverio. Gair bach o gynghor: 'Does dim posib yn wir- ionaddi rho'i y gwds i gyd yn y nesa'. Pe oeisid eu rho'i nhw b'asa'r smac yn sincio yn slap. Gwell i'r cwsmeriaid gael y gwds dipyn yn ddiweddar nag i'r cwbl fynd i fyd y slywod, y crancod a'r pysgod. Ult BERMO I'R BONTDDU. Mae rhai pobol yn methu cwbod sut i anfon petha' i mi. Dyma'r ffordd: Cym'- rwch inc, pin sgfnu, a phapyr o- faintioli papyr sgfnu cyffredin, neu ychydig yn fwy, a sgfnwch ar un tu i'r ddalen. Cofiwch numbro pob dalen,—1, 2, 3, 4, 5, &c. Sgfnwch gan blaened ag y medrwch. Wedi i oh'i orphan darllenwch y cwbwl drosodd yn ofalus, fel pe<tasacli*i yn ddyn diath, ac os bydd yno aneglurder mewn synwyr neu anghywirdeb mewn unrhyw beth, correct- iwoh y cwbwl. Wedi gorphan y job rhowoh yr ysgrif mewn enfilop, gan amgau ar ddalen o bapyr eich enw priodol a'cb cyfeiriad, a chan roddi ar yr enfilop enw a chyfeiriad y sawl sy' i ddiearbyn yr ysgrif. Pwy bynag sy* mewn tipyn o benbleth yn nghylch sut i ddeyd ei feddwl ar bapyr, an- fonad air yma, ac mi ofala i am ofyn i r boss yma am hyfforddiant iawn a chywir iddo. Mae'r boss yn gwbod pobpeth. Llawenydd digymysg gen'i ydi dallt fod fy llithoeddl wedi gneyd daioni mawr yn yr ardaloedd hyn. Disgwylir i mi ddwad yn smlach. Os caniata amsar mi ddof. Yn rghyfeiriad y Bontddu, un o beryglon mwy- af yr ardal ydi iaith isel ac aflan. Mae mor lEaidd gen'i ac eraill a bilge water,-y dwr hwnw fyd'd yn aros rhwng asena' llong,- dwr ffiaidd, drewllyd ofnadwy. Raid i chi ddim ond bod ychydig o gwmpas na chlywch y llwon a'r rhegfeydd mwyaf ofn- adwy. Dwn i ddim o b'le y mae nhw wedi dwad. Nid o Fforin, achos does dim cys- ylltiad rhwng Bontddu! a Fforin. Nos Sad- wrn troi'r bag eu stumog yn gostrel i gario diodydd meddwol ynddo, a'r stumog ddim wedi cael ei gneyd at beth felly. Ym- borth sylweddol sy i fod yn y stumog. Ffordd rhai pobol grefyddol ydi myn'd dan ddylanwad yabryd duw Alco noa Sadwrn, gan gredu y byddan' nw yn gymhwys bora Sul i fyn'd i adidoliad y Gwir Dduw a bod yno dan ddylanwad yr Ysbryd Sanotaidd. Dyna chi be' mae dynion sal, ffol, annoeth, twyllcdrus, yn wneyd mewn rhai lleoedd. Gwyddis am d'anynt yn iawn, ac y mae eu dylanwad mor ddarfodeddg ag ydi yr ymdeimlad o fwyi.had pan y byddo r al- cohol yn dylanwadu ar yr ymenydd. Gwell i grefydd ac.i'r Ysgolion Sul a cijaniadaeth y cysegr yn mhob man ydi i ffryndia Shion Heidden fynd ac aros yn 'i seiat o altwgeddar na bod yno mown rhau ac yn y capeli v r^an arall. Ma'nt yn destyu gwawi a ciriuyj: yn mhob nian. Nid pawb a fyddant yn brolio eu hunain fel gweithwyr mewn gwaith aur ydi'r bobol era fel gweithwyr felly. Os fydd dyn wedi bod yn faer maen, neu yn deiliwr, neu gerbydwr, neu glerc, neu arddwr, y rhan twya o'i oes, y mae yn debycaoh o fod yn gwbod mwy am hyny nag am waith aur. Dyma fi, yr hen longwr, be' wn i am waith aur? Pwy fasa'n fy nghredu i fy mod yn ddyn iawn at waith aur, pe baswn yn brolio fy mod i yn un? Os bydd i un o gnw liong ar y mor feddu dau wyneb,—gwyneb at y cadben a gwyneb arall at y criw,—m fydd yn siwr o gael siop boeth. Bydd bfLn yn anmhosibl iddo fo fyw yn y lie. Os oes pobol yn bod yn rhywle yn credu mai un gwyneb a roddodd y Crewr i ddyn, y llong- wrs ydi'r rhai hyny. Baswn i yn leicio gweled brid y ddau wyneb ag sy' i'w cael y ffordd hon yn myn'd am foyads hefo mi. Mi rydw'i yn siwr y dychwelent adra yn well pobol. Mae'r Biwtis yn dal rhywbeth yn debyg o hyd,—rhai glan, rhai aflan'rhai Hawen, a rhai nflawen. Megys ag y mae y pechod o falchder mewn gwisgoedd yn perthyn i Fiwtis eraill y wlad, felly hefyd yma. Nid oes gan Fiwtis yr ardaloedd hyn ddim syniad uwch am ogoniant na gogoniant dillad ffasiynol. Ymlicffant mewn gwisg- cedd lliwgar, ao ymlawenhant os bydd pobol yn edrach ar eu dillad nhw, fel pe tasa hyny o ryw fudd i eneidiau colledig. Wedi dwad o'r addoliad, nid son am y sylwadau a wnawd yno a wneir gan y Biwtis, ond son am wisgoedid a fela a phethau o'r fath. Mae rhai o'r Biwtis yn paentio eu ffrynt a lliwio eu gwallt. Mewn gair, v corph ydi'r prif beth. Druan o'r enaid,— 'dies neb yn gofalu am geisio ei harddu ef mewn na gwisg o gyfiawnder na dim arall. Mae ei gyflwr yn druenus. Duw yn unig a wyr betp. a ddaw o liono pan y bydd yr hen gorph yn gorwedd yn y bedd yn fwyd t bryfed. SIOM TUA'R SARN. Ddechreu yr wythnos o'r blaen aeth llanc o ardal y Sarn i gyfeiriad Rh-ch i wel'd ei galon felus, yn ol ei hen arfer. Yn an- ffodus cododd storm-sef ffrae y noson hono, rhwng y ddau. "Be' wna'i, aros yma ynte peidio ?" meddai y bachgen. "Fel fynoch'i, meddai hithau. Adra yr aeth y bachgen, a'i ben i lawr a'i galon yn is!
[No title]
Ar ol i'r etholiad fyned heibio, onid doeth fuasai cael cyfarfyddiad1 heddychol o'r aelodau Cymreig yn Llundain ? Buasai cael, anerchiadau gan Harcourt a Keir Hardie yn werth galw y fath gynulliad at ei gilydd.
j Etholiad Mcirionyefd.
j Etholiad Mcirionyefd. Mr Gol.Ma.i yn ymddangos mai cyfar- fod lied dierfysglyd a gaed yn Nolgellau pryd y dewiswyu ymgeisydd i gynrychioli y sir yn y Senedd. Meirionydd, fe allai, ydyw y sir fwyaf Ryddfrydig ac Ymneilldu- ol o holl siroedd Cymru; a gall y RhydTl- frydwyr ddewis ac eth'ot aelod Seneddol gyda thawelwch a brawdgarwoh, heb ofni dim oddiwrth y blaid, wrthwynebol. Ond y mae gormod o nerth weithiau yn troi yn wendid, ac y mae y sir dawel hon o bryd i bryd wedi amlygu fod ynddi elfen- au politicaidd lied gynhyrfus, ac mai nid diogel ydyw i neb ymyraeth a hawliau yr etholwyr. Heb gyfeirio o gwbl at y ddau ymgeisydd, nag at unrhyw berson unigol, mae'n amiwg fod y dull a arferwyd i ddewis ymgeisydd wedi peri tramgwydd, siomiant, a pheth cyffro, yn mysg lliaws o etholwyr yn y sir, ac yn neillduol felly yn Ffestiniog, lie mae cartref rhyddid a nerth Rhyddfrydiaeth Meirior* rid. Paham nETbuasid yn sefyll at y bleitaais gyntaf, a thrwy hyny ochelyd pob ymgeintach, tram- gwydd, a siomiant? Er mai cyfarfod berwedig a chynhyrfus a gaed yn Nolgellau, eto fe aeth yr helynt drosodd heb golli gwaed na malu esgyrn. Tebygol fod y "Twenty Third," a fu mor amlwg a gwrol yn etholiad 1885, ar hyn o bryd yn y Transvaal, neu gallasai pethau fod wedi gwisgo gwedd mwy bygythiol. Nid yw nifer aelodau y Gymdeithas Rydd- frydig ond ychydig o'u cydmaru a nifer yr etholwyr yn y sir; ond y mae y Pwyllgor Canolog yn rhy liosog o lawer, a dylesid ei dynu i lawr i dri; a gwell fuasai fod dau o'r tri yn eu gwelyau yn gleifion, a'r tryd- ydd wedi colli y tren. Mae aelodau y pwyllgor yn foneddigion parchus a defnyddiol yn y cylchoedd cym- deithasol y maent yn troi ynddynt o'r tu allan i'r Caucus; ond wedi unwaith iddynt ddyfod at eu gilydd, mae rhyw ysbryd yn eu meddianu, ac yn eu taflu allan o'u llwybr cyffredin. Mae rhywbeth yn y natur ddynol, neu yn natur pwyU. gorau, sydd yn gwneyd i ddynion da ym- dd'wyn mewn dull dieithrol a. chwbl ang- hyson a'u cymeriadau arferol. Dywedai Dr Chalmers mai y ffordd i ddyfetha un- rhyw symudiad da oedd ei daflu i owyll- gor. Mae y wlad wedi ei llenwi a phwyll- gorau, ac yr ydym wedi cael ein hysbeilio ganddynt o bob hawliau ac annibyniaeth a feddem. Nid yw Pwyllgor Rhyddfrydol Meirion- ydd yn rhyw uchel iawn ei glod yn mysg lliaws mawr o'r etholwyr er's blynyddau. Bu gwaith ychydig o foneddigion yn dwyn y diweddar Mr H. Robertson, yn mlaen fel ymgeisydd Seneddol, heb ymgynghori a'r etholwyr, yn dldigon i greu daeargryn yn etholiad bythgofiadwy 1885, pryd y gal- wyd y diweddar Mr Morgan Lloyd, Q.C., yn mlaen i amddiffyn hawliau etholiadol y gweithwyr. Yr oedd hyn yn drosedd an- faddeuol yn erbyn awdurdod- y boneddig- ion hyn, a phenderfynwyd rhoddi pob gallu ar waith i lethu y Cymro gwladgarol, a llwyddasant: ond ni fu yr helynt yn ddim llai na gwaradlwydd arnynt yn y diwedd. Teimlai chwarelwyr Ffestiniog nad oedd gwaith y pwyllgor yn yr amgylchiad hwh yn ddim Ilai na'u hamddifadu o'u pleid- lais fel etholwyr Rhyddfrydig, phender- fynasant ffurfio cymdeithas er amddiffyn hawliau yr etholwyr. Yn yr etholiad di- lynol, pryd yr oedd y diweddar Mr T. E. Ellis a Mr Morgan Lloyd yn sefyll fel ym- geiswyr, fe apeliwyd am beidlais yr ethol- wyr yn y sir, pryd y cafwyd ychydig fwyaf- rif yn ffafr Mr Morgan Lloyd; ond Uwydd- odd pwyllgor Dolgellau i drtoi y mwyafrif hwnw i Mr Ellis. Trodd hyn yn ffawd trwy i Mr Ellis ymddatblygu i'r fath en- wogrwydd, ond nid oedd hyny yn lleihau dim ar gamwedd a rhyfyg y pwyllgor. Nos Fawrth, Awst 28ain o'r flwyddyn hono, cynhaliwyd cyfarfod mawr yn yr Assembly Rooms, Blaenau Ffestiniog, i'r amcan o ffurfio cymdeithas er amddiffyn hawliau yr etholwyr. Cymerwyd y gadair gan y diweddar Mr J. 0. Jones, yr hwn a wnaeth ych/dig sylwadau pwrpasol ar yr angen sydd am amddiffyn yr hawliau ag yr oedd y Llywrdraeth wedi eu gosod yn eu dwylaw fel f hoi wyr. Cynygiwyd y penderfyniad cyntaf gan Mr Thomas Pierce, Tanygrisiau, "Fod y cyfarfod hwn yn anghymeradwyo gwaith y Pwyllgor Canolog yn gwrthod yr ymgeisydd oedd wedi ei ddewis gan y mwyafrif o'r ethol- wyr." Dywedai, "fod amryw o'r farn mai gan y pwyllgor hwnw yr oeda yr hawl i ddewis, tra y barnai eraill mai gan yr eth- olwyr yr oedd yr hawl. Yr ydym yma heno i brotestio yn erbyn gwaith y pwyll- gor yn dewis yn erbyn dyfarniad yr ethol- wyr. Dylem gael cyfnewidiad yn y rheol- au; ac os na chawn, dylem ffurfio cym- deithas ar wahan i'r hon y perthyn y pwyllgor yma iddi." Traddododd Mr Morgan Lloyd araeth gref a goleu ar hawliau yr etholwyr, ac wedi terfynu y cyfarfod cynhaliwyd cyfar- fod arail gan bleidwyr y gymdeithas i ddewis pwyllgor er tynu allan reolau er cario y gymdeithas yn mlaen. Er mwyn canoedtt o hen chwarelwyr Ffestiniog, rhoddaf yma enwau y personau a ddewis- wyd ar y pwyllgor:—Mri Ellis Roberts (ysgrifenydd pro. tem.), W. C. Williams, Evan Roberts, T. Pierce, a Thomas Da- vies, Tanygrisiau; T. Edwards, W. H. Thomas, Morgan Jones, R. Pugh, J. 0. Jones, D. G. Williams, E. D. Davies, Lewis Jones, J. Morgan, R. M. Roberts, Thomas Jones, R. V. Williams, J. J. Jones, Thomas Williams, a lliaws ereill na fyddai o fudd eu henwi. Mae amryw o'r enwau uchod wedi codi deigryn byw i'm llygad, a bydd eu darllen yn debyg o enyn hiraeth mewn llawer mynwes. Yr oeddynt yn Rhyddfrydwyr cedyrn, goleuedig, a gonest. Mae'n amlwg fod y gwyr uchod mewn sefyllfa a theimlad cyffelyb i'r sefyllfa a'r teimlad y mae canoedd o chwarelwyr Ffes- tiniog ynddynt heddyw: ond a oes digon o benderfyniad a nerth argyhoeddiad yn etholwyr Ffestiniog i gario allan yn awr y penderfyniad -a basiwyd yn y cyfarfod crybwylledig? Nid yw o ddim diben cablu personau, ond dylid' naill ai diwygio yr hen gymdeithas neu ffurfio cymdeithas er am- ddiffyn hawliau yr etholwyr fel yr amcan- wyd gan y brodyr ffyddlawn oedd yn siom- edig a briwedig eu teimlad, fel y mae Iliaws heddyw yn Ffestiniog. DORFfL.
Beth am y Dyfodol ?
Beth am y Dyfodol ? Yn ei araeth yn Accrington, dywedodd Mr Herbert Gladstone, A.S., mai amcan Mr Chamberlain oedd ceisio dangos fod un blaid wleidyddol yn ceisio ei lesteirio a chwareu i ddwylaw gelynion y wlad hon yn Neheudir Affrica. Dichon y bydd i Ar- glwydd Salisbury ymddiswyddo cyn diwédcl y flwyddyn nesaf, ac yna caem Mr Cham- berlain yn Brif Weinidog ac Ysgrifenydd Tramor. Pwy all ddyweyd beth ddi- gwyddai ar ol hyny P-Dywedodd Mr Har- wood ei fod yn cofio yr adeg pan yr ystyrid Lloegr yn fam rhyddid dros y byd, a phan yr edrychid ati gan bob cenedl feehan am gynorthwy. Ofnai fod yr amser yna wedi myned heibio.
' " Pa Alwedigaeth a ddywedir…
Pa Alwedigaeth a ddywedir ydyw yr un fwyai lach yn y Byd" (0 "Tit-Bits," Medi 8fed, 1900). "Gwaith petroleum yn yr Unol Dalaetha Nid ydyw y gweithwyr yno byth yn dy- oddef oddiwrth yddfau dolurus, diphtheria, quinsey, neu anhwylderau perthynasol. Mae effeithiau rhyfeddol y mygdarth oddiwrth y petrolium yn gyfryw fel ag y mae yn beth cyffredin iawn i .ddioddefwyr oddiwrth anhwylderau gyddfol i ymweled a'r gweithiau, fel y mae pobl yn y wlad hon yn myned i Bath a lleoedd eraill i yfed y dyfroedd. Yr oedd tenorydd en- wog-gwddf yr hwn ydoedd wedi gwanhau -yn crweithio mewn un o ystafelloedd lie y trinid y petroleum, ac a gafodd iaehad oddiwrth y tarth. Yr oedd wedi gwario llawer d arian, ac wedi myned am fordeith- iau i Awstralia, ond heb gael dim lies." Dangosa yr uchod allu rhyfeddol i iach- au sydd gan petroleum. Mae gan Angier's Petroleum Emulsion hyd yn oed: fwy o allu i iachau. Gwnsir ef gydag slew neill- duol o ffynonau arbenig, ac wedi ei buro yn ofalus genym 111. Yna unir a'r olew hypophosphites, linw, a soda, mewn ffurf o emulsion perffaifii, sydd yn hyfryd i'w gymeryd, a chytttna a'r ystumog mwyaf < gwanaidd. Nid oes cyffelyb i Angier's Petroleum Emulsion at iachau pesweh trwblus, bronchitis, a phob anhwyldeb ar y gwddf, a'r ysgyfaint, afreoleidd-dra y coluddion a'r ystumog, ac afiechydon fydd yn peri colli cnawd. Y prawf goreu o'i werth vdyw y ffaith ei fod yn cael ei roddi yn eang gan y broffeswriaeth feddygol, a defnyddir ef yn y prif ysbyttai. I'w gael gan bob fferyllydd a drug stores. Anfonir potel fel siampl am dair ceiniog i dalu j cludiad. The Angier Chemical Co., Ltd., 32, Snow Hill, London, E.C.
Proiiad Gweddw o Faethes.
Proiiad Gweddw o Faethes. TEITHIO YN YR UN CERBYD A KRUGER. Yn Llys Siryddion Llundain, rhoddwyd i Mrs Annie Garrard, gweddw, y swm o ddau gant a haner o bunnau o iawn yn erbyn Henry Smith, am dwyll a chamgynrychiol- iad yn nglyn a gwerthiant gweety. Dywedai bargyfreithiwr yr erlynes iddi fod yn faethes mewn ysbytty drwy yr oil o gadgyrch Mashonalanid. Yr oedd yn Neheudir Affrica yn ystod rhuthr Jameson, a phenodwyd hi yn arolyges ysbytty yn Barberton. Cydnabyddwyd ei gwasanaeth drwy iddi gael swm o arian a fferm gan Air Cecil Rhodes. Dinystriwyd iechyd yr erlynes drwy orlafur, a dych- welodd i Loegr. Yn Northampton dod- refnodd dy mawr i'r swm o bum' cant o bunnau. Ar ol hyn gwelodd hysbyseb am westy private yn Llundain, a phrynodd ef, drwy oruchwyliwr stad, am y swm o 210p. Gwerthwyd ei dodrefn yn Northampton, ond ni ohafodd am danynt ond deg punt a thriugain. Ar ol hyn cafodd allan fod cymeriad!au amheus yn arfeT mynychu y gwesty, ac ymaxiawodd oddiyno. Gwerth- odd ei dodrefn drachefn, a chafodd am danynt 36p. Yn nghwrs ei thystiolaejih, gofynodd y bargyfreithiwr iddi, "A welsoch chwi Mr Kruger erioed pan yn Neheudir Affrica ?" "Do," ebai hithau. "Bum yn teithio yn ei gerbyd, ac yn aros yn ei dy am dri niwrnod, lie y derbyniwyd fi yn groesaw- gar."
Syr H. Campbell Bannerman…
Syr H. Campbell Bannerman a'r Rhyfel. Yn Nwyreinbarth Fife, ddydd Sadwrn, anerchodd Syr H. Campbell Bannerman f^yfarfod Rhyddfrydol. Yn ystod ei an- erchiad dywedodd fod Mr Chamberlain yn ddigon da i hysbysu mai bradychwyr yd- oedd dwy ran o dair o'r blaid wrthwynebol —dynion pa rai a eisteddent gyferbyn ag ef yn Nhy'r Cyffredin, a'r rhai y gwyddai eu bod yn gystal dinasyddion ag yntau. Enllib o'r fath fwyaf ydoedd eu galw dan y fath enw a "pro-Boers," a dylai gwleidydd- wyr a'r wasg ymatal rhag gwneyd y fath dro iselaidd, pa un sydd yn warth ar fvwyd gwleidyddol heddyw. Credai ef y gallesid atal y rhyfel pe buasid wedi cymeryd mesurau teg tuagat hynv. Pwy fuasai yn ciedu y buasem erbyn hyn wedi gwario cymaint o arian, ac wedi colli oymaint o fywydau gwerthfawr? Yr oedd yn wrthun meddwl ein bod ni, a ninnau yn gefnogwyr cenedlgarwch, wedi bod yn foddiont i gy- meryd ymaith annibyniaeth dwy Werin- lywodraeth Foeraidd—oherwydd byddai i'w hannibyniaeth gael gwneyd i ffwrdd ag ef pan derfynid y rhyfel presenol.
Bwrdd Gwareheldwald Bangor.
Bwrdd Gwareheldwald Bangor. Cynhaliwyd cyfarfod pythefnosol y Bwrdd ddydd Gwener, dan lywyddiaeth Mr Hugh Thomas (ca.deirydd).arllen- wyd Ilythyr oddiwrth Fwrdd Llywodraeth Leol mewn atebiad i ofyniad y Gwarcheid- waid a fuasai y Bwrdd yn rhoddi eu cyd- syniad i drefniant yn caniatau i'r ddwy famaeth yn ysbytty y Tlotty 8s 6c yr wyth- nos ar gyfer eu bwyd. Gwrthopodd y Bwrdd Llundeinig roddi eu cydsyniad i'r trefniant.—Sylwodd Mr T. Edwards fod Bwrdd Llywodraeth Leol hefyd yn gwrth- od rhoddi eu cydsyniad i'r trefniant i beidio cyfyngu ar swm y bara i'r tlodion. Fodd bynag, er fod y Bwrdd hwnw wedi gwrthod rhoddi eu cydsyniad i hyn, yr oedd y tref-niant wedi gweithio yn foddhaol.
NEWYN COTWM A CHYFYNGDER.
NEWYN COTWM A CHYFYNGDER. Y mae y cydymgais aruthrol yn masnacli nwyddau gweadol ar y Cyfandir a phrinder cotwm yn Lloegr wedi bod eisoes yn fodd- ion i enyn pryderon dwys ar filoedd o ael- wydiydd. Swn masnach wan sydd drwy Ewrob. Germani yw canolbarth yr ad- weithiad. Cauir melinau cotwm a sidan yn mhob cyfeiriad. Safodd melinau car- pedau yn Saxony; yn Silesia y mae mil- oedd heb ddim i'w wneyd. Yn Krefeld, Aix-la-Chapella, a llu o ddinasoedd ereill, troir miloedd allan bob dydd. Mewn gair, o Alsatia yn y gorllewin hyd Silesia yn y dwyrain y mae ystad petha.u mewn cyflwr drwg. Dodir yr achos wrth ddrws gor- lawnder nwyddau. Cyffelyb yw ystad pethau yn Awstria a Hungary. Amser byr a weithir yno hyd y gwanwyn nesaf. Swn cyffelyb sydd yn swyddi Lancaster a York. Byrheir amser gweithio ar bob llaw, ac ataliwyd gwaith i lu o weadwyr cotwm. Aeth y cotwm yn brin yn yr America, a dywedir fod rhagolygon y cnydau dyfodol yn llawer llai nag arfer. Gwir fod prynu mawr a phrisiau uchel yn marohnad Ler- pwl diwedd yr wythnos, ond yn gyfochrog a hyny rhaid dodi'r ffaith. fod y burned ran o felinau Oldham wedi sefyll ac ereill yn trefnu er eu dilyn. Dodir yr aohos wrth ddrws y rhyfel yn Affrica, y newyn a'r oolera. yn India, a'r anfadwaith yn China. Y mae swn "amser drwg" yn dyfod o gyf- eiriadau ereill.
Ymddiheuro drcs fod yn Sals.
Ymddiheuro drcs fod yn Sals. Yn nghyfarfod terfynol Cyngres Hedd- wch, a gynhaliwyd yn Mharis, mabwysiad- wyd cynygiad o blaid ffurfio Undeb Hedd- weh Cyngreiriol. Wrth gefnogi y cynyg- iad, dywedodd Mr W. T. Stead, Golygydd, y "Review of Reviews," ei fod yn vmddi- heuro i'r Cyngres oherwydd ei fod yn Sais, a gofidiai nas gallasai alw ei hun yn rhyw- beth arall. Ystyriai efe fod canlyniadau yr etholiadau yn Lloegr, hyd yn hyn, yn ddinystriol i achos heddwch.
Lldfn yr Ysgogvdd yn Colli.
Lldfn yr Ysgogvdd yn Colli. Ar ei thaith diweddaf o Lerpwl i Efrog Newydd, syrthiodd un o lafnau ysgogydd y llong "Oceanic," perthynol i Linell y Seren Wen. Ar y 23ain o'r mis diweddaf, pan oddeutu 1460 o filldiroedd o Queens- lkjwn, teimlwyd' ysgytiad sydyn. Atal- iwyd y llestr, a gollyngwyd y bad i edrych beth a ddigwydillasai. Cafwyd allan fod un o lafnau yr ysgogydd ar goll. Rhedai y mor yn uchel ar y pryd, er fod y tywydd yn glir. Wrth gwrs, nist gftllai yr agerlong [ aredig y Werydd mor gyftym ar ol y ddam- wain. Yr oedd ganddi i deithio 2778 o fill- diroedld, a gwnaeth y fordaith mewn chwe' niwrnod, tair awr, ac un funud ar bymtheg ar hugain.
Cynghor Dineslg Bangor.%
Cynghor Dineslg Bangor.% Ovnhaliwyd cyfarfod migol y Cynghor nos Fercher, dan lywyddiaeth Mr J. E. Roberts (y Maer).—Gofynodd Mr David Owen am ganiatad i wneyd eglurhad o berthynas i sylwadau a wnaed gan Mr T. J. Williams yn y cyfarfod blaenorol tra yn trafod materion oedd a wnelont ag ystad y De=field.-AwgrYmai Mr T. J. Wil- liams mai gwell fyddai i Mr David Owen wneyd ei eglurhad yn y cyfarfod nesaf.— Ar ol peth trafodaeith, penderfynwyd rhoddi i Mr David Owen ganiata.d i wneyd eglurhad yn y cyfarfod nesaf.—Darllenwyd llythyr oddiwrth v Proffeswr J. E. Lloyd, cofrestrydd Coleg y Gogledd, yn diolch i'r Cynghor am y cynyg o safle coleg newydd yn Mharc yr Esgob, ac yn hysibysu fod y mater wedi ei gyfeirio i sylw Pwyllgor y Safleoedd.—Mr T. J. WilliAms a awgrym- odd v dylid anfon at y Proffeswr Lloyd yn nodi allan ei bod o'r pwysigrwydd mwyaf i ddvfarniad awdurdodau y Cyngor gael ei roddi ar y 24ain cyfisol, sef diwrnod cyf- arfyddiad y nwyllgor, oherwydd fod Hog yn rhedeg ar arian y pryniant. Cytunwyd a hyn.
[No title]
TO THE DEAF.—A rich lady fcured of her Deafness and Noises in the Head by Dr Nicholson's Artificial Ear Drums, gave £ 5000 to his Institute, so that the deaf people unable to procure the Ear Drums may have them free. Address: The Ncholson Institute "Longcott," Sunners- bury, London, W.
Gwralg i Filwr mewn Hclbul
Gwralg i Filwr mewn Hclbul Y FFORDD ALLAN. Wrth ben yr ucheldiroedd rhwng Welwya a Suton y gorwedd Breachwood Green, un o'r lleoedd mwyaf iachus yn swydd Hert- foid. Aeth lluaws o drigolion y gymydog- aeth allan i faes y frwydr, ac yn mysg >' rhai a alwyd o'r ol-fyddin yr oedd Private Ernest Lawrence. Nid ychydig o aberth oedd rhoddi i fyny ei waith, gadael cartref cysurus, ac ymuno a'r Bedfordshire Regi- ment yn Shorncliffe Camp. Nid oes eisitu helaethu ar y caledfyd o ffarwelio a gwraig a dau- o blant, ond ar ol ymadawiad ei phriod,syn nechreu Ionawr-cafodd. Mrs Law- leuce ei tharo yn wael iawn, ac aeth goheb- ydd y "Beds. Advertiser" ar ymweLiad a hi er cael allan y manylion. 'Nid oes arnaf eisieu myned trwy amser fel yna eto," meddai Mrs Lawrence, "gan na chysgais yn ystod tair wythnos ond dwy noswaith. Fy ngwaeledd oedd sciatica. Ymosododd arnaf yn gyntaf yn fy ngoes ddeheu, a chwyddodd yn fawr a phoenu^; yna cymerodd fi yn mhen uchaf y glun. mag, parheais i fyned o gwmpas gan feddwl y buasai yn fy ngadael. Yn lie hyny aeth yn waeth, fel nas gallwn godi heb gy- meryd gafael yn y bwrdd, ac nis gallwu groe&i yr ystafell heb gymorth ffon. Yu ddiweddarach daeftf fy nhad a baglau i mi. Part yr awn i fy ngwely nis gallwn orwedd, ac yr oedd y poenau fel pe bae cyllell yn cael ei thrywanu ynwyf. Un noswaith ofn- wyd fy mod yn darfod." I barhau ei hadroddiad, dywedodd Mrs Lawrence: "Yr oeddwn wedi darllen mewn llyfrau bychain am bobl yn dioddef yn debyg i mi, a dywedais wrth fy mam, 'gwell i chwi gael blwch o Dr. Williams' pink pills for pale people i mi.' Felly anfonwyd i ¡1uton am flwch, ac wedieymeryd y pelenau ym- ddangoswn yn gwella. Cefais dri blwch o gvbl, ac yr wyf wedi parhau i wella er hyny." "Pan gafodd-y Commander yn Shorncliffe dystysgrif y meddyg yn dweyd fod fy ngwr- aig yn wael," ychwanegai Mr Lawrence (yr hwn oedd yn bresenol), "rhoddwyd mis o furlough i mi. Prysurais gartref, a synais weled fy ngwraig allan yn yr heol. Nid oes ond tair wythnos er pan yr oedd yn defnydd- 10 baglau, ond maent yn awr wedi eu han- foii i ffwrdd. Mae fy ngwraig yn gwneyd gwaith y ty fel arfer, 81. nis gall ei briodoli end i'r pelenau." Ychwanegodd! Mrs Lawrence na chymer- odd ond tri blwch, a'i bod yn awr yn hollol iach, ond ei bod yn anfon dau a naw v diwmod hwnw i gael blwch arall. Yr oedd wedi dweyd wrth y negesydd am edrych fod y saith gair ar y blwch. "Ie, gan fod rhaid i un fod yn ofafus," meddai y gwr, "gan fod y masnachwyr yn awyddus iawn i roddi rhywbetK arall i chwi." Darfu i Mrs Lawrence ddangos gwyiiad- wnaeth briodol, gan fod yr adferiadau par- haus a effeithir gan Dr. Williams' pink pills wedi arwain pobl dwyllodrus i gynyg efelych- iadau diwerth yn lie y pelenau gwirionedd- y rhai «-ellir ci hadnabod yn y ffordd syml a d'dangoswyd gan Mrs Lawrence. Mewn achos o amheuaeth, dylid anfon yn syth at Dr. Williams' Medicine Company, Hplbcrn Viaduct, London, am rai, gan am- gau y pris. Mae yr anechydon eraill a iach- awyd gan ,y feddyginiaeth hon yn cynwys anaemia, crydcynmlau, camdreuliad, an- hwylderau y rhyw fenywaidd, rickets mewn plant, St. Vitus' dance, colliant nerth, ac hyd yn oed y parlys a darfodedig- aeth os cymerir ef mewn pryd.
Advertising
■■ Pnpmrtd mitr Atatiom OutntUm. ENRICHES THE BLOOD, FERRU-COCOA J'BEJI SAMPLES 8 BUT TO Allll On Application (wenuosins At* Paper) to the FERRU-COCOA MAHUFACTURIHG CO. LTD. 20, SOBWAILL BO AD, LON-ON. K.O. <)
FFAITH GWERTH EI GWYBOD. -
FFAITH GWERTH EI GWYBOD. Ychydig ddyddiau yn ol, yn un o ardal- oedd gweithfaol Cymru, clywyd yr ym- ddiddan canlynol rhwng dwy wraig ar eu ffordd adref o'r farchnad. Ebe'r ieuengaf o'r ddwy: —Gwyn fyd na fuaswn wedi gallu perswadio John i fyned am bythefnes i lan y mor eleni. Mae ei waith mor galed fel yr wyf yn ofni y bydd iddo dori i lawr cyn y gauaf; mae wedi colli archwaeth at fwyd, ac Mae ei nerth yn pallu; ond dy- wedai ef nas gallai fyned eleni am fod yr amser wedi bod mor ddrwg, a'r cyflogau mor iad." "Wel, Mary," ebai ei chyfeilles mwy profiadol, "ni raid i ohwi ofidio a plioeni eich hun, gellwch osgoi pob perygl i'w iechyd dori i lawr os gellwch gael ganddo gymeryd ewrs o Quinine Bitters Gwilym Evans. Nid wyf yn gwybod am ddim tebyg iddo i godi archwaeth at fwyd, bywiogi yr ysbryd, ao adfer yr iechyd. Bydd Dafydd ni yn arfer cymeryd cwrs ohono yohydig wythnosau cyn y gauaf, a gwyddoch nad yw byth yn gorfod colli ei waith oblegid gwaeledid iechyd, er ei fod yn agored i'r tvwydd, ao er ei fod yn wlyb hyd y croen yn anil, nid yw nemawr byth yn cael anwyd." Mae y ffaith a nodir yn y sylwadau uchod yn brawf ychwanegol o effeithiol- rwydd Bitters Gwilym Evans i gryfhau y I cyfansoddiad a'i alluogi i wrthsefyll ym- osodiadau afiechyd. Gwerthir mewn poteli 2s 9c a 4s 6c gan bob fferyllydd. Neu gellir ei gael am y prisiau hyn, trwy y post, yn uniongyrchol oddiwrth y perchenogion: — Quinine Bitters Manufacturing Company, Ltd., Llanelly, South Wales.
PROTESTANIAETH YN FAEN PRAWF.
PROTESTANIAETH YN FAEN PRAWF. Nid c-es amheuaeth erbyn hyn na chwery Protestaiiineth ran bwysig yn yr etholiad cyffredinol. Y mae cynydd aruthrol Def- odaeth wedi gwneyd hyny yn orfodol—yn arbenig felly yn Lloegr. Y mae y Cyng- rair Protestanaidd a Chymdeithasfa Eg- lwys Loegr wedi ymuno er cymeryd gofal am gofrestru'r etholwyr a chasollu addew- idion pendant gan etholwyr. Arwyddair y mudiad hwn yw, "Protestaniaeth o flaen Plaid." Toriaid yn benaf o lawer yw yr hyrwyddwyr-Heygwyr y blaid Efengylaidd ya yr Eglwys Wladol. Tynasant allau ga tieism er profi iechyd ymgeiswyr Sen- eddol. Fel hyn y mae rhai o'r prif holiad- au: — (1) A wnewch chwi wrthwynebu pob cais at sefydlu cysylltiadau negeseuol rhwng Prydain a'r Fatican; (2) A wne-wcli chwi wrthwynebu pob cais am arian oy- hceddiis er c'"nal addysg Babaidd a Def- odol; (3) A wnewoh chwi wrthwynebu hyd yr eithaf unrhyw fesur er creu a gwaddoli ag arian cyhoeddus brif ysgol yr Iwerddon o dan reolaeth y Pabyddion. Y mae gan y cynghreirwyr byn swm da o arian a gwas- anaethwyr kawer. Nid oes amheuaeth na plienderfynant hwy dynged llawer ymgeis- ydd. Dichon na byddant yn amlwg yn Nghymru, ond yr ydym yn deall y bwriad- ant ymweled ag Arfon.
. YR YSGOLION ELFENOL: COSB…
YR YSGOLION ELFENOL: COSB NEWYDD. Y mae'r Llywodraetb wedi llunio cyf- raith newydd er cosbi rhieni esgeulus a phlant cas ganddynt ddisgybla&th ac addysg. Blinder penaf Uywodraethwyr ys- golion elfencl yw y bobl hyn. Er's oes lied dda defnyddiwyd llawer moddion er eu henill i werthfawrogi manteision felly. Ond Ishmaeliaid anhydrin y mynant fod; y mae eu dibrisdod hwy a'u hepil o oleuni gwyb- odaeth yn resynus i'r eithaf. Wrth ddar- llen am yr ysfa gref am addysg sydd yn nodweddu plant a rhieni Ysgotland a Germani, byddwn yn eiddigeddu na buasai eiddo Oymru felly. Er ein galar rhaid cydnabod fod esgeuluswyr y Dywysogaeth yn dyrfa anferth. Gwelodd yLlywodraeth fod yn rhaid cymeryd trugaredd. ar y plant. Neges felly sydd i'r gyfraith newydd; trefna hi er dirwyo rhieni esgeulus i bunt a'r costau. Cosb drom rhaid addef, ond llwyr fethiant rhai llareiddiach sydd wedi galw hon i fod. Hyderwn fod yn y gyf- raith ddarpariaeth syml er codi y dirwy, neu gosb effeithiol yn ngwyneb penderfyn- iad i beidio ei thalu. Barn ddiymod prwyr craff yw y byddai wythnos o garchar i riant na fyn gydymffurfio a darbodion deddf Addysg y feddyginiaeth effedthiolaf sydd yn bosibl. Byddai yn esiampl ardderohog; creai chwyldroad ar filoedd o aelwydydd.
a I.DIODDEFODD ODDI WRTH GAMDREULIAD…
a I. DIODDEFODD ODDI WRTH GAMDREULIAD i Yn gofidio na buasid Wedi ei ddefn- yddio yn nghynt. DENIS CLAUDE TILLEY. (From a Photograph.) 38, Park Place, Christchurch, Hants, Mawrth 19eg, 1900. Anwyl Syrs,—Gyda plileser mawr yr wyf yn ysgrifenu i dystiolaethu am y Iles mawr a gafodd fy maban trwy gymeryd Scott's Emulsion. Dioddefodd oddiwrth gemdreuhad pan yn bythefnos oed; wylai braidd yn ddibaid, ac ni chai esmwythdra ddydd na nos. Treiais wahanci fathau o fwyd, ond ni wnaethai dim les iddo, gan nad oedd ei fwyd'yn treulio. Nid oedd yn dod yn mlaen ddim, a phan yn saith mia oed nis gallai eistedd i fyny, ac yr oedd mbr wan fel pan yn bwyta y byddai chwys yn rhedeg oddiwrtho. Ni obeithiais o gwbl gael ei fagu. Pan y gwelais yn y ZD papyrau y Ilea oedd plant ereill wedi ei gael oddiwrth Scott's Emulsion, pendec- fynais roddi prawf arno, ac yr wyf yn gofidio na buaswn wedi ei dreio yn nghynt. Ar ol i'r baban ei gymeryd am ychydig ddyddiau, gallwn weled cyfnewidiad mawr ynddo, a dechreuodd fagu enawd a chryfder Cyn dechreu cymeryd Scott's Emulsion yr oedd yn enill tua phwys mewn tri mis; ond ar ol cymeryd pedair potelaid o Scott's Emulsion enillodd ddeg pwys a haner. Mae yn awr yn ddeuddeng mis oed, ao yn fach- gen braf, cryf, ac iach fel y gwelwch oddiwrth y darlun amgauedig. Ni buasai neb yn credu mai yr un plentyn ydyw, gall fwyta yn dda, cysgu yn dda, ac mae yn awr mor llawen ac ydoedd o druenus o'r blaen, y cwbl yn ddyledus i Secitt's Einul- sion. Gobeithiaf v bydd i bob mam ag sydd ganddi blant gwanllyd roddi tteial iawn ar Scott's Emulsion. Mae yn ddymunol i'r archwaeth, gan fod fy maban bob amser yn llawenhau wrth weled y botel, ao mae yn ei gymeryd yn well na dim arall a gynygiaf iddo. Dymunaf i Scott's Emulsion bob llwyddiant. Ydwyf, Anwyl Syr, yn gywir, (Arwyddwyd) ANNIE TIL-JEY. Os oes genych faban sydd yn dioddef cddi wrth gamdreuliad ni ellwch wneyd dim yn well na rhoddi iddo Scott's Emulsion. Os bydd y baban yn magu danedd, mae Scott's Emulsion yn rhoddi calch i'r dannedd, a bydd iddo esmwythau y nerfau, a rhydd lonyddwch i'r holl gyfansoddiad. Rhoddir y treuliad mewn cyflwr priodol, a chewch lystiolaeth digamsyniol fod Scott's Emul- sion yn gwneyd lies i'r baban mewn amryw ffyrdd. Nid oes gan famau syniad am yr hyn wna Scott's Emulsion 1 blant hyd nes y treiant ef. Yn mhob cyfnod o dyfiant mae Scott's Emulsion o wasanaeth mawr i rwystro wastio yn y cyfansoddiad, bydd iddo belpu i fagu cnawd iach, cyfoethogi y gwaed, a rhoddi yr yni hwnw i'r plentyn fydd mor werthfawr iddo mewn blynyddau i ddod. Nid oes ddirgelwch yn nglyn a Scott's Emulsion. Mae y ffurf oreu sydd bosibl i gymeryd cod-liver oil, hypophosphites of lime a soda, a glycerine. Nid oes baro- toad arall yn debyg i Scott's Emulsion, ac nid oes yr un i'w gydmaru ag ef. Nid oes neb wedi gallu efelychu Scott's Emulsion yn ei ddefnyddiau nag yn y ffordd o gyd- uno y defnyddiau. Mae rhywbeth yn Scott's Em- ulsion ag sydd yn sicr o gynyrchu effeithiau daionus pan y bydd pob- peth arall wedi methu. Bydd i chwi gael eich ar- gyhoeddi fod hyn yn wir os rhoddwch dreial deg t:r arno. Nid yn unig y mae cod-liver oil yn cael ei wneyd yn hollol archwaeth- us yn Scott's Emulsion, ond mae yn cael ei gynyg mewn ffurf sy'n cynorthwyo y treuliad yn lie aflonyddu arno. Gellir gwahaniaethu Scott's Emulsion yn hawdd trwy y Trade Mark ar amlen bob potel. Bydd yn dda i chwi gymeryd tra- fferth i weled fod y Trade Mark ar bob potel. Dyma y parotoad goreu o ood- liver oil a gynygiwyd erioed i'r cyhoedd. Gellwch gael siampl o Scott's EmulsMMt trwy ddanfon tair ceiniog mewn stamps ag enwi y papyr hwn i Scott and Bowne, Limited, 95, Great Saffron Hill, London, E.C.
Advertising
| YOU lwusrraldmxrr that if you examine and test an article before you buy it \f\^Jt ;ou m0re certain of obtaining satisfaction than C f V you buy "on sight." That is our point. Don't send more than 5/- to start p^Jv with, J G. Graves will then _V« \J& 416 Guaranteed ,»enuine V ^0^ English manufacture through- i'H XsAV out and warranted for Seven Vea^s. j if A \3a It contains all the latest improvern,'n;* Wfi g \St| ■ and is Htted with massive Sterling Si;ver Ci It you are satisfied with the Watch you^can then WW jr \cjlli complete the purchase in one payment of ^5/- or i)ine JE Villi 1 gBalfe monthly payments of 5/- If you are not satisfied return Ag I 1 81 liraS the Watch, and your deposit will be instantly returned ll | I Vjl P ISSfi to you. I Have you seen our New Catalogue of a'Lt{1e Latest t Designs in Watches, Jewellery, Clocks, Snemcld Cutlery v, gZf and Plate, &c. &c. ? If not send for one to-day. Sent 3\- ifF tSj! free and post paid. Young Men wanted to introduce our Goods to their friends. Good remuneration. Write for terms and par- ticulars. J. Q. QRAVE6, Dept. 138 Division St., SHEFFIELD. I mt i. MILLIONS miHK fiti TOWER TEA Vfl\^ THE PUREST AND BEST. ( roLL PACKETS ONLY. I I AGEMT8 BYERYWHERS. k Wboleaale TOWER TEA. LTD., 71, Bastakeap, LONDON. Argraphwyd i Gwmni'r Wasg Genedlaethoi Gyinreig, Cyf gan Thomas Jones, chyhoeddwyd ganddo ef yn Swyddfa'r "Genedl," New ttaihouSf Caemarfon.