Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

JACK Y LLONGWB

[No title]

j Etholiad Mcirionyefd.

News
Cite
Share

j Etholiad Mcirionyefd. Mr Gol.Ma.i yn ymddangos mai cyfar- fod lied dierfysglyd a gaed yn Nolgellau pryd y dewiswyu ymgeisydd i gynrychioli y sir yn y Senedd. Meirionydd, fe allai, ydyw y sir fwyaf Ryddfrydig ac Ymneilldu- ol o holl siroedd Cymru; a gall y RhydTl- frydwyr ddewis ac eth'ot aelod Seneddol gyda thawelwch a brawdgarwoh, heb ofni dim oddiwrth y blaid, wrthwynebol. Ond y mae gormod o nerth weithiau yn troi yn wendid, ac y mae y sir dawel hon o bryd i bryd wedi amlygu fod ynddi elfen- au politicaidd lied gynhyrfus, ac mai nid diogel ydyw i neb ymyraeth a hawliau yr etholwyr. Heb gyfeirio o gwbl at y ddau ymgeisydd, nag at unrhyw berson unigol, mae'n amiwg fod y dull a arferwyd i ddewis ymgeisydd wedi peri tramgwydd, siomiant, a pheth cyffro, yn mysg lliaws o etholwyr yn y sir, ac yn neillduol felly yn Ffestiniog, lie mae cartref rhyddid a nerth Rhyddfrydiaeth Meirior* rid. Paham nETbuasid yn sefyll at y bleitaais gyntaf, a thrwy hyny ochelyd pob ymgeintach, tram- gwydd, a siomiant? Er mai cyfarfod berwedig a chynhyrfus a gaed yn Nolgellau, eto fe aeth yr helynt drosodd heb golli gwaed na malu esgyrn. Tebygol fod y "Twenty Third," a fu mor amlwg a gwrol yn etholiad 1885, ar hyn o bryd yn y Transvaal, neu gallasai pethau fod wedi gwisgo gwedd mwy bygythiol. Nid yw nifer aelodau y Gymdeithas Rydd- frydig ond ychydig o'u cydmaru a nifer yr etholwyr yn y sir; ond y mae y Pwyllgor Canolog yn rhy liosog o lawer, a dylesid ei dynu i lawr i dri; a gwell fuasai fod dau o'r tri yn eu gwelyau yn gleifion, a'r tryd- ydd wedi colli y tren. Mae aelodau y pwyllgor yn foneddigion parchus a defnyddiol yn y cylchoedd cym- deithasol y maent yn troi ynddynt o'r tu allan i'r Caucus; ond wedi unwaith iddynt ddyfod at eu gilydd, mae rhyw ysbryd yn eu meddianu, ac yn eu taflu allan o'u llwybr cyffredin. Mae rhywbeth yn y natur ddynol, neu yn natur pwyU. gorau, sydd yn gwneyd i ddynion da ym- dd'wyn mewn dull dieithrol a. chwbl ang- hyson a'u cymeriadau arferol. Dywedai Dr Chalmers mai y ffordd i ddyfetha un- rhyw symudiad da oedd ei daflu i owyll- gor. Mae y wlad wedi ei llenwi a phwyll- gorau, ac yr ydym wedi cael ein hysbeilio ganddynt o bob hawliau ac annibyniaeth a feddem. Nid yw Pwyllgor Rhyddfrydol Meirion- ydd yn rhyw uchel iawn ei glod yn mysg lliaws mawr o'r etholwyr er's blynyddau. Bu gwaith ychydig o foneddigion yn dwyn y diweddar Mr H. Robertson, yn mlaen fel ymgeisydd Seneddol, heb ymgynghori a'r etholwyr, yn dldigon i greu daeargryn yn etholiad bythgofiadwy 1885, pryd y gal- wyd y diweddar Mr Morgan Lloyd, Q.C., yn mlaen i amddiffyn hawliau etholiadol y gweithwyr. Yr oedd hyn yn drosedd an- faddeuol yn erbyn awdurdod- y boneddig- ion hyn, a phenderfynwyd rhoddi pob gallu ar waith i lethu y Cymro gwladgarol, a llwyddasant: ond ni fu yr helynt yn ddim llai na gwaradlwydd arnynt yn y diwedd. Teimlai chwarelwyr Ffestiniog nad oedd gwaith y pwyllgor yn yr amgylchiad hwh yn ddim Ilai na'u hamddifadu o'u pleid- lais fel etholwyr Rhyddfrydig, phender- fynasant ffurfio cymdeithas er amddiffyn hawliau yr etholwyr. Yn yr etholiad di- lynol, pryd yr oedd y diweddar Mr T. E. Ellis a Mr Morgan Lloyd yn sefyll fel ym- geiswyr, fe apeliwyd am beidlais yr ethol- wyr yn y sir, pryd y cafwyd ychydig fwyaf- rif yn ffafr Mr Morgan Lloyd; ond Uwydd- odd pwyllgor Dolgellau i drtoi y mwyafrif hwnw i Mr Ellis. Trodd hyn yn ffawd trwy i Mr Ellis ymddatblygu i'r fath en- wogrwydd, ond nid oedd hyny yn lleihau dim ar gamwedd a rhyfyg y pwyllgor. Nos Fawrth, Awst 28ain o'r flwyddyn hono, cynhaliwyd cyfarfod mawr yn yr Assembly Rooms, Blaenau Ffestiniog, i'r amcan o ffurfio cymdeithas er amddiffyn hawliau yr etholwyr. Cymerwyd y gadair gan y diweddar Mr J. 0. Jones, yr hwn a wnaeth ych/dig sylwadau pwrpasol ar yr angen sydd am amddiffyn yr hawliau ag yr oedd y Llywrdraeth wedi eu gosod yn eu dwylaw fel f hoi wyr. Cynygiwyd y penderfyniad cyntaf gan Mr Thomas Pierce, Tanygrisiau, "Fod y cyfarfod hwn yn anghymeradwyo gwaith y Pwyllgor Canolog yn gwrthod yr ymgeisydd oedd wedi ei ddewis gan y mwyafrif o'r ethol- wyr." Dywedai, "fod amryw o'r farn mai gan y pwyllgor hwnw yr oeda yr hawl i ddewis, tra y barnai eraill mai gan yr eth- olwyr yr oedd yr hawl. Yr ydym yma heno i brotestio yn erbyn gwaith y pwyll- gor yn dewis yn erbyn dyfarniad yr ethol- wyr. Dylem gael cyfnewidiad yn y rheol- au; ac os na chawn, dylem ffurfio cym- deithas ar wahan i'r hon y perthyn y pwyllgor yma iddi." Traddododd Mr Morgan Lloyd araeth gref a goleu ar hawliau yr etholwyr, ac wedi terfynu y cyfarfod cynhaliwyd cyfar- fod arail gan bleidwyr y gymdeithas i ddewis pwyllgor er tynu allan reolau er cario y gymdeithas yn mlaen. Er mwyn canoedtt o hen chwarelwyr Ffestiniog, rhoddaf yma enwau y personau a ddewis- wyd ar y pwyllgor:—Mri Ellis Roberts (ysgrifenydd pro. tem.), W. C. Williams, Evan Roberts, T. Pierce, a Thomas Da- vies, Tanygrisiau; T. Edwards, W. H. Thomas, Morgan Jones, R. Pugh, J. 0. Jones, D. G. Williams, E. D. Davies, Lewis Jones, J. Morgan, R. M. Roberts, Thomas Jones, R. V. Williams, J. J. Jones, Thomas Williams, a lliaws ereill na fyddai o fudd eu henwi. Mae amryw o'r enwau uchod wedi codi deigryn byw i'm llygad, a bydd eu darllen yn debyg o enyn hiraeth mewn llawer mynwes. Yr oeddynt yn Rhyddfrydwyr cedyrn, goleuedig, a gonest. Mae'n amlwg fod y gwyr uchod mewn sefyllfa a theimlad cyffelyb i'r sefyllfa a'r teimlad y mae canoedd o chwarelwyr Ffes- tiniog ynddynt heddyw: ond a oes digon o benderfyniad a nerth argyhoeddiad yn etholwyr Ffestiniog i gario allan yn awr y penderfyniad -a basiwyd yn y cyfarfod crybwylledig? Nid yw o ddim diben cablu personau, ond dylid' naill ai diwygio yr hen gymdeithas neu ffurfio cymdeithas er am- ddiffyn hawliau yr etholwyr fel yr amcan- wyd gan y brodyr ffyddlawn oedd yn siom- edig a briwedig eu teimlad, fel y mae Iliaws heddyw yn Ffestiniog. DORFfL.

Beth am y Dyfodol ?

' " Pa Alwedigaeth a ddywedir…

Proiiad Gweddw o Faethes.

Syr H. Campbell Bannerman…

Bwrdd Gwareheldwald Bangor.

NEWYN COTWM A CHYFYNGDER.

Ymddiheuro drcs fod yn Sals.

Lldfn yr Ysgogvdd yn Colli.

Cynghor Dineslg Bangor.%

[No title]

Gwralg i Filwr mewn Hclbul

Advertising

FFAITH GWERTH EI GWYBOD. -

PROTESTANIAETH YN FAEN PRAWF.

. YR YSGOLION ELFENOL: COSB…

a I.DIODDEFODD ODDI WRTH GAMDREULIAD…

Advertising