Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
22 articles on this Page
! . ETHOLIAD CyrFREDINOL,…
ETHOLIAD CyrFREDINOL, 1900. AT ETHOLWYR SIR FFLIXT. FONKDDiGIOX.— Ar gais Cymdeithas Rvdafrydig Sir Fflint mae genyf yr bvfrvdlwch o gynnyg fv ngwasanaeth unwaith eto am aelodasth Sen eddol. Yr ydwyf wedi cynrychioli y Sir hon am dros bedair blvnedd ar ddeg, ac wedi eistedd yn y Senedd am yn agos 'i ddeunaw mlynedd; y tair blynedd cyntaf o ba rai a dreuliais yn cynrychioli etholaeth Liverpool, cyn ei dos raniad. Yn ystod yr holl amser hwnw bu'm yn aelod gweithgar o'r Blaid Ryddfrydig, a phery fy gweithgar o'r Blaid Ryddfrydig, a phery fy ymlyniad wrth egwyddorion Rhvddfrydiaeth yn ddiysgog. Diamheu ein bod yn myned trwy gyfnod o brawf llym, ond "Melus ydyw gwersi adfyd," a phan drydd y lIanw, fel y gwna cyn bo hir, cymher ein Plaid eto mewn llaw y gwaith cydweddol o wella cyflwr cym- deithasol y bobl, trwy ddeddfwriaeth ddoeth, a thrwy weinyddiaeth heddychlawn a chynil- drefnol i orchwylion y deyrnas. Aethom drwy dymhor o bryder dibaid, a threuliau anferth yn y pum' mlynedd diwedd- af o Lywodi-aeth Doriaidd, a pha blaid bynag a ddaw i awdurdod ar ol yr Etholiad hwn a deimla ei hun dan feichiau llethol trethiadau trymion a chostau milwrol enfawr. Difudd ydyw dadleu yn awr pa un a allesid osgoi y rhyfel yn Neheudir Affrica ai peidio. Yr wyf fi yn derbyn y canlvniad fel mater ter- fynol, ac yn ymfoddloni i gysylltu a Phrydain Fawr ddwy Lywodraeth annibynol y Boeriaid. ac yn edrych ymlaen at yr amser pan y bydd ein holl diriogaethau yn Neheudir Affrica wedi eu cydgorffori yn un Cyfundeb hunan- lywodraethol, tebyg i eiddo Canada ac Awst- ralia. Yr wyf yn llawenhau wrth weled y gwlad- garweh sydd yn ffynu ymhlith ein cyd-ddinas- yddion ein Lunain, yn gystal ag ymhlith ein Trefedigaethau mawrion hunan-lywodraethol, ac yr wyf yn edrych gyda boddineb neillduol ar sefydliad hapus Gwerin-lywodraeth Awst- ralia. Nid oes genyf ddim i'w ddyweyd yn erbyn cadwraeth ddiba.11 o etifeddiaeth ogonpdduz yr Ymerodraeth Brvdeinig, ond teimlaf fod y cyfrifoldeb a gymerwn arnom ein hunain yn ofnadwy, ac yr wyf yn hollol wrthwynebol i unrhyw yehwanegiad tiriogaethol. Yn sior ddigon daeth yr amser i lefain, "Aros bellacb, atal dy law," pan y cofiom fod agos i un ran o bedair o'r byd preswyliedig wedi ei fedd- ianu genym, a'n bod yn llywodraethu dros un rhan o bedair o'i drigolion. Dymunwn gadw drws agored yn China, ao yr wyf yn wrthwynebol i ddadgorfforiad yr Ymherodraeth anferth hono, ond ar yr un, pryd teimlaf yn gryf y dylai y Galluoedd fynu ad-daliad cosbawl llawn am yr vmosod- iadau haerllug ar y Llysgenhadaeth ac am frad-lofruddiaeth anfad Cenhadon yr Efengyl, onide ni bydd bywyd Ewropeaid yn ddiogel yn China am oesau i ddyfod. Un o effeithian y rhyfel yn Neheubarth Aff- rica ydyw yr elyniaeth dost sydd wedi ei henyn yn erbyn y wlad hou, yn enwedig yn mhlith cenedloedd milwrol galluocaf Ewrop. Buom mewn perygl mawr, yn arbenig yn nechreu y flwyddyn hon, pan oedd agos yr holl fyddin reolaidd, a rhan fawr o'n cadlu- oedd cynorthwyol, wedi eu hanfon allan o'r deyrnas. Pa un bynag a garwn hyny ai peidio gorfodir ni gan bunangadwraetb i ad- drefnu amddiffynfeydd y wlad hon, ac i wneyd defnydd helaethach o'n cartrefluoedd (inilitia) a'n gwirfoddolwyr (volunteers) fel gwir gyf- ryngau ein hamddiffyn cartrefoL U. wchlaw pob peth rhaid i ni ad-ennill ewyllvs da cen- hedloedd era;ll trwy iyn^Ivniad gwyftadwrus wrth gyfiawnder, ac ymogeliad o ysbryd gwar- adwyddus gwag-ymffrost, a rhyfelgarwch Gor- phwyllog (Jingoism)—ysbryd sydd wedi teyrn- asu yn rhwysgfawr yn y blynyddau diweddaf hyn, wedi ei fagu, a'i feithrin gan adran bwysig o'r Wasg, a chan rai o'n gwleidyddwyr mwyaf cyhoeddus. Mac ar y wlad bellach eisiau cael grrpfawysiad a llonyddwch ar ol yr aberthau mawrion a wnaeth, ac ni ddylai ddina ond yr Angenrhpidr-,vydd mwyaf dybryd ei gorfodi eto i fyned allan i xyfel. Mewn perthynas i bynciau cartrefol mae fy ngolygiadau yn ddigon nysbys. Aethum i mewn i'r Senedd fel diwygiwr cymdeithasol, ac yr wyf wedi glynu wrth y rhftglen a osodnis o'm b!aen am 18 mlynedd. Fy amcan psnaf yd oedd dyrehafu sefyllfa gymdeithasol a moesol y bobl, yn enwadig y dosbarth tlotaf a mwyaf anffortunus o honynt, a pharaf i weithio ar eu rhan tra bydd genyf eisteddle yn y Senedd. Yr ydwyf befyd o blaid cydraddoldeb crefydd- ol, a Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghyxnru, ac yr wyt yn edrych gydag arswyd ar gynydd cyflym y Blaid Babyddol'sydd yn Rhufainaiddio Eglwys Loegr. Gwnaethom ymgais egniol i gyffroi y teimlad Protestanaidd yn y Wlad, ac yr wyf yn llawenhau wrth weled mudiad cryf o fewn yr Eglwys Genediaethol i ddyohwelyd yn ol at egwyddorion y Diwygiad Protestan- aidd. Gelwais sylw y Senedd dro ar ol tro at yr annhogweh o drosglwvddo rheolaeth rnwy na haner ysgolion elfc-not y deyrnas i ddwy!aw clerigwyr Eglwys Loegr, pan y mae llawpr o honynt yn defnyddio yr ysgolion hyny i sathni allan egwyddorion y Diwygiad Protestanaidd ac i Rufeineiddio neu Babeiddio meddyliau plant y wlad, y rhai uad oes ganddynt ysgol- ion eraill i fyned iddynt. Yr wyf yn vs- tyried hwn yn un o ddrygau gwaeddCa wr y dydd, nad ellir ei wella ond drwy estyniad o gyfundrefn y Bwrdd Ysgol dros yr holl wlad yn gyffredinol. Yr wyf yn gryf o blaid diwygiad yn achos sobrwydd wedi ei seilio ar adroddiad y Ueiafrif o'r Ddirprwyaeth Freiniol a dynwyd allan gan y Cadeirydd parchus, Arglwydd Peel. Yr ydwyf dros drethiad neillduol ar werth tir ardrethol, a theyrnged y mwngloddiau. Yr wyf hefyd yn bleidiol i fesur wyth awr y Mwn- wyr, a gwnaf fy ngoreu i hyrwyddo deddfwr- iaeth i sicrhau tai annedd i'r Gweithwyr. Yr wvf yn eymeradwyo egwyddor yr un dyn, un bleidlais." Dadleuaf dros estyniad llywodr- aeth leol yn Nghyrftru, ac yn mhob rhan o'r Deyrnas Gyfunol, fel ag i liniaru yr ymgron- iad sydd yn awr yn atalfa ar weithrectiadru y Senedd Ymerodrol. Byddaf o blaid deddfwriaeth neillduol mewn perthynas i fcmddiffyniad ffarmwyr Cymru, wedi ei seilio ar adroddiad mwyafrif y Ddir- prwyaeth rDirol i Gymru, ac yn mhob ystyr He mae sefyllfa Cymru yn Vahanol i sefyllfa Lloegr, dadleuaf dros ymdriniad gwahanol. Yr wyf yp'hollol wrthwynebol i'r wfedlyw- iaeth sydd in rhoddi dognau elusenol o arian i ddosbarthiadau ffafredig, trwy ba foddion y mae y Llywodraeth bresenol wedi ychwanegu tair miliwn o bunnau yn flvnvddol at dreul- iadau y Wladwriaeth, yr hyn sydd gyfartal i gyfalaf o dros gan miliwn o bunnau. Os tynir yn ol y rhodd a ganiateir dan Ddeddf Trethiad Amaethyddol, yr wyf o blaid iddi gael ei thalu gan y tirfedd- iannwyr, pa rai felly a gymerant eu rhan o faich y trethi gyda'r tenantiaid. Yr wyf yn wrthwynebol i roddi unhyw faich ychwanegol ar amaethwyr, pa lai ydynt wedi dioddcf yn dost am gyfnod hir o farweidd-dra amaeth- yddol. Yn ddiweddaf, yr wyf o blaid cangiad Deddf Iawn-daliad y Gweithwyr at bob dosbarth o niweidiau, gan gynwys y rhai y. mae ein mil- wyr dewr a'n morwyr yn eu diodaof yn ngwas- anaeth y Llywodraeth. Os bydd i chwi fy anrbydeddu eto a'cli ym- ddiriedaeth, gwnaf fy ngoreu i'w gadw trwy ofal neillduol am eich buddianau, ac am lwyddiant yr Ymherocraeth fawr, o'r hon yr ydym yn ddeiliaid. Ydwyf, Foneddigion, Eich ufudd Wasanaethydd, SAMUEL SMITH. c Gciurhwvliwr Ekboliadcl: — F. Liewellvn-Jones, Cyfreithiwr, Traff>->uon.
The Excelsior Tonic.
The Excelsior Tonic. Nid oes cyffelyb i'r Tonic yma, a chy- meradwyir ef yn neillduol at guriad y galon a gwendid gieuol. Dylai pawb sydd yn dioddef oddiwrth Iselder, Lludded, Gwendid, Gorweithio, Gwynt, Llawnder ar ol bwyta, &c., yoddi prawf amo. "Rhodda yni yn y crfnnsoddnd." "Ei effeithiau vn sior." "Adferydd goreu yr oes." Y fpddvfriniaeth oreu yn y byd. Mewn poteli 2s 6c, trwy'r post nm 2s 9c. IV eael gan grocers a gwerthwyr medd- vrriuiaethau. The Excelsior Remedy Co., Carnarvon. A_
Mr Bryn Roberts yn Nihorth.…
Mr Bryn Roberts yn Nihorth. madog. — i Nos Sadwrn, yn Neuadd Gyhoeddus j Porthmadog, llvwyddai Mr J. Jones Morris, cadeirydd Cynghor Sirol Arfon, ar Morris, cadeirydd Cynghor Sirol Arfon, ar gyfarfod o gefnogwyr Mr Bryn Roberts. Mr Bryn Roberts a ddywedodd. ei fod yn faich clywed am y newydd da o Feirion. Ni fycluai yno ymraniad. Cafwyd barn ar y mater yn Meirion. Dyna oedd Rhydd- frydiaeth. Ond unwaith y deuid i bleid- lais, dylid bob amser ymuno a chydweith- redu (cymeradwyaeth). Pan ddaeth Mr John Morley i Gaernarfon, gwnaethai Mr Bryn Roberts ei oreu i'w gael ef i Borth- madog, ond nis gallai Mr Morley ddyfod yuo. Yr un oedd Mr Roberts yn bresenol ag oedd efe bvmtheng mlynedd yn ol. Y cwestiwn mawr iddynt oedd adenill safle yn y Senedd. Nid oedd hanes y Wein- yddiaeth bresenol yn ffafriol. Darfu iddi basio MESUR IAWN I WEITHWYR, MESUR IAWN I WEITHWYR, ond diffygiol iawn ydoedd. Oddigerth y mesur yna, nis gellid rhoddi bys ar ddim da arau. Gofalu am eu ffryndiau yn unig wnaethai y Weinyddiaeth. Yr oedd y degwm yn y Werddon hyd yn ddiweddar ar y tirfeddianwyr, ond yn awr, trwy y degwm yn y Werddon hyd yn ddiweddar ar y tirfeddianwyr, ond yn awr, trwy y ddeddf newydd, telid 50,000p yn y flwyddyn o'r degwm gan y Llywodraeth. Telir I haner treth y ileoedd amaethyddol gan y Llywodraeth. Ni ddylesid gwneyd hyn. I Yr oedd yn anheg at adran arall q.'r wlad. J Nid oedd y trefi yn cael budd oddiwrth y ddeddf newydd hon. Telid l,600,000p j bob bVwyddyn i'r tirfeddianwyr. Deuai « y ddeddf hon o flaen y Senedd eto yn y j tymhor nesaf. Yn ystod y dirwasgiad • amaethyddol byddai y tirfeddianwyr yn dychwelyd rhywfaint o'r rhent; ond, pan ddaeth Deddf Trethiant Amaethyddol i fod, gwrthodid rhoddi arian yn ol, ac felly nid oedd yr amaethwyr yn well allan, er cael talu rhan o'r trethi, tra yr oedd y Ddeddf hono yn dyfod ag arian mawr i logellau y tirfeddianwyr. Rhoddwyd 600,000p yn y flwyddyn i'r ysgolion en- wadol. Nid oedd gan y trethdalwyr lais o gwbl yn llywodraethiad yr ysgolion hyny. Yr oedd dros 3,000,000p yn flynyddol wedi cael eu talu fel hyn i ffryndiau y Wein- yddiaeth. O'r flwyddyn y daethai y Tori- aid i awdurdod yr oedd -dyled y wlad wedi cynyddu yn barhaus, ar wahan yn hollol i'r rhvfel. Cyhuddid y Rhyddfrydwyr eu bod hwvnt yn caru pob gwlad ond eu gwlad eu hunain. Ond yr oeddvnt yn dilyn egwyddorion Mr Gladstone (cymerad'wy- aeth). Oeisiai y Rhyddfrydwyr ber- swadio y wlad i beidio gwneyd gwaith ag a gynhyrfai wledydd ereill i amheu am- canion y wlad hon wrth gynyddu y llynges a'r fyddin yn ddiangenrhaid. Yr oedd y Toriaid am wario arian y trethdalwyr yn mhob gwlad ond eu ewlad eu hunain. Yr oedd eisieu arian at wneyd man reilffvrdd Ileol mewn gwahanol leoedd. Ond methid a myned yn mlaen gyda'r gwaith trwy nas gallai y Llywodraeth ddim rhoddi arian. Ond gwerid miliynau o bunoedd ar reil- ffordd yn Uganda, yr hon oedd yn sicr o fod yn ffaeliant. Buasai RHEILFFORDD I BEDDGELERT a manau ereill yn fuddiol a da. Dvlid coflo fod Affrica yn'wlad nas gallai y dyn gwyn ddim byw yno fel gwledydd ereill. Pleid- leisiodd Mr Roberts yn erbyn gwario fWJ o nliynau ar y rheilffordd yn Uganda, trwy y credai mai colled hollol fyddai. Pan roddodd Mr Gladstone ei swydd i fyny yr oedd ein gwlad mewn heddwoh a phob gwlad arall, ao yr oedd y deyrnas yn abl" 1 amddiffyn ei hun dan unrhyw amgylch- iad ag y gellid yn rhesymol ddisgwyl y codai perygl. Dyna oedd barn dynion cyfrifol ar y pryd. Sut yr oedd pethau erbyn hyn, pan oedd y Toriaid wrth y llyw ac yn gwario mwy o filiynaui o arian? Yr oedd Arglwydd Rosebery ac Arglwydd Salisbury wedi dwevd fod pob teyrnap vn erbyn v deyrnas hon yn bresenol. Ffrwyth Tori- aeth oedd hvnv. Ond sicrhai Mr Chamber- lain fod oytundebau rhwng y wlad hon a'r Unol Dalaethau a Germani. Gwedid hyny, pa fodd bynag, gan y gwledydd hyny. Ar gvnygiad Mr J. Davies, a chefnogiad Mr C. E. Breeze, pasiwyd ploidlais o ddi- olchgarwch i Mr Bryn Roberts am ei was- anaeth yn y gorphenol, ac o ymddiriedaeth ynddo fel ymgeisydd. Cydnabyddodd Mr Brvn Roberts y blo-idlais. Cadben Morris Jones, wrth pynyg T>en- derfyniad o ddiolchgarwch i'r cadeirydd a'r I siaradwyr, a ddywedodd ei fod weittael ei alw yn fradwr a phob peth am fod yn er- byn v rhyfol. Buasai y rhyfel wedi cael ei hosgoi oni buasai am ffordd haerllug ac anmharchus Mr Chamberlain at Mr Krug- er. Am vr arian a. rpddodd y Weinydd- iaeth i'r personiaid at gario yr ysgolion u_ L, enwadol yn mlaen, arian i ddysgu daearyddiaeth y ffordd i Rufain oeddynt! Cefnogodd Mr B. Roberts, a phasiwyd y penderfyniad.
[No title]
Argymhellwvd Dr Locock's Pulmonic Wafers i mi yn fawr gan glerigwr oedd wedi eu defnyddio am flynyddau. Yr oedd genyf besweh drwg a llais gwanaidd. lach- aodd yr ail flwoh y peswoh yn hollol, ac mae fy llais wedi cryfhau. Yr wyf yn sicr eu bod wedi arbed fy mywyd. John Ashworth, School House, Manwood road, Leeds.-Mewn Asthma, Darfodedigaeth, a phob anhwyldeb y frest rhoddant es- mwythad uniongyrchol. Ar werth gan bob fferyllydd am 131c a 2b 9c y blwch.
CvrnoJ Piatt yn Biiwllhell.
CvrnoJ Piatt yn Biiwllhell. -Noe Iau, cynhaliodd y Cyrnol Platt gyf- arfod yn Mhw.lheli, da.n Sywyddiaeth Mr Richard Roberts, cyfreithiwr. Siaradwyd !lan yr ymgeisydd, a chan Syr H. J. Ellis Nanney, Barwnig, Mr Ralph Bankes, Mr S. Andrews, Mr Lloyd Carter, a Mr Ri- chard JonieB, Oriccieth. Daxllenwyd go- hebiaethau yn dyweyd nad gwir ydoedd fod rhyw landlordiaid yn erbyn y Cyrnol Platt, fel pe buasai yr etholwyr i fyned yn ol fel y byddai y landlordiaid yn myned, ac yn ot arfer rhyw ddosbarfch bychan o ymddibyn- wyr ar, a ohynffonwyr i, y bobl hyny. Addawodd Mr Lloyd Carter y byddai i'r Cyrnol Platt fyned i Gonwy ddydd Llun, ac y byddai iddo gymeryd i fyny yr her a daflasai Mr Lloyd George iddo, i brofi r hyn a ddlywedid yn anerchiad etholiadol Oprnol Platt. Eglur ydoedd fod cyhudd- iadau Mr Lloyd George yn erbyn y Cyrnol Platt, oherwydd cynwysiad anerchiad etholiadol yr olaf, wedi gwylltio Mr Lloyd Carter yn enbydus.
[No title]
Drrfu i Mr Stanhope, wrth siarad yn Burnley, nos Lun, wahodd Mr Chamber- lain i'w erlyn am athrod, gan sicrhau y profai bobpeth a ddywedodd.
--.-----.-. Cymanfa Ddirwestol…
Cymanfa Ddirwestol Hon. Dydd Mawrth cynhaliodd dirwestwyr Mon eu cymanfa flynyddol yn Llangefni, pryd y daeth cynrychiolwyr 0 bob rhan o'r sir. Yn y boreu cafwyd cynhadledd, dan lywyddiat-th y Parch D. Gwynfryn Jones. Rhoddodd yr ysgrnenydd gyfrif o'i waith yn ystod y tymhor diweddaf, dangosai lafur ca'ed a diflino, ac ymddeng- ys fod i ysgrifenydd Cymdeithas Ddirwest- ol y Sir fwy o waith yn myn'd y naill flwyddyn ar ol y Hall, ac onibai am ei lafur diflino ef mae'n ddiamheu 11a bua.sai y wedd sydd ar y Gymdeithas ddim ami. Ymddengys oddiwrth ei waith fod eo1 yr ysgrifenydd gyda'r Gymdeithas wedi bod yn foddion i symbylu zel ddirwestol trwy y sir, fel y gellid dweyd fod pob rhyw fan dafarnau wedi eu clirio i ffwrdd. Cafwyd papyr gan Mr Roberts, ironmonger, Llan- gefni. Darllenodd Mr J. Parry, chemist, Llanerchymedd, bapyr gwir ragorol. Ar gynygiad v Parch R. P. Owen, ac eiliad Mr E. M. Roberts, Bank, pasiwyd fod ar- ho'iad dir^esitol yn cael ei gynal yn mis Medi nesaf. Yn y prydnawn cynhaliwyd cyfarfod ey- hoeddiis yn Penuel, dan lywyddiaeth Mr H. Williams, Tabernacl, pryd y traddod- wyd anerchiadau gan y Parch H.' Rees Davies, Banor, a Miss Pritcbard, Bir- mingham. Yn ystod y cyfarfod pasiwyd n n penderfyniad, ar gynygiad Mr J. Lewis, Y.H., fod cais yn cael ei anfon at Bwyll- gor Heddgeidwadol Mon, yn gymaint a bod CWYll trwy'r wlad fod ein hedd- weision yn myned i yfed i'r tafarndai tra ar eu dvledswyddau, ein bod yn dy- muno ar i'r PwyUgor Heddgeidwadol ddewis cudd-swyddog, fel ag y mae Arfon wedi ei ddewis. Eiliwyd gan y Parch D. Gwynfryn Jones. Pasiwyd y penderfyn- iad gyda chymeradwyaeth uchel. Yn vr hwyr am bump o'r gloch cynhal- iwyd cyfarfod gan y«chwiorydd yn Smyrna, ac am chwech gyfarfod cvhoeddus yn Mor- iah. dan lywyddiaeth y Parch D. Rees, Y.H., Capel Mawr, ac anerchwyd y cyfar- Pod gan y Parch T. Morris, Aberffraw (W.), a D. Hughes, M.A., Caernarfon. Yn ystod y cyfarfod cynygiwyd gan y Parch Smyrna Jones, "Ein bod fel Cymdeithas Ddirwestol 5 Sir yn anghymeradwyo gwaith yr aelod dros y sir yn ymgymeryd ag amddiffyn v tafarnau yn y gorphenol, ac nad allwn roddi cefnogaeth iddo heb iddo ymwrthod ag amddiffyn y tafarnau 711 y dyfodol." Eiliwyd gan Mr T. Jones, Bodffordd, ac ategwyd gan y Parch D. Ciwynfryn Jones, a pbasiwyd yn unfrydol. rrefnwyd fod i'r penderyniad gael ei anfon i'r aelod ac i Gymdeithas Rvddfrydol y Sir. Trefijtwyd fod i'r Gymanfa y flwyddyn nesaf gael ei chynal yn Llanerchvmedd.
[No title]
Yn ol yr ystadegau diweddaraf, y mae nifer y rhai a fynychant ysgolion Sul yr holl enwadau crefyddol (heb eithrio eglwys Loegr) yn lleilutu bob blwyddyn.
Advertising
v A CAN CALL BUT U CANNOT. THEREFORE E WRITES AND A CALLS. TAKE "NOTE- A Og Brothers, SCOTLAND'S GREAT TRADERS, Faisley Koad T ol), G hsg., w, VV irL"rL?tter ?lder SPeciaIiats and every da^ send out very large quantities of goods to cu- tomers who write from all parts of Englan6, Scotland, Ireland, and Wales, and Her Majesty's Colonies, h r^nds, if JIm r annot call psrfM1? S oil TM »01V_Thn ever popular loll Brush Parrel." fu.fcwithstandin* the large advance :n tlie price of the raw material we are still ollmm; t.bi^ marvellous parcel at the old pnee. It contains one good Cloth Bm'h Na\Brrh' °ne pood Hair Brush M rr(> 1 bark, one good Tooth Tnofiv0nej Tnln?- and one small looth Comb. All this for Is. Id., postage 3d and n dPmard for this lot is prodilimi" ana n owonder. 1 ry it. i>oLr?Tt %02„r Jf (lr size wi,ite Lr- Pocht RtindkerrhMj*, lHd. pPr dozen. I iT^7r By post, 3d. pxtra. — Ladies beautiful Lawn Rr~n,- st* ched Initial Handkerchiefs, with one initial letter prettily sewn on corner Only la 4id per half dozen or in a better quality 2s' 4id" letter equireca. fe It- de achahjp) Prwo> on]y u p I Colours: Mosr,, Heliotrop/ fil yalue,mSOn' P: a°°ck Blue' Wonder! address T°Vr nan5e an(1 nost«l tdSSH envelop^ °F Ca8hi r" Please mflntion^e OGG B OTHERS ,RT- Paisley Road Toll, Glasgow, S. W Globe Fumishing Company, ° U. to 18, PEMBROKE PLACB. 1 LIVERPOOL. ARL^ JPARO. .Nh«j t«I^Fundrefn THYClOL ARBRMU AM BR1S- iwnnTAn ABUN i'ARCD. U «n oyfundrefn Log-Fen- tbyoioi ni yn hollol wahanol 1 fle- rhyw an &rail, ac y uiae wedi p'1 chanmawl gan y Wasg yn Kyfiro., DIMMW'^YDI) TN OFYNOL. UIM VCHWANHGOL WKTH BRY^iXJ AR Y GYFUN I'KEFN FENTHYCIOI Mae y dull teg yn mha un y dygir ein ba.. ■eo ynn.|,e», a r Telerau rhesymol a'r pri&- M1*1 Bor .d».l 7ddM drwy Cjmru, fel nad oes eisieu i ni roddi Teh- wan eg 0 fanylion. TuEtiA TT- RHODDWN Y F A':TAIS I'N CWSMER- lAID I WNEYD EU TELERAU EU HUN- AIN GYDA crOLVVG AR DAL,IAi)AD, GAN Elf BOD HWY YN GWYDOD YN WEIX Y SWM Y GALLANT El DALU YN WYTHNOSOL NEU FISOL. Dantonir pob nwyddau ya rhad, 80 oi loddir unrhyw ejostan ar y prynwr. An- fonir Dodrofn i unrbyw ran o 1, "1 flymrn Mae gtmyn Vans neillduol os bydd eiV ieu, ac ni chodir tal am danynt. Bydd i ymweliad a'n raatnachdy roddi boddlon- rwfdd uniongyrchol i bawb fydd yn bwr- iadu prynu, ac fod ein nwyddau 11 'n telerau yn well na a roddir gan n»'i arall ar y t«i- eran llopr-fenthyciol. Caiff archebion gydar post syiw prydlon. Telir cludiad cwsmeriaid o'r wlad. DODREF.VWCH AM ARIAN AP.OD NEU AR EIN (J ïF(TDREFN LOG- FKNTHYCIOL. AM BRISIAU ARIAN PAROD. Anfonir ein rliestr ddarluniadol, barn Wasg, a rhestr o'r prisiau, ar ymofyniad. Orian Btiqn.,ti -9 8.11, i 8 p.m. dydd Sadwrn, 9 a.m. i ft p.m. GLOBE FURNISHING COMPANY, J. R. GRANT, Perebenon;), 13, to 18, PEMBROKF PLACE LIVERPOOL. r FFMG0R V Registered Trade Mark Nu. 225822) Yn llwyr wellhau Poen yn y Frest, ▼ Cefn, a'r Pen; Gwynt ar yr Ystnmog, Pylorod ar y Gwyneb; y Trwyn yn Goch, Oyfog, Corph-rwymedd, Dim Arehwaeth at Fwra Coll Cwsfc a'r amr^winl gwymon gydd yn dilyn Cam- dreimad y Bwya. Ie, ac hyd yn nod os ydych wedi bod yn ferthyr i'r afiechyd poenus ucbod un flynyddau lawer, a phobpeth arall wedi methu eich adfer, peidiweh digaloni, rljoddwch dreial aT ▼ FFISIGOEA, sef J feddyginiaeth ryfeddaf afr werthfawrocaf a daarganfyddwyd enoed fel ag y mae y cyfrolau 0 lythyrau cymeradwyol rfda wedi eu derbyn oddiwrth dorf fawr o rai oeddynt gynt yn glaf yn ddioddefwyr, ond sydd jrn awr yn holliach yn profi. Beth y* y fheswm fe<l ¥Jf I3IGORA yn pryaar ddyfod yn Brif FeddyPfiniaeth yr oes ? Paham fod FFISIGORA. erbyn hvn yn air tenluaidd ar filoedd o aelwydydd yn 2iifhjvaiM, LJoegr, a'r America ? Beth yw yr achos fod cymaint yn gwtrthn FFISIGORA, cynifer yn prynu FFISIGORA, a chymaint o filoedd yn eymeryd FFISIGORA ? Paham fod cynifer o efelychiadau hollol ddi- werth yn sydyn wueyd eu hymddangoeiad, ac yn cael eu gor-gymheh i'r cyhoedd fel rhai tebyg i FFISIGORA rhai 'run fath, a rhai lUnon eyttal FFISIGCRA. Y mae yr attebiad i'r uchod yn hawdd iawn i'w gaeL oherwydd m»e FFISIGORA yn ddiddadl yw y FFISIG GOREU a ddarganfyddwyd erioedfat lwvr iachau yr afiechyd poenus a elwir yn gyffredin yn Ddiffyg Treuliad, neu Gamdreuliaay Bwyd. Nid rhoddi atalfa yn unig ar yr afiechyd difrifol yma y mae FFISIGORA, ond treiddia yu union- gyrchol i ranan mwyaf mewnol y cyfansodduld at wraidd y drwg, a chliria ef allan yn llwvr yn rhyfeddol o fuan, er mawr lawenydd a rhyddhad i'r dioddefydd Peidiwch dioddef tra mae miloedd o'ch cyd- ddynion wedi ac vn cael adfariad hollol trwy gymeryd FFISIGORA. wedi i bolpeth arall fethu. Gofalwch ar bob cyfrif am gael 1 Feddypiniarth a gwnewch yn sicr fod yr enw arwyddoc'aol breint- iecEg FFISIGORA ac enw y gwneuthurwr ar bob potel, label, ac ami en. Ar werth yn mhob man. Prig Is Ile, neu deir- gwaith y mamt 2s 9c; ac os bydd unrhyw anhaws- der i w gael fe'i haufonir yn rhad drwy y Post, jyda ehyfarwyddiadau llawn, ar dderbyniad Postal Order am Is 3c neu 3s oddiwrth y gwneuthurwr, OWEN JONES. M.P.S. Manufacturing Chemist., ABER GELE A CRAM FOR ONE DA" ") It MlOJQgn ■!»■•■ Bfl (g) j I Boy* and Olrta eu M > llioni, I X PLATED WATCH, iUT| CMABt ma M CI1AKW far inlllng 11 dona mtM tt Ml aditrMa. iiM^adteir MM «T Omm. 1*7ratoianull, *<xt we wliibrwart tkaMai Clw BQfcJ. WMt W.i BJ. p IHIIB—mmmmm ——m*
' i . ..jETHOLIAD CYFFREDINOL,…
i ..jETHOLIAD CYFFREDINOL, 1900. ? AT ETHOLWYR BWRDEISDREFI ARFON. Fcneddigios,— Eydd Sadwrn diweddaf, mewn cyfarfod llawn a dylanwadol o gynryehiolwyr Undebol y chwe' bwrdeisdref sydd yn gwneyd i fvnv Ddo^bart l Arfon, g-wnaed cais taer ac unfrydol ataf i ddod allan i vmgeisio am gynrychiolaeth y Bwdoisdrefi hyn yn erbyn Mr. D. Lloyd George; a theimlais mai dyledswydd ar fy rhan •edd ateb yr alwad fciwv ddod yn mlaeri i ym- ladd. Nid yw y tir ar ba un ydys i ymladd vn fater w ddewisiad. Pum' mlvnedd yn ol rboddvryd dwy rao-Wn wrthwynebol i'w gilvdd o ddeddf- viiaeth p-artrefol porbroa y wlad ifan arwein- yr y ddwy blaid fawr wleidyddol, a gofynwyd i'r Ethola?thau wneyd eu dewigiad. O'r braidd y mae angen i mi eich hadgofio i'r Etholwyr ^a^.u. a^an» &yda llais digamsyniol, y polisi o ^057 fyr)yjr Ymherodraeth oedd yn cael ffafr gyda r Blaid Radicalaidd, tra y rhoddwvd i Ar- glwydd Salisbury a'r arweinwyr Undebol fwy- if gyda'r mwyaf gaed yn ystod y ganrif i'r 0 gadw yr Ymherodraetb i fvny yn ei ehyfanrwydd, o gryfhau amddiffvnfeydd y wlad, • ddal i fyny y Cyfansoddiad, ac o hyrwyddo diwygiadau cymdeithasol ar linellau cyfansodd- ladol. Pe buasai Llywodraeth Arglwydd Salisbury yn awr yn apelio at y wlad am adnewyddiad •'r ymddiriedaeth roddwvd iddi ar bwvs yr hyn wnaeth mewn deddfwriaeth gartrefol yn unig nid *7* yn petruso dweyd y byddai i'r etholwyr, ar ol ystrnaeth deg a phwyllog o'r ffeithiau, gael eu gorfodi i'w phleidio. Nid ocs yr un Llywodr- aeth mewn amscroedd diweddar wedi cadw ei haddewidion i'r etholwyr mor llawn ac i'r un graddau a'r Llywodraeth preflenol. Mae wedi pasio Deddf o Lywodraeth Leol i'r Iwerddon, trwy yr hon y mae yr Iwerddon yn mwynbau yr un mesur1 o lvwodraeth leol a'r gweddill *'r Deymas Gyfunol, ac y mae y Ddeddf bon hefyd wedi myned yn mhell i dori grym y cynwrf bradwrus yn yr Iwerddon. Mae wedi pasio Mesur trwy yr hwn y rhoddir lawn i Weithwyr am bob niweidiau allant eu cyfar- 1 fodtra yn dilvn eu gorchwylion os na byddant yn dra esgeulus, ac y mae manteision y Mesur hwnw vn ddiweddar wedi ei estyn i laftirwyr amaethyddol. Mae wedi pasio Mesur sydd yn gallnogi y ty-ddahwr bychan darbodus i sicrhau meddiant o'r ty y triga ynddo ar delerau ea- lowyth. Mae wedi pasio Mesur i gynorthwyo n Ysgolion Gwirfoddol fel ag i ochel y perygl i'r ysgolion hyn ddod yn faich ar y trethi lleol. Mae wedi pasio Mesur i ostwng y dreth ar dir yn unal a hawliau ffermwyr y wlad. Mae wedi pasio Mcaur y Rheilffyrdd Ysgafn, yr hon sydd yn galluogi ac yn rhoddi anogaeth i gorphor- aethau trefol a chyfalafwyr i wneyd rheilffyrdd ysgafn mown ardaloedd lie y mae angen mawr am gyfleusderau teithio, ac ychydig o leoedd yn Lloeft a Chymru sydd yn fwy tebygol na Sir Gaernarfon, yn y dyfodol agos, o dderbyn budd oddiwrth y Mesur rhagorol hwn. Pe buasai gofod yn caniatau gwaith hawdd fuasai nodi amryw Fesurau pwysig eraill o ddeddf vrriaeth ddiwygiadol ag y mae y wlad yn ddyledus i'r Llywodraeth bresenol am danynt; tra y mae yn ddiogel dweyd na roddodd yr un Llywcdraeth erioed fwy o ymddiriedaeth i fas- sachwyr, trwy yr hyn y mae masnach wedi ad- fywio, pob cangen o ddiwydianau y wlad wedi Hwyddo, cvflogau wedi codi, a'r holl wlad wedi mwynhnu cyfriod o gynydd masnachol na wel- wyd ei debyg. Mae prophwydoliaeth yr Undebwyr yn 1895, y byddai in buddianau masnachol dan Lywodraeth gref a dianwadal barhau i gynyddu, wedi ei sylweddoli yn Foneddigion, yr wyf yn hawlio fod y sdraoth Undebol yn deilwng o adnewyddiad ymddiriedaeth y wlad ar y tir ei bod wedi dal yn ffyddlon i'r ymddiriedaeth osodwyd yn Ar- glwydd Salisbury a'i gyd-swyddogion bum' mlynedd yn ol. Os y gwnewch i mi yr an- rhydedd 0 roddi eich pleidleisiau yn fy ffafr, bydd i mi roddi cefnogaeth diysgog i Lywodr- aefch a barha, i basio deddfwriaeth er lies y wlad ar linellau cymedrol a chyfiawn y laywodr"th Undebol breespol. Eto yr wyf yh rhwym o gyffesu rtadyw Llyw- edraeth Arglwydd Salisbury yn awr tLr ei phrawf ar gyfrif ei deddfwTiaeth gartrofol. Mae y Llywodraeth Undebol wedi pasio mesuran lleeoi, mae wedi cefnogi masnach, mae wedi rhoddi i ni amser da. Rhaid i hyn oil gael ei ddweyd yn ei ffafr, ond nid ar dir deddfwr- iaeth a gweinyddiaeth gartrefol y dygir yn mlaen yr etholiad presenol. Wedi i bobpeth gael ei ddweyd yn ffafr y Llywodraeth gyda golwg ar ei deddfwriaeth ardderchog, yr wyf yn rhwym o gydnabod fod y Gwir Anrh. John Marley, yr hwn sydd un o'r pro-Beers en- wocaf a mwyaf adnabyddus yn y wlad hon, yn iawn pan y dywed, mewn llythyr at ei gefnog- j wyr Rhyddfrvdol yn Montrose: Dywedcr a fyner, ar ddigwvddiadau per- j thjnasol i bolisi dramorol y Llywodraeth y J oymerir barn yr etholaeth." Mae Mr Balfour a Mr Chamberlain, ar ran y Llywodraeth, wedi cydnabod yr un ffaith. Yn ol Ysgrifenydd y Trefedigaethau, Prif bync- iau yr Etholiad Cyffredinol ydynt iawndpr y Rhyfel yn Neheudir Affrica, ac i anrhydedd yr Ymherodraeth fel cyfangorph, ag yr ydym yn ddiweddar wedi gorfod ei gyfarfod." Foneddigion. yr wyf yn dod yn mlaen i wrthwynebu dychweliad Mr. D. Lloyd George i'r Senedd gan nad wyf yn credu fod ei ym- ddygiad a'i olygiadau ar y Rhyfel yn Nebeu- dir ffrica vn cynrychioli argyhoeddiadau mwy- afrif mawr Etholwyr Bwrdeisdrefi Arfon. Hyderaf gael y cyfle i ddangos i chwi fod ar- ( weinwyr goreu y Blaid Ryddfrydol a'r rhai y 1 gellir ymddiried fwyaf ynddynt, vn Nhy y i Cyffredin ac yn Nhy yr Arglwyddi, yn dal yn gadarn y golygiadau fod y rhyfel yn Neheudir Affrica yn rhyfel ag yr oeddym yn rhwym o'u hymladd er eriill yn ol uwchafiaeth Prydain yn Neheudir Affrica ac i amddiffyn y bobl wyn- ion yn y rhan hono o'r byd. Yr wyf yn der- byn desgrifiad Mr Asquith o Lywodraeth y Transvaal- "Ni raid i unrhyw un sydd yn •aru rhyddid," «bai'r cyn-Ysgrifenydd Cartref- eI Radicalaidd wythnos yn 01, golli deigryn sherwydd difianiad Gweriniaeth Deheudir Aftrim-engraifft auffodi,, o un or mathau "thaf o boced T, t' 1,1, gwawdlun a ffugw iaeth o ryddid 0 fl" cr"Ti erinol." XGellk tybied f<;«i .Id i wahaniaeth barn gonest y modd y cariwyd y trafodaethau yn mlaen, a yr ochr hon neu y Ilall, cyn i Ryfel Deheu- dir Affrica dori allan: nis gall fod un gwahan- iaeth barn parthed dyledswydd dynion gwlad- SMol mewn aroaer o ryfel. Yr oedd deiliaid y Frenhines yn rhwym o aefyll yagwydd wrth pan anfonodd Gweriniaeth Deheudir Affrica genndwri haerllug i'n Llywodraeth a phan y gorf>s<jynodd y byddinoedd Bweraidd diriogaethau Prydeinig. Bu i fwyafrif gorlethol deiliaid y Frenhines yn mhob rhan o'i thiriogaethau sefyll i fyny dros anrhydedd yr Ymherodraetb. Yr oedd Mr. Lloyd George o ochr y gelvn. Ymladd- d dros yr achos Bweraidd a phleidleisiodd yn !;yn rhoddi cj flenwadau i'r Llywodraeth wedi 1'ki r.hyfel yr hyn oedd gyfystyr a pWeidleisio dros adael i'n byddin ar y roaes gael gadael at drugaredd y gelyn. Bu iddo ochr yn ochr gyda dynion a amlygent y gobtith y caffai ein milwyr eu lladd mewn o^wydT ac y dygid dianrhydedd ar yr Ymher- Brydeinig. Efe a wawdiai ein byddin milwyr cyflog," a siaradodd mewn iaith waradwyddu1?" am ein Cadfridogion dewr. F" Iddigion, uid wyf yn meddwl eich bod yn cefa«gi Mr. I.loyd George yn ei gyfathrach aynion sy'n ymffrostio yn eu hannheym- garweh a'r rhai roddf-nt gefnogaeth agored i gwlad. Os nad ydych, yna gofyn- i cnwi roddi eich pleidleisiau ac i arfer eich ar rhan. Yr wyf yn dyfod o'ch hr»n o te^110Sy<ld Llywodraeth ddiysgog, yr polisi er setlo heddweh parhaol n»ni?ut^;r Affrica, a'r hon na chaniata i'r j t_'9lon a en'Hwyd genym ni trwy aberth- fnn,aiirfai Waet^ a thrysor gael ei golli ar y Q 0 a —^7 wendid ac anwadalwch. Nid jy i *11 Z Radicalaidd arweinyddion na Sn,« ^rr'th ,a Phe '^7 ryw ddamwain an- aidd L^C',Welld *'r Sen edd fwyafrif Radical ~ap1 y ai 1 ym?ynghoriadau y blaid hono Ran gynen ac vmrafaelion ■Sfynaf 1 Eth^ Bwrdeisdrefi Ar- *o fall* °U ;^orou } sicrhau fy nvchweliad, ffwla<f'Pn0rt osS°i y fath drvchineb Ydwvf, Foneddigion, Y eiddoch yn fryddawn, r. J.. HENRY PI,ATT. Wdamog. L'anfairfechau, | M^di 2^ain. 1900. 2C,a;n. 1900.
Advertising
Yn awr yn barod, y trydydd argrafBad o'r Ddrama adnabyddus JACK Y BACHGEN DRWG, gyda llawer o welliantau ac ychwanegiadau. Mae yn werth i bob dyn ieuanc ei ddarUen. Pris, 6c. Trwy y post, 6te. Anfonir dwsin yn rhad trwy y post ar dderbyniad 5s. I'w cael gan yr awdwr, DAVID EVANS, 42, William street, Cilfynydd, Pontypridd. 896 P EIjLTR cnel Arian am Log Rhesymol ar Eiddo Rhydd-ddaliadol neu Bryd- lesol, neu ar Feichniaeth. Ac., trwy ymof- yn a Mr R. R. Styfhe, Accountant; Caer- narfon.
DYDD I AIT, HYDREF 4, 1900.
DYDD I AIT, HYDREF 4, 1900. Y mae Mrs Kruger yn aros o hyd yn Pretoria, a gwrthododd encilio gyda'i gwr. Y mae Arglwydd Tredegar wedi rhoi Pare Bedwellty yn anrheg i dref Tredegar. 0 Yn y Midlands bernir na fydd i bris uchel y glo barhau drwy gydol y gauaf. Dydd Gwener, bu farw y Parch D. J. Morgan, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Chalford, Gloucester, yn 29 mlwydd oed. Hysbysir fod cnwd y pytatws yn y Wer- ddon eleni mor isel fel yr ofnir y bydd yn newyn mewn rhai lleoedd yno. Y mae Mr a Mrs John Young, cenhadon, wedi cael eu llofruddio yn rhanbarth Shan- si. Rhyfedd iawn! Y mae cynifer a 2,300 o ganwyr clyohau yn nghylch Eglwysig Exeter. Yn herwydd afiechyd, y mae Mr D. Randell, gynt A.S. dros Gwyr, wedi rhoi ei sedd i fyny. Dywedir y gall bron bob Chinead ddar- llen ao ysgrifenu, ond fod 90 y cant o'r merched yn China yn ddiddysg. Yn Calcutta, India, y IIla llifogydd exvbvd wedi cymeryd Ue, gan achosi i fil- oedd Toi eu cartrefi i fyny. Ychydig amser yn ol bu farw Arglwydd Kensington yn Bloemfontein. Y mae ei etifeddiaeth newydd gael ei phrofi yn 711,000p. Yn Sunderland, ddydd Sadvrrn, yr oedd cicio'r 'bel droed am y gora. Pan ar ganol y chwareu. ciciwyd dyn o'r enw William Longstaff yn ddamweiniol yn ei gylla, a bu farw dranoeth. --7- Digwyddodd tan dinystriol ar fferm yn Broadhurst, ger Chatham, ddydd Iau, a chafodd yr holl adeilad'au a chwech o ge- ffyiau gwerthfawr eu dinystrio. Hysbysir fod terfysgoedd enbyd yn mysg y glowyr yn Pensylvannia, ac fod rhai wedi eu saethui i farwolaeth ac ereill eu niweidio. Yn heddlys Mariborough, Llundain, ddydd Mawrth, dirwywyd dyn o'r enw Hampson i haner cant o bunau, a phum' cant o gostau, am gadw ty betio yn Regent street. Dywed Sankey, yr efengylwr American- aidd enwog, yr hwn sydd yn awr ar ym- weliad a'r wlad hon, fod cyflwr moesol Llundain yn gwella. Cyfrifir, yn ol yr adroddiadau diweddar- af, fod yn agos i ddeng mil o bobl wedi colli eu bywydau yn y corwynt ofnadwy a gymerodd Ie yn Texas, yr wythnos o'r blaen. Mewn araeth o flaen y Gymdeithas Brv- deinig, yn Bradford, ddydd Mawrth, dy- wedai Mr W. H. Dawson y dylid ymddwyn at grwydriaid fel troseddwyr. W
Advertising
CLARKE'S B 41. FILLS a varentir i wella pob diffyg ar yr organau dyfrol, yn y naill ryw fel y ilall, yn nghyda gravel a phoen yn y cefn. Gwarentir eu bod yn rhydd oddiwrth mercury. Sefydlwyd ere 30 mlynedd. Mewn blychau 4s 60 yr un gan bob fferyllydd a gwerthwr cyffyrian breintiedig yn mhob man, neu anfonir hwy o unrhyw gyfeiriad am 60 stamps gan y gwneuthurwyr, The Lincoln and Midland < f,ilint, -s Drug Company. Livonia.
Cymanfa Dilrwestol Gwynedd.
Cymanfa Dilrwestol Gwynedd. YR ETHOLIAD CYFFREDTNOL. Mewn adroddiad sydd wedi cael ei anfon ullan, dros Gymanfa Ddirwestol Gwynedd, gan y Parchn. Rhys J. Huws a J. Eiddon Jones, dywedir fel hyn: — Ymdrechasom ddeall pa fodd yr ydym yn sefyll. Y mae Mr J. Herbert Roberts, Mr J. Her- bert Lewis, Mr D. Lloyd George, Mr Sam- uel Smith, Mr A. C. Humphreys-Owen, :t Mr W. Jones wedi bod yn nodedig o ffydd- lawn ac ymdreehgar o blaid yr achos yn y Senedid, a byddai colli un o honynt o'r Sc-nedd yn golled i'r achos drwy y deyrnas. 1 tnae Mr Bryn Roberts, Mr Ellis J. Griffith, a Mr Samuel Moss yn iawn ar y cwestiwn, ond y maent wedi bod yn fynych yn absenol pan yr oedd eu heisieu. Yn yr ochr wrthwynebol y cafwyd y Col. Pryce Jones. Am yr ymgeiswyr newyddion, y mae Col. Howard (sir Fflint) a'r Col. R. W. Wynne (sir Drefaldwyn) yn absenol yn y rhyfel, ac nis gellir gwybod eu safle. Y mae Mr J. Ll. Price (Bwrdeisdrefi Fflint) yn fragwr. Y mae Mr Clement Edwards (Bwrdeis- drefi Dinby a Mr J. A. Bright (Bwrdeis- drefi Trefaldwyn) yn bleidwyr selog, ac nid yw yr Anrhyd. G. T. Kenyon wedi ateb. Y mae Mr Osmond Williams (Meirionyda) vn ffafriol i'T achos, a Mr Lief Jones yn en- wog fel amddiffynwr iddo. Y mae y Col. Piatt (Bwrdeisdrefi Arfon) wedi ateb fel hyu -Yr wyf o blaid deddfwriaeth yn er- byn anghymectroldeb, ond gan na thybiaf y gwneir unrhyw gynygion ymarferol yn y dyfcdol agos, ao yn absenoldeb y cyfryw gviygioix, tybiaf yn ddiangenrhaid i rodd' vnihyw ymrwymiad."
Cynghor Dosbarth Ogwen.
Cynghor Dosbarth Ogwen. Cynhaliwyd cyfarfod o'r Cynghor ddydd Gwener, dan iywyddiaeth Mr W. Lester Smith (cadeirydd).—Darll«nwyd cylchlythyr yn anog y Cynghor i ddeisebu Bwrdd y Llywodraeth Leol o blaid mantoli cyfrifon cynghoirau dosbarth gwledig yn flynyddol yr. lie haner blynyddol fel yn bresenol. Ar gynygiad Mr Thomas Roberts, Aber, mabwysiadwyd penderfyniad i'r perwyl hwn. Ar gynygiad' y Cad- eirydd pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a tlveulu y diweddar Mr W. Edwards, Pentir, yr hwn oedd yn aelod gwerthfawr o'r Cyng- hor.
I Bwrdd Gwarcbeidwald Caerarfon.
I Bwrdd Gwarcbeidwald Caerar- fon. ACHOS DR GRIFFITH, PENYGROES. Cynhaliwyd cyfarfod misol y Bwrdd ddydd Sadwrn, dan lywyddiaeth y Maer (Mr W. J. Williams).—Darllenwyd llythyr oddiwrth Fwrdd Llywodraeth Leol o ber- thynas i gais Dr Griffith, Penygroes, am flwydd-dal. Bu y mater hwn gerbron y gwarcheidwaid beth amser yn ol, a chan iod pfeth gwahaniaeth barn yn bod ar y cwestiwn a oedd gan y meddyg hawl i flwydd-dal penderiynwyd gofyn barn Bwrdd Llywodraeth Leol ar y mater. Dar- llenwyd yn awr lythyr oddiwrth yr awdur- dod hwnw i'r perwyl mai y gwarcheidwaid eu hunain ddylent bendertynu y cwestiwn, ac os y byddai i'r gwarcheidwaid ganiatau blwydd-dal ni byddai cymeradwyaeth Bwrdd Llywodraeth Leol yn angenrheidiol. -Mr T. W. Williams A oes gan Dr Gri- ffith hawl gyfreithiol i flwydd-Cial P-Y Cad- eirydd a'r Cierc a farnent fod ganddo.— Mr R. B. Ellis: Ai ymddiswyddo a ddarfu iddo ?-Y Cadeirydd: Ie.—Mr Ellis: A ddarfu i ni alw arno i ymddiswyddo?—Mr T. W. Williams: Do feWswyddog buch- frecliol, ac nid oes flwydAlal yn cael ei roddi i'r cyfryw swyddogioiw Ymddiswydd- odd fel swyddog meddygol ohono ei hun, ac fel swyddog meddygol y mae yn haw'io blwydd-dal.—Mr R. B. Ellis: Buasai vn ddrwg genyf weied y gwarcheidwaid yn cael eu gorfodi i roddi iddo flwydd-dal. Ni wnaeth yr un dyn fwy o gam a'r tlodion a Dr Griffith. Os na orfodir ni i roddi iddo flwydd-dal dylem ymddwyn ato fel tlcttyn. -Mr T. W. Williams a ddywedodd nad oedd neb wedi bod mor 'lawdrwm ar Dr Griffith ag ef, ao nid oedd neb wedi cael mwy o anhawsder gyda'r meddyg nag ef. Er's rhai misoedd yr oedd y gwarcheidwaid wedi bod yn ei gynal ef a'i wraig, gan iddo, ar gyfarwyddyd pedwar o feddygon, roddi i fyny ei swydd fel swyddog meddygol; ac yn ddiweddarach fe wnaeth gais at y Bwrdd am flwydd-dal. Yn awr y cwestiwn oedd-A oedd y Bwrdd yn myned i atal oddiiwrtho yr hyn oedd yn gyfreithlawn iddo ei gael ar draul gwario rhagor arno mewn cynorthwy allanol? Yr oedd ef (Mr Williams) wedi derbyn symiau o arian oddi- wrth bobl ttiagat gynhaliaeth y ddeuddyn, ac yr oedd Mr Hughes (y curad) yn ga-redig wedi ymgymeryd a gwneyd defnydd o'r arian fel y byddai angen.—Mr W. Owen a ddywedodd y dyl&i y Bwrdd sefyll yn erbyn rhoddi blwydd-dal i Dr Griffith hyd nes y gorfodid hwy i wneyd.—Mr T. J. Lloyd a sylwodd fod y Bwrdd wedi gwrthod rhoddi oymhorth i rai oeddynt yn llawer mwy teilwng ohono na Dr Griffith. Yr oedd ef yn gryf o'r farn na ddylent roddi iddo flw,ydd-dal.Cynygiodd Mr W. Thomas nad oedd y Bwrdd yn caniatau blwydd-dal i Dr Griffith, a ehytunwyd a hyn.
YR HEN WR LLON.
YR HEN WR LLON. "R'ych yn hen, fewyrth William," meddai rhyff lane, "Eich llaeswallt a'ch baTf sydd yn wyn Ond lion y'ch er hyny, a chiyfaoh na mi, 0! d'wedwch pft_f°dd y mae hyn? Mae'm giau i'n weinion, a'm arebwaeth yn wall, Ac ofnwyf mai nychu yr wyf; Ond, er dwywaith fy oed, eich nerth chwi barha, Fel pe na ba'i diwedd i'ch nwyf. )(a'n rbaid fod rhyw selios i'ch iechyd di- ail, A hefyd i'm nychdod mawr i; Rhown haner fy nghyfoeth am feddian o'ch nerth, 0 d'wedwch eich secret i mi." "Rwy'n iachus a nerthol," atebai'r hen wr 'Rwv'n fywiog a dedwvdd, a rhydd: Ac os hoffech wybod paham 'rwyf fel hyn, Yr ateb yn syml iawn sydd. Na ftfnwch feddygon,na lynowch Bills mwy, Ond gyrweb, nac oedweh yn hwy, Am Gwilym Evans Bitters, y peth raid i'ch gael Ar ei fvnyci ddefnyddio, 0, byddweh y" hael, Ac ni theimlwoh yn afiach byth mwy. Dylai y prynwr ochel efelychiadau o'r Bitters hyn, trwy edrych fod enw Gwilym Evans ar v label, y stamp, a'r hotel. Ar werth gan bob fferyllydd mewn poteli 2s 9c a 4s 6c yr un, neu gellir ei gael drwy y post oddiwrth y perchenogion—Quinine Bitters Manufacturing Co., Limited, LInn- elly. South Wales.
Advertising
-=-1 J -=- rC:jjrC31rr3 -i 73 rr-3 jPCJP-arr=3 3 P P • (1 rai Cadburud a rg roi_ I ni 1 is ABSOLUTELY PURE- j I I I most Refreshing, • 1 S Invigorating, | GUVS flOSPlTA, and Sustaining, a G 'Y'S uFrom practical experience 'fil wo can say that, it possesses high nutHtivo power, and £ .3 a g M 1^1^, ffre&t cf tTM&vuiar activity*'p g :"F1 -,()- ¡m .-J 1, S h '• Tne LANCET says: "Cadbury's Cocoa represents the Si "U standard of highest purity." ^j* LlJ The MEDICAL MAGAZINE says: "For Strength, for Purity, ibri CaDBUP'V's Cocoa Is a Food." and for Nourishment, there is nothing superior to be found." 0i —;—«. [fgjl %) -A; Co-oa to have the pure article only, as many so-called "Puz3" Cocoas rii ILi § asLo contain av lud ihaj; is not only unnecessary, but often positively M3 il 11 pa is$'t$t m GADBURY'tcrJy h Pack-sk swsi 7fas—.3$othzr Cocoas are sometimes substituted for the sake of extra unfit 13 M J 1 .11 L,8;¡..L" -t.E,u. -.I¡,L:l:¡_ -4: =:!J.'i: v i
-.--Mwyafrif mewn EthoIIadau.
Mwyafrif mewn EthoIIadau. Yr oedd mwyafrif 1895 yr agosaf i'r mwy- af mewn hanes er y Reform Bill. Y mae y ffigyrau hyn yn dangos y mwyafrif yn 11 holl Seneddau ei Mawrhydi: — Blwyddyn Gwleidyddiaeth Mwyafrif 1837 Whig I. 51 1841 CoidwadiN-yr 81 1847 Whig i 18-32 Rhyddfrydwyr 13 1857 Rhyddfrydwyr 79 1859 Rhyddfrydwyr 13 1865 Rhyddfrydwyr 67 1863 Rhyddfrydwyr 128 1874 Ceidwadwyr 46 1880 Rhyddfrydwyr 18G 18S5 Rhyddfrydwyr 84 1886 Ceidwadwyr 123 1892 Rhyddfrydwyr 40 1895 Ceidwadwyr 152
Ymadawlad Mr Ellis Owen o…
Ymadawlad Mr Ellis Owen o Gaernarfon. Prydnawn dydd Iau, yn swyddfa'r "Ucnedl Gymreig," anrhegwyd Mr Ellis Owen, yr hwn nm flynyddoedd a fu yn ysgrifenydd a chyd-arolygydd yn y swyddfa, ar e; fyn- ediad i Aberhonddu i arolygu swyddfa newyddiadur Rhyddfrydol, y "Brecon mid Radnor Express," yno. Yn y swyddfa horf y deohreuodd Mr Owen ei yrfa, pryd y treuliodd saith mlynedd fel egwyddorwas o argraffydd gyda Mr D. W. Davies. Yn y cyfnod yma treuliai ei oriau hamddenol 1 ddiwyllio ei feddwl mewn vsgol nos, a chyda'r Parch R. P. Hughes. B.A., Water- loo Port (yn awr Rheithcr Llanaelh.urn), ac yn mysg ei efrydiaethau ereill meistrol- odd y Francaeg. I'r dvben o eangu ei wy'oodaeth o'r iaith hono, ac er gweled y byd, netli i Paris i swyddfa y "GalFignani Messenger," ac yno y'bu am tua phedair blynedd. Yno hefyd y daeth o hyd i'w gydmar feywyd, a hono yn Gymraes o Lan- dilo. Symudodd drachefn i Lundain, i swyddfa'r "Tit Bits; ac oddiyno daeth i'r swyddfa hon yn 1892, fel ysgrifenydd i Gwmni'r WaBg Genediaethol Gymreig, Cyf. Ar ol hyny penodwyd ef a Mr Thomas Jones (Powyson) vn gyd-arolygwvr y swyddfa. Yn y cyfarfod dan sylw, cyfeir- iodd Mr Thomas Jones, wrth gyflwyno yr anrheg, at yrfa lwyddianus Mr Owen, a dadganai, ar ran y Cyfarwyddwyr eu mawr ofid o golli ei wasanaetli gwerthfawr. Cof- iai efe (Mr Jones) am yr adeg y daeth Mr Owen i'r swyddfa hon, a bu yn gwylio ei yrfa byth er hyny gyda dyddordeb. Da oedd ganddo ddeall fod bechgyn fu yn y swyddfa yn dringo i fyny i leoedd mor an- rhydeddns, ao yn eu mysg gellir enwi Mr David Edwards, yr hwn sydd yn oruchwyl- iwr yn swyddfa'r "Daily News," y diwedd- ar Ap Ffrmwr. ac amryw ereill. Anturiai ddyweyd y teimlid gofid cyffredinol ober- wydd ei ymadawiad, a gallai o galon ddy- mnno llwyddiant a dedwyddweh iddo ef a'i deulu.—Cafwyd gair yn mhellach g,an Mri John Jones (cashier), Watkin Roberts, Benjamin M. Williams, G. Lewis Owen, Robert Hughes, Griffith Williams, a Mor- gan Jones Williams. Dadganai yr oil eu dymuniadau da i Mr Owen a'i deulu. Yr oedd yr anrheg yn gynwysedig o lestri arian (tea service), ac yn gyflwynedig i Mr a Mrs Ellis Owen, ar eu hymadawiad o Gaemarfon, fel arwydd o barch a theim- ladau da gweithwyr a staff y "Genedl" tuag atynt. Mewn yohydig eiriau pwrpasol a theimladol, cydnabyddodd Mr Owen yr anrheg.—Y Sul o'r blaen oyflwynodd ei ddosbarth yn xsgol Sul Moriah anrheg o nifer o lyfrau fel cydnabyddiaeth am ei lafur a'i ffyddlondeb fel athraw.
"Llyth rau Caru."
"Llyth rau Caru." Mewn cvngrhaws o dori amod priodas, dyfarnwvd 60p i wraig weddw oedd yn cadw llefcy vn Kensington. Yr oedd y ditfynydd, yr hwn oedd wedi bod yn aros yn achlysurol yn y ty, wedi ysgrifenu yn egos i lon'd berfa o lythyrau caru.
[No title]
Y mae Arglwydd Portsmouth wedi am- tygu ei fwriad i encilio oddiwrth blaid y Rhyddfrydwyr Undebol, ar y tir nad yw rn gallu cydolygu a'u syniadau gwleidydd- ol nac yn deall eu safle gyhoeddus. Cafwyd haulier o'r enw William Lewis yn farw ar domen ger ystabl yn Nghlan- dwr, ddydd Sul.