Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

JACK Y LLONG WRt

News
Cite
Share

JACK Y LLONG WR t MYTYRDODAU. Dyn. Cyfyngedig ydyw dyn o ran corph, meddwl, a gallu. IS id yw efe gyfrifoi am hyn. Ond cytrifol ydyw am bob peth a wna neu a wrthoda wneyd o fewn cylch ei allu, corphorol neu feddyliol. Gall wybod i lLawer o bethau o fewn cylch ei gyrhaedd- iadau, a gall gredu ynddynt. Nid yw ei an- allu ef i ddeall neu i amgyffred pethau j tu allan I gylch ei gyrhaeddiadau ef yn un iheswm dros beidio credu mewn pethau nas gall en deall na'u hegluro. Mae mwy o bethau nas gallvn eu deall yn dangos eu hunain i'r golwg, yn cyffwrdd a'r teimlad a'r chwaeth, nag sydd o bethau ag y gallwu eu deall. GalLwn weled yr ymborth a fwy- ten, n, and pa un o honom a all ddeall y process drwy ba un y troir yr ymborth yn gnawd, yn giau, yn fer, yn esgyrn, yn waed, j yn ymenydd, &c? Ffolineb fyddai i mi ddweyd na chredwn i ddim fod yr ymborth a fwytaf yn myned y pethau a enwais oher- p-ydd nas gallwn. i ddeall y process. Daw ymborth yn rhan o gorph dyn,—yr ymborth a fwyta ete yw ei gorph; ac eto nid oes fyw- yd yn yr ymborth a fwyteir. Cadw bywyd yn fyw yn y corph wna ymborth. Nid yr ymborth yw y bywyd nid y cnawd, y giau, yr ymenydd, &c., ychwaith. Eto nis gall y bywyd fodoli heb rr corph gael ymborth. Beth gan hyny ydyw bywyd dyn? Nis gwn i, ac nid oes neb ond Duw yn gwybod. Mawr yw dirgelwch bywyd. Er fod bywyd i'w weled ar bob Haw, ya yr amlygiadau o bono, eto ni welodd neb erioed fywyd. Y mae fel Duw Ei Hun. Dyn yw yr amlygiad uwchaf o fywyd ar y ddaear. Wrth i ddyn efrydu ei hunr-cyfansoddiad ei gorph, ei feddwl a'i iodiolaeth syna ato ei hun. Gwel efe y peirian-waith cywrain trwy yr hwn y gweithroda bywyd, ac os ydyw y dyn o feddwL addolgar, syrth ar ei liniau gerbron y Orewr, a dywed "Rhyfedd ac ofnadwy y'm gwnaeth!" Meddiana dyn allu i gnnfod gallu y Crewr; i ddefnydd- to deddfau Natur at amcanion masnachol; i roddi un ddeddf i orlywodraethu ax ddeddf arall, ac i effeithio ar genedloedd i gen- ediaethau lawer. Tra yn faban nid oes neb yn fwy diamddiffyn neu ddiallu tuag at aiiiddiffyn ei hun nag ef; ond, pan y dat- blyga i fod yn ddyn, nid! oea greadur gallu- ocech nag ef yn y gwaith o hunan- amddiffyniad. Gall gwylltfilod ddefnyddio ogofeydd, creigiau, tyllau yn y ddaear, afon- ydd, moroedd, &c., i amddiffyn eu hunain; ond gall dyn alw nid yn unig y pethau hyn 011, ond hefyd deddfau cuddiedig Natur i'w amddiffyn ef. Yr un o ran hanfod ydyw meddwl dyn a meddwl Duw. Ond tra y mae meddwl yr olaf heb ei gyfyngu neu ei ffinio gan na deddf na mater na Ile, y mae D.eddwl y blaenaf wedi ei gyfyngu gan v tri pheth hyny. Nid oes dim anwybodaeth yn y meddwl Dwyfol, ac felly anmhosibl ydyw iddo Ef feddwl yn anghywir neu yn anghyf- iawn, tra y mae tywyllwch neu anwybod- eeth yn meddwl dyn, yr hyn a'i gwna ef i werthredu yn groes i'r hyn sydd yn gyf- iawn a doeth yn ami. Po fwyaf o oleum a ddaw i'r meddwl dynol, sicraf yn y byd fydd i ddyn wneyd yr hyn sydd yn iawn. Dynxa ddysgeidiaeth fawr Prif Athraw y Byd. Brwydr fa,wr y byd ydyw brwydr rhwng ty- wyllwch a goleuni. Mae dyn fel bu y byd onwaith yn amser y Diluw. Fel yr oedd y Diluw yn cilio, deuai y ddaear i'r golwg, yn llawn elfenau bywyd a harddweh. Mae dyn wedi ei golli yn nhywyllwch anwybodaeth, ae fel y cilia y tywyllwch daw dyn fwy fr golwg, ac yn ei enaid elfenau bywyd a phryd- ferthwch tragwyddol! 'Does modd cael gardd brydferth, llawn persawredd ,mewn hen selar dywell. Os am ardd felly, rhaid cael digon o oleuni a. haul! Goleuni a'r naa) yw y mcddion i ddatblygu yr elfenau bywydol yn mhridd yr ardd. Goleuni gwybodaeth ys- prydol yw yr unig foddion a wna i ddyn dafla allan rinweddau ardderchog yn ei gymeriad. Pan y mae dyn wedi darganfod nerthoecid Deddfau Natur, gttll, mewn urn- deb a hwy, gyflawni gwaith inhygoel, yn y byd r^turiol a meddyliol. Pan ddaw dyn i undeb a Duw, daw yn fod y nesaf at yr Hollalluog, a bydd pobpeth yn bosibl iddo ri. Creadur rhyfeddol ydyw dyn! TEMPERANCES. 'Does dim posib Uwyddo i gadw pobol o'r tafarnau tra y bydd rhai o'r tai Temperance yn cael eu cadw fel y maent. Aeth ymwel- wyr am dro heb fod yn mhell o ymyl godra y Moelwyn. Daeth arnynt isio bwyd. Gwel- sant Demperanoe ac aethant at yno. Safai y wraig ar ben y drws, ond pan welodd hi yr ymwelwyr yn dynesu at y ty, diflanodd. Erbyn i'r ymwelwyr gyrhaedd y drws yr oedd y gwr wedi dyfod yno. Gofynasant iddo fo a allent hwy gael te? Dywedodd y gwr nas gallent oherwydd fod y wraig oddi- Ca rtra. It t GOLYGFA AR HEOL YN LLEYN. Oynghorwr (yn elywed dyn yn rhegu a thyngu): Pa'm na rowch chi summans i hwna am dyngu a rhegu? P.: Na 'nai ddim; mae o yn athraw yn Ysgol Sul DANEDD Y WRAIG YN MHOCED Y GWR. Hen Forwr: Sut mae hi heddyw, Bila ? Bila: lawn, fachgan; sut mae petha'n sgwario hefo chi ? Hen Forwr: Symol iawn. Bila: Wel? Hen Forwr: Y wraig acw sy- Bila: Be'? Hen Forwr: Mae'i danedd hi yn fy mhooed i! Bila: Bobol anwyll Tydachi ddim wedi Ud yii owffio ? Hen Forwr: 0, nag ydan ei danedd goeod hi sy'n ei brifo hi, a mta sy'n myn'd a nhw at y dentist. Mae nhw yn fy idiboced i I 0 GWMPAS CAEATHRAW. Wel, mae yma rai pobl ar beics yn medd- wl en bod nhw mor gyfiym a phe b'asa'n hw ar geffyla'. Mae rhai o'r Biwtis, pa fodd bynag, yn methu a dal am ddiwrnod i fynd hefo'u gtlydd am ddreif heb ffraeo. Biti ydi hyn. Os oes isio out ar y beics, y mae isio tempar da ar rai o'r Biwtis hefyd. Y FFORDD RONG. Peidied y llanc hwnw a meddwl mai y ffordd i ddenu meTchad ifanc ydi yr un a ddefnyddiodd o hefo'r eneth hono ar y stryd y noson o'r blaen,— noson y mownti. Rhoddodd gusan iddi yn nghanol cwmni pan oedd pawb yn ymgomio yn nghylch helynt y dydd. Heblaw hyny yr oedd ei hanwylyd yn ei hymyl ar y pryd. Rhaid rhwymo dyn fel yr aflonyddwr hwn, fel y rhwymir anifail aflywodraethus arall, a'i gadw fo adra yn lie ei ddwyn i'r fath gwmni yn y dyfodol. PENTRE'R BRAIN, LLANNOR, &c. Mae gerddi yr ardaloedd hyn yn bur doreithiog o eirin ac afala'. Pobol reit ffeind am rhyw ddyrnad sy' y ffordd yma. Galwais mewn ty i gael potel ginger biar, a gofynais i ferch ieuanc sut yr oedd pawb a phobpeth yn yr ardaloedd hyn. Deyd- odd hitha fod un dyn wedi bod yn wael. Clywais am y ferch ieuanc oedd wedi cael cariad-Ianc yn y mownti. 'Roedd cym'int o lexton yn y llanc fel y tynodd o fam y ferch hefyd ar ei ol. Clyw'is hefyd am lane ifanc ag sydd yn colli ei gariad yn bar-' haus. Y foment y bydd o yn rho'i lygad ar ferch ifanc, bydd rhyw lane arall yn siwr o fynd a hi odditan blaen ei drwyn o. Dyna Ue bydd yntau wedyn yn ffraeo, yn dwrdio, ac yn gwneyd twrw tebyg iawn i dwrw llestri gweigion. GORORAU LLANLLYFNI. Mae pobol hunanol bob amsar yn medd- wl fod pawb yn gw'bod am danyn 'hw ac eu bod nhw In bobol a ddylid gofalu am danyn Tiw bob amsar. Barna rhai Biwtis nad ydw'i dda i ddim ond ofalu am danyn 'hw, ac os na wnai hyny, fy mod i yn esgeuiufco fy nyledswydd. 'Dwn i dolm pwy ddeydodd mai fy nyledswydd i ydi gofalu am Fiwtis y byd yma. Pe buaswn i yn gyfrifol am y Biwtis, f'aswn i byth yn medru g'neyd y gwaith heb filoedd ychwan- eg o griw nag sydd gen' i ar y smac yma. Oofied Biwtis yr ardal hon y gwirionedd pwysig uchod. Mae arna'i flys a mynd yn ocsiwniar i werthu y darnau mwyaf o dai yr ardaloedd hyn, achos tydi y merchad ddim yn byw ynddyn' hw o gwbl bron. Yn mhen v drysa' y maen 'hrw. Sponiad newydd ar wynebau a breich- iau budron merchad ydi eu bod nhw wedi bod yn cwffio hefo llwch a baw, ac fod y ddau ola' wedi cael y fuddugoliaeth. Mae cadacha' llawr wedi mynd ar streic,—o lei- af, mae y ffordd yma rhyw ddrwg yn nglyn a gwaith y cadacha' hyny. Steil rhai hen lancia'. pan yn mynd i weled eu calona' melus ydi cym'ryd eu ewn hefo nhw. Rhaid i bobol y pwytho ofalu i fod yn ofalus pan yn tori ar rai bechgyn. Cofier fod calona' yn teimlo yn agos iawn yn amal. Parhau i fynd i'r rhwyd y mae y boys, druain. Erfynia Jim a Bila arna'i i beid- io dwad yma yn rhy amal, rhag ofn i ryw- bath cas ddigwydd i mina! Er cryfad oedd Tom, cefndar Jim, cael ei ddaJ. ga- fodd yntau. Ceisiodd Jim ganu dipyn iddo fo. Dyma'r llinella': Ar hyd y tymhorau heb ofni 'run siom Yn caru eu gilydd bu Marya Tom; Ac heddyw fe'i hunwyd mewn cwlwm yn hardd I garu eu gilydd fel blodau yr ardd. TRWY DALYSARN, &c. Fedra'i i na neb arall ddim peidio sylwi ar y genod hyny pan y byddont yn mynd a gorwedd yn nghanol y blodau yn y ger- ddi bach. Raid i'r genod ddim g'neyd peth fel hyn, aohos maen' hw' ddigon clws heb 'neyd. m 0 BENYGROES I'R RHYD-DDU. Mae y ddwy glipar weddw hyny yn methu yn lan a tharo ar gaptan, er eu bod yn rigio i fyny yn dda a hwyliau gwynion yn y gwynt ganddynt. Petasant yu tori milldir neu ddwy ar eu tafoda' ac aros mwy yn eu tai eu hunain, b asa'n well arnyn' hw. 'Does dim ond y silff isio'u cael nhw. Peth cas ydi gwelad merchadju streioio ar wyr gweddwon. Os bydd amball i ddyn yn gysgwr trwm gwell f'asa' i rywun arall yn hytrach na dynas ei gnocio fo i fyny. Da iawr. gen'i ddeall fod yma gryn ofn yn mysg troeeddwyr a phechaduriaid i mi gael clywad am danyn' hw. "Rhaid i ni gyfadda fod arnom ni ofn Jack y Llongwr," meddai un o'r Biwtis, "io sy' wedi deyd ein hanas ni wrth bawb, yr hen dd "Tydwi yn malio dim yno fo, ebai un arall. "'Tai w di a deyd dim," dywedodd y drydedd, "i be' fyddi di yn rho" i 'nol y 'Werin' o flaen pawb bob wsnoo? Unwaith fuom i gyno fo, a hyny pan gollais i y fasgiad yn Nghnarfon, ac nid o'n i yn hitio dim llawar am hyny." Govelais lot o wragedd yn myn'd hefo'u gilydd i ddanfon bwyd i'w gwyr mewn cliwarel, a hyny ar 01 yr amsar gweithio. ( Holais beth oedd yr achos, a dois i ddeall gwragedd rhyw gwmpeini oeddanw, j a'r rheini yn gweithio ar ol. B'aswn i yn I awgrymu gneyd oytundeb a rhyw gariwr i gario'r bwyd yn y dyfodol, i soario colli amsar. Bydda'i yn diolch mai hett lane fydda'i weithia. Diolchais yr wsnos hon, wrth weithia. Diolchais yr wsnos hon wrth edrach mor nobi yr edryohai O. L., T. E., a P. G. ar ol bod am bolides. Petasai y lot wedi cael gwragedd, nid dyma'r olwg f'asa' arnyn' hw! Parhau dan ddylanwad mudandod y mae y ddau bartner hyny yn y chwarel ac yn mhob man arall pan hefo'u gilydd. Gresyn yw peth fel hyn. Be' pe buaswn i yn cym'ryd snap shot ohonyn' hw, a chy- hoeddi y cwbwl yn y "Werin"? Cafodd giang y brethyn dric y dydd o'r blaen. Anfonodd rhyw gono botal llawn o biols i'r giang yn y chwaral. Beth fedd- yliech 'i oedd yn y botal ? Tatws wedi eu sgleisio, mwyar duon a chochion, a coesa' dail tafol, a dail er'ill. Rhoddwyd finigiar ar y owbl, ac anfonwyd y botal i'r giang, pa rai a froliasant y piels, yn fawr. Tybias- ant mai tomatoes oedd y tatws wedi eu sgleisio. Ond pan ddaethpwyd i ddeall gwir gynwysiad y botal, dyma storm yn tori allan. Holwyd o ba le y daethai y fath bicls, a phwy oedd wedi eu gneyd. Rhoddwyd rhybudd i bawb gadw yr hanas yn ddistaw rhag iddo fynd i glustiau Jack y Llongwr. Cychwynodd dyn am ei holides i Bwll- heli. Cyrhaeddodd Afon Wen yn ddiogel. Y lie nesaf y cafodd o ei hun oedd yn Dinas stashion! Daethai yn ol hefo'r un tren ag yr aethai. Synais ei fod wedi misio ei dao mor ddifrifol, ac fod arno gy- mint o ofn i mi glywad am dano! Trwy nad oedd y cwmni a fuo tua Llan- drindod yn Saeson nac yn hyawdl yn iaith lobscowsaidd y Sais, collasant lawar o hwyl hefo swels o genod Saesneg. Mae'r genod wedi rho'i eu cyfeiriada' i'r boys, ac y mae cyfieithydd wedi cael ei benodi i gyfieithu llythyrau y genod i'r Gymraeg, a rhai y boys i'r Saesneg. Ond y mae ar y cwmni ofn ofnadwy i mi gael clywad eu hanas nhw. "Fydda'i ddim ar ben y drws ddim mwy na rhywun arall," medda un ddynas; 'does gynon i ddim lie i fvnd i'r cefn, ac felly awn i ddrws y ffrynt,"ebai yr ail: "waeth i ch'i befo Jack y Llongwr, gnewch fel y teimlwch." Oynghorodd un arall iddyu' hw fynd yno i gyd am dair awr yn y bora a rhyw dawy awr yn y prydnawn, a mynd yn snec drwy y cefn. Addawodd y Ileill fynd, ond erfyniasant nad oedd gair i gael ei ddeyd am y matar wrth neb arall. Dyna'r unig ffordd i 'neyd" Jack y Llongwr. Bu y cwmni hefo'u gilydd yn gwledda. Ar ganol y wledd gofynodd rhywun faint oedd hi o'r gloch? "Mae hi mewn chwar- tar i'r dynion ddwad o'r chwaral!" meddai gwraig y ty. "Brensiach mawr!" medd'ai y lleill, ao heb sychu eu cega' allan a nhw i'w tai eu hunain. Gwelir fy mod wedi cael gafael ar yr hanas. Ond y mae gen i gryn dipyn mwy na hyn i ddeyd, ond gwell tynu y Hen yn y fan yma yrwan. DIM DEFNYDD I GADEIRIAU. Mewn heol neu ddwy yn Mh-—-i tydi'r merchad ddim yn iwsio cadeiria' i ista arnyn' hw. Defnyddiant -walia' neu geryg. Felly gwelir fod gwareiddiant yn mynd yn ol yn yr ardal. Bila a awgryma, gan fod y siopwrs yn gadael eu boesus ar yr heolydd, iddyn 'hw. ro'i eu benthyg i'r merchad hyn ista arnyn' hw. GOBEITHION NEFYN. Be' sy'n dwad yn y pellder I dre' Nefyn? Mae y bobol oil mewn pryder, Yn nhre' Nefyn. Nid swn ager yn pwff pwffio Glywir draw yn creu'r fath gyffro, Ni cheir injian chwaith yn smocio Fel trwy getyn, Injian drydan wir sy' yno 'N d'od fel coblynl Daw a gwds o &W PwUheli I Yn bur fuan; Hefo tren a phobol ynddi Calon lawaa^. Ni bydd isio coitsus mwyach, Gellir teithio yn amgenach, Yn fwy rhwydd a llawar brafiach Trwy nerth trydian; Nefyn fydd yn enwog bellach Yn ofnatsan! WHEITWASHIO'R YSGOL RONG. "Twm, mae isio i ti fynd i wheitwasbio ysgol Ll-n yfory." "O'r cora, meistar. Mi 'n shiwar o myn'd a c'neyd y cwaith yn ta iawn." Dyna sylwedd y sgwrs fu rhwng meistr a gwas yn Eifionydd yn ddiweddar. Tranoeth ar ol y sgwrs 'roedd y meistr yn mynd hefo cyfaill heibio ysgol LI n, a galwodd! i welad sut yr oedd y gwas yn dwad yn mlaen hefo'r wheitwashio. Er ei syndod gwelodd nad oedd Twm ddim yno. Gwnawd ymchwiliad mewn munud am Twm. Anfonwyd dau <neu dri o blant i ysgol arall heb fod yn mhell o'r lie i holi am Twm. Daeth y plant o hyd i Twm yn ysgol LI i, yn wheitwasbio y class room gym'int fyth a fedrai. Pan ar ganol y job dyma'r genad iddo fo stopio a mynd i wheitwashio ysgol LI n! Ymaith a Twm hefoi frwshus a'i biseri a'i gelfi i gyd, ac i L n, mewn cyffro mawr.

Gynllon Enfawr I Bwrcasn Tir

Lladd Naw o Fechgyn ar Fynydd…

Pa Bryd yr ymgyferfydd y Senedd…

[No title]

Ceneth Fach Ddewr.

- Hananladd ad Twrc. -

---LLWYDDIANT jfÁRHAOL. -

----------Etbollad Seirlonydd.

Lladd el Hon yn Kgbaergybl…

Advertising

Y Penog ar y Blaen. -

[No title]