Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
32 articles on this Page
!)———————-——————— Mr Lloyd…
!) ———————-——————— Mr Lloyd George YN i NGHAERNARFON. CYFARFOD BRWDFR Y DIG. Cvnhaliwyd cyfarfod yn Neuadd y Dref, Caernarfon, nos Fawrth, i hyrwyddo ymgeisiaeth Mr Lloyd George. Y cadeir- ydd ydoedd Mr W. G. Thomas (cadeirydd y Bwrdd Ysgol). Ar y llwyfan yr ydoedd Mr J. Davies (Gwyneddon), Y.H.; Air J. R. Pritchard, Y.H.; Dr Parry, Y.H.; Mr R. 0. Roberts (cyfreithiwr), Mr Norman Davies, Parch Evan Jones, Parch Lloyd Morgan, Parch J. E. Hughes, Parch E. J. Jones, ac eraill. Yr oedd y cyfarfod yn un o nodwedd tra brwdfrydig ac unol, yn gymaint felly fel na chaed neb i godi ei law yn er yn Uoyd George. Diau fod yn y Sy?11^ amryw a anghytunent a Mr Llo^ eorge ar bwnc y rhyfel; ond nid un person deallus na chydnabyddai dalentau disglaer a gwasanaeth 9-erthfawr j Mr Lloyd George. Yn wir, gelhr dweyd nad oedd yn y cyfarfod un sa'a° anf Wedi i'r Cadeirydd draethu ychydig eir- iau, cynygiodd bleidlais o ddiolchgarwch i Mr Lloyd George am ei wasanaeth-nid i ni fel sir, i Gymni. Eiliwvd hyn gan y Parch Lloyd Morgan Pontardulais. Yr oedd yn yr araeth hon amryw ergydion tarawiadol; ac effeithiol ydoedd ei gyfeiriad at Mr Lloyd George tel un o fechgyn glewaf a godidocaf Cymru. k Ar ol hyn cafwyd araeth gan yr hen w a ur r, y Parch Evan Jones, Caernarfon,- ac un finiog i'r eithaf ydoedd. Yn mysg un o'r dywediadau mwyaf brathog a ddy- wedodd y gwr Parchedig yr oedd hwnw "Yn ngwlad cordite y ganed y ^lywo J" aeth hon- Araeth ardderchog ydoed yn cael ei thraddodi gyda grymusder cawr a fu yn ymladd brwydrau rhyddid. Tra ar (ranol araeth y pafchJ J™? ™' daetli yr ymgeisydd Rhyddfrydol-Mr Lloyd George-i mewn I'r ystefell. Ar fath ddcrbyniad a gafoddl Nid cynffon- wyr na'u cyffelyb, ond gan bersonau a wahaniaethent oddiwrtho ar bwno y rhy- fel yn y Transvaal; yr oedd y dorf yn ferw i gyd. Wedi mabwysiadu y penderfyniad o laaid ymgeisiaeth Mr Lloyd George, cod- GWRON Y NOSON ar ei draed. Mor fedrus yw. Liithra Gymraeg i Saesneg bob pum mynyd. Ao heblaw hyny y mae yn ei gawell saethau lawer. Ar ddechreu ei araeth gwadodd Mt Lloyd George yr hyn a briodolid iddo gan y \> asg Doria iddv—fod cyfathrach rhyngddo a'r° Boeriaid mewn unrhyw fodd. Wedi hyny symudodd y boneddwr i sylwi S ar areithiau neu anerchiadau yr arweinwyr Toriaidd. Ond nid oes ynddynt son am Gymru na Lloegr. Pa le v mae blwydd- dal i'r hen bob!? ir oedd y Toriaid yn cynyg .uesur i bobl adeiladu eu tai ar eu eoethu eu hunain. Dyma beth ardderch- og yn wir! Heblaw hyny. bu y Llyw- odraeth bresenol yn garedig wrth y land- lord Ln id, a dyna paham y dewiswyd J Mi- wriad x-Latt i ddyfod aUan yn » erbyn ef j(Mr Llovd George). Yr oedd ef (Mr Lloyd George)*wedi cefnogi cynygiad i roddi ao- esiiad i deuluoedd milwyr a fuont feirw yn Neheudir Affrica; ond fe wrthcdwyd hyn gan y Llywodraeth bresenol; ac eto dyma'r Llywodraeth a fyn alw ei hun yn wladgar- ol a theyrngarol. Na, yr oedd yn rhaid i'r arian gael 'eu rhoddi i dirfeddianwyr a pharsoniaid. I'r miilwyr dewr a fuont yn ymladd ar faes y gwaed, nid ydoedd yr un ddimai i fyned iddynt hwy. Yna cyfeiriodd Mr George at un Adfilwr o Gaernar- fon, o'r enw Mayland, gweddw yr hwn a archwyd i anfon yn ol "post office order," -&erwydd nas gwyddd fod ei gwr wedi nte,rw. Ac eto, dyma Lywodraeth a alwai *jt hun yn wladgarol a chenedlgarol. Ond l«wyrach mai un o'r pethau cyrhaeddgar o -eidde Mr Lloyd George ydoedd y dadleniad a wnaeth o gvsylltiad teulu Chamberlain ar ftowndri bowdwr yn Birmingham. tte an- fonwch fi yn ol," ebai Mr Lloyd George, yn eofn ac yn ddifrifol, "mi ddywedaf ychwan- «g wrth Mr Chamberlain." Yn ysfcod ei Boll araith, gellir dweyd, heb ormodiaeth, fod llygaid y dorf wedi eu ryfedu ar Mr" Lloyd t^eorge. Y fath ydoedd nerth ei areithydd- aeth fel y teyrnasai y distawrwydd mwyaf drwy y lie, fel pe y teimlid fod yr hyn a dra- ddodic] i glywedigaeth y dorf yn deilwng o yt-tyriaeth ar ol i'r cyfarfod fyned heibio. Nid oedd betrusder yn meddwl neb, ar ol gwraiido araeth orchesfcol Mr Lloyd George, na fabwysiedid pleidlais o ymddiriedaeth ynddo, yr hvn a wnaed heb un law yn erbyn, er fod y cyfarfod, cofier, yn un agored. Wedi hyn cafwyd araeth benigamp gan Parch Hirst Hollowell, yn ymdrin yn fwyaf neillduol,.ag addysg.
4; #y .. YR HEN WR LLON.
4; # y YR HEN WR LLON. "TR'ych yn ten, Fewyrth William," meddai rby S. lane, "Eiclj llneswallt n'ch barf sydd yn wyn 'Ond Hon y'ch er hyny, a chiVfaoh na mi, 0! €'wedwch fodd y mae hyn ? giau i'n weinion, archwaeth yn wall, Ac pfttWyf inai nychu yr wyf; f 'Ond, er dwyWaith fy oe"> e»ch nerth chwi Fel pe na bari diwedd i'ct nwyf. "Mae'n rhaid fod rhvw achos i'eh ieohyd di- ail, A hefyd i'm nychdod mawr i; TRhown haner fy nghyfoeth am feddiant o'ch nerth, 0 d'wed web eich secret i mi." "Rwv'n iachus a nerthol," stebai'r ben 1VJ" 'Rwv'n fywiog a dedwvdd. a Tbvdd Ac os hoffech wybod paham 'rwyf fel hyn, Yr ateb yn syrttl iawn sydd. Na flinweh f eddy gou,na lyncwch Bills mwy, .;Ond gyrweh, nac ofdwch yn hwy, Am Gwilym Evans Bitters, y peth raid i'cf1 e&QI Ar fi fvnyc\ ddefnyddio, 0, byddweh yn hael, Ac ni theinilwch yn anach byth mwy. Dylai y prynwr ochel efelycbiadau o'r -Bitters hyn, trwy edrych fod enw Gwilym Evans ar label, y stamp, a'r botel. Ar werth gan bob fferyllydd mewn poteli 29 "9c a 4s 6c yr un, neu gellir ei gael drwy y post oddiwrth y perchenogion—Quinine fritters Manufacturing Co., Limited, Llan- elly. South Wales.
Marw trwy Frath'ad Pryf.
Marw trwy Frath'ad Pryf. Cynhaliwyd trengholiad dydd Gwener, yn Ysbytty Bartholomew, Lluindain, ar gorph geneth fechan o'r enw Lydia Cham- berlain, yr hon fu farw oddiwrth wenwyn y gwaed a gafodd drwy frathiad pryf. Yr oedd y dystiolaeth feddygol yn dangos fod yr achos yn un lied anghyffredin. Dych- i) wehvyd rheithfarn yn unol a'r dystiolaeth feddygol.
GOGLEDDBARTH ARFON. -
GOGLEDDBARTH ARFON. DEWIS MR W. JONES. Cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol o Gym- deitiias Ryddfrydol Arfon brydnawn Sad- wrn, yn Nghonwy, er mwyn dewis ymgeis- ydd at yr etboliad sydd yn ymyl. Mr R. D. Roberts, Llallfmrfechan, cadeirydd y gymdeithas, oedd y llywydd. Da,tganai Mr William Jones ei ddiolch- garwch i'r cyfarfod am y teimladau da ddaaghosid tuagato; hefyd am eu hym- ddiriedaeth ynddo. Yr oedd eisoes wedi cyfarfod y Pwyllgor Gweithiol, y rhai ai derbyniasalit ef yn unfrydol fel eu hymgeis- ydd, ac yr oedd y cyfarfod hwnw yr un mor hwdfrydig. Ar hyn o bryd, nid oee son am wrthymgeisydd, ond nid yw hyny yn peri iddynt fod yn llai parod. Er fod y gymdeithas hum mlynedd yn ol mewn cyf- lwr o ddyryswch. ao amharodrwydd, yr oedd yn dda ganddo allu dyweyd fod mwy- afrif y Rhyddfrydwyr y mwyaf a gaed erioed yn Arfon (cymeradwyaeth). Yn ystod ei aelodaeth yr oedd wedi ymweled a phob parth o'i etholaeth, ac yr oedd pob etholwr yn gwybod am ei ddaliadau fel Rliyddfiydwr, ac yn rhagwybodol o'r ffaith nad oedd wedi cyfnewid yr un radd yn- ddynt (cymeradwyaeth). Gallai ddyweyd ei fod wedi bod mor gyson ag ef ei hun a'r un aelod yn y Senedd. Cyn i'r rhyfel dori allan yn N eeudlr Affrica, yr oedd wedi siarad yn erbyn gwladlywiaeth ymosodol, ond pan y croesodd y gelyn y terfynau i'r diriogaeth, Brydeinig, yna peidiodd a bod yn gwesiiwn dadl a rhesymeg. Daeth yn ffaith ofnadwy, pa un a hawliai fesurau cedyrn a gweithrediad diattreg. Pleid- leisiodd am gyflenwadau yn mhob achcs, gan ei fod yn wladgarwr a'i wlad mewn perygl (cymeradwyaeth). Yn ymarferol yr oedd y rhyfel drosodd, ac yr oedd dalen ofnadwy mewn hanesyddiaeth wedi ei hysgrifenu. Yr oedd y milwyr pan yr aethant allan wedi peidio a bod yn Rhydd- frydwyr a Thoriaid; ymladdent dros eu gwlad, ac nid dros eu syniadau gwleidydd- ol. Mewn perthynas i ymsefydiiad, cred- ai, fel y gwnai Arglwydd Salisbury a Mr Balfour, y dylid rhoddi yr un bawl i bob dyn yn gyffredinol yn y rhan newydd o'r Ymherodraeth. Yr oedd Canada ac Awst- ralia wedi anfon eu meibion i Ddeheudir Affrica, ac yr oedd eu hamlygiad o wlad- garwoh yn deiljliaw oddialr wfladlywiaeth deg ae eang Rhyddfrydiaeth yn y gor- phenol. Gellid enill yr un peth yn Ne- heudir Affrica* trwy wladlywiaeth debyg. Credai mewn rhoddi yr un hawl i'r Is-ell- myn ag i'r Prydeiniwr, fel y byddai iddynt weithio ochr yn ochr er anrhydedd ao urddae fr Ymherodraeth. Yr oedd gan Gyxm-u hawl a dyddordeb yn yr Ymher- odraeth, fel un o'r cenhedloedd eraill; oblegid, ai nid Cymru oedd wedi codi y linaoh Dudoraidd? Gyda golwg ar weith- rediadau y Senedd. gofynai pa beth oedd- ynt wedi ei wneyd tuagat werinlywodraeth Cymru, neu, o ran hyny, gwerinlywod- raeth unrhyw wlad, yn ystod y pum mlyn- edd diweddaf? Yr oeddynt wedi gwarlo miliynau o arian, nid er budd y tlawd, ond er cyfoethogi y bendefigaeth a u cyfeillion eu hunain. Yr oedd Arglwydd George Hamilton wedi rhoddi desgrifiad cryno o'r wladlywiaeth Doriaidd mewn un cwestiwn —"Pa ddyben,' meddai, "cael Llywodraeth Doriaidd os na wneiff gynorthwyo ei chyf- eillion ei hun?" Yn y dull yna yr oedd- ynt wedi afradui y rhan dda a roddwyd iddynt gan Syr Syr William Harcourt yn ei Gyllideb yn 1894, cyfanswm yr hon yd- oedd yn 17! o filiynau. Gallaeai hyny ffuflfio cnewyllyn rhagorol tuagat gael blwydd-dal i. hen bobl. Yr unig gynllun bleidid gan v Pwyllgor Detholedig, allan o gant, ydoedd eiddo Mr Booth, yr hwn a ddywedai fod yn angenrheidiol cael cne- wyllyn o ugain miliwn, tuagat ba un y bu- asai dwy filiwn ar bymtheg a haner Syr William Harcourt yn ffurno cyfran ar- dderchog. Fodd bynag, yr oedd y Tori- aid wedi eu gwastraffu er budd i'w cyfeill- ion. Eu nheges yn ol pob golwg ydoedd lladratta. meddylddrychau y Rhyddfrydwyr a gwario eu harian. Gyda golwg ar y Dadgorfforiad, yr oedd yn warth ar y blaid Doriaidd ei wthio yn mlaen yn y cy- fwng presenol; ao er ei fod wedi bod yn ymddyddan ag amryw o'r aTweinyddion Toriaidd ar y pwnc, ni arddangosai yr un ohonynt radd o gywilydd am y weithred, yr hon. yn ddiamheuol ydoedd eiddo Mr Chamberlain, yr hwn a ddylanwadodd ar natur oreu Arglwydd Salisbury a Mr Bal- four. Fodd bynag, credai na byddai i gymaint ag un sedd Ryddfrydol gael ei cholli yn Nghymru, beth bynag am Loegr. Nid oedd y Llywodraeth wedi cyflawm eu haddewidion gyda golwg ar hedd^h digonoldeb ao os y byddai i don y khafa eu dychwelyd, byddai i byny o Ry a mwyafrif dirywiedig. Yr oedd y meddwl cenedlaethol wedi ei sobri, ac yr oedd gweithwyr ein gwlad wedi canfod unwaith yn ychwaneg fod y Toriaid wedi cau dor- au trugaredd" gyda thrwst. Nid oedd amheuaeth na byddai i'r Toriaid apelio at y cyhoedd gyda ychwaneg o addewidion am ddiwygiadau cymdeithasol, ond pa Ie y oant Tr ariln-n ar ol gwario cymaint yn Neheudir Affrica a China? (llais o'r dyrfa: "Gam Hoskine a'i Gwmni")—(ohwerthm, a ohymeradwyaeth). Os oedd arnynt eisieu oael gwybodaeth gywir o'r modd y darfu i'r Uywodraeth gamdrefnu pethau, anogai hwýiit i fyned at y Toriaid ac nid at y Rhyddfrydwyr. Nid oedd y co°~e^alj" iad toetaf wedi dod o'r ochr Ryddfrydol, ond yn hytrach oddiwrth ddynion tebyg i Mr Winston Churchill a Mr Burdettr Coutte. Gadawer i'r Toriaid ddifa y naill y llall (chwerthin, a chymeradwyaeth). Yr oedd Mr T. W. priffith Llandudno, wedi gofyn ei farn am rydafreiniad prydleeol. Y iÏordd oreu i ymdrin a'r cwestiwn yma ydoedd trwy drethiant gwerth y tiroedd. Yn y dull yna byddai i rai miliynau gael ei godi tuagat wellhau a dyrchafu y wlad- wriaeth. Gallant fod yn sicr na bydd i Dy'r Arglwyddi basio y fath fesur; ond ni byddai i'r Hhyddfrydwyr fod mor ffol a rhoddi y cyfleusdra iddynt wrthod y fath nygiad, canys byddai iddo fod yn gyn- ^ysedig mewn penderfyniad cyllidol, yn un y byddai i D^r Cyffredin fod yn nchaf. Yn ateb i gwestiwn arall, honai yr "II)d anrhydeddus ei fod wedi gweithredu perffaith gydgordiad a'i ddaliadau _|iyddfrydig gyda golwg ar ei araeth yn W ^yffredin ar gwestiwn y Brify6gol yddelig. yr oedd ei araeth wedi ei syl- eKwyddor ddygwyd i mewn gan reoW>fSfccme 1884 ?? YnV i j ih Ggwyddor pa un yr oedd pob ri ^1Jr^dfrydol wedi siarad o'i phlaid f ^j 0n°. Yr hyn a geisiai ef ydoedd ,,ar^-Vsg gyfundrefnol, tebyg i'r hyn yr oec d Cymru wedi dod i feddiant ohoni, er gailuogi y gwerinwyr Pabyddol i ymddyr- adwyaeth) sectariaeth (uchel gymer- Cynygiodd Mr Hugh Owen, Llangysten- yn, ac eiliodd y Parch) G. Tecwyn Parry, bleidlais o ddiolchgarwch i Mr William Jones am ei wasanaeth yn y Senedd, dat- ganiad o ymddiriedaeth ynddo yn y dyfod- ol, a'i fod i gael ei enwi fel ymgeisydd dros Arfon yn yr etholiad agcshaol. Cefnogwyd y cynygiad gan Mri Ellis Pieroe, R. E. Jones, Llanberis; y Parch Mr Davies, Llanfairfechan; a Mr R. Roberts, Llan- dudno; a phasiwyd yn unfrydol. Darlu i'r oyfarfod ymrwymo o unfryd i gefnogi ei ymgeisiaeth.
---MR LLOYD GEORGE YN KEFYN
MR LLOYD GEORGE YN KEFYN CYFARFOD LLWYDDIANUS. TRETHI NEFYN YN FWY 0 2s Y BUNT OHERWDD Y TORIAID. GWASANAETH IkiR GEORGE YN NGLYN A CHWAREL Y GWYLWYR. Yn Neuadd Madryn, Neiyn, nos Lun, cynhaliodd Mr Lloyd Ueorge a'i gefnogwyr gyfarfod llwyddianus iawn. Llywyddai Dr. Wm. Thomas. Cadben John Griffith a gynygiodd bleid- lais o ymddiriedaeth yn Mr Lloyd George, a chefnogoddi Mr R. Rees. i Parch J. E. Hughes, M.A., Caernarfon, wrth ategu y cynygiad, a ddywedodd fod Mr George yn Ymneillduwr, yn Rhyddfryd- wr, ac yn Gymro (cymeradwyaeth). Ond ria oedd ei wrthwynebydd nao Ymneilldu- wr, na Rhyddfrydwr, na Chymro. Yr oedd Mr George wedi ymladd dros iawnderau y C/mry. Nid oedd Mr Hughes wedd gallu c'dweled a Mr George ar bobpeth yn nglyn a'r rhyfel. Ond nid oedd y rhyfel yn gwes- tiwn i ddadleu yn ei gylch mwyach, ac nid oedd yn iawn apelio at wlad o Gristionog- ion ar gwestiwn o ryfel (cymeradwyaeth iichel). Protestiai efe yn erbyn y fath beth isel-twael. Rhaijd oedd caØJ, rhywun am- genach na Mr Joseph Clhamberlain i ddwyn beddwch oddiamgylch (clywch, clywch). Yr oedd cwestiwn yr apel at y wlad yn anheg I ac anghyfiawn (cymeradwyaeth). Bydded i'l wlad gofio am addewidion Mr Chamber- lain yn yr etholiad diweddaf. Lie yr oedd Tai a Weithwyr, Blwydld-dal i Hen Bobl, Mesur Tir, &c. ? Nid oedd dim son am dan- ynt. Aethai yr arian at gyfoethogi y tir- feddianwyr. Collodd y wlad ei hanrhydedd yr China, Madagascar, a. gwledydd eraill, yn ystod! y pum' mlynedd diweddaf. Nid ued<i yn deg apelio at y wlad ar y rhyfel yn Affrica. Dallu y wlad oedd gwneyd apel felly. Nid yr hyn a fu oedd i benderfyuu yr etholiad. Y Cadeirydd a ddymunai iddynt gofiCl y tn gair fod Mr George yn "Ymneillduwr, va. Rhyddfrydwr, ac yn Gymro" (cymerad- wyaeth). Mr Vincent Evaus, Llundain, a ddywed- cdd ei fod yn credu na fuasat Chrwarel y Gwylwyr wedi cael ei hagor oni buasai am weithgarwch Mr George (uchel gymeradwy- aeth). Saseon a Gwyddelod fyddai yn per- tbyn i'r Ddirprwyaeth a fyddai yn ystyried ceit-ittdau am arian yn y Senedd. Ni fyddai Cymro byth yn cael ei benodi yn aelod o'r Dcirprwyae*h hono. Ond trwy lygad- rwydd Mr George gorfuwyd y Llywodraeth i benodi Oymro. Penodwyd Mr George (cymeradwyaeth). Rhoddwyd y penderfyniad i'r cyfarfod, a phasiwyd ef gyda brwdfrydedd. Yna daeth Mr Lloyd George yn, mlaen, a chafodd dderbyniad ardderchog. Clywsai fed pobl Nefyn wedi digio wrtho ef. Ond credai efe fel arall, a gwelai hyny yno y EAson yma. Addawlodd weithdo dTostynt eto. Yr oedd yn y Ty fwy o Ryddfrydwyr heb fod yn Ymneillduwyr nag oedd yn Ym- neillduwyr. Yr oedkl efe yn Ymneillduwr ac yn Gymro (oymeradwyaetfc). Yr eedd yno lawn ddiigon o Eglwyswyr ac hefyd o Babyddion, ondl ychydig oedd yno i sefyll dros Eglwysi Rhyddion y wlad. Yr eedd Mr George wedi crygu oherwydd ei fod wedi bod yn siarad gymaiint, a gofynodd am ych- ydig o orphwys. Cymerodd y Parch D. Lloyd Morgan, Pcntardulais, Le Mr George am ychydig. Nid oedd y Cyrnol Platt yn ddim ond modttipn i roddi trafferth i bobl oeddyrit yn gweithio. Teirala& efe fod y Toriaid eisieu rheddi rhwystr ar ffordd Mr George i fyned i'r Senedd. Pe deallid yr holl gwestiynau ag oeddynt gerbron y wlad yn iawn, eeld mwy o undeb yn mysg y Rhyddfrydwyr. Apeliodd Mr Lloyd Morgan at Annibynwyr Nefyn i wneyd eu goreu dros Mr George, yr hwn a weithiodd mor ardderchog dros Mr S. T. Eyans. Dr. Abel J. Parry a longyfarchodd yr etbolaeth ar feddu ymgeisydd ag oedd yn fyd enwog. Wrth godi ei hwn yr osdd hefyd yn codi efi wlad al gyd-genedl Yr oedd Mr George wedi bod am ddeg mlynedd yn eu gwasanaethu hwynt ar draul arianol fawr, ao ar draul nerth, iechyd, ac yni. A anghefient hwy hyny? (UNa. wnawn"). A ceddynt am wrthwynebu Mr Gecrgo am iddo feddu barn groes i rai pobl, ar gwes- tiwn. ag yr oedd cymaint o boM yn methu cydueled aino? A oeddynt hwy am fyned i gosbi ei hunain am y ehwe' blyuedd ciifc-d- ol trwy ei wrthod ef? Yr redd y thy fel drosodd. Os oedd Mr George wedi cclli ar gwestiwn y rhyfel, a? wTthvyn^bwyr ef wedi enill, a oeddynt hwy am ei veosbi ef ? Ond a oeddynt hwy am a lae! y Turial-d i lywodlraethu yn y dyfodol? ("Nac ydym"). Y Oadeirydd a ddywedodd nad oedd Tori- aeth yn unol a Cliristionogaeth. Cynorth- wyo y gwan fyddai y cryf yn ol egwyddorion Cristicmogaeth; ond yn ol egwyddorion Toriaeth y gwan oedd yn gorfod cynorthwyo y cryf. Dan y mesur a baeiodd y Toriaid yr oedd treth Nefyn wedi codi 0 4s y bunt i 6s y bunt, ae elai y gwahaniaeth i booed y tir-feddianwyr (cywilydd). i Yna ceisiodd Mr George aneroh y dorf. Aeth dros y ffeithiau yn nglyn a'r Llyw- odraeth yn difreinio miloedd o etholwyf trwy apelio at y wlad ar yr henethol-- restrau. Dadgorphorid yn awr, ond n: chyfarfyddai y Senedd tan Chwefror. Paham na fuasai y Llywodraeth yn tori y Senedd yn lonawr. Os oedd y Weinydd- iaeth mor awyddus i gael barn y wlad ar ei gwaith, sut na fuasai yn tori y Stinedd y-n Ionawr a dwyn i weithrecfia/d yr ethol- restrau newyddion ? Na, na, <rfni y wlad yr oedd hi. Dywed&sai efe yn y Senedd mai y tirfeddianwyr a gai y budd oddiwrth Fesur y Trethiant Amaethyddol, a gwel- wyd fod hyny yn wir yn Nefyn (clywch, clywch). Yr oedd y mesur hwn i gael ei ystyried yn y Senedd dymhor ne&af. Dylid gofyn i'r Cyrnol Platt pa beth a wnai efe hefo'r mesur hwnw, pe y dychiwelid ef yn aelod?. Dywedodd Dr Parry nad oedd y Toriaid wedi gwneyd dim. Ond yr oedd- ynt wedi pasio mesur i weithwyr adeiladu eu tai ar eu cost eu hunain (ehwerthin mawr). Nid oedd anerchiadau Mr Cham- berlain, Mr Balfour, ac Arglwydd Salis- bury, yn cynwvs dim adidewid y gwneid dim yn y Senedd nesaf. Pan addawsant y tro o'r blaen 10 o bethau ceisiasant gwblhau un peth. Ond faint oedd y ddegfed ran o ddim? Diolchoddi Mr Balfour ei fod yn gallu llongyfarch ei etholwyr ar iddo wrth- wynebu Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru I (oywilydd). Hwyraoh fod Affrica yn well gan Mr Chamberlain, trwy fod eisieu powdwr yno, a China gan Ar- glwydd! Salisbury, a thywod y Soudan gan Mr Balfour. Ond dymunai efe (Mr George) gynrychioli—nid China, na Japan, nac Affrica, ond Cymru (cymeradwyaeth), a hyderai y cai efe fod yn aelod dros Fwr- deisdrefi Arfon ("Tra byddwch ohwi byw"). Cwynodd Mr George eto fod ei lak yn darfod,—yr oedd wedi bod yn siarad gy- maint. Gofynodd am faddeuant am nas gallai siarad ar faterion ereill. Ond er- fyniwyd arno ddyweyd am Kynoch a'i Gwmni, a Hopkins ali fla-b, alr dadleniadau a wnawd. Gwnaeth yntau, gan greu syndod mawr. Yr un bobl oedd y ddau Gwmni,— Chamberlain a'i deulu, a ohyflenwai y ddwy "firm" bowdwr a nwyddau ereill i'r Llyw- < odraeth. Pan ddaeth -y dyrfa. allan i'r heol, ey- hoeddodd clochydd y dref gyfarfod y Tori- aid ag oedd i gael ei gynal y noson wedyn, ac ar ol iddo orphen rhoddwyd cydgan o "Lloyd George for ever" gan lanciau dewr y dref. Rhoddwyd rhaff wrth gerbyd Mr George, a llusgwyd hi i ben y ffordd yn nghyfeiriad Pwllheli, yn nghanol "Hwre."
BARN ARGLWYDD ROSEBERY.
BARN ARGLWYDD ROSEBERY. Mewn llythyr a anfonodd i Capten yr An- rhydeddus Hedworth Lambton, R.N., un o'r ymgeiswyr Rhyddfrydol dros Newcastle, ttywed Arglwydd Roeebery, pe gofynaslid iddo, a phe byddai ganddo bleidlais, a fu- asai efe yn pleidleisio dros y Llywodraeth, y buasai yn pletidleisio dros unrhyw Lywodr- aeth gref. Ond nid yw y Llywodraeth bre- senol yn gref mewn dim ond pleidieisiau. Mewn cyfeiriadau eraill yr oedd yr un wan- af ag y gallai ef adgofio. Nis gallasai ych- waith gefnogi Llywodraeth fel yr un bresen- ol, yr hon oedd wedi .eegeuluso deddfwriaeth gartrefol, wedi pellhau cenedloodd tramor oddiwrthym, ao oherwydd ein hanmharod- rwydd i fyned i ryfel wedi ein darostwng yn ngolwg y byd. Yr ydym mewn angen am dri o ddiwygiadau cenedlaethol mawrion, nid amgen deddfwriaeth ddirwestol, gwella tai y dosbarth gweithiol, a diwygiad yn y Swyddfa Pyfel. Nis gellir disgwyl dim cynorthwy yn y cyfeiriadau yma gan y Iiywodraeth bresenol.
DUC DYFNAINT YN ATEB ARGLWYDD…
DUC DYFNAINT YN ATEB ARGLWYDD ROSEBERY. Mewn llythyr a anfonwyd ganddo at ohebydd, dywed Due Dyfnaint pe buasai yr etholiad yil dibynu ar y rhai oeddynt o blaid y rhyfel yn Neheudir Affrica, a'r rhai oeddynt yn ei herbyn, ni buasai efe yn pe- truso am y canlyniad. Ond yr oedd yn an- ocheladwy i Lywodraeth a fu mewn awdur- dod am dros bum' mlynedd fethu gwneyd yr hyn a ddylasai, ac yr oedd hyn, yn marn rhai dyilion, yn brawf o ddiffyg barn a chadernid. I ddynion olr nodwedd yma y cyfeiriodd Arglwyldd Rosebery ei lythyr. Yr oedd ei Arglwyddiaeth wedi rhoddi i fyny y swydid o Arweinydd ac yr oedd yn anhawdd gweled gan bwy yn ei blaid ef ei hun y tu allan i Syr E. Grey, Capten Lambton, ac hwyrach Syr H. Fowler a Mr ÂElquab-y gallesid disgwyl am ddiwygiad- au yn y cyfedriad a nodwyd ganddo.
'-MR BALFOUR YN ANERCH.
MR BALFOUR YN ANERCH. Nos Lun bu Mr Balfour yn anerch cyfar- fod cyntaf ei gadgyrch etholiadol yn Nwy- rain Manceinion. Elbai, WeW i ni fyned drwy helyntion blin a phryderus y rhyfel, y cwestiwn i'r wlad i'w benderfynu ydoedd, pa blaid a osodid mewn awdurdod i bender- fynu ar delerau heddweh. Myn y Rhydd- frydwyr am i bleidleisiau y wlad gael eu rhoddi ar fan bynciau, gan atvwybyddu yn hollol gwestiwn mawr y rhyfel. Nis gall- asai ddeall paham y mae Arweinwyr y Rhyddfrydwyr yn dweyd fod y rhyfel yn enghyfiawn a diangenrheidiol, ac ar yr un pryd pleidiant gysylltiad.
- IANERCH MR JOHN MORLEY.
ANERCH MR JOHN MORLEY. Yn. ei anerchiad at etholwyp Montrose, dywedai Mr John Morley ei fod oher- wydd anmhariad ar ei lais, Yn analluog i gyfarch ei etholaeth drwy lafar; ac am hyny fod yn rbaid iddo ymddibynu ar ei bin ysgrifenu i drosglwyddo iddynt ei ol- ygiadau ar brif bynciau y dydd. Baich ei anerch ydyw eeoidemniad diarbed ar y rhyfel yn Neheudir Affrica. A beth yw canlyniad y rhyfel ? Magu c.aineb bythol yn nghalon yr Is-Ellmyn tuagatom, gwario miliynau o arian ddVlasant fyned i sirioli aeYwydydd1 Prvdnin Fawr, a Uenwi can- oedd a miloedd o gartrefi a galar. Can- molir dewrder dihaial ein milwyr a'n tref- edigaethwyrond gwc-JI fuasai i'r ad- noddau a waetraffwyd ar faes y gwaed gael eu troi er sicrhau heddwch ar y ddaear.
.------------GWYLIA U']t JIAF.
GWYLIA U']t JIAF. "I lan y mor yr awn ar hynt, I gwmni'r gwynt a r tonau; Ao yno yn ei ddyfroedd glan, Y dTddan nofiwn ninau?' Yn ystod yr wythnosau dyfodol bydd llu- aws o bob oed yn gwibio yma ac acw trwy y wlad, er cael newid awyr, ac adgyfnerthiad natur ac ysbryd i wynebu dyledswyddau a gofalon y tymhor dyfodol. Ymwelir a glanau y mor, ac a'r ffynonau gan luoedd o'n cenedl yn ystod gwyliau yr haf Mae Uawer yn myned er mwyn pleser a mwynhad yn unig, ond y mae y mwyafrif yn ceisio adfywiad ac adferiad iechyd a nerth, y rhai ydynt wedi eu hanmharu gan lafur a gofaloij, neu anhwylderau y tymor blaenorol. Nid oes amheuaeth nad un o'r moddion goreu i gyrhaedd yr anican hwn yw newid awyr, a newid golygfeydd a chwmpeini, ymdrochi yn y mor, ac yfed dyfroedd meddygol y ffynonau, gan fod hyn yn effeithio yn llesiol ar y cyfansoddiad. Ond mewn trefn i sicitau y budd mwyaf, a derbyn mwyaf o I js, dylai yj. ymwelwyr a'r lleoedd hyn wn^yd defnydd o Quinine Bitters Gwilym Evans—y moddion en- wooaf i gydweithio a newidawyr er cyn- orthwyo natur i yatryddhau oddiwrth nyeh- dod, ac i nerthu y .,lIa, cryfbau y gewinau, a bwrw allan bob aftahuredd o'r cyfansodd- iad. Dyblir y nee Keir o'r gwyliau os gwneir defnydd priodol o'r Quinine Bitters pan yn newid awyr. Pris poteli, 2s 9c a 4s 6c yr un. Fw cael gan bob fferyllydd, nen trwy y post am y Prlslslt hyn yn un- iongyrcbol oddiwrth y perchenogion:- Quinine Bittern Minufacturiimg Co., Ltd., tilnnpllT, South Wale*.
- Dyfod o hyd I siptio.
Dyfod o hyd I siptio. Hysbysrwydd o Brussels, ddydd Sul. a ddywed i Sipido gael ei ganfod yn ughy- mydogaeth Paris. Y mae Llys y Cassation wedi gwrthod apel Sipido yn erbyn dyf*n- iad y Frawdlys, yn ei roddi o dan ddwylaw y Llywodraeth nes y daw i oed.
THE EXCELSIOR. -
THE EXCELSIOR. ADFERYDD Y CRYDCYMALAU A'R GLUNWST. I| £ ae y feddyginiaeth ar- benig uchod at y crydeymalau a'r glunwst y goreu a gynygiwyd erioed i'r cyhoedd, a pharotoir ef o hen recipe yn meddiant ac yn wybyddus yn unig i'r gwneuthurwyr. Gellir hollol ddibynu arno. Mae ei effeithiau yn rhyfeddol. Canoedd wedi eu hiachau. Paham y dioddefweh boenau mor ofnadwy pan y gellwch gael adferiad ? Mewn poteli 2s 6c yr un, gyda'r post am 2s 9c. # Gan grocers a, gwerthwyr meddyg- iniaethau. Treiwch ef.
[No title]
Ym Llys y Sirydd, Llundain, dydd Gwener, cafodd Mrs Janet Cummings, gweddw, yn byw yn Grofton road, Ken- sington, 60p o iawn yn erbyn diffynydd o'r enw Hind, am dori addewid.
I TRANSVAAL
I TRANSVAAL TAIR MIL O'R BOERIAID A'U CAD- FRIDOG YN YMOSTWNG. Y PRYDEINWYR YN KOMATIPOORT. CYMERYD MEDDIANT 0 WERSYLL ERASMUS. Cyhoeddodd y Swyddfa Ryfel y genad- wri ganlynol oddiwrth Arglwydd Ro- berts Pretoria, Medi 24ain. Darfu i Frigad y Gwarchodlu, o dan ar- weiniad Pole-Carew, fyned i mewn i Komatipoort am wyth o'r gloch boreu heddyw. Ychydig o ergydicn a ollyng- wyd. Ni chyffyrddwyd a'r frigad, er eu bod yn barod ar gyfer ymosodiad. Syrth- iodd i'n dwylaw lawer iawn o ysbail rhyfel.
[No title]
Gohebydd Rhyfel y Press Association a ysgrifena fel y canlyn o Lourenco Mar- ques, dydd Llun: — dadawodd y Boeriaid eu holl safleoedd ar y ffindir Portuguaidd. Am unarddeg o'r gloch boreu ddoe dinystriasant eu Long Toms. Clywyd ffrwydriadau uchel, a gwelwyd colofnau mawrion o fwg yn dyrchafu o Resano Garcia. Yna croesas- ant y ffindir, a rhoddasant eu harfau i lawr i'r Portugiaid, y rhai a anfonasant yr holl lu o dair mil o wyr, yn cynwys y Cad- fridog Piennar a'i swvddogion, gyda ges- gorddlu i Bau Delagoa, ac yno rhoddwyd hwy mewn llustai. Yn y prydnawn daeth wyth o warchodlu Prydeinig i Komati- poort, gan orchymyn i'r dref ymostwng, ac aethant yn ol heb eu harcholli. Yn hwyrach ar y dydd cymerwyd meddiant o'r dref gan y Prydeinwyr, a hyny heb wrth- wynebiad. Y mae Mr Reitz gyda'r Cad- fridog Louis Botha. Y mae'r Boeriaid mewn sefyllfa ofnadwy. Y maent yn garpiog, aflan, a theneu; a theimlent yn falch fod y rhyfel drosodd cyn belled ag yr oedd a wnelont hwy a hi.
Y BOERIAID YN YMOSTWNG I BULLER.…
Y BOERIAID YN YMOSTWNG I BULLER. Arglwydd Roberts a ysgrifena fel y canlyn o Pretoria, Medi 22ain:- Edrydd Buller fod 58 o'r Boeriaid wedi ymostwng iddo yn Spitzkop, 20 yn Devil's Knuckles, ac amryw yn Lydenburg. Wrth ddychwelyd o French Bob, darfu i rai o'r Imperial L'ght Horse ddal ugain o garch- arorion, a chawsant ddau gant o ddryll- iau, a llosgasant wageni a chad-ddarpar- iadau. Yn ol y newyddion o Kroonstad,. ymddengys fod y Boeriaid wedi rhoddi dynameit o dan amryw fanau o linell y rheilffordd; ond gyrwyd hwy ar ffo cyn iddynt wneyd niwed. Disgynodd i ddwy- law y Prydeinwyr ysbail lawer.
[No title]
Pretoria, Medi 23ain. Yn gynar boreu ddoe darfu i gwmni perthynol i fyddin Erasmus ymosod ar Orsaf Rheilffordd Afon Elands. Gwnaeth eu tanbelenau niwed i rai adeiladau; ni- weidiwyd un o'r dynion, ond gyrwyd y gelyn ymaith. Tybiaf ddarfod i'r Boeriaid edi- farhau oherwydd iddynt adacl au gwer- syll, oblegid cymerwyd meddiant ohono gan Paget. Teithiodd yn ystod y nos rhyw chwe' milldir ar hugain, a meddian- wyd gwersyll Erasmus, yn nghydag ysbail lawer. Daeth i ran Arglwydd Methuen hefyd lawer o ysbail.
RHODDI I FYNY HEB DYWALLT…
RHODDI I FYNY HEB DYWALLT GWAED. Gohebydd y "Daily Telegraph" a ysgrif- ena — < Lorenco Marques, dydd Lldn, Medi 24ain. Ymddengys fod llwyr ymostyngiad y Boeriaid, a hyny heb dywallt gwaed, wedi ei ddwyn oddiamgylch drwy diplomatydd- iaeth. Anhawdd cael gafael ar y gwir i gyd., gan fod y Trafnoddydd Prydeinig mor ddistaw, ac hefyd y Llywodraethwr, Senor Machado; pnd cyn belled ag y iciefais allani, ymddengys fod y ddau foneddwr a nodwyd wedi bod yn ymdrafod y modd i ddwyn y gadgyrch i derfyniad, a hyny heb dywallt ychwaneg o waed. Y mae y Llywodraethwr Machado a'r Is-Gadben Campbell, o'r Lysgenhadaeth Brydeinig, yn myned i Komatipoort yfory. Yr wyf yn myned gyda hwy, gan i mi dderbyn caniatad. Y mae yr agerlong Is-Ellmvnig a elwir "Gelderland" i gymeryd Mr Mr Kruger i Ewrop. Bydd iddi gychwyn yn mhen pymthegnos. Ymddengys na ddinystriwyd Pont Komati, a hyny ar gais Mr Kruger.
NEWYDDION CALONOGOL PELLACH.
NEWYDDION CALONOGOL PELLACH. Y mae y Swyddfa Ryfel wedi derbyn y newyddion canlynol oddiwrth Arglwydd Roberts: Pretoria, Medi 24ain. Dywed Pole-Carew iddynt ganfod rhai magnelau drylliedig yn Komatipoort. Mewn gwirionedd, disgynodd llawer iawn o ysbail yn ychwanegol eto i ddwylaw y Prydeinwyr.
CHINA
CHINA SWYDD NEWYDD I'R TYWYSOG TUAN. COLLEDION Y GERMANIAID A'R RWSIAID. Gohebydd Reuter a ysgrifena fel y canlyn: -Flrog Newydd, dydd Llun. Y mae'r "Herald" yn cyhoeddi y frysneges hen o Shanghai: Dywed Sheng fod y Ty- wysog Tuan wedi ei benodi yn Brif Ysgrif- enydd yr Ymherawdwr, yr hyn a'i galluoga i gael awdurdod: ar y gohebiaethau i'r ac oddi- wrth yr Orsedd, Symudwyd Taotai o Shanghai. Y mae'r Chineaid mewn cyffro mawr.
YR YMOSODIAD AR PEITANG.
YR YMOSODIAD AR PEITANG. Shanghai, dydd Sul, Medi 23ain.<—Ym- adawodd y Germaniaid a'r Rwsiaid o Tong- ku am Peitang am haner nos nos Fercher. Dechreuwyd am ddau o'r gloch yn y boreu, ac anelai y Chineaid yn rhagorol. Pan dorodd y wawr dechreuwyd yr ymosodiad o adifrif. Ffrwydrwyd un mwnfa gan y Cliiineaid. Ar ol ychydig bach o seibiant, ffrwydrwyd mwnfa aralli, bedwar can' Hath, gan ladd a chlwyfo tri chant o ber- sonau. Ar ol hyn torodd tan allan mewn saith o gaerfeydd,
GWYLIOTEt PORTHLADDOEDD YN…
GWYLIOTEt PORTHLADDOEDD YN CHINA. Hysbysir fod y porthladdoedd yn China yn cael eu gwylio yn fanwl gan longau rhyfel y gwahanol genedloedd cyngreiriol.
Y LLYSGENHADWR ELLMYNIG.
Y LLYSGENHADWR ELLMYNIG. Dr. Mumm Von Schwarzentein sydd wedi ei benodi gan Germani fel ei llysgenhadwr newydd yn China. Bydd yn hwylio am Tientsin.
Advertising
(FERHU-GOGQAI ENRICHES THE BLOOD. E IFLTRTE 8A >IPLEB SUNT TO ALL H J PAVER) TO TH* N { ■•«<U-COV>0'* NA«U?IVR.TUKIAU CO. LT^ Y » ♦,>» »KI.I *.C 1 ŒI\
---------PA'M Y MAE YN GAS…
PA'M Y MAE YN GAS GEN' I DORIAETH ? Mi geisia'i ddeyd pa'm y mae yn gas gen' i Doriaeth. Y mae enw Toriaeth yn gas gen' i am ei fod o wedi bod yn gysylltiedig bob amser a gwrthwynebiad i bob eymud- iad ag oedd a'i amean at ddyrchafu y bobl. Run peth ydi Toriaeth i mi ag ydi Caeth- wasiaeth. Buasai Toriaeth wedi cadw caeth- wasiaeth yn fyw yn yr America, oni buasai am Ryddfrydiaeth. Pa mor gas bynag ydi y gair Caethwasiaeth gen' i, y mae y gair Toriaeth gym'int bob tipyn. Pa Gymro bynag a feiddia gefnogi Toriaetb-neu Undebaeth y dyddiau hyn (mae y Toriaid yn g'neyd eu gora i ddiddymu yr hen enw atgas, TGviaetb)-nid ydi wedi cael ei ail- eni yn wleidyddol. Dall ydi o. Pwy by- nag sydd yn caru ei wlad, ei biaith a'i sef- ydliadau, nis gall garu Toriaeth. Hen ys- bryd ystvfnig, hyll, tra-arglwyddiaethol y Sais wedi meddianu rhai o'r Cymry ydi Toriaeth yn Nghymru; ac os ydi'r ysbryd yn wrthunus yn Lloegr, y mae yn llawer mwy yn Nghymru. Nid enwa' Toriaid sydd yn anwyl genym ni heddyw, fel cy- mwynaswyr ein gwlad a'n cenedl, ond en- wau dynian Rhyddfrydol. Nid yw y Cymry hyny a feiddiant gefnogi Toriaid yr oes hon yn ymsyniad yn briodol yn sicr. Pwy geisiodd ladd ein hialth trwy osod cosbedigaethau am ei siarad? Pwy geisiodd ladd ein Hymneillduaeth ni trwy erlid, cosbi, gwaradwyddo, drygu, am- ddifadu o safleoedd uchel, &c. ? Toriaid! Y bobl hyny ag oeddynt yn fwy o Saeson mewn cydymdeimlad nag o Gymry. Gelyn diwygiadau, cyfaill gormes, yw Toriaeth. Oni ba'i am y golud sydd yn nglyn a Thori- aeth, a'r ffugsyniadau am ei hurddas, bu- asai y wlad yn ei thaflu fel nythle celwydd a magwrfa anwiredd i dan Anwn! Nid oes rheswm na chyfiawnder yn bod lie teyrnasa Toriaeth. Gwelir hyny yn dwad i'r golwg yn ngweithrediadau y peth a ) elwir yn Weinyddiaeth y dyddia.' hyn. Nid llesoli y mwyafrif ydi amcan y glym- blaid anymunol, ond llesoli ei ffryndiau. Ymddyga Toriaeth bob amser fel pe buasai yr haul, y lleuad, y ser, y ddaeaT, a'r dos- barth gweithiol wedi eu creu er mwyn bod yn wasanaethgar i'r cyfoethogion a'r urddasolion I I lawr y mae y gweithwyr i fod, a'r bobl fawr i fod i fyny! Mae gan y bobl fawr hawl i fyned i Dy'r Arglwyddi i ddeddfwriaethu, heb gael eu hethol, ond nis gall y gweithwyr gael myned yno. Yn nwylaw y Toriaid y mae llywodraeth y wlad, yn benaf, er i Ryddfrydwyr fod mewn awdurdod. Dyma y rheswm fod yn an- hawdd iawn cael diwygiadau. Mae isio CROMWELL y dyddia' hyn. Defnyddir swyddogaethau y Wladwriaeth i gael lleoedd breision i epil aristocratiaid y wlad. Ie, cawn y Weinyddiaeth bresenol yn gofalu yn neill- duol, nid am y wlad yn gyffredinol, fel y dylent wneyd, ac fel yr etholwyd hwynt i wneyd, ond am eu perthynasau aJu ffrynd- iau. Dywedodd Arglwydd George Hamil- ton, aelod o'r Weinyddiaeth. y gtmaent hwy hyn, ac y maent wedi ac yn gwneyd hyny. Gwvddoch oil mai ffryndiau mawr- ion Toriaeth ydi PARSONIAID A LANDLORDIAID ein gwlad. Dyma y rheswm eu bod yn ddosbarth mor atgas yn nghalon Cymru. Wel, y mae y Weinyddiaeth bresenol wedi rhoddi o ddwy Aliwn i dair miliwn o bun- oedd yn flynyddol i'r criw gwanclyd hyn, ond nid ydyn 'hw wedi rhoi yr un ddimai goch at wneyd pensiwn i hen bobl. Dyma i ch'i engraifft o be'di Toriaeth. Sonia y Toriaid mai nhw ydi'r bobol era i'r wlad. Wrth hyny y golygantl mai nhw ydi y blaid anonest a ddefnyddia arian y wlad i gyfoethogi ei ffryndiau I Plaid an- ynol, anheg, anonest, anghyfiawn, afresym- ol ydi y blaid Doriaidd. Felly y bu erioed, folly y mae, felly y bydd hi. Mae hi wedi byw ar ffughoniadaeth, twyll, ffafrau, a gormes. Hi drodri yr amaethwyr Cymreig o'u ffermydd yn 1868 ac ar adegau eraill am bleidleisio yn erbyn yr ymgeiswyr Tori- aidd. Hi sydd ar hyd y biynyddoedd wedi ceiso taflu anmharch ar ddynion a merched air. fod yn Ymneillduwyr ac yn Rhyddfryd- wyr. Toriaeth wnaeth ei goreu yn erbyn sefydlu capeti yn Nghymru ac o du cadw Eglwys Sefydledig bwdr, ddiog, wastraffus yma. Toriaeth wnaeth ei goreu i gadw yr ysgolion gramadegoJ yn llaw yr Eglwys, a rhwystro bechgyn gobeithiol Cymru rhag cael addysg athrofaol os na throent hwy i'r Eglwys. Er gwaethaf TORIAETH y mae Cymru yr hyn ydyw heddyw. 'Dwn i daim sut y gall gwir Gymro fod yn Dori, i ba sect bynag y perthyno. Os ydi o yn Fethodist, y mae. o fel Methodist. yn deyd mai Methodistiaeth, yn ol ei fam o, ydi'r ffurf BgLwysig ora; idnd fel Tori dywed mai heretic ydi o, ac mai Eglwys Loegr ydi'r ffurf Eglwysig ora 1!! Nid ydi y dyn ag sy'n proffesu bod yn Ymneillduwr yn ffydd- lawn i'w breffes, os ydi o yu gweithio dros Doriaeth. Mae yn amsar lecsiwn 'rwan. A 'noaiff fy nghyfeill- ion i gono hyn un o brtif egwyddorion Pab- yddiaeth ydi gneyd pobpeth yn ddarostyng- edig i'r Eglwys Rufeiniig. Nid oes gymer- iad yn bod nag ydi'r Jesuits wedi bod ynddo. Mae dweyd colwydd er mwyn yr lwys yn rbinwedd Pabyddol. Mae Toriaeth bron yr un fath. Pan nad ellir llwyddo mewn lec- siwn hefo ymgeisydd a fyddo yn Eglwya- wr ac yn Dori rhoric o hir gerdd, dyr yn mlaen rhyw greadur fydd yn ymddangos bron fel Rhyddfrydwr. 0 bosibl y twyllir dynion i fotio drosto, ond wedi yr elo fo i'r Senedd, hen Dori fydd o,—gyda'r Tori- aid y gwelir o, ac hefo nhw y pleidleisia fo. j Ymnelldluwyr al\wJrl! A ydych chwi am an- fon dyn i'r Senedd a fydd yn erbyn eich hiawnderau chi? A ces ariioch isio cyd- raddoldeb crefyddol? Os oes felly, peid- iwch ag anfon Tori i'r Senedd,—dyn ag sy'n dal allan mai Eglwys Loegr ydn'r unig wir Eglwys, aemali cynulleidfaoedd hereticaidd ydi holl EgJwysi Ymneillduol ein gwlad. A oes amoch'i isio HOME RULE I GYMRU ? Peitliwch ag anion Tori i't Senedd,—dyn ag sy'n dal mai yr un wlad a'r un bdbol yn ymarferol ydan ni y Cymry a'r Saeson. A oes arnoch'i isio yr un hawliau yn ngolwg y gyfraith i'ch gweinidogion ag sy' gan y parsoniaid? Nac anfonweh Dori i'r Senedd. Myn o gadw urddas cymdedthasol oddiwrth weinidogion Ymneillduol. A oes arnoch isio diwygio DEDDFAU Y TIR? J Peidiwch anfon Tori yn aelod dros each hetholaeth, achos ored efe mai landlord- iaeth presenol ydi'r gora. A oes amoch isio i arian y wlad fyn'd er lies y wlad yn gyffredlinol ? Anfonwch ddynion fel Lloyd George yn aelodau Seneddol, oar mwyn rhwystro Gweinyddiaeth Arglwydd Salis- bury rhag rhoddi arian y wlad i gyfoethogi ei ffryndiau. Oes arnoch'i isio'r deyrnas Brydeinig gael enill parch yn marn gwled- ydd eraill y byd? Gwrthodwch ArglwyiM Salisbury a'r stwff cymysgedig a elwir Chamberlain, ar bob cyfrif. A ddymunech chi i lygredigaeth yn y Llywodraeth ddar- fcd? Trowch Mr Chamberlain ymaith. Y mae ei deulu ef wedi derbyn canoedd o fil- oedd o bunau trwy werthu powdwr a pheth- au ereill i'r Llywodraeth tuag at gario rhyfel yn mlaen yn y Transvaal. Os ym- ddyheu yr ydach'i am gyfiawnder, tegweh, a gonestrwydd, gofalwch anfon Lloyd j I George, Bryn Roberts, Herbert Lewis, Wm. Jones, Herbert Roberts, Vaughan Davies, Samuel Moss, Clement Edwards, ac ereill o'r un stamp i'r Senedd, ao ar bob cyfrif gochelwch y Toriaid, gelvnion ein gwlad, ein hiaith, a'n oenedi I HEN RADICAL.,
Dlwjdlon Cymreig.
Dlwjdlon Cymreig. ARDDANGOSFA YN LIANPLLI. Agorwyd Arddangosfa Diwydion Cym- reig yn Llanelli, dydd Mercher, gan Ar- glwydd Windsor. Yr oedd y dyfamiadau fel y canlyn: —White flannel: ail wour dip- loma, Thomas Williams, Vale of Conway Flannel Mills, Trefriw. Dress flannel for costumes: 3ydd wobr, J. G. Jonim a'i Fab, Dolwen Factory, Pwllheli's Diploma of Merit: 1, Thomas Williams, Trefriw. Ladies' fine blouse flannel, diploma of mctrit- 1, Thomas Williams, Trefriw. Welsh striped petticoat: 1, J. P. Hughes a'i Feibion, Dinbych, diploma of merit; 2, J. G. Jones a'i Fab, Pwllheli. Fine striped skirting: 2, J. G. Jones a'i Fab, Pwllheli. Skirt length cf silk linsey: 1, J. P. Hughes a'i Feibion, Dinbych; 2, E. Williams, Henllan street, eto; diploma of merit: 1, T. Williams, Trefriw. Piece of tweed for gentleman's suit, diploma of merit: 1, E. R. Williams, Dinbych. Piece of Welsh poplin: 2, E. R. Williams, Din- bych; diploma of merit, J. P. Hughes a'i Feibion, eto. Dress length of serge or cloth for lady's costumes: diploma of merit, 2, J. P. Hughes a'i Feibion, Din- bych. Tweed for gentleman's shooting suit: diploma of merit, W. Moses Evans, Caerwys. Cloth for men's suitings: 1, J. P. Hughes, Dinbych; diploma of merit, 2, J. G. Jones, Pwllheli. Afternoon t-ea cloth, embroidered in white linen: 1, E. Johnson Jones, Pistyll, Treffynon. Waistcoat in knitting, or crochet, or worked in silk or wood or both on canvas: 1, J. P. Hughes, Dinbych. Pair of gen- tleman's stockings, fancy tops: 2, Lizzie Roberts, Ty'nygroes, Talycafn. Carved book case: 1, Thomas Williams, 56, Hill street, Bangor; 2, aelodau o ddosbarth Caerhun, Talycafn. Plain pair of clogs: 1, Richard Francis,. 27, Pool street, Caer- narfon. Pair of fancy clogs: 1, R. Fran- cis, Caernarfon. Dressed doll: 2, Jennie Edwards, Graianfryn, Caernarfon. Dressed doll (o dan ddeuddeg oed): 1, Lillie Owen, Caerhun Estate Office, Talycafn.
!Bwrdd Llywodraethol Melrlonydd
Bwrdd Llywodraethol Melrlonydd Cynhaliwyd y oyfarfod chwarterol yn yr Abermaw dydd Gwener. Presenol—Mri E. P. Jones (cadeirydd), O. M. Edwards, A.S., Haydn Jones, Andreas Roberte, J. LI. Owen, Dr Hughes, Mr Edward Griffith, Mrs Price, Mrs Burton, Mrs Rowlands, yn nghyda Mr E. D. Jones, M.A., Mr Dodd, M.A., Mr Jones Griffith (olerc), a Mr W. T. Lloyd (clerc cynorthwyol). ELUSEN HUGH OWEN.—Hysbysodd y Clerc y Bwrdd ei fod wedi derbyn oddi- wrth Mr W. R. M. Wynne y title deeds perthynol i'r elusen ucbod. Y DRETH TUAGAT ADDYSG GEI.- FYDD YDOL.—Datilen wy d llythyr o'r Cyngbor Sir yn mabwysiadu argymhelliad y Bwrdd o bartii i'r dreth uchod a'r dos- raniad ohoni. Derbyniwyd gohebiaeth oddiwrth LywodrsfceithwyT Lieol Ysgol Sirol Ffestiniog yn cynwys manylion y tiefniadan er cynal dlosbarthiadau mewn dressmaking, &c., a darlithiau ar fwnr gloddiaeth. Cymeradwywyd y trefniadau. —Cyfarwyddwyd y Clerc i ysgrifenu i ofyn am gyffelyb adroddiadau o'r dosbarthiadavt ereill yn y sir. YSGOLORIAETHAU A MAETHYDD- OI4.—Ysgrifenai Qofrestrydd Coleg Prif- ysgol Aberystwyth yn argymhell y Bwrdd i'r ddwy ysgoloriaeth mewn Amaethydd- iaeth (advanced) gael eu rhoddi i Mr E. W. Jones, Berthlafar, Bala, a Mr Thomas Davies, Ll, li'-anuwchllyn, y rhai a safasant uchaf yn yr arholiad elfenol y flwyddyn ddiweddaf. Mabwysiadwyd yr argymhelliad. Cyfarwyddwyd y clere i gymeryd y mesurau angenrheidiol i hys- bysebu yr ysgoloriaethau elfenol eleni. Y BWRDD CYMREIG CANOLOG. Pasiwyd i dalu i'r uchod y cyfranddaliad arferol o 141p 9s 9c. YSGOL DR WILLIAMS.—Am arhcli yr ysgol hon pasiwyd i dalu i'r Bwrdd Oym- reig Canolog y swm o 33p 19s. Rhoddodd Dr Hughes rybudd y byddai yn cynyg pen. derfyniad yn y cyfarfod nesaf gyda golwg ar y dull o gario yn mlaen yr arholiadau hyn. ADRODDIADAU Y PRIF-ATHRAWON. Darllenodd y Cflerc adroddiad Proffeswr J O. Jones, Bala, ar adroddiadau blyn- yddol y prifathrawon. Pasiwyd i anfon copi i FwrdkJ Llywodraethol pob* ysgol. a diolchwyd i Mr Jones am ei wasanaeth. EXHIBITIONS SIROL.—Y rhai llwydd- ianus i enill yr uchod oedd Mr Talwyn Ed- wards, ysgol Sirol Towyn, a Miss Sarah Anne Parry, Ysgol Sirol yr Abermaw. Ad- newyddwyd ysgoloriaethau Mr G. A. Ed- wards, Dolgellau; R. T. Jenkins, Bala; a Miss Elsie Jones, Dyffryn.
Dirwyo am Weithio ar y Sol
Dirwyo am Weithio ar y Sol Va Warrington, Idydd Gwener., dirwy- wyd cwmni y Cable, St. Helens, i 30p air oostau am a.daelnifulo o beirianau heb eu ham gylch u, drwy yr hyn y lladdwyd Eliza- beth Allen. Dirwywyd hwy yn MhwUheli i lp aT costau mewn wyth o gyhuddiadau o ganiatau i ferched ieuanc weithio ar y Sabboth.
Advertising
CADBURY'S COCOA, on the uMXtutmj of the "Lancet," "represents the standard of highest purity." It is entirely free from all foreign substances, such as kola, øa.1t, bop, Ac., nor is alkali used to darken the colour (and so deceive the eye). Dr An- drew Wilson, in a recent article in th -o Il- lustrated London News," writes: "Cocoa is in itself a perfect food, and requiree no additional drugs whatever." CADBURY'S COCOA is absolutely pure, and should be taken by old and young, at all timea and in all seasons; for Children it is an ideal beverage, promoting healthy growth and development in a remarkable degree. lit- cist on having CADUBRY'8, as othtn Cocoas are often substituted for the sak" of extra profit. Slid anly in Parkete and tinr
I.Plentyn yi Bleldlelslwr.
I Plentyn yi Bleldlelslwr. Yn ystod y gweithrediadau yn Llys Cofrestru Pleidieisiau yn Worcester, yr wythnos diweddaf, canfyddwyd fod enw plentyn, drwy ryw fodd dirgelaidd, a hwnw yn enw geneth, wedi cael ei roddi ar restr vr etholwyr perthynol i gorphor- aeth y ddinas. Nis gallai y Bargyfreith- iWT ganfod yr un awdurdod cyfreithiol dros symud oddiar y rhestr, ac o ganlyniad y mae enw Ellen Lolley, merch i lafurwr, yn aros ar restr y pleidleiswyr gyda hawl i. bleidleisio.
Advertising
I THOMAS' DRUG STOKES, 118, Kinirsland Pd TonAln- N.E. Genito-Uriniry, Skin and Blood disease. Loss of Ner-e Po < er, Varicocele, and Allied Troufeleii, cured by SftcM Treatment. t>o-i-nk. pnrot. !'á:=.
--Weil Boddi.
Weil Boddi. Canfyddwyd oorph Mr fierbert Halli- well, mab i gyn-bostfeistr Leigh) a'r hwn oedd newydd ei apwyntio yn is-beirianydd y pellebrau yn Llvthyrdy Dublin, yn y Liffey, o dan amgylchiadau yu dangos marwolaeth ddamweiniol drwy foddi.