Skip to main content
Hide Articles List

16 articles on this Page

JACK Y LLONG WE j

Marw trd yn Slarad.

------I GWYLIAU'R HAF.

.r 0 BEN Y TWR.

News
Cite
Share

r 0 BEN Y TWR. Y DADGORFFORIAD A'R PRIF WEINIDOG. Dychwelodd y Prif Weinidog o'r Vosges dydd Iaui yn dirf a grymus. Y mae y deyrnas eisoes yn eples yr etholiad. Y mae etholaeth ar ol etholaeth yn diasbed- ain gan anerchiadau Seneddwyr ac ym- geiswyr. Myn y Toriaid fod yr etholiad gerllaw, dywedant jod y Prif Weinidog wedi dychwelyd adref i ddadgorffori'r Sen- edd. Sylwodd Mr Herbert Gladstone, y Chwip Ryddfrydig, y cymer hyny le yn gynar yn Hydref. Ond gwrthyd Syr Robert Reed, yn ei araeth yn Dumfries, nos Iau, a choelio hyny. Byddai gweith- red o'r fath ar ei phen ei hun. Y mae gan y Llywodraeth ddwy flynedd o einioes.eto, a mwyafrif grymus wrth ei chefn. Nid oes dim yn yr amgylchiadau yn galw am eth- oliad, ebe Syr Robert. Dichon hyny fod yn wir; ar yr un pryd, da y gwyr y Wein- yddiaeth mai goreu po gyntaf os am ail dymor o ymddiriedaeth gwlad. Yn mhen chwe mis eto bydd yr etholwyr yn gwybod traul y rhyfel, y difrod a wnaed ar fywyd- au; a daw caledi prisiau uchel i wasgu'r werin i gyfyngder. Ceisio rhagflaenu yr ysbryd siomedig ac anfoddlon sydd yn sicr o gael ei eni a'i fagu yn misoedd y gauaf dyfodo!—dyna paham y beiddir myned ar I draws defod ac arfer, a son am wthio eth- oliad ar y wlad cyn yr amser. BALANCE SHEET Y LLYWODRAETH. Nid oes ar yr un masnachydd arswyd llunio mantolen o'i amgylchiadau bydol, os ei amgylchiadau mewn cyflwr da. Ofn y balance sheet sydd ar y Weinyddiaeth. Gweithred gyfrwys plaid bryderus fyddai etholiad. Ond gwna y son am dano les. Ymgymerodd gwyr craff a phwyllog a dar- paru mantolen deg o ystad afradlon y Llywodraeth. Twyllodd yr etholwyr yn erchyll. Afradlonodd gyfoeth y wlad ar raddfa eithaf gwastraff. I'r Cymro a fyn weled drosto ei hun wir gyflwr pethau, dymunem argymell yn wresog erthygl rymus y Parch Evan Jones, Caernarfon, yn y "Traethodydd'' cylchredol. Yn wir, da y gwnelai Cynghor Cenedlaethol Rhydd- frydwyr Cymru pe yr argraffent yr ysgrif i'w gwasgaru dros bob rhan o'r wlad. Y mae llunio ei gwell yn beth anmhosibl. Ni wna y mesur lleiaf o gam a'r Llywod- raeth; yn unig dyd gerbron y darllenydd gronicl ffyddlen a chyflawn o'i haddewid- ion a'i chyflawniadau. Ac y mae hyny yn ddigon i gall. Gwel a'i feddwl ei hun y fantais uniongyrchol o drosglwyddo awen- au gwlad i ddwylaw gonestach. CYMANFA DDIRWESTOL GWYNEDD. Cynhaliwyd Cymanfa Gwynedd eleni yn Nghaernarfon. Nid oedd dim newydd i'w ddisgwyl yn y gweithrediadau. Eto da y gwneir yn dal oynrychioliad o'r achos dir- westol gerbron y wlad. Dydd du iawn ar y deyruas fyddai dydd priddo llwyrym- wrthodiad. Haedda cwestiwn y ddiod le amlwg yn yr etholiad agoshaol Bwyty'r fasnach feddwol ymysgaroedd y deyrnas. Treulir cant a thriugain o filiwnau o bunau mewn deuddeng mis am ddiodydd sydd yn gwneyd dynon a merched yn gymwys i gar- charau, tylotai, a gwallgofdai. Gwelwn fod amryw "ddwylaw newyddion" yn y Gymanfa eleni. Hyfryd gweled yr "hen ddwylaw" yn glynu hefyd. Ymwthiodd cwestiwn yr Aelodau Seneddol Rhyddfryd- ig sydd yn gwerthu eu doniau er gwasan- aethu y fasnach feddwol yn y llysoedd ynadol i sylw, a bu yn ddefnydd peth dadleu. Gofynai un dadleuydd hirben, A yw masnachwyr yn arferol a gwrthod gwerthu nwyddau i dafarnwyr am eu bod yn dafarnwyr? Ond cytunodd aelodau y Gymanfa yn lied unfrydol i wrthod eu cefnogaeth i'r bargyfreithwyr hyny sydd yn gweini er parhau hoedl achos sydd yn dad drygau aneiryf. TRANSVAAL: FFOEDIGAETH KRUGER. Ffoedigaeth y cyn-Arlywydd Kruger o'r Transvaal yw prif newydd yr wythnos. Cyhoeddasid er's tro fod ei fryd ar hyny. Rhagwelai y byddai yn sicr o gael ei ddal cyn bo hir, a chan na fynai yr awdurdodau Seisnig fyned i amodau ag ef fel y gallai roddi ei hun i fyny o'i fodd, nid oedd lwybr agored arall o'i flaen ond ffoi. Yr oedd arswyd alltudiaeth yn ei ddilyn fel hunllef er's misoedd. Nos Fawrth, cyr- haeddodd borthladd Lorenzo Marques. Diau fod rhyw lestr Ffrengig neu German- aidd at ei wasanaeth. Tybir ei fod a'i fryd ar gyrhaedd Ewrob ar hyd ffordd Madagascar. Ni pharodd ei ffoedigaeth y mesur lleiaf o gyffro yn y wlad hon. Braidd nad oes sail i gredu fod yr awdur- dodau yn falch o'r ymwared. Dioddefa'r hen wr oddiwrth afiechyd neillduol, a chan ei fod yn 75 nis gall ei ddyddiau fod yn llawer. Cyrhaeddodd ei gyfoeth o'i flaen —peth yn onest a llawer yn lladrad. Dv- wedir fod dtwy filiwn wedi cael ei dros- glwyddo ganddo yn enw ei wraig a'i ber- thynasau i ariandai Paris a Holland. Yn v modd yma y cilia Kruger-un o gymeriadau rliyfeddaf hanes i'r cysgod. Prin y mae gwr yn fyw heddyw a dywalltodd gymaint o waed gwirion. Ac eto y mae yn. "dra chrefyddol." Darllen Salmau melldithiol ac edifeiriol yw ei fwyd a'i ddiod yr wyth- nosau hyn. TRANSVAAL: GWAWR HEDDWCH. Tybia rhai fod ffoedigaeth Kruger ar fedr dwyn heddwch i fro yr Afon Faal, ereill a ddywedent fod y cadfridogion am ei gael oddiar y ffordd er parhau y rhyfel. Fodd bynag, nodir dyddiad ei ymadawiad ef a'i osgordd o Lourenco Marquez. Ni ddywedir fod Steyn yn y fintai. Awgrymir fod y Cadfridog Botha yn pysgota amodau er rhoddi ei hun a'i gadlu i fynu. Ni wydd- ys eto wir fwriadau DeWet a Lucas Meyer. Taenir rhwydi lawer er oeisio eu dal. Dy- chwelodd Arglwydd Roberts i Pretoria. Y mae map symudiadau y fyddin Brydeinig yn eglur. A Buller o Lydenburg i Spitz Cop a Pilgrim's Rest; a French o Carolina i Barberton; ymwthia Hutton a Henry i Waterval Onder a chymer Pole-Carew feddiant o ffordd haiarn Bau Delagoa. Ymlidia Hunter ar 01 haid o Foeriaid Tal- aeth yr Afon Felen. Yn eu brys wrth ddi- ano, a offer rhyfel a chynhaliaeth y Boer- iaid yn llai lai. Delir eu hanfeiliaid wrth y degau a'u pylor wrth y miloedd gan eu herlidwyr. Yn ddiweddar y maent hwy- thau wedi dinystrio offer rhyfel yn dra hel- aeth, fel nas gallant barhau yn hir ar eu gwibdeithau, dinystriol. Apwyntiwyd y Cadfridog Baden-Powell yn benaeth hedd- lu newydd y Transvaal. Gwneir arwr o "hono gan ddinaswyr Capetown y dyddiau hyn. Aeth yno am enyd fer o seibiant cyn ymaflyd yn ei ddyledswyddau newyddion. Rhan o'r cyfnewidiad a ddygodd y gwrth- ryfel oddi amgylch yw newid enwau y ddwy weriniaeth. 0 hyn allan gelwir y Transvaal yn Dalaeth yr Afon Faal (Vaal River Colony), a Thala'eth Rydd yr Afon Felen (Orange Free State) yn Orange River Colony. Nid yw yr awdurdodau dinesig yn Ilai egniol na'r cadluoedd. Carthu allan ddinaswyr ysgymun o'r din- asoedd yw eu llafur hwy. Anfonir pob gwr amheus ao anheyrngar i Ewrob. Nis gellir heddwch parhaol heb weinidogaeth y nithio a'r pure. r Y PLA YN YSGOTLAND. Hyd yma nid oes argoel fod meddygon Glasgow yn enill goruchafiaeth ar y pla. Yn hytrach efe sydd yn tynhau ei afael ac yn enill tir newydd. Torodd allan dri achos newydd yn ystod yr wythnos. Y mae un ar bymtheg yn awr o dan y pla, a gwylir 113 o bersonau. Cymerwyd adeil- ad arall, trydydd, er cadw y rhai sydd o dan wyliadwriaeth gyda'u gilydd. Sylwyd fod yr holl achosion yn dyfod o'r un fro isel a thlawd yn y ddinas. Nid oes ball ar egnion yr awdurdodau er atal ei rawd. Trochir yr heolydd, yr adeiladau, a'r cwt- erydd a gwlybyron gwrth-heintus yn ddyddiol, a chedwir yr holl ddinas o dan oruchwyliaeth y gleudid llymar. MR IRA D. SANKEY. Y mae miloedd o'n darllenwyr yn cofio y canwr poblogaidd Mr Sankey-cyfaill a chydweithiwr a'r diweddar Mr Moody. Daeth y boneddwr ar ymweliad a'r wlad hon yn ystod yr wythnos. Glaniodd yn yr Iwerddon, a brysiodd at ei gyhoeddiad i Lundain. Nos Iau yr oedd Neuadd Exeter yn orlawn a miloedd oddiallan. Canodd Mr Sankey gyda dylanwad effeith- iol. Sylwyd fod ei lais mor gryf a phur ag yr arffciai tod ar ei ymweliadau blaenorol. Yr wythnos nesaf bydd yn cymeryd rhan ^|rbtenig yn agoriad oapel newydd y di- weddar Mr Spurgeon. Edrychir yn mlaen gan filoedd am wleddoedid ysbrydol godidog yn ngwyl yr agoriad. Pery yr wyl am amryw ddyddiau. Y PLA: PA BETH YDYW P Gwedi ymddangosiad y pla yn Nglasgow, naturiol yw yr ymholiadau yn ei gylch. Y mae llawer enw arno megis y x du, Pla'r Dwyrain, Pla'r Aipht, a Pla'r Chwa- renau (Bubonic plague). Galwyd ef yn bla'r dwyrain am mai brodor oddiyno yw efe, a galwyd ef yn bla'r Aipht am ddarfod iddo ar un adeg hir drigo yno. Gelwir ef yn bla du am ei fod yn duo lliw corph y dioddefydd, a gelwir ef yn bla'r chwarenau oherwydd ei fod yn enyn chwarenau poenus yn y rhai a darewir ganddo. Ei fod yn hen afiechyd sydd adnabyddus i haiaes er's oanrifau, ac nid oes dadl am ei nerth marwol. Ymwelodd ag Ewrob yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, a gwnaeth eroh- hyllwaith mewn tymor byr. Cyfrifir iddo ysgubo ymaith 25,000,000, neu un ran o bedair o holl drigolion y Cyfandir. Ni ddiangodd Prydain a diiffaethodd Cymru. Y mae yn dra heintufi ac yn odiaeth o ym- lyngar wrth bob peth-pridd y ddaear, tai, dodrefn, dillad, Uwch. Ymesyd ar lygod mawr a phob math, a'r anifeiliaid dofion. Dadblyga wyau neu hadau yr haint weithiau ar fyr dro, bryd arall gwedi hir ddyddiau. Cydia'r haint yn y corph di'wy yr ysgyfaint, y cylla, doluriau yu y eu awd, a'r cyffelyb. Glendid eithriadol gan hyny-heolydd, cwterydd, anedd-dai, dilladau, a chyrph glan-dyna yr amddi- ffynfa oreu rhagddo. AMERICA: BRWYDR CORWYNT A'R MOR. Y mae yr ystorm erchyll a ymwelodd a thalaeth Texas yn ystod y Sadwrn, wyth- nos i'r diweddaf, heb iddi ail ond odid mewn hanes. Rhuthrai y corwynt yn ol can' milldir yr awr. Ymdd^igys megis pe dau gorwynt wedi myned i wrthdarawiad a'u gilydd-un o'r mor a r llall o lychlyn Mexico. Disgynaaant ar dref fawr Gal- veston, a chyda chynorthwy tonau y mor difawyd y ddinas i fesur helaeth. Saif y dref ar ynysig cydwastad ag arwynebedd y mor, a cliall i'r dyfroedd godi yn dr-a uchelhvrddiwyd y tonau gorwyUt dros wyneb yr holl ddinas. Ni chaed hamdden eto i wneyd amcangyfrif teg o'r difrod anaele a wnaed. Tybiwyd ar y cyntaf fod 3000 wedi cael e Uadd a bodda; i fyny yr a y cyfrif yn ddyddiol. Diwedd yr wyth- na yr oedd yn 8000. Cyffelyb oedd y dif- rod a wnaed mewn trefi ereill, megis Al- vin, Houston, Allaloma, Clodine, a Hitch- cock. Daliodd y ddryoin fawr un dren oedd wedi gadael Galveston gyda 80 o deithwyr, a dinystriwyd yr oil. Wrth gwrs, y inae-collediou ar eiddo yn filiynau lawer o ddoleri. Nid oes na dwfr na llun- iaeth wedi eu gadael i'r rhai gwaredigol. Ysgubwyd miliynau o fwsieli o wenith a rice i'r mor, a din- ystriwyd gwerth 5,000,000 o gotwm. i'oenus i'r eithaf yw hanes y negroaid ac ereill sydd yn yspeilio cyrph y meirw. Saethwyd pedwar ugain (Jr lladron, a chaed eu llogellau yn llawnion o fysedd a darnau o glustiau; y tlysau a'r modrwyau aur oedd gwrthrychau eu blys. Ar gyfrif y gwres ajiferth angenrhaid llosgi cyrph y meirw. GwneIf teisi ohonynt i'r pwrpas. Eir a channoedd ereill allan i'r mor, a bwrir hwy i'r gwaelod wrth bwysau. Di- oddefodd yr holl dalaeth i fesur mawr oddiwrth y ddrycin enbyd.

[No title]

I l.IuosogrwrddjGyfreithwrrI…

——————————I Hunanladdiad Morwyn…

Tnadlys Bwrdeislol Caernarbn.

Dirwyo Percben Gwelthfa.

OLD FALSE TEETH BOUGHT.

Ymweliad Due Efrog ag Awstralla.

Pwy sv'n Euog ?

IlllwDldd Gwallgof.

Ymosodiad ar Wralp yn .Aberystwyth.

[No title]

Advertising